Ein hymateb: Ymgynghoriad ar Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ddrafft
Y broses ymgynghori
Ar 5 Tachwedd 2021 gwnaethom gyhoeddi ymgynghoriad ar ein Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant drafft a diwygiad o’n dogfennau Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb (EQIA) drafft. Roedd yr ymgynghoriad yn cynnwys Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Roedd manylion yr ymgynghoriad ar gael ar ein gwefan. Gwnaethom hefyd roi gwybod am yr ymgynghoriad i dros 100 o randdeiliaid yn uniongyrchol drwy e-bost.
Gwnaethom ymestyn y dyddiad cau ar gyfer ymatebion o 28 Ionawr i 14 Chwefror 2022 er mwyn caniatáu mwy o amser ar gyfer ymatebion.
Cawsom bum ymateb ynghylch y Strategaeth, pedwar gan sefydliadau ac un gan unigolyn. Ni chafwyd sylwadau ar y dogfennau EQIA.
Rydym yn trafod y Strategaeth a’r dogfennau EQIA gyda Chomisiwn Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon.
Pwyntiau a godwyd gan ymatebwyr a’n hymateb iddynt
Codwyd pwyntiau ar amrywiaeth o themâu. Rydym wedi’u crynhoi yma ochr yn ochr â'n hymateb.
Gallwn fabwysiadu awgrymiadau a wnaed yn y meysydd canlynol ac rydym wedi diweddaru ein strategaeth yn unol â hynny. Byddwn yn:
- cynnwys data ystadegol ar y niferoedd o bobl o fewn poblogaeth y DU sy’n hadnabod eu hunain fel LHDTRh
- nodi’r cynulleidfaoedd targed ar gyfer Dysgu a Datblygu a sicrhau ymgysylltiad gan uwch reolwyr
- ystyried creu cyfle mentora ar gyfer grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli
- ymrwymo i gynyddu a gwella sut y cesglir data
- cydnabod bod ein data presennol ar ein gweithlu yn tangynrychioladol o boblogaeth lleiafrifoedd ethnig y DU
- dathlu amrywiaeth, cyflawniadau a gwelliannau sydd wedi’u cynllunio drwy ddigwyddiadau
- Nodi sut y byddwn yn lliniaru gofidion am ddatgelu data i’r rheiny sydd â nodweddion gwarchodedig
- ystyried sut y byddwn yn cynorthwyo grwpiau sydd wedi eu tangynrychioli i gamu ymlaen yn eu gyrfaoedd
- ymrwymo i archwilio addasiadau rhesymol ac i addysgu ein hunain arnynt
- parhau i sicrhau nad yw arferion recriwtio’n rhoi ymgeiswyr sydd ag anabledd o dan anfantais.
Cafodd rhai camau pellach eu hawgrymu ond nid ydym wedi’u derbyn am un neu fwy o’r rhesymau canlynol:
- Nid oes gennym y pŵer neu’r gorchwyl i gymryd y camau a awgrymwyd
- Mae ein maint yn ei gwneud hi’n anymarferol i gymryd y camau a awgrymwyd
- Rydym eisoes yn cymryd y camau a awgrymwyd neu’n bwriadu eu cymryd
Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi ymateb.
Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi ymateb.