Ein hadolygiad o derfynau gwariant ymgyrchu etholiadol

Mae Llywodraeth y DU wedi gofyn i ni gynnal adolygiad annibynnol o derfynau gwariant ymgyrchu etholiadol (terfynau gwariant).  

Mae terfynau gwariant yn gosod yr uchafswm y gall pleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr ac ymgyrchwyr trydydd parti ei wario yn ystod ymgyrchoedd etholiadol. Mae'r terfynau hyn yn amrywio yn dibynnu ar y math o etholiad ac ar yr ymgyrchydd.

Rydym yn adolygu'r fframwaith presennol ar gyfer terfynau gwariant ymgyrchu er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i fod yn effeithiol ac yn gymesur yng nghyd-destun newidiadau i arferion ymgyrchu a'r dirwedd etholiadol ehangach. Bydd ein hadolygiad yn ystyried sut mae terfynau gwariant ymgyrchu yn gweithio ar draws gwahanol etholiadau a gwahanol ymgyrchwyr, a ydynt yn parhau i gefnogi tryloywder a thegwch, ac a oes angen diwygiadau.

Byddwn yn cynnal adolygiad trylwyr, annibynnol ac ar sail tystiolaeth, a byddwn yn dod i gasgliad gan gynnig argymhellion i'r Llywodraeth erbyn mis Gorffennaf 2027.

Yr egwyddorion sy'n sail i'n hadolygiad ac sy’n ei arwain

Rydym yn:

  • sicrhau hyder a thegwch mewn ymgyrchu etholiadol
  • ​cefnogi cyfranogiad ymgyrchwyr  
  • ​cefnogi cystadleuaeth deg ymysg ymgyrchwyr
  • ​gwella mynediad at wybodaeth i helpu pleidleiswyr ymgysylltu a chymryd rhan 

Rydym yn cyflwyno adolygiad annibynnol sy’n cynnwys y canlynol:

  • dadansoddiad diduedd a thystiolaeth gadarn
  • argymhellion clir sy'n seiliedig ar dystiolaeth

Rydym yn cynnal ein gwaith gyda thryloywder, uniondeb a thegwch 

Rydym yn:

  • ymgysylltu'n eang ac yn deg
  • ​gwrando ar ystod amrywiol o safbwyntiau
  • ​darparu nifer o gyfleoedd ystyrlon i gyfrannu 

Rydym yn ceisio sicrhau canlyniadau cyffredinol cytbwys ar gyfer:

  • ​pleidleiswyr
  • ymgeiswyr
  • pleidiau a
  • ymgyrchwyr di-blaid 

Rydym yn:

  • edrych y tu hwnt i'r amgylchedd a'r heriau presennol
  • ystyried sut y gall rheoleiddio ac ymgyrchu esblygu yn y dyfodol
  • ​gosod cynsail ar gyfer adolygiadau yn y dyfodol 

Beth mae'r adolygiad yn ei gynnwys?

Bydd yr adolygiad yn edrych ar y terfynau gwariant ar gyfer:

  • pleidiau gwleidyddol
  • ymgeiswyr
  • ymgyrchwyr trydydd parti

Bydd yn cwmpasu etholiadau Senedd y DU, etholiadau Cynulliad Gogledd Iwerddon, ac etholiadau lleol yng Nghymru a Gogledd Iwerddon.

Rydym hefyd wedi cynnig cynnwys y terfynau gwariant ar gyfer etholiadau datganoledig yng Nghymru a’r Alban i helpu sicrhau dull cyson ar draws y DU.

Fel rhan o'r adolygiad, byddwn yn ystyried sut mae terfynau gwariant yn rhyngweithio â rheolau cyllid ymgyrchu eraill, megis categorïau gwariant a chyfnodau ymgyrchu a reoleiddir