Ymgynghoriad ar ganllawiau statudol drafft: argraffnodau digidol
Cynhaliom ymgynghoriad ar ganllawiau statudol drafft ar argraffnodau digidol rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2022. Mae'r drefn argraffnod digidol bellach ar waith (o fis Tachwedd 2023 ymlaen), a gallwch weld ein canllawiau statudol yma.
Cynhaliom ymgynghoriad ar ganllawiau statudol drafft ar argraffnodau digidol rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2022.
Mae'r drefn argraffnod digidol bellach ar waith (o fis Tachwedd 2023 ymlaen), a gallwch weld ein canllawiau statudol yma.
Crynodeb
Crynodeb
Ychwanegir ‘argraffnodau’ at ddeunydd gwleidyddol neu ddeunydd sy'n gysylltiedig ag etholiad er mwyn dangos pwy sy'n gyfrifol amdano. Mae hyn yn helpu i sicrhau tryloywder ar gyfer pleidleiswyr ynghylch pwy sy'n gwario arian i ddylanwadu arnynt.
Mae Deddf Etholiadau 2022 yn cynnwys darpariaethau sy'n mynnu bod argraffnodau ar ddeunydd ymgyrchu digidol.
Mae'r Ddeddf yn cyflwyno dyletswydd newydd ar y Comisiwn i baratoi canllawiau statudol yn esbonio'r drefn o ran argraffnodau digidol a'r modd y bydd y Comisiwn a'r heddlu yn eu dilyn i arfer eu swyddogaethau gorfodi. Ar ôl i'r canllawiau gael eu paratoi, cânt eu cyflwyno i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau. Yna, gall y Gweinidog addasu'r canllawiau, cyn eu cyflwyno gerbron y senedd i gael eu cymeradwyo.
Bydd angen i bleidiau ac ymgyrchwyr ddeall y cyfreithiau newydd ar gyfer argraffnodau digidol a chydymffurfio â nhw ledled y DU, ni waeth beth fo'u maint na'u profiad. Bydd eich safbwyntiau yn ein helpu i sicrhau bod y canllawiau a gyflwynwn i'r Ysgrifennydd Gwladol mor glir a defnyddiol â phosibl.
Pan ddaw'r canllawiau statudol i rym ym mis Tachwedd 2023, rhaid i'r Comisiwn a'r heddlu ystyried y canllawiau wrth iddynt orfodi'r drefn. Ar gyfer ymgyrchwyr, bydd dangos eu bod wedi cydymffurfio â'r canllawiau yn amddiffyniad statudol i unrhyw drosedd o dan y cyfreithiau newydd.
Sut i ymateb
Bydd yr ymgynghoriad ar agor rhwng 31 Hydref 2022 a 20 Rhagfyr 2022.
Gallwch ymateb:
- drwy lenwi ein ffurflen ar-lein
- drwy e-bostio eich sylwadau i [email protected] neu
- drwy ysgrifennu atom yn y cyfeiriad canlynol:
Regulatory Support Team
The Electoral Commission
3 Bunhill Row
London EC1Y 8YZ
Drwy gydol y cyfnod ymgynghori, byddwn yn parhau i ymgysylltu â'r gymuned etholiadol a'r gymuned ymgyrchu. Rydym yn fodlon cwrdd ag unrhyw grwpiau neu unigolion sydd â diddordeb ar gais.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu ar 0207 271 0527.
Sut y gwnaethom ddatblygu'r canllawiau drafft
Gwnaethom siarad ag amrywiaeth o bleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau ledled y DU i lywio'r canllawiau drafft.
Gwnaethom eu holi ynghylch:
- eu dealltwriaeth o'r darpariaethau
- y modd maent yn defnyddio deunydd digidol yn eu hymgyrchu gwleidyddol
- pa lwyfannau digidol a ddefnyddir ganddynt i gyrraedd pleidleiswyr
- sut maent yn gweld ymgyrchu digidol yn datblygu yn y dyfodol
Opens in new windowGweld y canllawiau drafft.
Cefndir
Pwy ydym ni
Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb.
Rydym yn cefnogi ymgeiswyr, pleidiau ac ymgyrchwyr drwy ddarparu canllawiau ac adnoddau cynhwysfawr i'w helpu i ddeall beth y dylent ei wneud i gydymffurfio â'r gyfraith, ac sy'n eu galluogi i ganolbwyntio eu hymdrechion ar ymgysylltu â phleidleiswyr.
Ceir rhagor o wybodaeth am ein rôl a'n cyfrifoldebau ar ein gwefan.
Deddfwriaeth gyfredol ar argraffnodau
Mae cyfreithiau sefydledig ar y gofyniad i gael argraffnodau ar ddeunydd argraffedig sy'n ymwneud ag etholiadau, refferenda a deisebau adalw yn y DU.
Yn 2020, cyflwynodd llywodraeth yr Alban ofynion argraffnodau ar ddeunydd etholiadol digidol a ddefnyddir yn etholiadau Senedd yr Alban ac etholiadau cyngor yn yr Alban.
Ceir rhagor o wybodaeth am y cyfreithiau hyn yn ein canllawiau cyfredol.
Deddf Etholiadau 2022
Mae Deddf Etholiadau'r DU 2022 yn cynnwys darpariaethau ar y gofyniad i gael argraffnodau ar rai mathau o ddeunydd digidol. Bydd y cyfreithiau digidol newydd ar argraffnodau yn gymwys:
- ledled y DU
- i bob etholiad a gadwyd yn ôl
Mae Adran 54 o Ddeddf Etholiadau 2022 yn cynnwys dyletswydd benodol ar y Comisiwn i lunio canllawiau statudol ar y drefn argraffnodau digidol newydd a ddaw i rym ym mis Tachwedd 2023.
Yn wahanol i'r rhan fwyaf o ganllawiau'r Comisiwn, mae'n rhaid i ganllawiau statudol gael eu cymeradwyo gan y Gweinidog perthnasol, a Senedd y DU.