Cod Ymarfer Treuliau Etholiadau Ymgeiswyr (Etholiadau'r Senedd) 2025
Mae'r cod hwn:
- i'w adnabod fel Cod Ymarfer Treuliau Etholiadau Ymgeiswyr Unigol (Etholiadau'r Senedd) 2025
- yn dod i rym ar (add date).
Rhagarweiniad
Cefndir
Cafodd y Cod Ymarfer hwn ar dreuliau etholiadau ymgeiswyr unigol ar gyfer etholiadau’r Senedd ei baratoi gan y Comisiwn Etholiadol yn dilyn ymgynghoriad ag unigolion a chyrff sydd â diddordeb, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a Senedd Cymru.
Y pŵer i ddyroddi’r Cod hwn
Mae’r Cod Ymarfer hwn wedi’i gymeradwyo gan y Senedd ac wedi’i gyhoeddi gan Weinidogion Cymru yn unol ag Atodlen 7, paragraff 20 i Orchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 (‘Gorchymyn 2025’) o dan y paragraff hwnnw.).
Diffiniadau
Yn y Cod hwn, mae’r diffiniadau canlynol yn berthnasol:
Ystyr ‘Deddf 2006’ yw Deddf Llywodraeth Cymru 2006.
Ystyr ‘Gorchymyn 2025’ yw Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025.
Mae ‘swm priodol’ yn golygu swm o dreuliau etholiadol a benderfynir yn unol ag erthygl 66 o Orchymyn 2025.
Mae ‘ymgeisydd’ yn golygu ymgeisydd unigol mewn etholiad etholaeth Senedd sy’n rhywun heblaw ymgeisydd rhestr plaid , fel y’i diffinnir gan erthygl 2 o Orchymyn 2025.
Mae i'r gair ‘cost’ ei ystyr arferol o dreuliau eitem, neu'r treuliau sy’n gysylltiedig ag eitem. Mae'n cynnwys y ‘swm priodol’ i'w drin fel swm sydd wedi’i ysgwyddo gan yr ymgeisydd o dan y gyfraith ar wariant tybiannol.
Mae ‘asiant etholiadol’ yn golygu’r person a enwir ar ran ymgeisydd yn unol ag erthygl 37 o Orchymyn 2025.
Mae ystyr ‘treuliau etholiadol’ wedi’i nodi yn erthygl 65 o Orchymyn 2025.
Ystyr ‘eitem’ yw rhywbeth a allai fod yn destun gwariant. Mae’n cynnwys gwasanaethau a gweithgareddau yn ogystal â gwrthrychau.
Ystyr ‘gwariant tybiannol’ yw treuliau etholiadol yr ystyrir eu bod wedi’u hysgwyddo pan gaiff eiddo, nwyddau, gwasanaethau neu gyfleusterau eu darparu am ddim neu am bris gostyngol ac y mae’r ymgeisydd neu rywun ar ran yr ymgeisydd yn eu defnyddio o dan erthygl 66 o Orchymyn 2025.
Ystyr ‘rhestr plaid’ yw rhestr o ddim mwy nag wyth ymgeisydd plaid (ond gallai fod yn rhestr o un ymgeisydd yn unig) ar gyfer etholiad y Senedd.
Diffinnir ‘treuliau personol’ yr ymgeisydd yn rhannol yn erthygl 37 o Orchymyn 2025. Rhaid cofnodi treuliau personol ymgeisydd ar ffurflen gwariant yr ymgeisydd ond nid ydynt yn cyfrif tuag at y terfyn gwariant. Nid yw'r Cod hwn yn cynnig canllawiau ar yr hyn sy'n dreuliau personol neu nad ydynt yn dreuliau personol.
Mae ‘plaid wleidyddol’ yn golygu plaid sydd wedi’i chofrestru o dan Ran II Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.
Ystyr ‘cyfnod a reoleiddir’ yw’r cyfnod pan fo’r rheolau gwariant yn gymwys i ymgeiswyr mewn etholiad y Senedd. Ar gyfer etholiadau’r Senedd, diffinnir y cyfnod a reoleiddir yn erthygl 49 o Orchymyn 2025. Mae’n dechrau ar y dyddiad priodol ac yn gorffen ar y diwrnod pleidleisio (diwedd y cyfnod pleidleisio) – tua phedair wythnos. Diffinnir y dyddiad priodol yn erthygl 49 o Orchymyn 2025 a bydd fel arfer yn golygu’r dyddiad sy’n disgyn bedwar mis cyn dyddiad yr etholiad, ond a all fod yn wahanol yn dibynnu ar yr amgylchiadau penodol a nodir yn erthygl 49.
Ystyr ‘ffurflen’ neu ‘ffurflen wariant’ yw ffurflen ar gyfer treuliau etholiadol ymgeisydd fel sy’n ofynnol gan erthygl 54 o Orchymyn 2025.
Ystyr ‘RPA’ yw Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.
Mae ‘terfyn gwariant’ yn cyfeirio at uchafswm yr arian y gall ymgeisydd ei ysgwyddo dan erthygl 48 o Orchymyn 2025.
Ystyr ‘defnyddiwyd mewn etholiad’ yw rhywbeth a ddefnyddir at ddibenion ethol yr ymgeisydd fel y’i diffinnir yn erthygl 65 o Orchymyn 2025.
Diben y Cod hwn
Mae'r Cod hwn yn rhoi arweiniad ar y canlynol:
- Yr hyn sy'n dod o dan Ran 1 neu Ran 2 o Atodlen 7 i Orchymyn 2025 neu nad yw’n dod o dan y rhannau hynny. Mae’r Rhannau hynny’n berthnasol i’r diffiniad o ‘dreuliau etholiadol’ ac felly, yn benodol, i ba dreuliau y mae’n ofynnol i ymgeisydd adrodd arnynt.
- Mae Rhan 1 o Atodlen 7 yn rhestru’r materion y mae unrhyw dreuliau at ddibenion ethol yr ymgeisydd yn cyfrif fel ‘treuliau etholiadol’ mewn perthynas â hwy. Mae Rhan 2 yn rhestru'r eithriadau.
- O dan ba amgylchiadau neu ym mha achosion yr ystyrir bod treuliau'n cael eu hysgwyddo neu beidio ‘at ddibenion ethol ymgeisydd’. Mae’r Cod hwn yn ategu’r diffiniad o’r ymadrodd hwnnw yn erthygl 65 o Orchymyn 2025.
- Nid yw'r Cod hwn yn rhoi arweiniad i’r ymgeiswyr hynny sy’n sefyll etholiad i’r Senedd ar ran plaid wleidyddol (h.y. ymgeisydd rhestr plaid).
Pa etholiadau mae'r Cod hwn yn eu cwmpasu?
Mae’r Cod hwn yn berthnasol ar gyfer etholiadau i Senedd Cymru.
Y Cod hwn a chanllawiau eraill a gyhoeddwyd gan y Comisiwn
Mae’r Cod hwn yn ganllawiau statudol ac fe’i paratoir o dan y pwerau a roddir gan baragraff 20, Atodlen 7 i Orchymyn 2025. Mae’n wahanol i ganllawiau eraill y mae’r Comisiwn Etholiadol yn eu cyhoeddi oherwydd ei fod wedi’i gymeradwyo gan y Senedd.
Mae’r Comisiwn Etholiadol hefyd yn cyhoeddi canllawiau anstatudol ar y cyfreithiau ar gyfer etholiadau.
Mae’r gyfraith ar wariant ymgeiswyr wedi’i nodi yng Ngorchymyn 2025. Mae trosolwg o'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer gwariant ymgeiswyr wedi'i nodi isod fel cyd-destun ar gyfer y Cod hwn.
Dylech gyfeirio at ganllawiau’r Comisiwn Etholiadol i gael gwybodaeth benodol am y rheolau ar gyfer pob etholiad. Mae canllawiau wedi’u diweddaru ynghylch pa etholiadau a gynhelir a pha reolau sy’n berthnasol bob amser ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiad yn y cyfnod cyn etholiad.
Beth yw canlyniadau torri'r Cod hwn?
Lle nad yw ymgeisydd neu asiant yn dilyn y Cod hwn gallant fod yn torri'r cyfreithiau sy'n ymwneud â threuliau etholiadol. Gallai hyn arwain at erlyniad am arfer llwgr a/neu anghyfreithlon o dan erthyglau 121 a/neu 122 o Orchymyn 2025.
Lle ceir ymgeisydd neu asiant yn euog o arfer llwgr neu anghyfreithlon, gallent wynebu carchar a/neu ddirwy. Byddent hefyd yn cael eu gwahardd rhag dal swydd etholedig am gyfnod o bum mlynedd mewn perthynas ag arfer llwgr a thair blynedd am arfer anghyfreithlon. Gall ethol yr ymgeisydd fod yn annilys.
Y fframwaith cyfreithiol yng Ngorchymyn 2025 ar gyfer gwariant ymgeiswyr
Treuliau etholiadol: Erthygl 65
Mae erthygl 65 yn diffinio treuliau etholiadol fel a ganlyn:
(1) In this Part “election expenses”, in relation to an individual candidate, means, subject to paragraph (3) and article 66, any expenses incurred during the regulated period in respect of any matter specified in Part 1 of Schedule 7 which is used for the purposes of the candidate's election.
(2) No election expenses are to be regarded as incurred by virtue of paragraph (1) or article 66 in respect of any matter specified in Part 2 of Schedule 7.
(3) In this article and in article 66, “for the purposes of the candidate's election” means with a view to, or otherwise in connection with, promoting or procuring the candidate's election at the election.
(4) For the purposes of this Part, election expenses are incurred by or on behalf of a candidate at a Senedd election if they are incurred—
(a) by the candidate or the candidate’s election agent, or
(b) by any person authorised by the candidate or the candidate’s election agent to incur the expenses.
(5) In this Part and in Part 4, any reference to promoting or procuring a candidate's election at an election includes doing so by prejudicing the electoral prospects of another candidate or registered political party at the election.
(6) Schedule 7 has effect.
Treuliau sydd wedi’u heithrio
Mae Rhan 2 o Atodlen 7 i Orchymyn 2007 yn rhestru’r materion sydd wedi’u ‘heithrio’ o fod yn ‘dreuliau etholiadol’ o fewn ystyr erthygl 65.
Mae Atodlen 7, paragraff 17 yn eithrio unrhyw wariant a ysgwyddwyd mewn perthynas ag unrhyw fater y gellir ei briodoli’n rhesymol i anabledd ymgeisydd.
Mae Atodlen 7, paragraff 18 yn eithrio gwariant a ysgwyddwyd mewn perthynas â, neu o ganlyniad i, gyfieithu rhywbeth o Gymraeg i Saesneg neu o Saesneg i Gymraeg.
Mae Atodlen 7, paragraff 19 yn eithrio unrhyw dreuliau rhesymol a ysgwyddwyd y gellir eu priodoli’n rhesymol i ddiogelu unigolion neu eiddo.
Terfynau gwariant a chyfnodau ymgyrchu
Mae'r swm y gellir ei wario ar dreuliau etholiadol ymgeiswyr wedi'i gyfyngu gan Orchymyn 2025. Mae terfyn gwariant yn gymwys mewn perthynas â chyfnod penodol, y cyfeirir ato’n aml fel ‘cyfnod a reoleiddir’.
Asiantiaid
Rhaid i ymgeiswyr naill ai benodi asiant i oruchwylio eu gwariant neu weithredu fel eu hasiant eu hunain. Mae gan yr asiant gyfrifoldebau dros ysgwyddo a thalu am dreuliau etholiadol ymgeiswyr – gweler erthyglau 44 a 47 o Orchymyn 2025 yn y drefn honno.
Gwariant tybiannol
Mae ‘gwariant tybiannol’ ar dreuliau etholiadol yn cyfrif tuag at derfyn gwariant ymgeisydd. Mae gwariant tybiannol yn codi o dan erthygl 66 pan fodlonir yr amodau a ganlyn :
Yr amod cyntaf yw:
- eiddo neu nwyddau yn cael eu trosglwyddo i’r ymgeisydd neu asiant etholiadol yr ymgeisydd yn rhad ac am ddim neu ar ddisgownt o fwy na 10 y cant o werth marchnadol yr eiddo neu’r nwyddau, neu
- eiddo, nwyddau, gwasanaethau neu gyfleusterau yn cael eu darparu at ddefnydd neu fudd yr ymgeisydd yn rhad ac am ddim neu ar ddisgownt o fwy na 10 y cant o’r gyfradd fasnachol am ddefnyddio’r eiddo neu ddarparu’r nwyddau, gwasanaethau neu gyfleusterau
Yr ail amod yw:
- bod yr ymgeisydd, neu rywun ar ei ran, yn defnyddio'r eiddo, nwyddau, gwasanaethau neu gyfleusterau yn y fath fodd fel y byddai wedi bod yn draul etholiadol pe bai wedi ysgwyddo'r gwariant.
Lle bodlonir yr amodau uchod, caiff ‘swm priodol’ ei drin fel treuliau etholiadol a ysgwyddir gan yr ymgeisydd os yw’n fwy na £50. Y swm priodol yw’r gyfran y gellir ei phriodoli’n rhesymol i ddefnydd yr eitem, o un ai:
- ei gwerth marchnadol (lle caiff ei throsglwyddo am ddim), neu
- gwerth y gostyngiad (lle mae rhywfaint o gost yr eitem yn cael ei hysgwyddo gan neu ar ran yr ymgeisydd).
Felly, y ‘swm priodol’ fydd y gwahaniaeth mewn gwerth rhwng gwerth masnachol yr hyn a ddarperir a’r hyn rydych yn ei dalu os yw dros £50.
Os yw’r eiddo, nwyddau, gwasanaethau neu gyfleusterau wedi cael eu defnyddio gan neu ar ran yr ymgeisydd, dim ond os yw’r eiddo, nwyddau ac ati a ddarparwyd wedi’u hawdurdodi gan yr ymgeisydd neu asiant yr ymgeisydd y bydd angen datgan y gwariant tybiannol fel traul etholiadol ar ffurflen yr ymgeisydd.
Adrodd
Mae erthygl 54 yn ei gwneud yn ofynnol i asiant ymgeisydd gyflwyno ffurflen o dreuliau etholiadol. Mae erthygl 55 yn ei gwneud yn ofynnol i'r asiant a'r ymgeisydd wneud datganiad ynghylch cywirdeb y ffurflen.
O dan erthygl 55(3) , mae person yn euog o arfer llwgr os yw’n gwneud datganiad ffug yn fwriadol.
Pryd fydd treuliau yn cael eu hystyried fel rhai a ysgwyddwyd at ddibenion ethol ymgeisydd?
Ystyrir bod y rhestr o faterion yn Atodlen 7, Rhan 1 o Orchymyn 2025, fel y’i heglurir yn y Cod hwn, yn cael ei defnyddio ‘at ddibenion ethol ymgeisydd’ – ac felly, bydd treuliau cysylltiedig yr ysgwyddir yn ‘dreuliau etholiadol’ – pryd bynnag y’u defnyddir gyda’r bwriad o hyrwyddo neu gaffael ethol ymgeisydd, neu fel arall mewn cysylltiad â hynny.
Mae hyrwyddo neu sicrhau ethol ymgeisydd yn cynnwys gwneud hynny drwy ragfarnu rhagolygon etholiadol ymgeisydd arall neu ymgeiswyr sy'n sefyll yn yr etholaeth benodol.
Mae ‘treuliau etholiadol’ yn cyfrif tuag at derfyn gwariant yr ymgeisydd. Rhaid adrodd ar gost yr holl eitemau a ddefnyddiwyd yn y cyfnod a reoleiddir yn y ffurflen ar gyfer yr ymgeisydd fel y bo'n briodol.
Mae'r enghreifftiau a nodir isod yn ymwneud â gwariant a awdurdodwyd gan yr ymgeisydd neu'r asiant ac yn ymwneud â gwariant tybiannol.
Ailddefnyddio eitemau y talwyd amdanynt ac a ddefnyddiwyd mewn etholiad blaenorol neu ddilynol
Mae’n rhaid adrodd cost lawn eitem sy’n bodloni’r meini prawf arferol yn y ffurflen yn yr etholiad y defnyddir yr eitem ynddo gyntaf. Ni ddylai cost eitemau y talwyd amdanynt ac a ddefnyddiwyd mewn etholiad gan ymgeisydd gael ei dosrannu neu ei disgowntio gan y gallent neu gan y byddant yn cael eu hailddefnyddio mewn etholiad(au) dilynol.
Bydd cost eitemau a allai neu a fydd yn cael eu hailddefnyddio yn cyfrif tuag at y terfyn gwariant yn yr etholiad cyntaf y byddant yn cael eu defnyddio.
Yn achos eitemau:
- y talwyd amdanynt yn llawn (perchnogaeth nid llogi)
- a ddefnyddiwyd mewn etholiad blaenorol
- a adroddwyd yn llawn yn y ffurflen gwariant ar gyfer yr ymgeisydd mewn etholiad blaenorol, ac
- nad ydynt wedi’u newid mewn unrhyw ffordd
nid oes rhaid adrodd am eu pris prynu yn y ffurflen gwariant ar gyfer yr un ymgeisydd mewn etholiad dilynol, ac nid ydynt yn cyfrif tuag at derfyn gwariant mewn etholiadau dilynol. Fodd bynnag, os bydd eitem yn cael ei hailddefnyddio gan ymgeisydd gwahanol mewn etholiad dilynol byddai hyn yn cael ei drin fel gwariant tybiannol.
Serch hynny, yn achos yr holl gostau a ysgwyddwyd wrth hwyluso ailddefnyddio eitem mewn etholiad dilynol, gan gynnwys:
- glanhau
- newid a/neu ychwanegu
- cynnal a chadw
- ailddatblygu
rhaid adrodd amdanynt ar ffurflen yr etholiad dilynol lle defnyddir yr eitemau unwaith eto.
Mae’r costau a ysgwyddwyd wrth hwyluso’r ailddefnydd yn cyfrif tuag at y terfyn gwariant yn yr etholiad dilynol pan gânt eu hailddefnyddio.
Eitemau heb eu defnyddio o gwbl
Nid yw eitemau y telir amdanynt ond nas defnyddir mewn etholiad yn dreuliau etholiadol oherwydd ni chânt eu defnyddio gyda’r bwriad o, neu mewn cysylltiad â, hyrwyddo’r ymgeisydd neu gaffael etholiad ymgeisydd. Felly, nid oes angen rhoi gwybod amdanynt yn y ffurflen.
Treuliau a ysgwyddwyd cyn dechrau'r cyfnod a reoleiddir
Mae’n rhaid adrodd am dreuliau a ysgwyddwyd cyn dechrau’r cyfnod a reoleiddir, ar eitemau a ddefnyddiwyd yn ystod y cyfnod a reoleiddir, yn y ffurflen. Felly, mae cost eitemau a ddefnyddiwyd yn ystod y cyfnod a reoleiddir ond a brynwyd cyn dechrau’r cyfnod a reoleiddir yn cyfrif tuag at derfyn gwariant yr ymgeisydd.
TAW
Mae’n rhaid i’r treuliau yr adroddir amdanynt gynnwys TAW lle bo’n berthnasol, hyd yn oed lle gellir adennill TAW.
Os caiff TAW ei chodi ar eitem, mae’r swm TAW yn cyfrif tuag at y terfyn gwariant. Os nad yw TAW wedi’i hychwanegu at yr anfoneb ond ei bod yn dal yn daladwy, er enghraifft, os yw gwasanaethau wedi’u prynu gan gwmnïau sydd wedi’u lleoli y tu allan i’r DU, dylid ychwanegu TAW at y gost ar yr anfoneb a dylid ei hadrodd fel traul.
Atodlen 7 i Orchymyn 2025
Nodiadau cyffredinol
Nid yw’r Cod hwn yn gynhwysfawr
Mae’r rhestrau isod yn faterion sy’n berthnasol at ddibenion pob categori yn Rhan 1 o Atodlen 7. Rhaid eu hadrodd ar ffurflen gwariant os ysgwyddir y treuliau, a chânt eu defnyddio at ddibenion ethol yr ymgeisydd. Mae'r rhestrau'n gynhwysol ac nid ydynt yn gynhwysfawr.
Gwariant tybiannol
Mae’r Cod hwn yn berthnasol i wariant tybiannol ar ran ymgeisydd yn yr un modd ag y mae’n berthnasol i wariant a gaiff ei ysgwyddo gan ymgeisydd, oni nodir yn wahanol.
Costau sydd wedi'u heithrio
Mae’r adran hon o’r Cod yn egluro Rhan 1 o Atodlen 7 i Orchymyn 2025. Ni ddylid ystyried bod unrhyw beth ynddi yn addasu’r rhestr o eithriadau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 7 i Orchymyn 2025, a atgynhyrchir isod.
7. The payment of any deposit required by rule 11 of Schedule 5.
8. The publication of any matter, other than an advertisement, relating to the election in -
(a) a newspaper or periodical;
(b) a broadcast made by the British Broadcasting Corporation or by Sianel Pedwar Cymru;
or
(c) a programme included in any service licensed under Part 1 or 3 of the Broadcasting Act 1990 (independent television and radio services) or Part 1 or 2 of the Broadcasting Act 1996 (digital terrestrial television and sound broadcasting).
9. The provision of any facilities provided in pursuance of any right conferred on candidates at an election by this Order other than facilities in respect of which expenses fall to be defrayed by virtue of article 71(6) (rooms used for Senedd election meetings).
10. The provision by an individual of that individual’s services which the individual provides voluntarily in the individual’s own time and free of charge.
11. Accommodation which is the candidate's sole or main residence.
12. The provision by any other individual of accommodation which is that individual’s sole or main residence if the provision is made free of charge.
13. Transport by a means of transport which was acquired by the candidate principally for the candidate’s own personal use.
14. Transport provided free of charge by any other individual if the means of transport was acquired by that individual principally for the individual’s personal use.
15. Computing or printing equipment which was acquired by the candidate principally for the candidate’s own personal use.
16. The provision by any other individual of computing or printing equipment which was acquired by that individual principally for the individual’s own personal use if the provision is made free of charge.
17. — (1) Any matter that is reasonably attributable to the candidate’s disability, to the extent that the expenses in respect of the matter are reasonably incurred.
(2) In this paragraph “disability”, has the same meaning as in section 6 of the Equality Act 2010.
18. Expenses incurred in respect of, or in consequence of, the translation of anything from Welsh into English or from English into Welsh.
19. The protection of persons or property, to the extent that the expenses are reasonably incurred and are reasonably attributable to the protection of persons or property.
Atodlen 7, Rhan 1, paragraff 1
Hysbysebu o unrhyw fath, beth bynnag fo’r cyfrwng a ddefnyddir, gan gynnwys treuliau mewn perthynas â ffioedd asiantiaid, costau dylunio a chostau eraill mewn cysylltiad â pharatoi, cynhyrchu neu ddosbarthu hysbysebion o’r fath neu unrhyw beth sy’n ymgorffori hysbysebu o’r fath ac y bwriedir ei ddosbarthu at y diben o’i ledaenu.
Mae'r paragraff hwn yn cynnwys:
Mae hyn yn cynnwys cost defnyddio neu logi unrhyw:
- asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
- gwasanaethau a ddarperir gan asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
- safle neu gyfleusterau
- offer
a ddefnyddir i:
- baratoi, cynhyrchu neu hwyluso'r broses o gynhyrchu deunydd ar gyfer hysbyseb
- lledaenu deunydd hysbysebu drwy ddosbarthu neu fel arall
Er enghraifft, llogi ffotograffydd a safle i gynhyrchu delweddau i'w defnyddio mewn deunydd hysbysebu.
Mae'n cynnwys cost meddalwedd o unrhyw fath i'w defnyddio ar unrhyw ddyfais i:
- ddylunio a chynhyrchu deunydd hysbysebu yn fewnol
- lledaenu neu hwyluso'r broses o ledaenu deunydd hysbysebu
p'un a gaiff y deunydd hwnnw ei ddosbarthu'n ddigidol, yn electronig neu drwy ddulliau eraill.
Er enghraifft, ffi drwyddedu neu feddalwedd i'w defnyddio ar unrhyw ddyfais.
Mae'n cynnwys cost defnyddio neu logi unrhyw:
- asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
- gwasanaethau a ddarperir gan asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
- safle neu gyfleusterau
- offer
a ddefnyddir i
- baratoi, cynhyrchu neu hwyluso'r broses o gynhyrchu deunydd hysbysebu digidol neu electronig
- dosbarthu neu hwyluso'r broses o ledaenu'r deunydd hysbysebu hwnnw mewn unrhyw ffordd
gan gynnwys unrhyw gost y gellir ei phriodoli i wneud y cynnwys yn fwy gweladwy drwy unrhyw ddull.
Er enghraifft, prynu lle mwy blaenllaw ar dudalen mewn chwilotwr.
Mae'n cynnwys cost paratoi, cynhyrchu neu hwyluso'r broses o gynhyrchu deunydd hysbysebu:
- ei lawrlwytho a’i ddefnyddio gan eraill
- i'w rannu ar unrhyw fath o sianel neu lwyfan cyfryngau cymdeithasol neu i hyrwyddo'r ymgeisydd drwy ddull o'r fath
Er enghraifft, costau cynhyrchu deunydd hysbysebu yn hyrwyddo'r ymgeisydd a gaiff ei rannu ar dudalen ar sianel cyfryngau cymdeithasol yn annog dilynwyr i'w rannu.
Mae'n cynnwys cost cyrchu, prynu, datblygu a chynnal unrhyw rwydwaith digidol neu rwydwaith arall sy'n:
- hwyluso'r broses o ddosbarthu neu ledaenu deunydd hysbysebu drwy unrhyw ddull
- hyrwyddo deunydd hysbysebu neu'n ei wneud yn fwy gweladwy drwy unrhyw ddull
Er enghraifft, prynu hunaniaethau digidol a ddefnyddir i wneud i ddeunydd ymddangos fel petai wedi cael ei weld a'i gymeradwyo gan nifer mawr o ddefnyddwyr ar lwyfan y cyfryngau cymdeithasol.
Mae'n cynnwys costau:
- lletya a chynnal gwefan neu ddeunydd electronig/digidol arall sy'n hyrwyddo'r ymgeisydd
- dylunio ac adeiladu'r wefan
- cyfran o unrhyw wefan neu ddeunydd sy'n cael ei sefydlu i godi arian ar gyfer yr ymgeisydd ond sydd hefyd yn hyrwyddo'r ymgeisydd yn ystod y cyfnod a reoleiddir
Mae'n cynnwys cost unrhyw hawliau neu ffi drwyddedu ar gyfer unrhyw ddelwedd a ddefnyddir wrth gynhyrchu deunydd hysbysebu.
Mae'n cynnwys cost:
- papur neu unrhyw gyfrwng arall y mae'r deunydd hysbysebu yn cael ei argraffu arno
- arddangos hysbysebion yn ffisegol mewn unrhyw leoliad, er enghraifft clymau neu lud i osod posteri
Mae'n cynnwys cost prynu, llogi neu ddefnyddio:
- offer llungopïo
- offer argraffu
a ddefnyddir yn ystod ymgyrch etholiadol yr ymgeisydd, heblaw lle:
- cafodd y cyfarpar ei gaffael gan yr ymgeisydd yn bennaf at ddefnydd personol yr ymgeisydd ei hun
- mae'n cael ei ddarparu gan unigolyn arall, cafodd y cyfarpar ei gaffael gan yr unigolyn hwnnw at ei ddefnydd personol ei hun ac ni chodir tâl ar yr ymgeisydd i'w ddefnyddio
Lle mae papur, cyfarpar llungopïo neu argraffydd yn cael ei brynu neu ei logi i'w ddefnyddio'n bennaf yn ystod yr ymgyrch, mae'n rhaid rhoi gwybod am y gost lawn.
Mae ‘defnydd personol’ ym mharagraff 4.14 yn golygu defnydd personol parhaus gan yr ymgeisydd neu’r unigolyn, nid defnydd at ddibenion masnachol.
Mae'n cynnwys cost prynu a defnyddio unrhyw gyfarpar arall mewn perthynas â:
- pharatoi, cynhyrchu neu hwyluso'r broses o gynhyrchu'r deunydd hysbysebu
- lledaenu'r deunydd hysbysebu drwy ei ddosbarthu neu fel arall
Mae'n cynnwys cost bwyd a/neu lety i unrhyw unigolyn sy'n darparu gwasanaethau mewn cysylltiad â deunydd hysbysebu i'r ymgeisydd y mae'r ymgeisydd neu drydydd parti arall yn talu amdano neu'n ei ad-dalu.
Atodlen 7, Rhan 1, paragraff 2
Deunydd digymell sydd wedi’i gyfeirio at etholwyr — p’un a yw wedi’i gyfeirio atynt wrth eu henwau neu gyda’r bwriad o’i ddosbarthu i aelwydydd mewn unrhyw ardal benodol — gan gynnwys treuliau sy’n gysylltiedig â chostau dylunio a chostau eraill sy’n ymwneud â pharatoi, cynhyrchu neu ddosbarthu deunydd o’r fath, gan gynnwys costau postio.
Mae'r paragraff yn cynnwys:
Mae hyn yn cynnwys cost cyrchu, cael, prynu, datblygu neu gynnal:
- meddalwedd TG neu gronfeydd data o fanylion cyswllt
- unrhyw wybodaeth, drwy ba ddull bynnag
a ddefnyddir i hwyluso'r broses o anfon deunydd digymell at bleidleiswyr.
Er enghraifft, prynu cyfeiriadau e-bost.
IMae'n cynnwys cost cyrchu, cael neu ddatblygu setiau data, gan gynnwys dadansoddeg data i dargedu pleidleiswyr drwy ba ddull bynnag, gan gynnwys cost asiantaethau, sefydliadau neu bobl eraill sy'n nodi grwpiau o bleidleiswyr, drwy ba ddull bynnag.
Er enghraifft, cost unrhyw asiantaeth a gaiff ei thalu i ddadansoddi cynnwys cyfryngau cymdeithasol er mwyn hwyluso'r broses o dargedu pleidleiswyr mewn ardal etholiadol benodol a chost modelu gan asiantaeth sy'n seiliedig ar y dadansoddiad hwnnw.
Mae'n cynnwys cost unrhyw wasanaethau i nodi pleidleiswyr sy'n cael eu prynu, eu datblygu neu eu darparu cyn y cyfnod a reoleiddir, ond a ddefnyddir i dargedu pleidleiswyr yn ystod y cyfnod a reoleiddir.
Lle ceir gwybodaeth neu fynediad at wybodaeth gan drydydd parti, mae cost fasnachol cael yr wybodaeth honno gan y trydydd parti wedi'i chynnwys.
Mae hyn yn cynnwys cost defnyddio neu logi unrhyw:
- asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
- gwasanaethau a ddarperir gan asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
- safle neu gyfleusterau
- offer
a ddefnyddir i:
- baratoi, cynhyrchu neu hwyluso'r broses o gynhyrchu'r deunydd digymell
- lledaenu'r deunydd digymell drwy ei ddosbarthu neu fel arall, gan gynnwys unrhyw gost y gellir ei phriodoli i wneud y deunydd yn fwy gweladwy drwy unrhyw ddull
Mae'n cynnwys cost dosbarthu deunydd drwy unrhyw ddull gan gynnwys dulliau electronig neu ddosbarthu'r deunydd yn ffisegol, er enghraifft cost amlenni a stampiau neu brynu system ar gyfer anfon negeseuon e-bost.
Mae'n cynnwys cost cyrchu, datblygu a chynnal unrhyw rwydwaith digidol neu rwydwaith arall sy'n hyrwyddo deunydd digymell ar unrhyw lwyfan neu sy'n ei wneud yn fwy gweladwy ar unrhyw lwyfan. Er enghraifft, os bydd ymgeisydd yn talu datblygwr i greu ap sy'n hwyluso'r broses o dargedu ei ddeunydd ar sianel cyfryngau cymdeithasol.
Mae'n cynnwys cost goruchwylio a chynnal pob cyfrwng cymdeithasol, dull digidol neu ddulliau eraill o ddosbarthu deunydd digymell. Mae hyn yn cynnwys cynnal pob cyfrif ar y cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys os yw'n cael ei gynnal gan endid/unigolyn arall.
Mae'n cynnwys cost unrhyw hawliau neu ffi drwyddedu ar gyfer unrhyw ddelwedd a ddefnyddir wrth gynhyrchu deunydd digymell.
Mae'n cynnwys cost papur neu unrhyw gyfrwng arall y mae'r deunydd digymell yn cael ei argraffu arno.
Mae'n cynnwys cost prynu, llogi neu ddefnyddio:
- offer llungopïo
- offer argraffu
a ddefnyddir yn ystod ymgyrch etholiadol yr ymgeisydd, heblaw lle:
- cafodd y cyfarpar ei gaffael gan yr ymgeisydd yn bennaf at ddefnydd personol yr ymgeisydd ei hun
- mae'n cael ei ddarparu gan unigolyn arall, cafodd y cyfarpar ei gaffael gan yr unigolyn hwnnw at ei ddefnydd personol ei hun ac ni chodir tâl ar yr ymgeisydd i'w ddefnyddio
Mae ‘defnydd personol’ ym mharagraff 5.13 yn golygu defnydd personol parhaus gan yr ymgeisydd neu’r unigolyn, nid defnydd at ddibenion masnachol.
Lle mae papur, cyfarpar llungopïo neu argraffydd yn cael ei brynu neu ei logi i'w ddefnyddio'n bennaf yn ystod yr ymgyrch, mae'n rhaid rhoi gwybod am y gost lawn.
Mae'n cynnwys cost prynu a defnyddio unrhyw gyfarpar arall mewn perthynas â:
- pharatoi, cynhyrchu neu hwyluso'r broses o gynhyrchu'r deunydd digymell
- lledaenu'r deunydd digymell drwy ei ddosbarthu neu fel arall
Mae'n cynnwys cost bwyd a/neu lety i unrhyw unigolyn sy'n darparu gwasanaeth mewn cysylltiad â deunydd digymell i'r ymgeisydd y mae'r ymgeisydd neu drydydd parti arall yn talu amdano neu'n ei ad-dalu.
Nid yw’n cynnwys cost postio’r anerchiad etholiadol am ddim fel yr amlinellir yn erthygl 67 o Orchymyn 2025.
Nid yw'n cynnwys unrhyw gost sy'n gysylltiedig â chael data fel y'i caniateir drwy statud neu reoliad.
Er enghraifft, mae gan ymgeiswyr hawl i gopi o’r gofrestr etholiadol drwy reoliad 102 o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001.
Atodlen 7, Rhan 1, paragraff 3
Cludo personau, drwy unrhyw gyfrwng, i unrhyw le, gan gynnwys treuliau mewn perthynas â chostau llogi cyfrwng cludo am gyfnod penodol.
Mae'r paragraff hwn yn cynnwys:
Mae'n cynnwys cost cludo ar gyfer yr asiant lle mae'r ymgeisydd neu drydydd parti arall yn ei ad-dalu.
Mae'n cynnwys cost cludo:
- gwirfoddolwyr
- ymgyrchwyr eraill
o gwmpas yr ardal etholiadol, neu i'r ardal etholiadol ac oddi yno, gan gynnwys cost:
- tocynnau ar gyfer unrhyw gludiant, gan gynnwys unrhyw ffi archebu
- llogi unrhyw gludiant
- tanwydd a brynir ar gyfer unrhyw gludiant
- parcio ar gyfer unrhyw gludiant
lle maent yn ymgyrchu ar ran yr ymgeisydd.
Mae'n cynnwys cost cludiant y telir amdano gan unrhyw unigolyn neu drydydd parti arall ac y bydd yr ymgeisydd neu drydydd parti yn ei thalu neu'n ei had-dalu, lle roedd yr unigolion a oedd yn cael eu cludo yn ymgyrchu neu'n ymgymryd â gweithgareddau a oedd yn gysylltiedig â'r ymgyrch ar ran yr ymgeisydd.
Mae'n cynnwys costau cludo'r rhai sy'n mynd i ddigwyddiad sy'n hyrwyddo'r ymgeisydd lle mae'r ymgeisydd neu drydydd parti arall yn ad-dalu'r gost honno neu'n talu'r gost honno.
Mae'n cynnwys cost defnyddio neu logi unrhyw gerbyd neu fath o gludiant sy'n arddangos deunydd sy'n hyrwyddo'r ymgeisydd, gan gynnwys unrhyw gostau sy'n gysylltiedig â:
- dylunio cynllun a'i osod ar y cerbyd neu'r math o gludiant
- gyrru neu symud cerbyd o amgylch ardal etholiadol benodol
- ffioedd parcio lle defnyddir cerbyd i arddangos deunydd
Costau sydd wedi’u heithrio o Atodlen 7, Rhan 1, paragraff 3
Nid yw’r costau canlynol wedi’u cynnwys ym mharagraff 3:
- lle telir y gost gan yr unigolyn a ddefnyddiodd y cludiant, lle na chaiff y taliad hwnnw ei ad-dalu, neu
- lle darperir y cludiant yn ddi-dâl gan unrhyw unigolyn arall os cafodd y dull cludo ei gaffael gan y person hwnnw yn bennaf at ei ddefnydd personol ei hun
Lle bo cost cludiant yn draul bersonol o fewn ystyr Gorchymyn 2025 ar gyfer yr ymgeisydd, ac yn cael ei thalu gan yr ymgeisydd, rhaid cofnodi hon fel traul bersonol ar y ffurflen gwariant. Mae ‘treuliau personol’ yn cynnwys treuliau teithio rhesymol yr ymgeisydd, at ddibenion yr etholiad ac mewn perthynas ag ef.
Atodlen 7, Rhan 1, paragraff 4
Cyfarfodydd cyhoeddus, o unrhyw fath, gan gynnwys treuliau mewn perthynas â chostau a ysgwyddir mewn cysylltiad â phresenoldeb personau yn y cyfarfodydd hynny, llogi eiddo at ddibenion y cyfarfodydd hynny neu ddarparu nwyddau, gwasanaethau neu gyfleusterau ynddynt.
Mae'r paragraff hwn yn cynnwys:
Mae hyn yn cynnwys cost defnyddio neu logi unrhyw:
- asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
- gwasanaethau a ddarperir gan asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
- safle neu gyfleusterau
- offer
a ddefnyddir i:
- hyrwyddo cyfarfod cyhoeddus
- gynnal cyfarfod cyhoeddus i hyrwyddo'r ymgeisydd
- ffrydio cyfarfod cyhoeddus yn fyw neu ei ddarlledu drwy unrhyw ddull
Mae'n cynnwys cost hyrwyddo neu hysbysebu'r digwyddiad, drwy unrhyw ddull.
Mae'n cynnwys cost digwyddiad sy'n cael ei gynnal drwy ddolen o unrhyw fath neu sy'n cael ei ffrydio'n fyw neu ei ddarlledu, pan fo’r digwyddiad hwnnw yn agored i'w weld gan ddefnyddwyr sianel neu lwyfan neu drwy ddull arall.
Mae'n cynnwys cost darparu unrhyw nwyddau, gwasanaethau neu gyfleusterau yn y digwyddiad, er enghraifft cost llogi seddi.
Mae'n cynnwys cost prynu unrhyw gyfarpar mewn perthynas â:
- chynnal cyfarfod cyhoeddus i hyrwyddo'r ymgeisydd
- ffrydio cyfarfod cyhoeddus yn fyw neu ei ddarlledu drwy unrhyw ddull
Mae'n cynnwys cost llety a threuliau eraill i unrhyw un sy'n bresennol lle mae'r ymgeisydd neu drydydd parti arall yn ad-dalu'r gost honno neu'n talu'r gost honno.
Atodlen 7, Rhan 1, paragraff 5
Gwasanaethau asiant etholiadol neu unrhyw berson arall y mae ei wasanaethau yn ymwneud ag ethol yr ymgeisydd.
Mae'r paragraff hwn yn cynnwys:
Mae hyn yn cynnwys unrhyw gydnabyddiaeth, gan gynnwys lwfansau, a delir i'r asiant.
Mae'n cynnwys cost staff sy'n ymwneud â rheoli a monitro'r cyfryngau cymdeithasol a chael data er mwyn targedu gweithgarwch ymgyrchu. Mae hyn yn cynnwys cyflogi staff i ddadansoddi a didoli'r data a chost staff i fonitro unrhyw fath o gyfrwng cymdeithasol neu gyfrif arall, ac i gyhoeddi ar gyfryngau o'r fath neu ymateb iddynt.
Mae'n cynnwys cost staff sy'n ymwneud â rheoli gweithgareddau gyda'r wasg o unrhyw fath, gan gynnwys staff sy'n cydgysylltu ag unrhyw fath o weithgarwch yn y cyfryngau drwy unrhyw ddull, neu ei reoli neu ei fonitro mewn cysylltiad ag ethol yr ymgeisydd.
Mae'n cynnwys cost unrhyw un arall lle defnyddir ei wasanaethau mewn cysylltiad ag ethol yr ymgeisydd.
Costau sydd wedi’u heithrio o Atodlen 7, Rhan 1, paragraff 5
Nid yw'n cynnwys cost gwasanaethau asiant nac unrhyw berson arall sy'n gwirfoddoli.
Atodlen 7, Rhan 1, paragraff 6
Costau llety a chostau gweinyddol
Mae'r paragraff hwn yn cynnwys:
Mae hyn yn cynnwys cost rhentu swyddfa, gan gynnwys ardrethi busnes, ar gyfer ymgyrch yr ymgeisydd, boed yn swyddfa a gaiff ei rhentu o'r newydd neu o dan gytundeb rhent presennol, ac felly eir i gostau tybiannol lle darperir y fath swyddfa am ddim neu am bris gostyngol.
Mae'n cynnwys cost swyddfa lle mae'r swyddfa honno yn cael ei rhannu. Mae'n rhaid dosrannu'r gost ac mae'n rhaid i swm, sy'n adlewyrchu'n rhesymol y defnydd gan yr ymgeisydd yn ystod yr ymgyrch, gael ei gynnwys yn y ffurflen i'r ymgeisydd. Bydd y swm hwn yn cyfrif tuag at derfyn gwariant yr ymgeisydd.
Mae'n cynnwys cost prynu, defnyddio neu logi unrhyw gyfarpar swyddfa cyffredinol ar gyfer ymgyrch yr ymgeisydd, ac felly eir i gostau tybiannol lle darperir y fath gyfarpar am ddim neu am bris gostyngol.
Er enghraifft, desgiau, cadeiriau a chyfrifiaduron a ddarperir gan blaid i'w defnyddio yn ymgyrch yr ymgeisydd.
Mae'n cynnwys cost prynu, llogi neu ddefnyddio:
- ffonau symudol neu ddyfeisiau llaw eraill
- y contractau cysylltiedig
i'w defnyddio yn yr ymgyrch gan yr ymgeisydd, asiant ac unrhyw staff neu wirfoddolwyr, lle mae'r ymgeisydd neu drydydd parti sy'n talu am y cyfarpar hwnnw a/neu gostau cysylltiedig heblaw:
- lle prynodd yr ymgeisydd y cyfarpar yn bennaf at ei ddefnydd personol ei hun ac nad yw'r costau uwchlaw'r hyn yr eid iddynt fel arfer y tu allan i gyfnod etholiadol.
mae'n cael ei ddarparu gan unigolyn arall, cafodd y cyfarpar ei gaffael gan yr unigolyn hwnnw at ei ddefnydd personol ei hun, nid yw'r costau uwchlaw'r hyn yr eid iddynt fel arfer y tu allan i gyfnod etholiadol, ac ni chodir tâl ar yr ymgeisydd i'w ddefnyddio.
Rhai enghreifftiau o gostau sy'n gysylltiedig â ffonau symudol:
- Os prynir cerdyn SIM â lwfans data a galwadau i ymgeisydd ar gyfer ei ymgyrch, byddai hyn yn cyfrif fel gwariant ymgeisydd.
- Os ddefnyddir ffôn symudol gwirfoddolwr i gydlynu gwirfoddolwyr eraill, ac y caiff cyfran o daliadau'r contract ei had-dalu gan yr ymgeisydd i'r gwirfoddolwr, byddai hyn yn cyfrif fel gwariant ymgeisydd.
- Os bydd yr ymgeisydd yn defnyddio ei ffôn ei hun a brynwyd ganddo at ddibenion personol, ac nad eir i unrhyw gostau pellach y tu hwnt i gostau misol arferol galwadau, data ac ati, nid yw hyn yn cyfrif fel gwariant
Mae ‘defnydd personol’ ym mharagraff 9.5 yn golygu defnydd personol parhaus gan yr ymgeisydd neu’r unigolyn, nid defnydd at ddibenion masnachol.
Mae'n cynnwys cost:
- trydan
- llinellau ffôn a mynediad i'r rhyngrwyd
i'w defnyddio yn ystod ymgyrch yr ymgeisydd.
Mae'n cynnwys cost tanysgrifio ar gyfer gwasanaethau monitro'r cyfryngau a gwasanaethau datganiadau i'r wasg a gwifren y wasg.
Mae'n cynnwys cost llety i'r asiant, lle mae'n cael ei had-dalu gan yr ymgeisydd neu drydydd parti arall.
Mae'n cynnwys cost gwirfoddolwyr a chyflogeion ar gyfer yr ymgeisydd mewn ardal etholiadol benodol, gan gynnwys eu costau llety os ydynt yn cael eu had-dalu gan yr ymgeisydd neu drydydd parti arall.
Costau sydd wedi’u heithrio o Atodlen 7, Rhan 1, paragraff 6
Nid yw'n cynnwys cost gofal plant i ymgeisydd na'i asiant na gwirfoddolwr.
Nid yw'n cynnwys cost dŵr, nwy na'r dreth gyngor.
Nid yw'n cynnwys llety a ddarperir gan unrhyw unigolyn arall sy'n unig breswylfa neu'n brif breswylfa'r unigolyn os caiff ei ddarparu'n ddi-dâl.