We're showing you content for:

Introduction

Mae arsylwadau annibynnol etholiadau, refferenda a deisebau adalw yn hanfodol ar gyfer democratiaeth iach ac yn rhan bwysig o’r broses etholiadol. Mae’n helpu i sicrhau bod digwyddiadau etholiadol yn cael eu cynnal mewn modd tryloyw, hygyrch, di-duedd a diogel.

Cyhoeddir y Cod Ymarfer ar gyfer Arsylwyr Etholiadau gan y Comisiwn Etholiadol dan adrannau 6F a 6G o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA).

Crëir y Canllawiau hyn yn ychwanegol i’r Cod i ddarparu rhagor o wybodaeth ynghylch:

  • y broses ymgeisio i ddod yn arsylwr achrededig neu sefydliad achrededig
  • y rôl a’r safonau ymddygiad disgwyliedig ar gyfer arsylwyr achrededig

Mae’r Comisiwn Etholiadol yn tanysgrifio i’r Datganiad o Egwyddorion ar gyfer Arsylwadau Etholiadau Rhyngwladol a’r Cod Ymarfer ar gyfer Arsylwyr Etholiadau Rhyngwladol sy’n sefydlu’r sail ar gyfer arsylwi etholiadau rhyngwladol cadarn.

Arsylwi a Chydlynu Ymarferol

Mae rôl Arsylwr Etholiad Achrededig yn un wirfoddol ddi-dâl ac ni ddylid ei chymysgu â rôl â thâl gan weithio i’ch awdurdod etholiadol lleol mewn canolfan gyfrif neu orsaf bleidleisio. Er nad oes hyfforddiant swyddogol i arsylwyr ac nid ydynt yn gynrychiolwyr o’r Comisiwn, mae’r Comisiwn yn trefnu gweminarau y mae arsylwyr sydd â diddordeb yn cael eu hannog i’w mynychu cyn cynnal digwyddiadau etholiadol mawr . Bydd y rhain yn manylu ar yr hyn sydd i’w ddisgwyl a sut i wneud y mwyaf o effaith gadarnhaol arsylwi. Mae’r Comisiwn yn argymell yn gryf bod arsylwyr dibrofiad yn mynychu gweminarau cyn arsylwi. Gall Swyddogion Canlyniadau hefyd gynnig hyfforddiant tebyg cyn digwyddiadau etholiadol.

Rhaid i arsylwyr lynu wrth y Cod Ymarfer ar gyfer arsylwyr etholiadol bob amser yn ystod eu hachrediad. Mae hysbysu swyddogion etholiadau lleol o’ch bwriad i arsylwi ymlaen llaw yn arfer dda ac mae’n debygol o roi mynediad i wybodaeth ymarferol ddefnyddiol i chi fel rhestrau o orsafoedd pleidleisio neu drefniadau hygyrchedd. Fodd bynnag, caniateir ymweliadau heb rybudd a gallant hefyd fod yn ddiben defnyddiol.

Gall Swyddog Perthnasol gyfyngu ar nifer y bobl a all fod yn bresennol mewn gweithgareddau etholiadau penodol ar yr un pryd.

Swyddog Perthnasol yw:

  • ar gyfer gweithrediadau mewn gorsaf bleidleisio, y Swyddog Llywyddu, neu staff yr orsaf bleidleisio;
  • ar gyfer unrhyw weithrediadau eraill mewn etholiad, y Swyddog Canlyniadau;
  • ar gyfer unrhyw weithrediadau eraill mewn refferendwm, y Swyddog Cyfrif;
  • ar gyfer deisebau adalw, y Swyddog Deisebau
     

Gwneud cais i fod yn arsylwr etholiadol

Mae’n ofynnol i bob ymgeisydd ddatgan eu bod wedi darllen y Cod a’r Canllawiau hyn fel rhan o’r broses ymgeisio.

Dylai’r rhai sy’n ceisio achrediad gyflwyno cais ar-lein drwy wefan y Comisiwn Etholiadol. Cysylltwch â’r Comisiwn drwy’r cyfeiriad e-bost arsylwr pwrpasol, [email protected], 0333 103 1928, neu ysgrifennwch atom yn un o’n swyddfeydd i gael cyngor os ydych yn dymuno gwneud cais drwy gais papur copi caled. Mae’n ofynnol i’r unigolyn neu enwebai ar gyfer sefydliad ddarparu llun pasbort a chopi o lun adnabod a restrir isod.

Ni ystyrir bod ceisiadau’n gyflawn nes bod y llun a’r llun adnabod wedi’u hanfod ar ôl i’r rhan ysgrifenedig o’r cais gael ei wneud.

Hysbysir ymgeiswyr yn ysgrifenedig am ganlyniad y cais gan ddefnyddio’r manylion

Mae achrediad yn dechrau ar y dyddiad a gyhoeddir ar y bathodyn ac ar gofrestr yr arsylwyr achrededig. Bydd angen i arsylwyr y mae eu hachrediad wedi dod i ben neu wedi’i ddiddymu neu ddirymu ddychwelyd eu bathodyn i’r Comisiwn. Bydd eu henwau wedi’u dileu o’r gofrestr, ac felly ni ddylid eu derbyn i unrhyw weithdrefnau etholiadau.

Wrth ystyried y cais, mae’r Comisiwn yn cynnal gwiriadau cefndir i sicrhau bod yr ymgeiswyr yn ddiduedd yn wleidyddol ac nad oes unrhyw faterion eraill a allai anghymhwyso’r ymgeisydd neu ddwyn anfri ar y cynllun oherwydd eu hachrediad. Gall gwiriadau cefndirol a wneir gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, weithgaredd ar y cyfryngau cymdeithasol neu gysylltiad gwleidyddol. Mae arsylwyr, sefydliadau arsyllwyr ac enwebeion sefydliadau arsylwyr hefyd yn destun gwiriadau gwleidyddol ar hap drwy gydol eu cyfnod achredu.

Gellir gwrthod cais am achrediad os yw’r gwiriadau hyn yn sefydlu nad yw ymgeisydd, arsylwr, enwebai neu sefydliad arsylwyr yn ddiduedd yn wleidyddol neu y gallent ddwyn anfri ar y cynllun. Darperir esboniad ysgrifenedig dros wrthod a’r cyfle i apelio fel y disgrifir isod.

Nid yw cysylltiad â phlaid wleidyddol neu fod yn gysylltiedig â grŵp ymgyrchu nad yw’n rhan o blaid yn awtomatig yn anghymhwyso unigolyn neu sefydliad rhag cael ei achredu.

Wrth ystyried y cais, mae’r Comisiwn yn cynnal gwiriadau cefndir i sicrhau bod yr ymgeiswyr yn ddiduedd yn wleidyddol ac nad oes unrhyw faterion eraill a allai anghymhwyso’r ymgeisydd neu ddwyn anfri ar y cynllun oherwydd eu hachrediad. Gall gwiriadau cefndirol a gynhelir gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, weithgaredd ar y cyfryngau cymdeithasol neu gysylltiad gwleidyddol. Mae arsylwyr, sefydliadau arsyllwyr ac enwebeion sefydliadau arsylwyr hefyd yn destun gwiriadau gwleidyddol ar hap drwy gydol eu cyfnod achredu.

Gellir gwrthod cais am achrediad os yw’r gwiriadau hyn yn sefydlu nad yw ymgeisydd, arsylwr, enwebai neu sefydliad arsylwyr yn ddiduedd yn wleidyddol neu y gallent ddwyn anfri ar y cynllun. Darperir esboniad ysgrifenedig dros wrthod a’r cyfle i apelio fel y disgrifir isod.

Gellir ystyried nad yw ymgeisydd yn ddiduedd os yw gwiriadau cefndir yn penderfynu eu bod yn hyrwyddo, yn dylanwadu ar, neu'n ymddangos ei fod yn cefnogi unrhyw blaid wleidyddol, ymgeisydd, neu achos, naill ai cyn, yn ystod neu ar ôl digwyddiadau etholiadol. Gall hyn gynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig i, weithgaredd ar y cyfryngau cymdeithasol, ymdrechion proffesiynol neu ymddygiad cyhoeddus.

Gallai enghreifftiau o dorri rheolau didueddrwydd gynnwys:

  • hyrwyddo plaid, ymgeisydd, neu ymgyrch.
  • annog pobl i bleidleisio dros neu yn erbyn plaid neu ymgeisydd penodol
  • ffafrio ochr ar fater ymgyrch (e.e. yn ystod refferendwm)

Ni ddylai arsylwyr wneud y canlynol cyn, yn ystod nac ar ôl digwyddiadau etholiadol er mwyn osgoi achosion posibl o dorri rheolau, hyd yn oed os nad yw rhywbeth wedi'i fwriadu i fod yn wleidyddol:

  • defnyddio negeseuon, delweddau neu iaith sy'n gysylltiedig yn gryf ag ymgeisydd, plaid neu achosion gwleidyddol a allai beryglu didueddrwydd gwleidyddol
  • defnyddio lliwiau, sloganau, neu ymadroddion sy'n gysylltiedig â brandio gwleidyddol os gellid gweld hyn yn rhesymol fel cefnogi ochr

Mae gweithgareddau diduedd sy'n cael eu caniatáu yn cynnwys:

  • esbonio sut i gofrestru i bleidleisio
  • darparu gwybodaeth gyffredinol am etholiadau
  • hyrwyddo cyfranogiad
  • egluro prosesau digwyddiadau etholiadol.

Gall ymddygiad sy'n debygol o ddwyn anfri ar y cynllun gynnwys unrhyw weithred neu ymddygiad yn y gorffennol neu'r presennol sy'n peryglu niweidio enw da'r Comisiwn Etholiadol, fel y sefydliad sy'n gyfrifol am y cynllun, neu y gellid yn rhesymol ddisgwyl iddo achosi niwed.

Gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:

  • euogfarnau troseddol am droseddau difrifol
  • ymddygiad rhaniadol a ystyrir yn wahaniaethol, yn dramgwyddus, neu'n niweidiol
  • creu argraff gyhoeddus negyddol neu amhriodol o'r cynllun

Ni ddylai aelodau, swyddogion na gweithwyr plaid gofrestredig yn y DU a fydd, neu sy’n debygol o fod, yn weithgar yn wleidyddol yn ystod eu cyfnod achredu wneud cais am achrediad gan na fyddant yn cael eu hystyried yn briodol ddiduedd yn wleidyddol. Gellir gwrthod cais os na yw’r Comisiwn yn fodlon bod yr ymgeisydd yn ddiduedd y wleidyddol.

Ym mhob amgylchiad, rhaid i’r Comisiwn fod yn fodlon y bydd ymgeiswyr yn gallu bodloni’r gofyniad am ddidueddrwydd gwleidyddol a nodir uchod am hyd eu hachrediad. Mae sefydliadau achrededig hefyd yn gyfrifol am wirio didueddrwydd ac ymddygiad personau a enwebwyd cyn ac ar ôl eu henwebu. Pan ganfyddir fod personau a enwebwyd wedi torri’r Cod Ymarfer, gellir diddymu achrediad y sefydliad achrededig perthnasol, yn

ogystal â’u statws fel arsylwyr. Os canfyddir bod arsylwr achrededig unigol wedi torri’r Cod Ymddygiad, mae’n debygol y bydd eu hachrediad yn cael ei ddiddymu.

Ni fydd deiliaid presennol swydd etholedig yn cael achrediad oherwydd eu cyfranogiad gweithredol mewn pleidleisio ar faterion o fewn eu rolau priodol, ni waeth a yw’r manteision hynny’n uniongyrchol gysylltiedig â digwyddiadau etholiadol sydd ar ddod. Bydd y Comisiwn Etholiadol yn penderfynu ar gais cyn pen amserlen resymol ac ym mhob achos dim llai na 10 diwrnod gwaith ar ôl derbyn y cais. Bydd pob cais a dderbynnir cyn y dyddiad cau a roddir cyn pleidlais yn cael ei benderfynu cyn y bleidlais honno. Gellir penderfynu ar geisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau hefyd ond ni ellir gwarantu hynny.

Os yw arsylwr yn credu ei fod wedi’i hepgor o’r gofrestr, neu os oes angen i swyddog perthnasol gadarnhau statws arsylwr, gallant gysylltu â’r Comisiwn i gael eglurhad.

Mae achrediadau yn para am dair blynedd galendr o’r dyddiad cychwyn a gyhoeddir ar y gofrestr ac a ddangosir ar y bathodyn oni bai:

  • y gofynnir am gyfnod byrrach o achrediad neu
  • tynnir achrediad yn ôl.

ID Ffotograffig

Mae angen i chi anfon llun fel rhan o’ch cais.

Er mwyn cael ei dderbyn rhaid i’r llun a ddarparwch fodloni’r gofynion a bennir isod o ran arddull, ansawdd a maint.

Mae angen i’ch dogfen adnabod llun ddangos eich enw a’ch oedran. Gallwch anfon copi o’ch:

  • pasbort
  • trwydded yrru
  • cerdyn adnabod cenedlaethol
  • cerdyn adnabod etholiadol Gogledd Iwerddon
  • tystysgrif awdurdod pleidleisiwr

Cysylltwch ag [email protected] am gyngor os na allwch chi ddarparu unrhyw un o’r uchod. 700KB yw’r maint ffeil mwyaf. Ni ellir prosesu unrhyw beth uwchlaw hyn.

Yn eich llun mae’n rhaid i chi:

  • fod yn wynebu ymlaen ac yn edrych yn syth at y camera
  • cynnwys llun agos o’ch pen a’ch ysgwyddau yn unig
  • cael mynegiant plaen, ceg ar gau a’ch llygaid ar agor ac yn weladwy
  • peidio â chael gorchudd pen, oni bai ei fod am resymau crefyddol neu feddygol
  • peidio â chael unrhyw beth sy’n gorchuddio’ch wyneb
  • peidio â chael unrhyw gysgodion ar eich wyneb nac y tu ôl i chi.

Os ydych chi’n gwisgo sbectol, ni allant fod yn sbectol haul nac yn sbectol arlliw, a rhaid i 
chi wneud yn siŵr nad yw eich llygaid wedi’u gorchuddio gan y fframiau nac unrhyw 
lewyrch, adlewyrchiad na chysgod.

Mae’n rhaid i’r llun fod:

  • yn debygrwydd gwirioneddol
  • mewn lliw
  • wedi’i dynnu yn erbyn cefndir plaen, golau
  • yn glir ac mewn ffocws
  • yn rhydd rhag ‘llygaid coch’, cysgodion sy’n cuddio’r wyneb, neu adlewyrchiad
  • heb ei addasu gan feddalwedd gyfrifiadurol

Rhoddir bathodyn adnabod llun i arsylwyr achrededig a fydd yn manylu ar gyfnod yr achrediad a’u rhif arsylwr unigryw. Rhaid arddangos hwn bob amser wrth arsylwi etholiadau a’i ddangos ar gais i swyddogion yr etholiad, yr heddlu neu bleidleiswyr

Ceisiadau a wrthodwyd

Unwaith y derbynnir cais, caiff ei adolygu yn unol â Chod Ymarfer y Comisiwn Etholiadol.

Caiff canfyddiadau a thystiolaeth o wiriadau cefndir eu casglu a’u hystyried gan fwrdd cymeradwyo o 5 aelod. Os yw’r mwyafrif yn cymeradwyo, mae’r cais yn mynd ymlaen i’w ystyried yn derfynol gan Bennaeth y genedl berthnasol (Lloegr, Yr Alban, Cymru, Gogledd Iwerddon a Rhyngwladol).
 

Os gwrthodir cais, gall yr unigolyn neu’r sefydliad apelio. Dylid gwneud unrhyw apeliadau yn ysgrifenedig i’r Comisiwn Etholiadol yn [email protected] neu drwy’r post i unrhyw un o swyddfeydd y Comisiwn. Rhaid eu derbyn cyn pen 28 diwrnod o ddyddiad y gwrthodiad, nodi’r rheswm neu sail yr apêl a darparu unrhyw amgylchiadau esgusodol neu dystiolaeth ychwanegol i gefnogi’r apêl.

Bydd adroddiad yn cael ei lunio ar gyfer cyfarwyddwr Gweinyddiaeth a Rheoleiddio Etholiadau a fydd yn penderfynu ar ganlyniad yr apêl.

Bydd apelwyr yn cael gwybod yn ysgrifenedig am ganlyniad eu hapêl cyn pen 28 diwrnod i dderbyn yr apêl.
 

Safonau ac ymddygiad derbyniol ar gyfer arsylwyr

Dylai pob ymgeisydd ddarllen y Cod a’r canllawiau hyn cyn cwblhau’r cais. Wrth gwblhau 
cais, gofynnir i ymgeiswyr lofnodi datganiad yn nodi eu bod yn cytuno i gydymffurfio â’r 
safonau am gyfnod eu hachrediad. 

Rhaid i bob arsylwr ddarllen a chytuno â’r egwyddorion a nodir yn y cod a’r canllawiau.

Rhaid i arsylwyr barchu cyfreithiau’r Deyrnas Unedig yn cynnwys cyfreithiau datganoledig perthnasol. 

Rhaid i arsylwyr barchu awdurdod Swyddogion Perthnasol i reoleiddio presenoldeb a chadw trefn mewn lleoliadau o fewn eu rheolaeth.
 

Dylai arsylwyr gynnal didueddrwydd gwleidyddol llym bob amser yn ystod cyfnod eu hachrediad, gan gynnwys yn ystod eu hamser hamdden a phan fyddent yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol.

Ni ddylai arsylwyr fynegi na dangos unrhyw ragfarn na ffafriaeth mewn perthynas ag awdurdodau cenedlaethol, pleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr na materion refferendwm.

Ni ddylai arsylwyr gynnal unrhyw weithgaredd y gellid ei ystyried yn rhesymol fel un sy’n ffafrio neu’n darparu budd pleidiol i unrhyw blaid wleidyddol neu ymgeisydd yn y Deyrnas Unedig.

Wrth arsylwi, dylai pob arsylwr fod yn ofalus i beidio â chyflwyno eu hunain mewn modd y gellid ei ganfod i ffafrio ymgeisydd, pleidiau, neu faterion refferendwm. Er nad oes cod gwisg i rôl arsylwr, mae’n bwysig nad yw arsylwr yn arddangos baneri, rhosedau plaid, pinnau na bathodynnau ac ati ar eu dillad. 

Gall Swyddogion Perthnasol wrthod mynediad i arsylwyr y bernir eu bod yn cysylltu eu hunain ag ymgeiswyr neu bleidiau mewn ffordd a ganfyddir i dorri didueddrwydd gwleidyddol neu gael gwared arnynt. Ni ddylid defnyddio mynediad i ddigwyddiad etholiadol drwy’r Cynllun Arsylwyr yn lle mynediad am unrhyw reswm arall.

Rhaid i arsylwyr gynnal a chynorthwyo i gynnal cyfrinachedd y bleidlais.

Ni ddylai arsylwyr rwystro’r swyddog perthnasol rhag cyflwyno’r etholiad, y refferendwm neu’r ddeiseb adalw yn unol â’r rheolau perthnasol. Mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, gyhoeddi ac agor pleidleisiau post, pleidleisio, cyfrif, cyfrifo canlyniadau a chadw dogfennau gan swyddogion etholiadol yn dilyn datgan y canlyniad. 

Gall arsylwyr ddod ag anghysondebau, twyll, neu broblemau sylweddol i sylw swyddogion etholiad ar unwaith, oni bai y byddai hyn yn torri cyfrinachedd y bleidlais, a dylent wneud hynny mewn modd nad yw’n rhwystro. 

Gall arsylwyr ofyn cwestiynau i swyddogion etholiadol, cynrychiolwyr pleidiau gwleidyddol ac arsylwyr eraill a gallent ateb cwestiynau ynghylch eu gweithgareddau eu hunain, cyn belled nad yw arsylwadau’n rhwystro unrhyw broses etholiadol. Wrth ofyn neu ateb cwestiynau, ni ddylai arsylwyr geisio cyfeirio unrhyw broses etholiadol. 

Gall arsylwyr ofyn ac ateb cwestiynau i bleidleiswyr ond ni chânt ofyn iddynt ddatgelu dros bwy, neu ba blaid neu safbwynt refferendwm wnaethon nhw bleidleisio.

Ystyrir bod ymddygiad rhwystrol a/neu rwystro wedi digwydd os gwelir bod gweithredoedd arsylwr yn oedi neu’n rhwystro swyddogion etholiad yn sylweddol rhag cyflawni eu dyletswyddau neu bleidleiswyr rhag bwrw eu pleidlais. Gall hyn gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • gwestiynu gormodol tu hwnt i arsylwi rhesymol
  • ymyriad ymwthgar ar ofod personol neu lwybrau sy’n caniatáu mynediad
  • ymddygiad ymosodol neu sy’n aflonyddu

Dylai’r holl arsylwyr arddangos y bathodyn adnabod llun swyddogol a ddarperir gan y Comisiwn Etholiadol bob amser wrth arsylwi digwyddiad etholiadol. Dylai arsylwyr ei gyflwyno swyddogion etholiadol perthnasol wrth fynd i mewn i adeilad a ddefnyddir ar gyfer digwyddiad etholiadol a swyddogion etholiadol ac awdurdodau cenedlaethol eraill sydd â diddordeb pan ofynnir iddynt.

Dylai arsylwyr hefyd gario ID ffotograffig ychwanegol bob amser wrth gynnal arsylwi etholiadol. 

Ni ddylai arsylwyr achrededig gynrychioli eu hunain fel gweithiwr neu asiant neu 
gynrychiolydd, neu’n arsylwi ar ran, y Comisiwn Etholiadol.

Dylai arsylwyr sicrhau bod eu holl arsylwadau yn cael eu hadrodd yn gywir. Dylai arsylwadau fod yn gynhwysfawr, gan nodi ffactorau negyddol, gan wahaniaethu rhwng ffactorau arwyddocaol a dibwys a nodi patrymau a allai gael effaith bwysig ar uniondeb prosesau etholiadol. 

Dylai barn arsylwyr fod yn seiliedig ar y safonau uchaf o gywirdeb gwybodaeth a didueddrwydd dadansoddi, gan wahaniaethau rhwng ffactorau goddrychol a thystiolaeth wrthrychol. 

Dylai arsylwyr seilio pob casgliad ar dystiolaeth ffeithiol a gwiriadwy a pheidio â dod i gasgliadau yn rhy gynnar. 
 

Dylai arsylwyr arsylwi’r lefel uchaf o ymddygiad bob amser, yn cynnwys mewn unrhyw ddatganiadau neu gamau gweithredu a wnânt yn gyhoeddus. 

Dylai arsylwyr sicrhau nad yw eu hymddygiad, ar unrhyw adeg, yn dwyn anfri ar y cynllun arsylwyr etholiadol.   

Methu â chyrraedd y safonau

Rhaid i arsylwyr ddilyn pob cyfarwyddyd cyfreithlon gan swyddogion perthnasol a’r Heddlu. Gellir cael gwared ar arsylwyr o weithrediadau etholiadol os oes angen er mwyn lliniaru camymddygiad etholiadol, cyfrannu at amgylchedd anfygythiol a hwyluso pleidleisio heddychlon i ymgeiswyr ac ymgyrchwyr. Os na fydd arsylwr yn gadael pan ofynnir iddo wneud hynny gan Swyddogion Perthnasol, yna gall yr Heddlu ymyrryd er mwyn cael gwared ar yr arsylwr.

Mae camymddygiad yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i: 

  • dorri cyfrinachedd y bleidlais, neu geisio tanseilio hynny
  • rhwystro gweithrediadau etholiadol yn fwriadol
  • gofyn i etholwyr am eu dewis pleidleisio wrth arsylwi mewn gorsafoedd pleidleisio
  • bod dan ddylanwad Alcohol a/neu Gyffuriau wrth arsylwi

Bydd y Comisiwn Etholiadol yn ystyried unrhyw adroddiad a dderbynnir gan Swyddogion Perthnasol sy’n egluro diddymu arsylwr achrededig. Bydd y Comisiwn Etholiadol yn ceisio cynrychiolaethau gan yr arsylwr achrededig dan sylw cyn gwneud unrhyw benderfyniad ynghylch statws eu hachrediad.

Rhaid caniatáu i arsylwyr cydnabyddedig arsylwi digwyddiadau etholiadol yn unol â’r Cod Ymarfer. Nid oes gan Swyddogion Perthnasol unrhyw awdurdod i gael gwared ar arsylwyr nad ydynt yn cael eu hystyried yn ymddwyn yn rhwystrol.

Efallai y bydd arsylwr/personau achrededig a enwebwyd yn dymuno diddymu eu hachrediad a thynnu’n ôl yn wirfoddol o’r cynllun cyn i’w cyfnod achredu ddod i ben. I wneud hyn, rhaid iddynt gysylltu ag [email protected] gan nodi o ba ddyddiad maent yn dymuno peidio â chael eu hachredu mwyach a dychwelyd eu bathodyn arsylwr i’r Swyddog Arsylwyr Etholiadol yn un o’n swyddfeydd. Ar ôl derbyn y bathodyn, bydd yr arsylwr yn cael ei ddileu o’r gofrestr a’i hysbysu unwaith y bydd hyn wedi’i wneud.

Gall yr arsylwr ail-ymgeisio ar unrhyw adeg.

Gall y Comisiwn ddiddymu achrediad y rhai sy’n torri’r Cod Ymarfer tra maent wedi’u hachredu. Byddant yn cael gwybod am unrhyw dorri cod posibl, a gall ymchwiliad ddechrau a all arwain at ddiddymu achrediad yr arsylwr. Bydd gan sefydliadau achrededig gyfrifoldeb i sicrhau bod personau enwebedig yn cael eu hystyried yn ddiduedd ac na fydd eu henwebiad yn dwyn anfri ar y sefydliad na’r Comisiwn.

Gall gweithgaredd neu ymddygiad arsylwyr a enwebwyd hefyd arwain at ddiddymu achrediad y sefydliad achrededig a'u henwebodd os ystyrir bod torri'r Cod Ymarfer wedi digwydd, a gall bwrdd cymeradwyo cynllun arsylwyr y Comisiwn argymell diddymu. Os felly, caiff adroddiad ei lunio ar gyfer y Cyfarwyddwr Gweinyddiaeth a Rheoleiddio Etholiadol a fydd yn penderfynu.

Bydd arsylwyr sy'n methu â dychwelyd eu bathodyn ar ôl i'w hachrediad gael ei ddiddymu neu ei dynnu'n ôl yn cael eu tynnu oddi ar y gofrestr a'u gwahardd rhag arsylwi. Gall y Swyddog Perthnasol eu tynnu oddi ar y gofrestr hyd yn oed os yw eu bathodyn yn dynodi achrediad. Gall arsylwyr sy'n wynebu diddymiad apelio yn erbyn y penderfyniad. Os gwneir apêl yn erbyn diddymiad, bydd adroddiad yn cael ei lunio ar gyfer aelod o dîm gweithredol y Comisiwn i benderfynu ar ganlyniad yr apêl.

Hwyluso arsylwi etholiadol

Mae gan arsylwyr achrededig hawl i arsylwi’r gweithrediadau mewn digwyddiad etholiadol. Mae ganddynt hawl i arsylwi ar gyhoeddi neu dderbyn papurau pleidleisio drwy'r post, y bleidlais, a'r broses ddilysu a chyfrif pleidleisiau.

Mae’r hawl i fynychu derbyn papurau pleidleisio drwy’r post yn cyfeirio at y broses gyfan o agor a gwirio pleidleisiau drwy’r post a ddychwelwyd.

Caniateir i arsylwyr fynychu gorsafoedd pleidleisio.

Mae gan arsylwyr hawl i gael mynediad i leoliad y cyfrif. Fodd bynnag, nid yw'r mynediad hwn yn ymestyn i fynediad llawn i bob rhan o leoliad y cyfrif, oni bai bod Cynrychiolydd y Comisiwn yno sydd angen mynediad at ddibenion rheoleiddio.

Mae gan arsylwyr unigol sydd wedi’u hachredu gan y Comisiwn Etholiadol hawl hefyd i fynychu’r cyfrif mewn deiseb adalw.

Dylai Swyddogion Perthnasol hysbysu arsylwyr etholiadol o amser a lleoliad y gweithrediadau etholiadol neu o’r prosesau i’w dilyn yn ogystal â’u rhwymedigaethau presennol dan ddeddfwriaeth etholiadol. Dylai Swyddogion Perthnasol ddarparu gwybodaeth i arsylwyr i’w galluogi i arsylwi’r gweithrediadau’n iawn.

Dylai arsylwyr etholiadol roi rhybudd ymlaen llaw i Swyddogion Perthnasol o ble maent yn bwriadu arsylwi.

Arsylwi mewn gorsafoedd pleidleisio

Mae gorsafoedd pleidleisio’n gweithredu o 7 am hyd at 10 pm ar ddiwrnod yr etholiad, a gall arsylwyr weld y swyddog llywyddu yn selio’r blychau pleidleisio cyn i’r gorsafoedd pleidleisio agor. Mae’r cynllun yn amrywio ond yn gyffredinol mae’n cynnwys desgiau swyddogion llywyddu, bythau a blychau pleidleisio. Mewn gorsafoedd pleidleisio lle mae angen dull adnabod, bydd lle preifat ar gael i bleidleiswyr sydd am gael eu hunaniaeth wedi’i chadarnhau gan staff yr Orsaf Bleidleisio yn breifat. Gall hyn fod mewn ystafell ar wahân.

Mae cymhwysedd yn dibynnu ar beidio â bod yn bleidleiswyr post neu ddirprwy a bod yn 18 oed neu’n hŷn ac nid yn etholwr tramor. Nid oes angen cardiau pleidleisio oni bai bod yr etholwr wedi’i gofrestru’n ddienw. Rhaid i bleidleisiau post a gyflwynir fod gyda ffurflen ddychwelyd yng Nghymru a Lloegr.

Mae unigolion a ganiateir yn gyfreithiol yn cynnwys Swyddogion Canlyniadau a’u staff, pleidleiswyr, cymdeithion, ymgeiswyr ac asiantiaid, asiantiaid pleidleisio a chyfrif, cynrychiolwyr y Comisiwn, arsylwyr achrededig, a rhai swyddogion heddlu.

I sicrhau y cynhelir y bleidlais yn ddiogel ac yn effeithiol, mae gan Swyddogion Llywyddu'r hawl i gyfyngu nifer yr arsylwyr achrededig (ond nid cynrychiolwyr y Comisiwn) sy’n bresennol y tu mewn i orsaf bleidleisio am amser penodol am hyd at 60 munud. Os bydd amgylchiadau’n codi lle, oherwydd nifer yr etholwyr sy’n disgwyl i bleidleisio neu’r nifer o arsylwyr sydd eisoes yn bresennol, bod risg i gynnal gweithrediadau’n ddiogel ac effeithiol, efallai y bydd angen i swyddogion llywyddu gyfyngu dros dro'r nifer o arsylwyr a/neu’r amser y gall arsylwyr ei dreulio yn yr orsaf bleidleisio, er mwyn sicrhau y gall y bleidlais fwrw ymlaen yn effeithiol. Mae’n bwysig nodi nad oes gan unrhyw swyddog hawl i wahardd yr holl arsylwyr o’r broses gyfan, dim ond cyfyngu nifer yr arsylwyr sy’n bresennol ar adeg benodol. Pan gymerir camau o’r fath, dylai Swyddogion Llywyddu gofnodi hyn yn log yr orsaf bleidleisio gan nodi enw a rhif ID unigryw’r arsylwr.

Mae’r broses yn cynnwys gwiriadau hunaniaeth, cyhoeddi papurau pleidleisio, marcio a dychwelyd papurau pleidleisio. Mae angen ID pleidleisiwr ar gyfer rhai etholiadau (pob etholiad yn Lloegr a Gogledd Iwerddon ac Etholiadau Seneddol y DU yn yr Alban a Chymru ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru), ac mae ID dilys yn amrywio o basbortau a thrwyddedau gyrru i gardiau consesiynau cenedlaethol (e.e., tocyn bws, Oyster 60, Tystysgrif Awdurdod Pleidleiswr). Derbynnir ID sydd wedi dod i ben os yw'n dal yn adnabyddadwy. Mae etholwyr dienw yn defnyddio dogfennaeth arbennig.

Rhaid i orsafoedd ddarparu cyfleusterau fel seddi, chwyddwydrau, cymhorthion pleidleisio cyffyrddol, bythau hygyrch i gadeiriau olwyn, bathodynnau staff, gafaelion pensil, rampiau, dyfeisiau rhybuddio, goleuo gwell, parcio i bobl anabl a phapurau pleidleisio print bras. Gall dyfeisiadau cynorthwyol ategu’r rhain ac os na all pleidleiswyr farcio papurau pleidleisio eu hunain, gallant ofyn am gymorth gan staff neu gymdeithion (gyda ffurflenni ac wedi’u cyfyngu i gynorthwyo dau etholwr yr un).

Os gwelir nad yw’r cyfleusterau hyn ar gael i bleidleiswyr, argymhellir cofnodi hyn yng nghanfyddiadau’r Arsylwyr. Gellir rhannu adborth gyda’r Comisiwn Etholiadol a gellir ei rannu gyda’r Swyddog Canlyniadau yn ystod neu ar ôl yr etholiad. Gall y Swyddog Canlyniadau gymryd mesurau ychwanegol i fynd i’r afael â phroblemau hygyrchedd ac os oes pryderon ynghylch y darpariaethau hygyrchedd presennol, dylid hysbysu’r swyddog canlyniadau cyn gynted â phosibl er mwyn caniatáu iddynt wneud addasiadau rhesymol.

Gall rhifwyr sefyll y tu allan a chofnodi niferoedd pleidleiswyr i annog pobl i bleidleisio ond nid oes ganddynt unrhyw statws cyfreithiol. Rhaid i arsylwyr gynnal cyfrinachedd y tu mewn: peidiwch â chofnodi pwy sydd wedi pleidleisio nac unrhyw ddynodwyr pleidleisio. Gall torri rheolau arwain at gosbau difrifol.

Fel arfer, fe’u penodir gan ymgeiswyr/pleidiau i:

  • sicrhau bod blychau pleidleisio yn wag wrth agor
  • arsylwi ar gyhoeddi a chau pleidleisiau
  • gosod seliau ar ddiwedd pleidlais
  • canfod dynwarediad

Gweithdrefnau Dilysu a Chyfrif

Gall arsylwyr fynychu ond dim ond y tu allan i ardaloedd cyfrif cyfyngedig.

Gall Swyddogion Perthnasol gyfyngu ar niferoedd arsylwyr neu amser a dreulir mewn gorsaf bleidleisio mewn senarios lle mae eu presenoldeb parhaus yn rhwystr i gynnal pleidlais ddiogel ac effeithiol. Gall Swyddogion perthnasol gapio nifer yr arsylwyr sy’n bresennol dim ond oherwydd pryderon iechyd a diogelwch. Unwaith y bydd y pryderon hyn wedi’u lleddfu, rhaid caniatáu mynediad.

Mae mynychwyr a ganiateir yn cynnwys Swyddogion Canlyniadau a staff, ymgeiswyr (ynghyd ag un gwestai), asiantiaid, asiantiaid cyfrif, cynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol, arsylwyr achrededig, ac unrhyw rai eraill y mae’r Swyddogion Canlyniadau yn eu caniatáu. Gellir caniatáu’r cyfyngau, ar yr amod nad ydynt yn ymyrryd nac yn torri cyfrinachedd

  • Arsylwi cywirdeb
  • Herio pleidleisiau amheus (Mae Swyddogion canlyniadau yn marcio “gwrthwynebwyd y gwrthodiad” os oes anghytundeb ond mae penderfyniad y Swyddog Canlyniadau yn derfynol oni bai ei fod yn cael ei herio gan ddeiseb)
  • Rhoi seliau yn ystod ataliadau/ail ddechrau.

Mae'r broses ddilysu yn cadarnhau bod pleidleisiau post a phapurau gorsafoedd pleidleisio yn cyfateb i gyfrifon papurau pleidleisio. Mae anghysondebau yn ysgogi ailgyfrif nes bod cyfatebiaethau wedi’u cyflawni.

  • Bydd staff etholiad yn cyfrif papurau pleidleisio a phleidleisiau post.
  • Cadwch y papurau pleidleisio wyneb i fyny yng ngolwg arsylwyr ac asiantiaid.
  • Dyfarnu ar bleidleisiau amheus: Mae Swyddogion Canlyniadau yn cyhoeddi penderfyniadau gydag arsylwyr yn bresennol; mae penderfyniad y Swyddog Canlyniadau’n derfynol (oni bai ei fod yn cael ei herio drwy ddeiseb).

Mae rhesymau gwrthod yn cynnwys papurau pleidleisio heb eu marcio, marc swyddogol ar goll, pleidleisio dros ormod o ymgeiswyr, marciau anadnabyddadwy, neu fwriad aneglur. Caiff papurau pleidleisio a wrthodwyd eu marcio a’u dogfennu.

Datrysir pleidleisiau cyfartal drwy dynnu tocyn yn ôl disgresiwn y Swyddog Canlyniadau.

Ni ddylai arsylwyr edrych ar farciau adnabod na datgelu na sut y pleidleisiodd unrhyw un. Rhaid i ddata aros yn gyfrinachol neu wynebu cosbau difrifol.

Cyflwyno Adborth

Proses Adborth

Anogir arsylwyr i gyflwyno adborth drwy ffurflen ar-lein y Comisiwn Etholiadol a fydd ar gael cyn digwyddiadau etholiadol. Gellir rhannu adborth gyda Swyddogion Canlyniadau i wella etholiadau yn y dyfodol. Fel arall, gellir e-bostio adborth i [email protected] neu ei anfon ar ffurf ffisegol i un o’n swyddfeydd.

Dylai arsylwyr aros y wrthrychol ac yn ddiduedd, gan gofnodi ffeithiau yn unig ac osgoi rhagdybiaethau. Cynghorir y dylai pob arsylwr wirio canfyddiadau cyn adrodd er mwyn osgoi lledaenu honiadau heb eu cadarnhau. Yn ddelfrydol, caiff arsylwadau eu dogfennu’n glir, gan nodi’r amser, y lleoliad, a’r holl fanylion perthnasol. Dim ond yr hyn y maent wedi’i arsylwi’n uniongyrchol y dylai arsylwyr adrodd, oni nodir yn wahanol, er mwyn sicrhau cywirdeb yn eu hadroddiadau.

Arsylwyr Etholiadol a Staff Etholiad

Dylai Swyddogion Perthnasol sicrhau bod yr holl staff etholiadol yn ymwybodol o hawliau arsylwyr i arsylwi etholiadau a pheidio â rhwystro eu harsylwi. Mae croeso i staff etholiadol fynychu gweminarau arsylwyr a gynhelir gan y Comisiwn cyn digwyddiadau etholiadol. Mae’r Comisiwn yn argymell bod Swyddogion Perthnasol yn cynnal sesiynau hyfforddi cyn digwyddiadau etholiadol lle mae staff etholiadol yn cael eu hyfforddi ar sut i hwyluso ar gyfer arsylwyr. Er ei bod yn hanfodol gwirio bod gwiriadau adnabod yn cael eu cynnal yn erbyn y gofrestr o arsylwyr achrededig, ni ddylai staff etholiadol wrthod mynediad i orsafoedd pleidleisio na chanolfannau cyfrif oni bai bod risg iechyd a diogelwch gwirioneddol. Os bydd hyn yn digwydd, rhaid ei gofnodi. Rhaid caniatáu mynediad i arsylwyr unwaith y bydd risg hon wedi diflannu. Dylai staff etholiadol gofnodi manylion arsylwyr sy’n mynychu, gan gofnodi eu henw, rhif bathodyn arsylwr, a sefydliad achrededig os yw’n berthnasol. Dylid anfon cofnodion dros dro at y Comisiwn Etholiadol ar ddiwedd y digwyddiad Etholiadol. Dylai Swyddogion Perthnasol gofnodi eu rhif arsylwr ac, os yw’n berthnasol, y sefydliad achrededig y maent yn arsylwi ar ei ran.    

Cofrestri arsylwyr achrededig

Ychwanegir pob arsylwyr achrededig, sefydliadau achrededig a’u henwebwyr a chynrychiolwyr y Comisiwn sydd ag achrediad i gofrestr sydd ar gael i’r cyhoedd. Unwaith mae achrediad wedi dod i ben neu wedi’i ddiddymu neu ddirymu bydd yr enwau hyn yn cael eu dileu. Bydd gan Swyddogion Perthnasol a’r heddlu fynediad i’r gofrestr hon a bydd caniatâd i arsylwi yn gyfyngedig i’r rhai sydd â’u bathodyn adnabod llun swyddogol sy’n ymddangos ar y gofrestr. Dim ond yn ôl disgresiwn y Swyddog Perthnasol y bydd caniatâd i’r rhai sy’n cyflwyno bathodyn adnabod llun swyddogol na ellir ei ddarllen/sydd wedi’i ddifrodi. Bydd angen i arsylwyr y mae eu hachrediad wedi dod i ben neu wedi’i ddiddymu neu ei ddirymu ddychwelyd eu bathodyn i’r Comisiwn.

Ymdrin ag ymddygiad aflonyddgar

Gall Swyddogion Perthnasol gael gwared ar arsylwr achrededig sy’n arddangos ymddygiad aflonyddgar neu’n camymddwyn. Gall Swyddog Perthnasol roi cyfarwyddyd i gael gware ar arsylwr achrededig o’r gweithrediadau etholiadol am ymddygiad aflonyddgar neu gamymddwyn ar unrhyw deg.

Ystyrir bod camymddwyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • dorri neu geisio torri cyfrinachedd y bleidlais
  • rhwystro gweithrediadau etholiadol yn fwriadol
  • gofyn i etholwyr am eu dewis pleidleisio wrth arsylwi mewn gorsafoedd pleidleisio
  • bod dan ddylanwad alcohol a/neu gyffuriau wrth arsylwi

Nid oes gan unrhyw arsylwr achrededig y ceir gwared arnynt am ymddygiad aflonyddgar neu ymwneud â chamymddwyn yr hawl i ailymuno â'r gweithrediadau etholiadol hynny am weddill eu cyfnod.

Dylai’r Swyddog Perthnasol hysbysu’r arsylwr achrededig o’r rhesymau dros eu taflu allan a chadw cofnod o’r taflu allan. Dylai’r Swyddog Perthnasol rannu hyn gyda’r Arsylwr os gofynnir amdano.

Dylai’r Swyddog Perthnasol hysbysu’r Comisiwn Etholiadol am unrhyw arsylwyr achrededig y ceir gwared arnynt o unrhyw weithrediadau etholiadol oherwydd ymddygiad aflonyddgar neu gamymddwyn. Yna dylai’r Swyddog Perthnasol gyflwyno adroddiad ysgrifenedig i’r Comisiwn etholiadol yn egluro pam y gwnaethant y penderfyniad i gael gwared ar arsylwr achrededig.