Cofrestru i bleidleisio'n ddi-enw
Overview
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad yn ymddangos ar y gofrestr agored os byddwch yn cofrestru i bleidleisio.
Os ydych o'r farn y gallai cynnwys eich enw a'ch cyfeiriad ar y gofrestr etholiadol effeithio ar eich chi diogelwch neu ddiogelwch rhywun ar yr un aelwyd â chi, gallwch gofrestru i bleidleisio'n ddi-enw.
Mae hyn yn golygu y byddwch yn gallu pleidleisio o hyd, ond na fydd eich enw na'ch cyfeiriad yn ymddangos ar y gofrestr etholiadol. Ni wnaiff eich swyddfa cofrestru etholiadol ddatgelu eich manylion i unrhyw un oni bai ei bod yn ofynnol yn ôl y gyfraith.
Voter reg deadline
Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yn yr etholiadau ddydd Iau 4 Gorffennaf yw dydd Mawrth 18 Mehefin.
Steps to register anonymously
Mae tri cham i gofrestru i bleidleisio'n ddi-enw. Bydd angen i chi wneud y canlynol:
- lawrlwytho a chwblhau'r ffurflen gais
- esbonio pam y byddai eich diogelwch, neu ddiogelwch rhywun ar yr un aelwyd â chi, mewn perygl pe bai eich manylion yn ymddangos ar y gofrestr etholiadol
- cyflwyno tystiolaeth i ategu eich cofrestriad
Bydd angen i chi ddychwelyd eich ffurflen gais, eich esboniad a'ch tystiolaeth i'ch swyddfa cofrestru leol.
Lawrlwytho'r ffurflen gais
Mae ffurflenni cais gwahanol ar gyfer gwahanol rannau o'r DU.
Tystiolaeth i ategu eich cais
Er mwyn ategu eich cofrestriad, gallwch gyflwyno'r canlynol:
- dogfen llys er eich diogelwch chi neu rywun ar yr un aelwyd â chi
- ardystiad, lle bydd unigolyn awdurdodedig yn llofnodi eich ffurflen gais i gadarnhau y byddai eich diogelwch mewn peryg
Mae angen i chi gyflwyno naill ai ddogfen llys neu ardystiad. Nid oes angen i chi gyflwyno'r ddau gyda'ch cais.
Os ydych yn ailymgeisio am gofrestriad di-enw, rhaid i chi anfon eich gorchymyn llys neu ddogfennau ardystio. Os yw'r dogfennau a ddefnyddiwch un flwyddyn yn dal yn ddilys pan fyddwch yn ailymgeisio, gallwch eu hanfon eto. Yn dibynnu ar ba mor hir y maent yn ddilys, gallwch gyflwyno'r un dogfennau am hyd at 5 mlynedd.
List of evidence
Er mwyn ategu'ch cais, gallwch gyflwyno'r canlynol:
- gwaharddeb i atal unigolyn rhag ymddwyn mewn ffordd sy’n gyfystyr ag aflonyddu a roddwyd o dan Adran 3 o Ddeddf Diogelu rhag Aflonyddu 1997, neu o dan erthygl 5 Grchymyn Diogelu rhag Aflonyddu (Gogledd Iwerddon) 1997
- gwaharddeb a roddwyd o dan Adran 3A(2) Deddf Diogelu rhag Aflonyddu 1997
- gorchymyn atal a roddwyd o dan Adran 5(1) Deddf Diogelu rhag Aflonyddu 1997, neu o dan erthygl 7 Grchymyn Diogelu rhag Aflonyddu (Gogledd Iwerddon) 1997
- gorchymyn atal a roddwyd yn dilyn rhyddfarn o dan Adran 5A(1) Deddf Diogelu rhag Aflonyddu 1997, neu o dan erthygl 7(A)1 Gorchymyn Diogelu rhag Aflonyddu (Gogledd Iwerddon) 1997
- gorchymyn rhag aflonyddu, ataleb neu ataleb interim a roddwyd o dan Adran 8 neu 8A Deddf Diogelu rhag Aflonyddu 1997
- gorchymyn rhag aflonyddu a roddwyd o dan Adran 234A(2) o Ddeddf Gweithdrefn Troseddol (yr Alban)
1995 - gorchymyn peidio ag ymyrryd a roddwyd o dan Adran 42(2) Deddf Cyfraith Teulu 1996, neu o dan erthygl 20(2) Grchymyn Cartrefi Teuluol a Thrais Domestig (Gogledd Iwerddon) 1998
- ataleb briodasol o fewn ystyr Adran 14 Deddf Cartrefi Priodasol (Amddiffyn y Teulu) (yr Alban) 1981
- ataleb ddomestig o fewn ystyr Adran 18A Deddf Cartrefi Priodasol (Amddiffyn y Teulu) (yr Alban) 1981
- ataleb berthnasol o fewn ystyr Adran 113 Deddf Partneriaeth Sifil 2004
- ataleb y pennwyd ei bod yn ataleb cam-drin domestig o fewn ystyr Adran 3 Deddf Cam-drin Domestig (yr Alban) 2011
- unrhyw ataleb sy’n cynnwys y pŵer i arestio o dan Adran 1 Deddf Amddiffyn rhag Camdriniaeth (yr Alban) 2001
- gorchymyn amddiffyn rhag priodas dan orfod neu orchymyn amddiffyn interim rhag priodas dan orfod a roddwyd o dan Ran 4A Deddf Cyfraith Teulu 1996, neu o dan Adran 2, a pharagraff 1 Atodlen 1 i Ddeddf Priodas dan Orfod (Amddiffyn Sifil) 2007, neu o dan Adran 1 neu Adran 5 Deddf Priodas dan Orfod ac ati (Amddiffyn ac Awdurdodaeth) (yr Alban) 2011
- gorchymyn amddiffyn rhag trais domestig a roddwyd o dan adran 28 Deddf Trosedd a Diogelwch 2010 neu adran 97, a pharagraff 5 Atodlen 7 i Ddeddf Cyfiawnder (Gogledd Iwerddon) 2015
- gorchymyn amddiffyn rhag anffurfio organau cenhedlu benywod a roddwyd o dan adran 5A, a pharagraffau 1 neu 18 Atodlen 2 i Ddeddf Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod 2003.
Ni allwch ddefnyddio unrhyw ddogfennau llys eraill.
Mae angen i'r ddogfen llys fod yn weithredol ar ddyddiad eich cais i gofrestru'n ddi-enw.
Er mwyn ategu'ch cais, gallwch ofyn am ffurflen ardystio gan y canlynol:
- swyddog heddlu ar reng arolygydd neu reng uwch mewn unrhyw heddlu yng Nghymru a Lloegr
- swyddog heddlu ar reng arolygydd neu reng uwch yng Ngwasanaeth Heddlu’r Alban
- swyddog heddlu ar reng arolygydd neu reng uwch yng Ngwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon
- Cyfarwyddwr Cyffredinol y Gwasanaeth Diogelwch
- Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Asiantaeth Troseddau Genedlaethol
- unrhyw gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol i oedolion yn Lloegr o fewn ystyr adran 6(A1) Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970
- unrhyw gyfarwyddwr gwasanaethau plant yn Lloegr o fewn ystyr adran 18 Deddf Plant 2004
- unrhyw gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru o fewn ystyr adran 6(1) Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970
- unrhyw brif swyddog gwaith cymdeithasol yn yr Alban o fewn ystyr adran 3 Deddf Gwaith Cymdeithasol (yr Alban) 1968
- unrhyw gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol Bwrdd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a sefydlwyd o dan erthygl 16 Grchymyn Gwasanaethau Cymdeithasol Iechyd a Phersonol (Gogledd Iwerddon) 1972
- unrhyw gyfarwyddwr gweithredol gwaith cymdeithasol Ymddiriedolaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a sefydlwyd o dan erthygl 10 Gorchymyn Gwasanaethau Cymdeithasol Iechyd a Phersonol (Gogledd Iwerddon) 1991
- unrhyw ymarferydd meddygol cofrestredig
- unrhyw nyrs neu fydwraig gofrestredig
- unrhyw berson sy’n rheoli lloches.
Ystyr "lloches" yw llety â rhaglen gynlluniedig o gymorth therapiwtig ac ymarferol i'r sawl sydd wedi dioddef, neu sydd mewn perygl o ddioddef camdriniaeth neu drais domestig.
Ni allwch gael ardystiad gan neb arall, gan gynnwys swyddog iau mewn sefydliad.
Nodwch eich cod post
Dewch o hyd i fanylion cyswllt eich swyddfa cofrestru etholiadol leol er mwyn dychwelyd eich cais.
Lawrlwythwch ein canllawiau ynghylch cefnogi'r rhai sy'n goroesi cam-drin domestig i gofrestru i bleidleisio
ID Pleidleisiwr
O 4 Mai 2023 ymlaen, bydd yn rhaid i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos ID ffotograffig wrth bleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio mewn rhai etholiadau.
Os ydych yn etholwr dienw ac am bleidleisio’n bersonol yn un o’r etholiadau hyn, bydd angen i chi wneud cais am Ddogfen Etholwr Dienw cyn y diwrnod pleidleisio.
Dim ID gyda chi? Gwnewch gais am ID pleidleisiwr am ddim nawr.
Gwneud cais am Ddogfen Etholwr Dienw
Dylech wneud cais cyn gynted â phosib rhag ofn y bydd angen i’ch cyngor lleol wirio unrhyw fanylion gyda chi.
Os ydych eisoes wedi’ch cofrestru yn etholwr dienw, neu rydych yn cofrestru i bleidleisio’n ddienw, cewch eich gwahodd gan eich cyngor lleol i wneud cais am Ddogfen Etholwr Dienw.
Gwybodaeth y bydd angen i chi ei darparu fel rhan o’ch cais
Wrth wneud cais am Ddogfen Etholwr Dienw, bydd angen i chi ddarparu eich:
- enw
- cyfeiriad
- dyddiad geni
- rhif Yswiriant Gwladol
Gallwch ddal wneud cais os nad ydych chi'n gwybod beth yw eich Rhif Yswiriant Gwladol, neu os nad oes un gennych.
Bydd eich cyngor yn cysylltu â chi i ofyn am brawf amgen o’ch hunaniaeth. Gallai hyn gynnwys tystysgrif geni, datganiad banc a bil cyfleustod.
Os nad oes gennych fath arall o brawf adnabod a dderbynnir, gallwch ofyn i rywun sydd yn eich adnabod chi i gadarnhau eich hunaniaeth i’r tîm gwasanaethau etholiadol. Gelwir hyn yn darparu ardystiad.
Gall eich cyngor lleol ddarparu rhagor o wybodaeth ynghylch pwy all ddarparu ardystiad.
Darparu ffoto
Bydd angen i chi hefyd gyflwyno ffoto gyda’ch cais.
Mae’r gofynion ar gyfer y ffoto yn debyg i’r gofynion ar gyfer ffoto pasbort.
Gall eich cyngor lleol gymryd y ffoto ar eich cyfer.
Mae’n rhaid i’ch ffoto fod:
- ohonoch yn wynebu ymlaen ac yn edrych yn syth ar y camera
- yn llun agos o’ch pen ac ysgwyddau, heb unrhyw orchudd pen, oni bai eich bod yn gwisgo un oherwydd credoau crefyddol neu am resymau meddygol. Mae’n rhaid i’ch wyneb beidio â chael ei gorchuddio am unrhyw reswm
- ohonoch â mynegiant wyneb plaen gyda’ch llygaid ar agor ac yn weladwy (er enghraifft, heb sbectol haul a heb eu cuddio â gwallt). Nodwch na fydd hyn yn gymwys os na allwch ddarparu ffoto sy’n cydymffurfio â’r naill ofyniad neu’r llall, neu’r ddau ohonynt, oherwydd unrhyw anabledd.
Os na allwch fodloni'r gofynion oherwydd anabledd, siaradwch â’ch cyngor lleol.
Mae’n rhaid i’r ffoto fod:
- yn wirioneddol debyg i chi
- mewn lliw
- wedi ei dynnu yn erbyn cefndir golau, plaen
- mewn ffocws ac yn eglur
- heb lygaid coch, cysgodion ar yr wyneb, nac adlewyrchiadau
- heb ei ddifrodi
Mae’n rhaid i’ch ffoto fod:
- o leiaf 45 milimetr o uchder a 35 milimetr o led
- yn ddim mwy na 297 milimetr o uchder na 210 milimetr o led
Pa olwg sydd ar Ddogfen Etholwr Dienw?
Mae gan Ddogfen Etholwr Dienw y geiriau ‘Dogfen Etholwr’ wedi’u hysgrifennu ar y brig, ac nid ydyw’n cyfeirio at eich statws fel bod yn gofrestredig i bleidleisio’n ddienw.
Mae Dogfen Etholwr Dienw yn cynnwys:
- y dyddiad cyhoeddi
- eich ffoto
- eich rhif etholiadol (sef y rhif a fydd yn ymddangos ar y gofrestr etholiadol yn hytrach nag enw a chyfeiriad y pleidleisiwr)
- dynodydd priodol (sydd yn gyfuniad o 20 o rifau a llythrennau a gynhyrchir gan y feddalwedd a ddefnyddir gan Swyddogion Cofrestru Etholiadol)
How to vote anonymously
Wedi cofrestru i bleidleisio’n ddienw? Dysgwch sut i fwrw’ch pleidlais os ydych wedi’ch cofrestru’n bleidleisiwr dienw.