Ymgynghoriad: Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Action plan

Gweithred Pryd y byddwn yn ei wneud Mesur llwyddiant Pwy sy’n gyfrifol
Parhau i wella ein data ymchwil er mwyn gwella ein sylfaen tystiolaeth, gan sicrhau ein bod yn cynnal sgriniadau ac, os yw hynny’n briodol, Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb ar gyfer cynigion ymchwil Cyfredol Mae’r sylfaen tystiolaeth yn rhoi data clir i ni i ategu ein nodau ar gyfer cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant Pennaeth Ymchwil
Parhau i sicrhau bod ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd am y system etholiadol yn gynhwysol ac yn cymryd i ystyriaeth grwpiau gwahanol Cyfredol; i ffurfio rhan o bob ymgyrch Mae ein negeseuon yn ymddangos mewn cyfryngau a dargedir; ymateb da gan grwpiau a dargedir Pennaeth Ymgyrchoedd
Parhau i sicrhau bod ein canllawiau ar gael mewn amrywiaeth o fformatau  Cyfredol Caiff ein rhanddeiliaid eu cefnogi wrth gydymffurfio Pennaeth Cefnogaeth Rheoleiddio
Cymryd camau pellach i sicrhau bod ein gwefan a’n cyhoeddiadau mor hygyrch â phosib  Cyfredol: mae ein gwefan eisoes yn bodloni safonau arfer gorau AAA  Cynnal yr arfer gorau a gwella arno drwy brofi ac adborth rheolaidd Pennaeth Cyfathrebu Digidol
Adeiladu ar lwyddiant y gwaith partneriaeth rydym eisoes wedi’i wneud yn sicrhau ein bod yn parhau i nodi anghenion grwpiau amrywiol ac yn ymateb iddynt Parhau mentrau i nodi grwpiau sy’n llai tebygol o bleidleisio a gweithio i ddod o hyd i ffyrdd i ymateb i’w anghenion Lefelau da o ymwybyddiaeth gan grwpiau penodol Pennaeth Ymgyrchoedd yn gweithio gyda swyddfeydd y Comisiwn yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon

 

Gweithred Pryd y byddwn yn ei wneud Mesur llwyddiant Pwy sy’n gyfrifol
Sicrhau bod y canllawiau, y cymorth a’r her rydym yn eu rhoi i’r Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn eu cynorthwyo i annog cofrestriadau gan grwpiau sydd fel arfer wedi’u tan-gofrestru yn eu hardaloedd (yn seiliedig ar eu demograffeg) Cyfredol: rydym wedi gosod y Safonau newydd gerbron Senedd y DU Rydym yn rhoi canllawiau cywir a chefnogaeth i’r Swyddogion Cofrestru Etholiadol ac yn rhoi sicrwydd ansawdd ein bod wedi gwneud hynny Rydym yn rhoi canllawiau cywir a chefnogaeth i’r Swyddogion Cofrestru Etholiadol ac yn rhoi sicrwydd ansawdd ein bod wedi gwneud hynny
Sicrhau bod y canllawiau, y cymorth a’r her rydym yn eu rhoi i’r Swyddogion Canlyniadau yn hyrwyddo mynediad a phrofiad cyfartal i bawb yn yr etholiadau Cyfredol: rydym yn diweddaru ac yn gwella ein canllawiau yn gyson Rydym yn rhoi canllawiau cywir a chefnogaeth i’r Swyddogion Canlyniadau Pennaeth Canllawiau, Pennaeth Cefnogaeth a Gwelliant, Penaethiaid y Comisiwn Etholiadol yng Nghymru a’r Alban
Cyflwyno prosesau newydd ar gyfer cynnal ac adolygu Asesiadau o Effaith ar Gydraddoldeb Proses Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb newydd yn cael ei chyflwyno erbyn diwedd 2021 Gallu gwell i asesu effaith newidiadau arfaethedig ar gydraddoldeb Pennaeth Cynllunio a Pherfformiad; pob aelod o staff sy’n gyfrifol am feysydd lle efallai bod angen sgrinio ac, os yw’n angenrheidiol, Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb llawn
Sicrhau bod strategaeth caffael y Comisiwn yn cynnwys canlyniadau EDI clir ar gyfer contractwyr, a bod monitro effeithiol o’r contractwyr hyn yn cael ei wneud er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio Cyfredol Mae gan gontractwyr bolisïau cydraddoldeb ar waith Rheolwr Cyllid
Sicrhau, trwy ein menter Sicrwydd Ansawdd, bod cydraddoldeb wedi’i osod yn briodol yn ein prosesau i gyd Cyfredol Mae pob proses yn ystyried cydraddoldeb Pennaeth Prosiectau a phob rheolwr
Parhau i gadw ein gweithdrefnau rheoleiddio mewnol dan arolwg ar gyfer arfer da a sicrhau bod cysondeb, tegwch ac ansawdd yn sail i’n holl weithgareddau rheoleiddio Cyfredol Penderfyniadau y gwelir eu bod yn cael eu gwneud yn dryloyw ac yn deg mewn modd sy’n trin pob rhanddeiliad yn gyfartal Pennaeth Cofrestru ac Adrodd; Pennaeth Monitro a Gorfodi
Sicrhau bod cydraddoldeb wedi’i osod yn briodol yn ein polisïau i gyd, gan gynnwys ein Polisi Gorfodi, wrth iddynt gael eu hadolygu yn unol â’n cylchred arferol Cyfredol Mae pob polisi yn ystyried cydraddoldeb Mae pob Pennaeth yn gyfrifol am bolisïau cyfundrefnol
Rhoi ar waith Cynllun Gweithredu Iaith Gymraeg i wella ein gwasanaeth i siaradwyr Cymraeg, gan adeiladu ar benodiad uwch gynghorydd Cymraeg parhaol a chyfieithydd parhaol   Mae pob rhan o’r sefydliad yn ymwybodol o’r safonau iaith Gymraeg ac yn eu bodloni Pennaeth y Comisiwn Etholiadol yng Nghymru; pob Pennaeth

 

Gweithred Pryd y byddwn yn ei wneud Mesur llwyddiant Pwy sy’n gyfrifol
Bodloni’r ymrwymiadau a’r camau a nodwyd yn ein strategaeth bobl Cyfredol Cynnydd wedi’i ddangos (diweddaru adroddiad ar gyfer pob Pwyllgor Tâl ac Adnoddau Dynol) Pennaeth Adnoddau Dynol ac eraill
Byddwn yn parhau i ddefnyddio recriwtio dienw ar gyfer swyddi cyflogedig (nid yw ein system e-recriwtio yn rhannu enwau na gwybodaeth ddemograffeg arall gyda’r rheiny sy’n recriwtio) Cyfredol Amrywiaeth y rheiny rydym yn eu recriwtio Pennaeth Adnoddau Dynol a phob rheolwr sy’n recriwtio
Byddwn yn ystyried sut mae ein swyddi wedi’u cynllunio drwy’r lens o fod yn agored i bawb Cyfredol Amrywiaeth y rheiny rydym yn eu recriwtio Rheolwyr sy’n recriwtio (gyda chymorth gan Adnoddau Dynol)
Byddwn yn tendro ar gyfer system e-recriwtio sy’n bodloni ein hanghenion data Erbyn 31/12/21 Adroddiadau data amrywiaeth ar ymgeiswyr swyddi cyflogedig Tîm Adnoddau Dynol
Byddwn yn anelu creu amgylchedd lle gall pob aelod o staff fod eu hunain yn y gwaith Cyfredol Canfyddiadau cadarnhaol ym mhob arolwg staff ac yn yr adborth gan grwpiau staff Gwaith wedi’i arwain gan yr hyrwyddwr Gwrth-fwlio
Polisi Urddas yn y Gweithle wedi’i ddiweddaru ar gyfer 2021/2 Erbyn 2022 Polisi wedi’i ddiweddaru sy’n adlewyrchu anghenion a blaenoriaethau’r Comisiwn Adnoddau Dynol, DARE, Grŵp EDI, Hyrwyddwr Gwrth-fwlio, PCS
Byddwn yn gweithio ar gyflawni ein hymrwymiad i gael dull dim goddefgarwch o ran bwlio ac aflonyddu Cyfredol gydag arolwg blynyddol Y lefelau o fwlio ac aflonyddu a brofir ac a welir yn disgyn Yr Hyrwyddwr Gwrth-fwlio yn gweithio gyda’r Grŵp Urddas a Pharch; rheolwyr a chydweithwyr i gyd
Byddwn yn adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd o effeithiau perthnasol pandemig Covid-19 2020/21 – gan gynnwys ffyrdd hybrid o weithio, dibyniaeth ar gyfathrebu electronig ac arweinyddiaeth rithwir – i’n helpu i ffurfio diwylliant gweithle newydd a chynhwysol Cyfredol wrth i’r pandemig encilio Parhau i gydbwyso lefelau uchel o ymgysylltu â staff gyda chyflawni busnes Pob rheolwr ac aelod o staff
Trwy waith ein Hyrwyddwr Hil yn y Gwaith a’n Tasglu Hil yn y gwaith, byddwn yn gweithredu ein Siarter Hil yn y Gwaith Cyfredol Camau wedi’u cytuno gyda’r Tasglu a’u cynnal yn ôl y disgwyl Hyrwyddwr Hil yn y Gwaith yn gweithio gyda’r Tasglu
Byddwn yn cefnogi ac yn gweithio gydag Arweinydd EDI parhaol newydd ar gyfer y Comisiwn Haf 2021 Yr Arweinydd EDI yn cyflawni yn erbyn y canlyniadau a gytunwyd Pennaeth Cynllunio a Pherfformiad
Byddwn yn parhau i geisio safbwyntiau a hyrwyddo EDI drwy ein grŵp EDI Cyfredol Ystyried EDI ym mhenderfyniadau a phrosesau’r Comisiwn Pob Pennaeth
Trwy barhau i roi sesiynau cynefino i weithwyr, byddwn yn rhoi gwybod iddynt am agenda a blaenoriaethau EDI Cyfredol Mae’n rhaid i weithwyr newydd, boed yn barhaol neu dros dro, ddeall disgwyliadau’r comisiwn ynghylch EDI Adnoddau Dynol, SLG a rheolwyr sy’n recriwtio
Byddwn yn parhau i drafod canlyniadau ein harolygon staff ac yn ceisio adborth drwy dimau a grwpiau’r Comisiwn, megis y Grŵp Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant a’r Grŵp Ymgysylltu a Staff, a chyda PCS Ar ôl pob arolwg llawn i’r staff i gyd Mae’r staff yn teimlo’n hyderus eu bod yn gallu rhannu eu safbwyntiau i wella proses yr arolwg i’r staff i gyd Pennaeth Adnoddau Dynol i weithio gyda grwpiau perthnasol
Byddwn yn annog gweithwyr i hunanddatgan eu hamrywiaeth yn ein system Adnoddau Dynol er mwyn gwella ein data EDI cyfundrefnol  Gwanwyn 2021 Lefelau o hunanddatgan yn cynyddu Pennaeth Adnoddau Dynol
Byddwn yn parhau i olrhain amrywiaeth ymgeiswyr a’r rheiny sy’n ymadael Cyfredol Lefelau o amrywiaeth yn cynyddu Adnoddau Dynol a rheolwyr

Gweithred Pryd y byddwn yn ei wneud Mesur llwyddiant Pwy sy’n gyfrifol
We will draw up and implement a strategy for internal communications to make sure all staff are aware of our commitment to equality, diversity and inclusion By the end of 2021 All staff aware of Strategy and their responsibilities under it EDI lead working with Head of Internal Communications