Ymateb i ymgynghoriad statudol ar ganllawiau i Swyddogion Canlyniadau ar gymorth i bleidleisio ar gyfer pobl anabl
Crynodeb
Ni ddylai pobl anabl wynebu unrhyw rwystrau i bleidleisio. Dylai fod gan bawb yr hawl i bleidleisio ar eu pen eu hunain ac yn gyfrinachol.
Mae Deddf Etholiadau 2022 yn cynnwys darpariaethau sy'n ei gwneud yn ofynnol i Swyddogion Canlyniadau ddarparu'r cyfryw gyfarpar ag sy'n rhesymol i alluogi pobl anabl i bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol yn yr orsaf bleidleisio, neu ei gwneud yn haws iddynt wneud hynny.
Rhwng 5 Rhagfyr 2022 ac 16 Ionawr 2023, gwnaethom gynnal ymgynghoriad statudol ar ein canllawiau drafft i Swyddogion Canlyniadau ar gymorth i bleidleisio ar gyfer pobl anabl. Cafwyd 41 o ymatebion i'r ymgynghoriad gan aelodau o'r cyhoedd, gweinyddwyr etholiadau ac amrywiaeth o sefydliadau elusennol, cymdeithas sifil a thrydydd sector.
Rydym yn ddiolchgar i bawb a roddodd adborth i ni, gan gynnwys fel rhan o'n hymgynghoriad cychwynnol a gynhaliwyd yn gynharach yn 2022. Rydym wedi defnyddio'r adborth hwn i ddatblygu'r canllawiau a ddefnyddir ar gyfer etholiadau mis Mai 2023 ymhellach.
Nodwn isod grynodeb o'r themâu allweddol a ddaeth i'r amlwg yn ystod yr ymgynghoriad statudol a'r ffordd rydym wedi'u hystyried wrth ddiweddaru'r canllawiau ac wrth ymgymryd â'n gwaith ehangach i helpu i wneud etholiadau'n hygyrch i bawb.
Cefndir
Mae Deddf Etholiadau 2022 yn cynnwys diwygiadau i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 sy'n cyflwyno gofyniad newydd i Swyddogion Canlyniadau ddarparu'r cyfryw gyfarpar ag sy'n rhesymol i alluogi unigolion perthnasol i bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol yn yr orsaf, neu ei gwneud yn haws iddynt wneud hynny. Rhaid i ni roi canllawiau i Swyddogion Canlyniadau ar y ddyletswydd hon, ac ymgynghori ar y canllawiau hyn. Rhaid i Swyddogion Canlyniadau ystyried y canllawiau hyn wrth gyflawni eu dyletswydd.
Caiff pobl berthnasol eu diffinio yn y ddeddfwriaeth fel y rheini sy'n ei chael hi'n anodd neu'n amhosibl pleidleisio am eu bod yn ddall, yn rhannol ddall neu am fod ganddynt anabledd arall.
Ystyr pleidleisio'n annibynnol yw pleidleisio heb gymorth gan unigolyn arall, neu heb unrhyw fath o ddyfais gynorthwyol.
Bydd y darpariaethau hyn yn gymwys i'r canlynol:
- Etholiadau Senedd y DU
- Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr
- Etholiadau lleol ac Etholiadau Cynulliad Gogledd Iwerddon
- Etholiadau lleol yn Lloegr
Mae gan Swyddogion Canlyniadau gyfrifoldeb personol am gynnal etholiadau yn eu hardal. Yng Ngogledd Iwerddon, y Prif Swyddog Etholiadol yw'r Swyddogion Canlyniadau, felly dylid ystyried bod y cyfeiriadau at Swyddogion Canlyniadau drwy'r ddogfen hon a'r canllawiau yn cynnwys y Prif Swyddog Etholiadol.
Datblygwyd y canllawiau hyn mewn tri cham:
- Cam cyn-ymgynghori lle aethom ati i ymgysylltu â chynrychiolwyr o'r sector gweinyddu etholiadau ac amrywiaeth o sefydliadau cymdeithas sifil, elusennol a thrydydd sector ledled y DU.
- Ymgynghoriad cyhoeddus chwe wythnos cychwynnol ar ganllawiau drafft, y cafwyd 67 o ymatebion iddo gan aelodau o'r cyhoedd, gweinyddwyr etholiadau ac amrywiaeth o sefydliadau. Gwnaethom hefyd ymgysylltu â gweinyddwyr etholiadau o bob cwr o'r DU yn ystod seminar cenedlaethol.
- Ymgynghoriad statudol ar y canllawiau diwygiedig.
Themâu a nodwyd yn ystod yr ymgynghoriad
Yma, rhown grynodeb o'r prif themâu a materion a godwyd yn yr ymatebion i'r ymgynghoriad statudol, a'r ffordd rydym wedi'u hystyried wrth ddiweddaru'r canllawiau ac wrth ymgymryd â'n gwaith ehangach i helpu i wneud etholiadau'n hygyrch i bawb.
Yn gyffredinol, roedd yr ymatebwyr yn croesawu'r canllawiau diwygiedig ac yn teimlo eu bod yn rhoi trosolwg cynhwysfawr o'r rhwystrau a wynebir gan bleidleiswyr anabl a'r ffyrdd y gellid mynd i'r afael â nhw.
Rydym wedi gwneud y diwygiadau canlynol i'n canllawiau o ganlyniad i sylwadau a gafwyd ar rwystrau i bleidleisio:
- Rydym wedi cynnwys y rheini â namau gwybyddol yn y rhestr o bobl nad ydynt bob amser yn cael cyfarwyddiadau mewn fformat hygyrch.
- Rydym wedi ymhelaethu ar y rhwystrau ychwanegol penodol a wynebir gan bobl ddall a rhannol ddall oherwydd y ffaith mai ymarfer gweledol – rhoi croes mewn man penodol ar ddarn o bapur – yw'r dull pleidleisio yn bennaf.
- Rydym wedi ymhelaethu ar feysydd y dylid eu cynnwys mewn hyfforddiant ar gyfer staff gorsafoedd pleidleisio:
- ymwybyddiaeth nad oes unrhyw rwystrau cyfreithiol i atal pobl anabl rhag pleidleisio, gan gynnwys pleidleiswyr ag unrhyw anabledd dysgu neu nam gwybyddol
- ymwybyddiaeth nad yw pob anabledd yn weladwy neu'n amlwg, ac na ddylai staff gorsafoedd pleidleisio wneud tybiaethau am y cyfarpar y gallai fod ei angen ar bleidleiswyr
- ymwybyddiaeth y gall cydymaith, os bydd wedi cwblhau'r datganiad, fod yn bresennol gyda phleidleisiwr yn y bwth pleidleisio i'w helpu
- ymwybyddiaeth o gyfarpar y gall staff fod yn llai cyfarwydd ag ef, fel systemau dolen sain
- ymwybyddiaeth o Iaith Arwyddion Prydain a Makaton fel dulliau cyfathrebu amgen y gall pleidleiswyr eu defnyddio
- Rydym wedi cynnwys print bras fel fformat y gellid darparu gwybodaeth ynddi er mwyn helpu pleidleiswyr oedrannus, pleidleiswyr â dyslecsia, a phleidleiswyr sydd â dementia.
- Rydym wedi egluro bod angen i gymorth a chymhorthion fod ar gael yn hawdd er mwyn helpu pobl i bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol.
Gofynnodd rhai o'r ymatebwyr am i wybodaeth ychwanegol gael ei darparu i Swyddogion Canlyniadau i'w helpu i gynnal etholiadau hygyrch. Cawsom hefyd geisiadau am ragor o ganllawiau ar ddyletswyddau statudol Swyddogion Canlyniadau o dan y Ddeddf Etholiadau a'r fframwaith ehangach o ddeddfwriaeth ym maes cydraddoldeb.
Rydym wedi gwneud y newidiadau canlynol i'r canllawiau yn sgil hynny:
- Rydym wedi egluro y bydd angen chwyddwydr â chryfder gwahanol ar bleidleiswyr gwahanol yn dibynnu ar lefel eu golwg ac, felly, y gall fod angen i Swyddogion Canlyniadau ddarparu chwyddwydrau â lefelau gwahanol o gryfder.
- Rydym wedi nodi'n glir nad yw dyfeisiau pleidleisio cyffyrddadwy ynddynt eu hunain yn galluogi pleidleiswyr dall i bleidleisio'n annibynnol, oni bai bod gwybodaeth hygyrch hefyd ar gael iddynt am drefn yr ymgeiswyr ar y papur pleidleisio.
- Rydym wedi ymhelaethu ar y fframwaith deddfwriaethol ac wedi diweddaru'r iaith yn y canllawiau mewn perthynas â hyn, gan gynnwys:
- sicrhau bod y geiriad yn y canllawiau yn gyson â'r geiriad perthnasol yn Neddf Etholiadau 2022 ac yn ei adlewyrchu'n agosach
- cyfeirio'n fwy cyson at ddyletswydd rhag-gynllunio Swyddogion Canlyniadau i wneud addasiadau rhesymol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a'r gofyniad iddynt ystyried ceisiadau am addasiadau, gan gynnwys cadw cofnod o geisiadau at ddibenion cynllunio yn y dyfodol
- cyfeirio at Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a'r ffordd y mae'n rhyngweithio â dyletswyddau eraill Swyddogion Canlyniadau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
- Rydym wedi ymhelaethu ar y ffordd y gall Swyddogion Canlyniadau ddefnyddio data lleol i lywio eu penderfyniadau am y cymorth a'r cyfarpar ychwanegol y byddant yn eu darparu mewn gorsafoedd pleidleisio er mwyn galluogi pobl anabl i bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol, neu ei gwneud yn haws iddynt wneud hynny. Er enghraifft, rydym wedi nodi y gallai Swyddogion Canlyniadau ddefnyddio'r cofrestrau nam ar y golwg neu'r Adnodd Data Nam ar y Golwg a ddarperir gan Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion (RNIB) i'w helpu i nodi faint o etholwyr y mae nam ar y golwg yn effeithio arnynt. Gallai hyn helpu Swyddogion Canlyniadau i ragweld anghenion pobl ddall a rhannol ddall yn eu hardal ac i gydymffurfio â'u dyletswydd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i wneud addasiadau rhesymol i helpu unigolion ar y gofrestr i gymryd rhan mewn digwyddiadau etholiadol.
Cyfarpar y dylid ei ddarparu mewn gorsafoedd pleidleisio
Gwnaed rhai sylwadau ynglŷn â'r gofynion sylfaenol a awgrymwyd ar gyfer cyfarpar mewn gorsafoedd pleidleisio ac ynghylch sicrhau darpariaeth gyson ym mhob gorsaf bleidleisio:
- Awgrymodd rhai y dylid cynnwys dyfeisiau sain ar ein rhestr o gyfarpar y dylai pob Swyddog Canlyniadau ei ddarparu fel gofyniad sylfaenol ym mhob gorsaf bleidleisio. Rydym wedi argymell y dylai Swyddogion Canlyniadau ystyried darparu dyfeisiau sain mewn gorsafoedd pleidleisio penodol lle byddant yn nodi neu'n cael gwybod y byddai dyfais sain yn galluogi pleidleisiwr mewn gorsaf bleidleisio benodol i bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol, neu'n ei gwneud yn haws iddo wneud hynny. Nodwn y modd y gall Swyddogion Canlyniadau ddefnyddio cofrestrau nam ar y golwg neu'r Adnodd Data Nam ar y Golwg i nodi pleidleiswyr dall a rhannol ddall yn eu hardal y gall fod angen dyfais o'r fath arnynt, fel rhan o'r broses o gyflawni eu dyletswyddau rhag-gynllunio o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
- Mynegodd rhai o'r ymatebwyr bryderon ynglŷn â diffyg cysondeb yn y DU mewn perthynas â'r cyfarpar a'r cymorth a ddarperir mewn gorsafoedd pleidleisio gwahanol. O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae gan Swyddogion Canlyniadau ddyletswydd rhag-gynllunio i wneud addasiadau rhesymol. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid iddynt gymryd camau i ddeall a rhagweld anghenion pleidleiswyr anabl â mathau gwahanol o ofynion o ran anabledd, cymorth a mynediad, a hynny'n barhaus. Bydd angen i addasiadau o'r fath adlewyrchu amgylchiadau a dulliau gweithredu lleol, sy'n golygu na fyddai rhestr safonedig ynddi ei hun yn briodol. Nod ein canllawiau yw helpu Swyddogion Canlyniadau i gyflawni eu dyletswyddau o dan y Ddeddf Etholiadau a'r fframwaith ehangach o ddeddfwriaeth ym maes cydraddoldeb.
- Cawsom hefyd adborth yn gofyn i ni fandadu, yn hytrach nag awgrymu, darpariaethau a chyfarpar yn y canllawiau. Nid yw'r Ddeddf Etholiadau yn rhoi cyfle i ni bennu rhestr o eitemau neu gyfarpar y mae'n rhaid i Swyddogion Canlyniadau sicrhau eu bod ar gael ym mhob gorsaf bleidleisio. Rhaid i Swyddogion Canlyniadau ystyried ein canllawiau wrth wneud penderfyniadau, yn seiliedig ar adolygiad parhaus o anghenion lleol.
Byddwn yn adolygu'r canllawiau'n barhaus, gan gynnwys mewn perthynas â'r cyfarpar y dylid ei ddarparu fel gofyniad sylfaenol ac unrhyw gyfarpar a chymorth ychwanegol. Byddwn yn gofyn am adborth gan bleidleiswyr a gweinyddwyr etholiadau ar y cyfarpar a ddarperir i gefnogi pleidleiswyr anabl fel rhan o'n gwaith adrodd ar etholiadau ac er mwyn helpu i nodi a rhannu arferion gorau.
Adnoddau ychwanegol i Swyddogion Canlyniadau
Rydym wedi cynnwys rhai awgrymiadau yn y llawlyfr i orsafoedd pleidleisio, adnodd sydd wedi'i ddylunio i gynorthwyo staff gorsafoedd pleidleisio ac sy'n disgrifio'r gweithdrefnau i'w dilyn a sut i ddelio ag unrhyw faterion a all godi, yn hytrach nag yn y canllawiau. Mae hyn yn cynnwys:
- rhestr wirio o gyfarpar i'w ddarparu yn yr orsaf bleidleisio, fel rhan o'r rhestr wirio ar gyfer gosod yr orsaf bleidleisio
- Gwybodaeth am ddarparu arwyddion yn yr orsaf bleidleisio
- sicrhau bod staff gorsafoedd pleidleisio yn gwybod sut i ddefnyddio cyfarpar er mwyn helpu pleidleiswyr
- sicrhau bod cyfarpar yn weladwy ac ar gael yn hawdd i bleidleiswyr ei ddefnyddio
- sicrhau bod staff gorsafoedd pleidleisio yn gwybod nad oes unrhyw rwystrau cyfreithiol i atal pobl anabl rhag pleidleisio, gan gynnwys pleidleiswyr ag unrhyw anabledd dysgu neu nam gwybyddol.
Gofynnodd rhai ymatebwyr am fwy o gymorth i Swyddogion Canlyniadau i'w helpu i nodi a chyfathrebu â phleidleiswyr anabl yn eu hardal leol ac i ddarparu gwybodaeth iddynt mewn fformatau amgen hygyrch, gan gynnwys ynglŷn â'u Hawliau pleidleisio. Cawsom hefyd adborth am ddiffyg gwybodaeth mewn fformatau amgen i bleidleiswyr sydd wedi'u hallgáu’n ddigidol, ac ynglŷn â darparu rhestr o bartneriaid i Swyddogion Canlyniadau – gan gynnwys partneriaid mewn timau awdurdodau lleol eraill – y gallent gydweithio â nhw.
- Rydym wedi ymhelaethu ar y modd y gall Swyddogion Canlyniadau gyfathrebu'n uniongyrchol â phleidleiswyr anabl er mwyn rhoi gwybodaeth iddynt a dysgu mwy am y mathau o ddarpariaeth y gallai fod eu hangen arnynt. Mae hyn yn cynnwys sut y gall Swyddogion Canlyniadau gydweithio ag eraill yn yr awdurdod lleol.
- Rydym wedi tynnu sylw at y modd y gall Swyddogion Canlyniadau ddefnyddio cofrestrau nam ar y golwg yr awdurdod lleol i sicrhau eu bod yn cyfathrebu â phobl yn eu dewis fformatau, gan gynnwys y rheini sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol.
- Rydym wedi ymhelaethu ar y ffyrdd y gall Swyddogion Canlyniadau gyfathrebu â phleidleiswyr am y broses bleidleisio a'r cymorth sydd ar gael i bleidleiswyr.
- Rydym wedi egluro y gall Swyddogion Canlyniadau, yn ogystal â darparu tudalen we benodedig, ddarparu gwybodaeth ymlaen llaw am bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio ar hysbysfyrddau cyhoeddus.
- Rydym wedi cyfeirio at y ffaith y gall Swyddogion Canlyniadau weithio gyda chartrefi gofal a chanolfannau dydd yn eu hardal leol.
- Rydym wedi cyfeirio at ganllawiau sy'n bodoli eisoes gan Wasanaeth Cyfathrebu'r Gwasanaeth ar ddarparu deunydd cyfathrebu mewn fformatau hygyrch.
Rydym hefyd wedi datblygu adnoddau ychwanegol i gefnogi'r broses o gynnal etholiadau hygyrch. Mae hyn yn cynnwys adnoddau i helpu sefydliadau i godi ymwybyddiaeth o'r gofyniad am fanylion adnabod pleidleisiwr, sy'n cynnwys gwybodaeth am gofrestru i bleidleisio a phleidleisio yn yr etholiadau. Adnoddau y gellir eu hargraffu yw'r rhain, y gall sefydliadau eu rhannu â'u defnyddwyr a'u haelodau.
Mewn blynyddoedd blaenorol, rydym wedi cydweithio i lunio deunyddiau gwybodaeth i bleidleiswyr mewn fformatau amgen, gan gynnwys canllawiau hawdd eu darllen (a luniwyd ar y cyd â Mencap), ffug bapurau pleidleisio (a luniwyd ar y cyd ag United Response), a chyfres o fideos a chanllawiau yn Iaith Arwyddion Prydain.
Rydym yn gweithio i ddatblygu ein harlwy ac i gydweithio â sefydliadau partner i lunio adnoddau gwybodaeth i bleidleiswyr a rhaglenni i bleidleiswyr anabl ar gyfer etholiadau yn y dyfodol, er mwyn sicrhau eu bod yn addas at y diben ac yn effeithiol. Rydym yn rhagweld y bydd yr adnoddau newydd yn rhai bytholwyrdd, y gellir eu defnyddio drwy gydol y flwyddyn, y tu hwnt i gyfnodau etholiadau. Byddwn yn parhau i dyfu ein rhwydwaith o bartneriaid ac yn chwilio am gyfleoedd pellach i gyd-lunio adnoddau a rhaglenni a'u mireinio mewn ymateb i adborth gan bleidleiswyr.
Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr yn croesawu'r wybodaeth a'r adnoddau ychwanegol y byddwn yn eu darparu er mwyn helpu Swyddogion Canlyniadau i werthuso a dysgu gwersi ar gyfer etholiadau yn y dyfodol, a'r hyn y byddwn yn ei wneud i adrodd ar y broses o roi'r darpariaethau hygyrchedd newydd ar waith. Roedd llawer o'r ymatebwyr yn gwerthfawrogi'r pwyslais ar drin y canllawiau fel dogfen fyw, a gaiff ei hadolygu'n barhaus.
Gofynnodd rhai o'r ymatebwyr i ni ddarparu holiadur er mwyn i Swyddogion Canlyniadau gasglu adborth gan y gymuned anabl. Awgrymodd rhai eraill y dylid darparu arolygon mewn fformatau hawdd eu darllen a phrint bras, ac y dylai pleidleiswyr allu cwblhau'r rhain y tu allan i amgylchedd yr orsaf bleidleisio.
Rydym yn bwriadu darparu arolwg templed y gall Swyddogion Canlyniadau ei ddefnyddio i gasglu adborth gan bleidleiswyr anabl. Byddwn yn ystyried darparu'r arolwg templed hwn mewn fformatau hawdd ei ddarllen ar gyfer etholiadau 2023.
Bydd y Comisiwn ei hun yn casglu adborth gan bleidleiswyr anabl drwy ddau brif lwybr:
- Bydd ein harolwg o farn y cyhoedd yn cynnwys sampl ychwanegol o bobl anabl, yn cynnwys y rhai a bleidleisiodd a'r rhai na wnaethant bleidleisio, yn gofyn cwestiynau am eu profiad a'u canfyddiadau o'r etholiadau diweddar. Ni fyddwn yn gofyn i bleidleiswyr gwblhau holiadur yn amgylchedd yr orsaf bleidleisio.
- Ochr yn ochr â hyn, byddwn hefyd yn casglu adborth gan sefydliadau cynrychioliadol drwy arolwg y gallant ei rhannu â'u haelodau a'u defnyddwyr gwasanaethau. Bydd yr arolwg hwn ar gael ar ffurf dogfen Word, y gellir ei hargraffu, ei llenwi a'i dychwelyd drwy'r post i'r rheini sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol,
Fel rhan o'n harolygon ar ôl yr etholiad rheolaidd o staff gorsafoedd pleidleisio a gweinyddwyr etholiadau, byddwn yn gofyn am unrhyw adborth am y cymorth hygyrchedd a roddwyd i bleidleiswyr ac am unrhyw gymorth penodol y gofynnwyd amdano ac a roddwyd i bleidleiswyr.
Byddwn hefyd yn defnyddio ein safonau perfformiad newydd i gefnogi a herio Swyddogion Canlyniadau mewn perthynas â hygyrchedd etholiadau, ac i lywio ein gwaith adrodd ar y cymorth a'r cyfarpar a ddarperir.
Roedd rhai o'r ymatebion a gafwyd yn cynnwys materion a oedd y tu hwnt i gwmpas y canllawiau a'r ymgynghoriad hwn, y byddai angen gwneud newidiadau pellach i ddeddfwriaeth er mwyn mynd i'r afael â nhw. Ymhlith y materion roedd y canlynol:
- Addasrwydd a lleoliad gorsafoedd pleidleisio
- Argaeledd pleidleisio dros y ffôn a phleidleisio electronig
- Cyhoeddi gwybodaeth am ymgeiswyr a phleidiau mewn fformatau amgen mewn da bryd cyn etholiad
- Darparu'r ffurflenni canfasio a gwneud cais am bleidlais bost, a'r llythyr gwahoddiad i gofrestru, mewn fformatau amgen (gan gynnwys fersiynau Cymraeg neu ieithoedd eraill)
- Caniatáu i bleidleiswyr ddatgan gofynion penodol wrth gofrestru i bleidleisio
- Creu cofrestr risg genedlaethol lle y caiff anawsterau o ran pleidleisio hygyrch eu cofnodi
Er nad ydym wedi mynd i'r afael â'r rhain yma, byddwn yn parhau i ystyried sut y gallwn roi sylw iddynt yn ein canllawiau, ein hymchwil a'n gwaith ymwybyddiaeth y cyhoedd ehangach.
Mynegodd rhai o'r ymatebwyr bryderon ehangach am adnoddau staffio, recriwtio staff a chyllid. Byddwn yn parhau i fonitro'r rhain fel rhan o'n gwaith ymgysylltu ehangach â Swyddogion Canlyniadau. Erys cyllid yn fater i'r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau.
Nid yw'r dadansoddiad i'r ymatebion i'r ymgynghoriad statudol fesul cwestiwn yn cynnwys yr ymatebion hynny a ddewisodd gyflwyno adborth mewn fformatau eraill neu fel testun rhydd yn unig. Ystyriwyd yr holl ymatebion wrth ddiweddaru'r canllawiau ac yn ein gwaith ehangach er mwyn helpu i wneud etholiadau'n hygyrch i bawb.
Cwestiwn | Ymateb cadarnhaol (cyfanswm a %) | Ymateb negyddol (cyfanswm a %) |
Ddim yn gwybod (cyfanswm a %) |
Cyfanswm yr ymatebion |
---|---|---|---|---|
Cwestiwn 1 A yw'r canllawiau diwygiedig yn rhoi digon o wybodaeth i Swyddogion Canlyniadau i'w helpu i ddeall y mathau o rwystrau y gall pleidleiswyr eu hwynebu wrth bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio? |
14 (42%) | 15 (45%) | 4 (12%) | 33 |
Cwestiwn 2 Yn eich barn chi, a fydd y canllawiau diwygiedig a'r adnoddau ychwanegol yn ddigon i gefnogi Swyddogion Canlyniadau i helpu pleidleiswyr anabl i bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol yn yr orsaf bleidleisio? |
13 (39%) | 14 (42%) | 6 (18%) | 33 |
Cwestiwn 3 A fydd y gwaith partneriaeth ychwanegol a'r adnoddau a amlinellwyd yn helpu pleidleiswyr i ddeall yr hyn y gallant ei ddisgwyl yn yr orsaf bleidleisio a'r cymorth sydd ar gael? |
16 (47%) | 6 (18%) | 12 (35%) | 34 |
Cwestiwn 4 A fydd y canllawiau diwygiedig a'r adnoddau ychwanegol yn galluogi Swyddogion Canlyniadau i werthuso a dysgu gwersi ar gyfer etholiadau yn y dyfodol? |
17 (52%) | 7 (21%) | 9 (27%) | 33 |