Stories from polling day

Dysgwch sut beth yw gweithio ar y diwrnod pleidleisio gan bobl sydd wedi gweithio mewn etholiadau blaenorol.

Mae Andrea yn glerc pleidleisio ers blynyddoedd

Yn syml, mae pleidleisio yn bwysig.

Gall y rhesymau pam mae pobl yn dod i mewn i’r orsaf bleidleisio i bleidleisio fod yn wahanol iawn.

Rwy’n teimlo’n freintiedig i helpu pleidleiswyr a gwneud yn siŵr bod y broses bleidleisio yn cael ei chynnal mor llyfn â phosib.  

Mae’n ddiwrnod hir, ond mae’n rhoi boddhad mawr, ac mae amser yn mynd yn gyflym. Cyn i chi wybod, mae'r bleidlais wedi’i chau ac mae’r pleidleisiau’n cael eu cymryd i’w cyfrif! Mae’n wych gweithio fel rhan o dîm ac rydych chi’n cael cwrdd â llawer o bobl o bob rhan o’r gymuned. 

Rwy'n mwynhau'r gwaith hwn yn fawr ac rwyf wedi gweithio bob blwyddyn ers 2018. Y bonws yw cael fy nhalu am y gwaith rwy'n ei wneud ar y diwrnod!