We're showing you content for:

This page

Please note that this page is only relevant to voters living in Wales.

Cofrestru am bleidlais bost

Etholiadau’r Senedd ac etholiadau cynghorau lleol  

Lawrlwythwch, argraffwch a chwblhewch ffurflen gais am bleidlais bost ar gyfer etholiadau’r Senedd ac etholiadau lleol.  

Etholiadau Senedd y DU  

Gwnewch gais am bleidlais bost ar gov.uk neu lawrlwythwch, argraffwch a chwblhewch gais i bleidleisio drwy’r post yn etholiadau Senedd y DU.

Gwneud cais am bleidlais bost ar gyfer mwy nag un etholiad  

Lawrlwythwch, argraffwch a chwblhewch ffurflen i bleidleisio drwy’r post mewn unrhyw etholiad.  

Mae’n well gwneud cais cyn gynted ag y byddwch wedi penderfynu eich bod am bleidleisio drwy’r post er mwyn gwneud yn siŵr bod eich papur pleidleisio yn cyrraedd mewn da bryd.  

Darganfyddwch  gyfeiriad eich cyngor lleol  yma ac anfonwch eich ffurflen wedi'i chwblhau.

Dyddiadau a dyddiadau cau pwysig

Mae’n rhaid i chi gyflwyno eich cais erbyn 5pm, 11 diwrnod gwaith cyn yr etholiad yr hoffech bleidleisio ynddo.

Mae papurau pleidleisio yn cael eu hargraffu tua thair wythnos cyn y diwrnod pleidleisio. Wedyn caiff eich rhai chi eu hanfon atoch yn eich pecyn pleidleisio drwy’r post.  

Os ydych chi wedi gwneud cais am bleidlais bost llai na thair wythnos cyn yr etholiad, bydd eich pecyn yn cael ei anfon atoch cyn gynted â phosibl.  

Os ydych chi’n aros am eich pecyn post ac am wirio pryd y bydd yn cael ei anfon, cysylltwch â’ch tîm etholiadau lleol .

Bydd angen i’ch pleidlais bost gyrraedd y tîm etholiadau yn eich cyngor lleol erbyn 10pm ar y diwrnod pleidleisio i gael ei chyfrif.  

Os na allwch anfon eich pleidlais bost mewn pryd, gallwch fynd â hi i’ch gorsaf bleidleisio.  

Efallai y byddwch hefyd yn gallu ei chyflwyno i swyddfa eich cyngor lleol, ond dylech gysylltu â’ch cyngor lleol i wirio a yw hyn yn bosibl.  

Cael cymorth gyda’ch pleidlais bost

Cysylltwch â’ch cyngor os oes angen help arnoch i lenwi’ch ffurflen gais, neu os na allwch ei hargraffu.  

Gallant hefyd ddweud wrthych chi a ydych eisoes wedi cofrestru ar gyfer pleidlais bost.

Os ydych chi’n credu y gallai eich pecyn pleidleisio drwy’r post fod ar goll, cysylltwch â’ch cyngor cyn gynted â phosibl. 

Os na allwch anfon eich pleidlais bost eich hun, gallwch wneud y canlynol:  

gofyn i rywun rydych chi’n ei adnabod ac yn ymddiried ynddo i’w phostio ar eich rhan, neu  

cysylltwch â thîm etholiadau eich cyngor lleol i ofyn a allant ei gasglu gennych.

Cysylltwch â’ch cyngor lleol  i ganslo eich pleidlais bost. Mae’n rhaid i chi wneud hyn cyn 5pm, 11 diwrnod gwaith cyn yr etholiad y byddwch yn pleidleisio ynddi.  

Os ydych chi eisoes wedi dychwelyd eich pleidlais bost wedi’i chwblhau, ni fyddwch chi’n gallu ei chanslo ar gyfer yr etholiad hwnnw.  

Gallwch gyflwyno eich pleidlais bost yn eich gorsaf bleidleisio ar y diwrnod pleidleisio os nad ydych chi eisiau ei phostio mwyach. 

Os ydych chi wedi symud neu wedi newid eich enw ers gwneud cais am bleidlais bost, bydd angen i chi wneud cais eto.