Please note that this page is only relevant to voters living in Wales
Cofrestru i bleidleisio
Os ydych yn rhannu eich amser rhwng dau gartref, efallai y gallwch gofrestru i bleidleisio yn y ddau gyfeiriad.
Er enghraifft, gallai hyn fod os ydych chi:
yn berchen ar ddau eiddo ac yn rhannu eich amser rhyngddynt
yn fyfyriwr gyda chyfeiriad cartref a chyfeiriad yn ystod y tymor
yn treulio amser mewn gwahanol gyfeiriadau teuluol.
Os byddwch yn gwneud cais i gofrestru i bleidleisio o'ch ail gartref, yna bydd eich cais yn cael ei ystyried fesul achos. Bydd y canlyniad yn dibynnu ar faint o amser y byddwch yn ei dreulio ym mhob un o'ch cyfeiriadau.
Nid yw cofrestru mewn dau gyfeiriad o reidrwydd yn golygu eich bod yn cael dwy bleidlais.
Bydd angen i chi ddewis un cyfeiriad a phleidleisio yn yr ardal honno yn unig pan fyddwch yn pleidleisio mewn:
Etholiadau Senedd y DU
Etholiadau Senedd Cymru
Refferenda'r DU
Ni allwch bleidleisio yn y ddau gyfeiriad yn yr etholiadau hyn. Mae pleidleisio mewn mwy nag un lleoliad yn drosedd.
Ar gyfer etholiadau eraill, gallwch bleidleisio yn y ddau gyfeiriad.
Gallwch ddewis pleidleisio yn y naill ardal neu'r llall neu yn y ddwy ardal (cyhyd â bod y cyfeiriadau mewn ardaloedd cyngor gwahanol) pan fyddwch yn pleidleisio mewn:
Etholiadau cyngor lleol yng Nghymru
Etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall y rheolau ar gyfer yr etholiadau rydych yn pleidleisio ynddynt.