Gwario ar ddeunydd ymgyrchu
We're showing you content for:
Deall pwy sydd wedi talu am ddeunydd ymgyrchu
Argraffnodau
Mae'n bosibl y byddwch yn gallu dweud pwy dalodd am ddeunydd ymgyrchu drwy edrych ar yr argraffnod.
Yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid i rai deunyddiau ymgyrchu gynnwys argraffnod. Mae argraffnodau yn dweud wrthych pwy sy'n gyfrifol am gyhoeddi deunydd ymgyrchu, ac ar ran pwy y mae'n cael ei hyrwyddo.
Er bod argraffnod yn dweud wrthych pwy sy'n gyfrifol am gyhoeddi'r deunydd, nid yw bob amser yn golygu y talwyd am gyhoeddi'r deunydd. Er enghraifft, os bydd plaid wleidyddol yn rhannu postiad ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod y cyfnod cyn etholiad, byddai angen argraffnod arno o hyd, hyd yn oed os nad yw'n talu i hyrwyddo'r postiad hwnnw.
Hysbysebion y telir amdanynt ar y cyfryngau cymdeithasol a llwyfannau digidol
Mae gan rai cwmnïau cyfryngau cymdeithasol lyfrgelloedd hysbysebion gwleidyddol. Mae'r llyfrgelloedd hyn yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol am hysbysebion gwleidyddol y talwyd amdanynt, gan gynnwys pwy sydd wedi talu am yr hysbyseb, cynulleidfa darged yr hysbyseb a beth oedd y gost.
Er enghraifft, os byddwch yn gweld hysbyseb ar Facebook neu Instagram, gallwch glicio ar ‘Why am I seeing this ad?’ i gael gwybodaeth am hysbysebion penodol sydd wedi eich targedu. Gallwch hefyd chwilio drwy gronfa ddata gyfan y llyfrgell hysbysebion i ddysgu mwy am hysbysebion gwleidyddol y telir amdanynt.
Dysgwch fwy am lyfrgelloedd hysbysebion ar wefan pob llwyfan cyfryngau cymdeithasol:
- Llyfrgell hysbysebion Meta (gan gynnwys Facebook ac Instagram)
- Canolfan Tryloywder Hysbysebion Google (gan gynnwys YouTube)
- Llyfrgell hysbysebion Snap
- Llyfrgell hysbysebion TikTok (nid yw TikTok yn caniatáu hysbysebion gwleidyddol)
- Nid oes gan X (Twitter gynt) lyfrgell hysbysebion
Rheolau gwariant
Terfynau gwario
Mae terfynau ar wahân ar faint y caiff ymgeiswyr, pleidiau gwleidyddol, ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau ei wario yn ystod ymgyrchoedd etholiadol. Mae’r terfynau hyn wedi’u gosod yn y gyfraith gan y senedd berthnasol, yn ddibynnol ar y math o etholiad. Mae'r terfynau gwariant yn gymwys i weithgareddau ymgyrchu y gellir ystyried yn rhesymol eu bod yn ceisio dylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio mewn ffordd benodol.
Mae terfynau gwario dim ond ar waith am amser penodol cyn etholiad. Gelwir hyn yn ‘gyfnod a reoleiddir’. Mae hyd y cyfnod a reoleiddir yn dibynnu ar y math o etholiad, ac mae’n wahanol i ymgeiswyr, pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau.
Er enghraifft, yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU mae terfynau gwariant yn gymwys i bethau y mae pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn ei wneud yn ystod y 365 o ddiwrnodau cyn y diwrnod pleidleisio.
Mae terfynau gwario ar gyfer ymgeiswyr mewn etholiadau yn y DU yn gyffredinol yn berthnasol i bethau y maent yn eu gwneud ar ôl iddynt ddod yn ymgeisydd yn swyddogol. Fodd bynnag, yn etholiadau Senedd yr Alban, ceir rhai cyfyngiadau ar faint y gall ymgeiswyr wario cyn y gallant ddod yn ymgeisydd yn swyddogol.
Pobl a sefydliadau yw ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sy'n ymgyrchu ar faterion o gwmpas adeg etholiadau ond nad ydynt yn bleidiau nac yn ymgeiswyr cofrestredig. Mae hyn yn cynnwys ymgyrchu o blaid neu yn erbyn plaid wleidyddol, ymgeisydd, neu grŵp o ymgeiswyr.
Dysgwch fwy am y rheolau ar gyfer ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau
Gweithgarwch ymgyrchu
Caiff gweithgarwch ymgyrchu ei reoleiddio os gellir ystyried yn rhesymol ei fod yn ceisio dylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio mewn ffordd benodol. Mae gweithgareddau ymgyrchu a reoleiddir yn cynnwys y canlynol:
- hysbysebu o unrhyw fath – o hysbysfyrddau i hysbysebion mewn papurau newydd, o hysbysebion ar-lein i fideos YouTube
- deunydd digymell a anfonir at bleidleiswyr – gan gynnwys taflenni argraffedig neu lythyrau nad ydynt mewn ymateb i gwestiynau a godwyd gan bleidleiswyr
- maniffestos a dogfennau eraill sy'n nodi polisïau plaid
- ymchwil i'r farchnad neu ddulliau eraill o ganfod sut mae pobl yn bwriadu pleidleisio
- cynddau i'r wasg neu ddigwyddiadau eraill yn delio â'r cyfryngau
- ralïau a digwyddiadau, gan gynnwys cost presenoldeb pobl, ac unrhyw nwyddau, gwasanaethau neu gyfleusterau a ddarperir
- costau trafnidiaeth yr eir iddynt wrth redeg ymgyrch
Rhoi gwybod am wariant ar ymgyrchu
Mae'n rhaid i bleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau wneud y canlynol:
- cofnodi beth maent yn ei wario yn ystod ymgyrch etholiadol
- rhoi gwybod i ni am eu gwariant mewn ffurflen gwariant
Mae’n rhaid i bleidiau gwleidyddol a’r ymgyrchwyr hynny nad ydynt yn bleidiau sy’n gwario dros swm penodol adrodd i ni am fanylion eu gwariant ymgyrchu ar ôl etholiad.
Mae’n rhaid iddynt wneud y canlynol:
- cadw anfonebau a derbynebau ar gyfer unrhyw daliad dros £200
- adrodd o fewn cyfnod penodol ar ôl yr etholiad
Mae’n rhaid i ymgeiswyr neu eu hasiantiaid penodedig gyflwyno cofnod gwariant ymgeisydd i’w Swyddog Canlyniadau.
Ar gyfer rhai etholiadau, fel etholiadau cyffredinol Senedd y DU, mae Swyddogion Canlyniadau yn anfon copïau o'r ffurflenni gwariant ymgeisydd atom ni. Rydym yn cyhoeddi’r data hwn ar ôl yr etholiad.
Ein rôl
Rydym yn rhoi arweiniad i ymgeiswyr, pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr mewn etholiadau i'w helpu i ddilyn y rheolau. Rydym yn monitro p'un a yw ymgyrchwyr yn dilyn y rheolau ar gyllid a gwariant mewn etholiadau. Rydym yn cyhoeddi gwybodaeth er mwyn rhoi tryloywder ynghylch gwariant ar ymgyrchu etholiadol fel y gall pleidleiswyr a'r cyhoedd gael hyder yng nghanlyniad etholiadau.
Gallwn ymchwilio i achosion o dorri'r rheolau a rhoi dirwyon o hyd at £20,000 i bleidiau ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau, neu atgyfeirio'r achosion mwyaf difrifol at yr heddlu.
Nid ydym yn gorfodi'r rheolau o ran gwariant ymgeiswyr. Yr heddlu sy'n gyfrifol am ymchwilio i achosion o dorri'r rheolau hynny.