Deall a yw eich gweithgarwch ymgyrchu yn weithgarwch a reoleiddir
Mae ymgyrchwyr yn rhan bwysig o'n democratiaeth ac mae ymgymryd â gweithgarwch ymgyrchu a reoleiddir yn ddewis dilys i sefydliadau cymdeithas sifil, elusennau ac ymgyrchwyr. Fodd bynnag, mae'n bwysig bod y gweithgareddau hyn yn dryloyw i bleidleiswyr, fel eu bod yn gwybod pwy sy'n gwario arian i ddylanwadu ar eu pleidlais.
Os ydych yn cynllunio ymgyrchu ar faterion cyn etholiad cyffredinol Senedd y DU, efallai bydd angen i chi gofrestru gyda ni fel ymgyrchydd nad yw'n blaid. Ni chaiff yr holl weithgarwch sy'n ymwneud ag etholiad yn ystod y cyfnod cyn etholiad ei reoleiddio. Os ydych yn cynnal digwyddiadau a gweithgareddau cofrestru pleidleiswyr a gwybodaeth i bleidleiswyr, mae'n annhebygol y caiff y rhain eu rheoleiddio.
Mae'r dudalen hon yn grynodeb o'n canllawiau ar gyfer ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn etholiad cyffredinol Senedd y DU. Mae'n cwmpasu pwy sydd angen cofrestru fel ymgyrchydd nad yw'n blaid a rhai o'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu cael am ymgyrchu.
Nod y dudalen yw helpu sefydliadau yn y sector ymgysylltu democrataidd i ddeall a yw eu gweithgareddau yn rhai a reoleiddir.
Beth yw ymgyrchydd nad yw'n blaid?
Pobl a sefydliadau yw ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sy'n ymgyrchu ar faterion o gwmpas adeg etholiadau ond nad ydynt yn bleidiau nac yn ymgeiswyr cofrestredig. Mae hyn yn cynnwys ymgyrchu o blaid neu yn erbyn plaid wleidyddol, ymgeisydd, neu grŵp o ymgeiswyr.
Caiff ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau eu rheoleiddio pan ellir ystyried yn rhesymol fod eu gweithgarwch yn ceisio dylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio mewn ffordd benodol. Mae cyfreithiau y mae'n rhaid iddynt eu dilyn ar wariant ar ymgyrchu, rhoddion a chyflwyno adroddiadau. Os na ellid ystyried yn rhesymol bod eich gweithgarwch etholiadol yn ceisio dylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio mewn ffordd benodol, yna mae'n annhebygol y caiff ei reoleiddio.
Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau gofrestru â ni os byddant yn gwario £10,000 ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau.
Newidiadau'r Ddeddf Etholiadau
Fel rhan o'r Ddeddf Etholiadau, mae'r broses o reoleiddio ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau wedi newid, gan gynnwys yn y ffyrdd canlynol:
- Mae'n rhaid i unrhyw ymgyrchydd nad yw'n blaid sy'n bwriadu gwario mwy na £10,000 ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir yn y cyfnod cyn etholiad cyffredinol Senedd y DU gofrestru â'r Comisiwn Etholiadol.
- Mae'n rhaid i ymgyrchwyr bellach gynnwys manylion ar rai deunyddiau ymgyrchu digidol.
- Dim ond pobl neu sefydliadau cymwys all wario mwy na £700 ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU. Er enghraifft, ni chaiff pobl nad ydynt wedi'u cofrestru i bleidleisio yn y DU neu nad ydynt yn byw yn y DU, na chwmnïau nad ydynt wedi'u cofrestru yn y DU, wario mwy na'r terfyn hwn.
- Nid yw ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn gymwys i gofrestru fel plaid wleidyddol, ac i'r gwrthwyneb.
Beth yw gweithgarwch ymgyrchu a reoleiddir?
Mae'r gyfraith yn rhestru gweithgareddau ymgyrchu y gellir eu rheoleiddio. Mae'r rhain yn cynnwys cyhoeddi deunydd ymgyrchu, cynnal ralïau cyhoeddus a chynadleddau i'r wasg.
Mae cyfreithiau ar wahân mewn perthynas ag ymgyrchu o blaid neu yn erbyn ymgeisydd penodol mewn etholaeth neu ardal etholiadol. “Ymgyrchu lleol” yw'r enw ar hyn. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ymgyrchu lleol yn ein canllawiau.
Deall a yw eich gweithgarwch ymgyrchu yn weithgarwch a reoleiddir
Deall a yw eich gweithgarwch ymgyrchu yn weithgarwch a reoleiddir
Mae p'un a gaiff gweithgarwch ymgyrchu ei reoleiddio ai peidio yn dibynnu ar b'un a ellir ystyried yn rhesymol ei fod yn ceisio dylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio mewn ffordd benodol. Y ‘prawf diben’ yw'r enw ar hyn.
Os ydych yn cynnal digwyddiad neu ymgyrch yn ymwneud â chofrestru pleidleiswyr neu i helpu pobl i ddeall sut i ddefnyddio eu pleidlais, mae'n annhebygol y bydd hyn yn weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir.
Os ydych yn creu postiadau organig ar y cyfryngau cymdeithasol a bod cynnwys y postiadau yn golygu y cânt eu dosbarthu'n weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir, caiff unrhyw beth rydych yn ei wario i greu a chyhoeddi'r postiadau ei reoleiddio.
Gellir dosbarthu hustyngau yn weithgarwch a reoleiddir. Mae hyn yn dibynnu bu'n a ydych yn gwahodd pob ymgeisydd neu blaid sy'n sefyll yn eich ardal, neu a ellid ystyried yn rhesymol fod yr hustyngau yn ceisio dylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio mewn ffordd benodol.
Efallai y bydd rheswm diduedd i beidio â gwahodd pob ymgeisydd neu blaid i'ch hustyngau. Er enghraifft, oherwydd ofnau yn ymwneud â diogelwch, canlyniadau etholiad diweddar yn eich ardal, neu adnoddau cyfyngedig, fel lle.
Os na ellid ystyried yn rhesymol fod eich hustyngau yn ceisio dylanwadu ar bleidleiswyr, er enghraifft os gwahoddir pob ymgeisydd neu blaid, cânt eu galw'n hustyngau annewisol. Ni chaiff y rhain eu rheoleiddio.
Os byddwch yn dewis gwahodd ymgeiswyr neu bleidiau penodol i'ch hustyngau, neu os gellid ystyried yn rhesymol fod y digwyddiad yn ceisio dylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio mewn ffordd benodol, caiff ei alw'n hustyngau dewisol. Gall eich gwariant ar y digwyddiad hwn gael ei reoleiddio.
Mae'n annhebygol y caiff digwyddiad codi ymwybyddiaeth ei reoleiddio, ond gallwch ddefnyddio'r adnodd uchod i gadarnhau hyn.
Ni ellir ystyried yn rhesymol fod unrhyw ddigwyddiadau sy'n canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o fater neu'n annog pobl i gofrestru i bleidleisio yn ceisio dylanwadu ar bobl i bleidleisio mewn ffordd benodol. Mae hyn yn golygu na fyddent yn cael eu rheoleiddio.
Deunyddiau ymgyrchu ac argraffnodau
Mae'n rhaid cynnwys argraffnodau ar rai deunyddiau ymgyrchu ac etholiad fel bod pleidleiswyr yn gwybod pwy sy'n gyfrifol am y deunydd ac ar ran pwy y mae'n cael ei hyrwyddo.
Os byddwch yn cofrestru fel ymgyrchydd nad yw'n blaid, efallai y bydd angen i chi gynnwys argraffnod ar rywfaint o'r deunyddiau ymgyrchu ac etholiad a gynhyrchir gennych.
Dysgwch fwy am argraffnodau i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau.
A oes angen i mi gofrestru fel ymgyrchydd nad yw'n blaid?
Mae angen i chi gofrestru â ni fel ymgyrchydd nad yw'n blaid os ydych am wario mwy na £10,000 yn ystod y cyfnod a reoleiddir cyn etholiad cyffredinol Senedd y DU. Dim ond gweithgareddau ymgyrchu a reoleiddir sy'n cyfrif tuag at y trothwy £10,000.
Y cyfnod a reoleiddir yw'r 365 o ddiwrnodau cyn, a chan gynnwys, y diwrnod pleidleisio.
Mae'n drosedd gwario mwy na £10,000 ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir heb gofrestru â ni. Gallwch gofrestru fel unigolyn neu fel sefydliad.
Os na fyddwch yn gwario unrhyw arian, er enghraifft, am fod eich holl weithgarwch yn cael ei wneud gan wirfoddolwyr, ac nid yw unrhyw un arall yn gwario ar eich rhan, nid oes angen i chi gofrestru.
Deall a oes angen i wahanol fathau o sefydliadau gofrestru fel ymgyrchydd nad yw'n blaid
Nid oes angen i chi gofrestru yn seiliedig ar y grantiau hyn. Fodd bynnag, efallai y bydd angen i'r sefydliadau sy'n cynnal digwyddiadau codi ymwybyddiaeth gofrestru os bydd y digwyddiadau hyn yn weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir.
Os byddwch yn rhoi grant o fwy na £7,500 i sefydliad sydd wedi'i gofrestru fel ymgyrchydd nad yw'n blaid er mwyn cynnal gweithgarwch ymgyrchu a reoleiddir, efallai y bydd angen iddo roi gwybod am y grant fel rhodd. Hefyd, bydd angen i'r sefydliad gadarnhau y gall dderbyn rhodd gennych, oherwydd dim ond rhai pobl neu fathau o sefydliadau all wneud rhoddion. Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar roddion.
Os caiff gweithgarwch ymgyrchu un aelod o'r glymblaid ei reoleiddio, efallai y bydd angen iddo gofrestru fel ymgyrchydd nad yw'n blaid. Fodd bynnag, ni fydd angen i aelodau eraill y glymblaid gofrestru fel ymgyrchydd nad yw'n blaid yn seiliedig ar hyn.
Yr unig eithriad yw os bydd holl aelodau'r glymblaid wedi cytuno i wario ar weithgarwch a reoleiddir – ymgyrchu ar y cyd yw'r enw ar hyn. Byddai hyn ond yn gymwys i wariant ar yr ymgyrch ar y cyd ac nid yw'n cynnwys unrhyw wariant ar ymgyrchu gan sefydliadau unigol y tu allan i'r ymgyrch ar y cyd. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ymgyrchu ar y cyd yn ein canllawiau.
Os byddwch yn cynnal digwyddiadau codi ymwybyddiaeth i bobl ifanc er mwyn trafod eu hawliau, mae'n annhebygol y bydd yn weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir. Nid yw digwyddiadau sydd wedi'u targedu at bobl ifanc dan 18 oed wedi'u rheoleiddio, gan nad ydynt yn bleidleiswyr.
Os bydd eich sefydliad yn gofyn i bobl ystyried mater penodol wrth benderfynu dros bwy i bleidleisio (er enghraifft, newid hinsawdd), gallai hyn fod yn weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir hyd yn oed os nad ydych yn annog pobl i bleidleisio dros blaid neu ymgeisydd penodol.
Mae hyn oherwydd gellir ystyried yn rhesymol mai bwriad eich gweithgarwch yw dylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio dros ymgeiswyr sy'n cefnogi polisïau penodol. Bydd angen i chi ddefnyddio'r prawf diben i gadarnhau a yw eich gweithgarwch ymgyrchu wedi'i reoleiddio.
Os ydych hefyd eisoes yn cynnal ymgyrch cyn etholiad ac nid yw'r ymgyrch yn newid yn ystod y cyfnod cyn etholiad, mae'n annhebygol y bydd hyn yn weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir.
Ar ôl cofrestru fel ymgyrchydd nad yw'n blaid
Rhoddion a gwariant
Dim ond gan sefydliadau neu bobl benodol, a elwir yn ffynonellau a ganiateir , y caiff ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau dderbyn rhoddion o fwy na £500.
Bydd angen i chi roi gwybod am eich gwariant a'ch rhoddion os byddwch yn gwario dros:
- £20,000 ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir yn Lloegr
- £10,000 ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir yng Nghymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y gofynion adrodd yn ein canllawiau.
Mae'n rhaid i chi gyflwyno adroddiadau ar eich rhoddion yn ystod y cyfnod cyn etholiad. Yn ogystal, bydd angen i chi gyflwyno adroddiad i ni ar eich gwariant a'ch rhoddion ar ôl yr etholiad.
Gallwch roi gwybod i ni nad ydych yn bwriadu gwario mwy na'r trothwyon adrodd hyn pan fyddwch yn cofrestru.
Gallwch weld trosolwg o'r gofynion yn ein canllawiau.
Ein rôl
Rydym yn helpu ymgyrchwyr i ddeall cyfraith cyllid gwleidyddol a chydymffurfio â hi, ac rydym hefyd yn monitro ac yn gorfodi'r gyfraith. Mae sefydliadau eraill sy'n rheoleiddio rhannau eraill o'r gyfraith sy'n gymwys i elusennau a sefydliadau cymdeithas sifil – er enghraifft, y Comisiwn Elusennau dros Cymru a Lloegr, y Comisiwn Elusennau dros Ogledd Iwerddon, a Swyddfa Rheolydd Elusennau'r Alban.
Rydym yn monitro gweithgarwch ymgyrchu yn ystod y cyfnod cyn ymgyrch etholiadol fel mater o drefn. Mae hyn yn ein helpu i nodi sefydliadau y mae eu gweithgareddau yn debygol o gael eu rheoleiddio, fel y gallwn gysylltu â nhw a'u helpu i ddeall y gyfraith. Mae hefyd yn ein galluogi i nodi achosion posibl o dorri'r gyfraith.
Wrth reoleiddio, rydym yn ceisio bod yn gymesur, yn effeithiol ac yn deg. Byddwn yn cynnig cyngor ac arweiniad i ymgyrchwyr os credwn mai dyma'r ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r gyfraith yn y dyfodol. Ar gyfer achosion mwy difrifol, mae gennym gosbau sifil ar gyfer y rhan fwyaf o droseddau cyllid gwleidyddol sy'n ymwneud ag ymgyrchwyr. Bydd yr heddlu yn ymdrin â rhai troseddau.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ein dull gorfodi ar ein gwefan.
Cymorth sydd ar gael i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau
Rydym yn cynnig amrywiaeth o gymorth i ymgyrchwyr i'w helpu i ddeall y gyfraith. Mae hyn yn cynnwys:
- canllawiau i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau
- gweminarau ar agweddau penodol ar y gyfraith
- bwletinau rheolaidd â gwybodaeth allweddol a dyddiadau sydd ar ddod
- cyngor wedi'i deilwra i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau
Gallwch gysylltu â'n gwasanaeth cyngor drwy:
- e-bostio [email protected]
- ffonio 0333 103 1928
Gallwch hefyd gysylltu â'n tîm partneriaethau yn [email protected].