Ymateb i adborth ymgynghoriad ar Godau Ymarfer ar gyfer gwariant ymgeiswyr a phleidiau gwleidyddol yn etholiadau Senedd Cymru
Cyflwyniad
Cyflwyniad
Rhwng mis Hydref 2019 a mis Ionawr 2020, fe wnaethom gynnal ymgynghoriad ar ddau God Ymarfer ar gyfer gwariant etholiadol: gwariant ymgeiswyr, a gwariant pleidiau gwleidyddol yn etholiadau’r Senedd.
Fe wnaethom groesawu safbwyntiau gan ystod eang o randdeiliaid, a chydnabyddwn pa mor bwysig yw hi bod y Codau’n cael eu cefnogi gan y rheiny sy’n eu defnyddio.
Fe wnaethom ddefnyddio’r adborth i ddiwygio’r Codau drafft er mwyn darparu rhagor o eglurder lle’r oedd hynny’n bosib.
Mewn rhai achosion lle gwnaeth ymatebwyr ofyn am ragor o eglurder ynghylch yr egwyddorion a gynhwysir yn y Codau, buom o’r farn y byddai’n fwy addas darparu manylion ychwanegol yn y canllawiau atodol yn hytrach na’r Codau eu hunain.
At ba etholiadau y mae’r Codau’n gymwys?
Mae’r Codau hyn yn gymwys at etholiadau’r Senedd.
Mae Codau ar wahân hefyd wedi eu drafftio ar gyfer etholiadau sydd o fewn cylch gwaith Senedd y DU, megis Etholiadau Senedd y DU; ac mae codau hefyd wedi eu drafftio ar gyfer etholiadau Senedd yr Alban.
Beth yw Codau Ymarfer?
Mae Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007, fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2020, a Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000, yn galluogi’r Comisiwn Etholiadol i ddrafftio Codau Ymarfer ar gyfer gwariant ymgeiswyr a phleidiau gwleidyddol.
Mae’r ddeddfwriaeth yn nodi faint y caiff ymgeiswyr a phleidiau gwleidyddol ei wario yn etholiadau’r Senedd, gan nodi bod rhaid i wariant etholiadol gael ei adrodd yn erbyn categorïau arbennig.
Fe wnaethom ofyn i’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol osod y Codau Ymarfer gerbron y Senedd. Pan fydd y Codau’n dod i rym byddant yn ddogfennau cyfreithiol.
Mae’r Codau’n darparu eglurder i ymgeiswyr, asiantiaid, a phleidiau o ran pa eitemau sy’n cyfrif tuag at wariant, a ph’un a ddylent gael eu hadrodd mewn cofnod gwariant ymgeisydd neu gofnod gwariant plaid, ac ym mha gategori gwariant y dylid eu hadrodd. Maent hefyd yn nodi sut mae adrodd am wariant ar ymgyrchu digidol.
Mae angen diwygio cyfraith etholiadol i’w gwneud yn eglur ac yn hawdd ei deall. Yn absenoldeb diwygio, mae’r Codau’n ein galluogi i ddarparu eglurder a chysondeb o ran adrodd am wariant etholiadol.
Themâu allweddol o ymgynghoriadau blaenorol
Rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2018, fe wnaethom gynnal ymgynghoriad ar y Codau drafft ar gyfer etholiadau cyffredinol Senedd y DU. Fe wnaeth y prif themâu yn yr adborth ganolbwyntio ar y canlynol:
- Iaith a strwythur y codau
- Tryloywder ar gyfer gwariant ar ymgyrchu digidol
- Gwahaniaethu rhwng gwariant ymgeiswyr a phleidiau
- Trin gorbenion
- Trin costau eitemau a ddefnyddir mewn gwahanol etholiadau
- Trin deunydd sy’n cynnwys aelod blaenllaw o’r blaid
- Trin costau cyfreithiol
- Perthynas y codau â’r canllawiau eraill rydym yn eu cyhoeddi
Themâu allweddol o’r ymgynghoriadau hwn
Mae’r ymgynghoriad ar Godau’r Senedd wedi adeiladu ar y sail a osodwyd gan yr adborth a gafwyd ynghylch Codau Ymarfer Senedd y DU.
Cynhelir etholiadau’r Senedd trwy ddefnyddio’r System Aelod Ychwanegol. Mae pleidleiswyr yn derbyn dau bapur pleidleisio, a gallant fwrw dwy bleidlais: un ar gyfer eu hymgeisydd etholaethol, ac un ar gyfer pleidleisio dros blaid wleidyddol.
Oherwydd natur yr etholiadau hyn, bydd peth deunydd ymgyrchu yn annog pleidleiswyr i bleidleisio nid yn unig dros ymgeisydd etholaethol, ond hefyd dros blaid wleidyddol yn yr etholiadau rhanbarthol trwy ddefnyddio eu hail bleidlais.
O ganlyniad, gallai fod angen i wariant ymgyrchu gael ei rannu rhwng yr ymgeisydd perthnasol a chofnod gwariant y blaid. Dyma’r egwyddorion a ymgorfforir yn y Codau:
- lle bo deunyddiau ymgyrchu yn nodi ymgeisydd yr etholaeth neu’r etholaeth ei hun, ond heb hyrwyddo’r rhanbarth etholiadol y mae’r etholaeth ynddi, rhaid i’r costau cyfan gael eu cynnwys yng nghofnod gwariant yr ymgeisydd
- lle bo deunyddiau ymgyrchu yn annog pleidleiswyr i gymryd rhan yn y ddau etholiad, dylid rhannu’r costau rhwng cofnod gwariant yr ymgeisydd a chofnod gwariant y blaid.
Fe wnaethom dderbyn pedwar math o ymateb i’r egwyddorion hyn:
- lle bo’n bosib, dylai fod cysondeb ar draws y Codau ar gyfer gwahanol etholiadau er mwyn osgoi drysu cyfranogion
- dylai’r egwyddor gael ei hehangu i gynnwys mathau eraill o weithgarwch lle mae deunydd yn cael ei dargedu mewn etholaeth
- gofynnwyd am eglurhad pellach o ran sut mae eu rhannu’n ymarferol, a sut mae rhannu gwariant ar draws etholiadau ac ymgeiswyr lluosog
- lle bo pleidleiswyr yn derbyn atgoffâd syml bod dau etholiad, ni ddylai’r costau gael eu rhannu, am fod hyn yn creu anawsterau gweinyddol, ac mae’r costau’n debygol o gyd-bwyso ei gilydd rhwng cofnodion gwariant yr ymgeiswyr a’r blaid.
Yn seiliedig ar yr adborth a dderbyniwyd gennym, rydym wedi ychwanegu enghreifftiau pellach i’r Codau er mwyn darparu rhagor o eglurder o ran sut dylid rhannu costau rhwng cofnodion gwariant ymgeiswyr a phleidiau.
Nid yw’n bosib cynnwys pob senario ymgyrchu bosib yn y Codau. Byddwn hefyd, felly, yn darparu canllawiau pellach ar wariant ac adrodd ymgyrchu, gydag ystod ehangach o senarios ac enghreifftiau nag y rheiny a geir yn y Codau.
Casgliad
Rydym yn ddiolchgar am yr holl adborth a gawsom. Fe wnaeth yr adborth gefnogi ein nod o greu Codau Ymarfer ar gyfer etholiadau’r Senedd i wella cysondeb a thryloywder wrth adrodd am wariant ymgeiswyr a phleidiau.
Mewn ymateb i’r adborth, rydym wedi diwygio’r Codau a chynnwys rhagor o enghreifftiau er mwyn darparu gwell eglurder mewn rhai senarios.
Mae’r Codau bellach wedi eu cyflwyno i’r Gweinidog, ac rydym wedi gofyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd, gan obeithio eu gweld yn dod i rym erbyn etholiadau mis Mai 2021.
Y codau