Mae ymgyrchu yn rhan allweddol o’r broses ddemocrataidd gan ei fod yn galluogi pleidleiswyr i glywed ystod o safbwyntiau a gwneud penderfyniadau gwybodus. Gall safbwyntiau gwleidyddol fod yn wahanol, a gallant beri rhwyg ar adegau. Fodd bynnag, mae ymgyrchwyr yn wynebu camdriniaeth a bygythiadau wrth ymgyrchu.
Mae cam-drin a bygwth ymgyrchwyr yn annerbyniol. Gallant atal pobl rhag ymgyrchu neu eu hatal rhag sefyll am etholiad o gwbl, sy’n cyfyngu’r dewisiadau a’r wybodaeth sydd ar gael i bleidleiswyr.
Dengys ein hymchwil diweddar yn etholiadau mis Mai 2024 bod nifer sylweddol o ymgeiswyr yn profi camdriniaeth. Roedd y mater yn arbennig o ddifrifol ymhlith ymgeiswyr benywaidd, gyda 56% yn osgoi ymgyrchu ar ben eu hunain, o gymharu ag 19% o ddynion.
Mae bygythiadau o drais, cyswllt digroeso ailadroddus a chamdriniaeth wahaniaethol yn anghyfreithlon, a chymerir camau yn erbyn y rheiny sy’n bygwth neu’n cam-drin ymgyrchwyr. Cyflwynodd Deddf Etholiadau 2022 gosb newydd ar gyfer unrhyw un y’u canfyddir yn euog o fygwth ymgeiswyr, ymgyrchwyr neu gynrychiolwyr etholedig.
Os ydych yn gofidio eich bod wedi gweld deunydd ymgyrchu neu ymddygiad tuag at ymgeisydd a allai fod yn gamdriniol neu’n fygythiol, neu os ydych chi’n ymgeisydd sydd wedi gweld deunydd ymgyrchu neu brofi ymddygiad sy’n gamdriniol, dylech gysylltu â’r heddlu.
Yr hyn rydym yn ei wneud
Fel y rheoleiddiwr sy’n gorchwylio etholiadau, rydym wedi:
Gweithio gyda Chyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu a’r Coleg Plismona i gyhoeddi canllawiau wedi’u diweddaru i ymgeiswyr ar y math o ymddygiad sy’n drosedd.
Cynnal ymchwil i ganfod mwy am faint y camdriniaeth a’r bygythiadau tuag at ymgeiswyr.
Galw ar ymgeiswyr ac ymgyrchwyr i lofnodi Addewid Moesgarwch y Jo Cox Foundation i helpu sicrhau ymgyrch sy’n rhydd rhag camdriniaeth.
Gweithio ar y cyd gyda sefydliadau sy’n cynrychioli grwpiau sydd fwyaf tebygol o wynebu camdriniaeth, er mwyn deall eu profiadau yn well.