Cynghorau lleol
Summary
Mae cynghorau lleol yn darparu gwasanaethau a chyfleusterau yn eich ardal chi.
Mae'r math o gyngor sydd gennych chi a'u cyfrifoldebau yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw.
Mae cynghorwyr lleol yn goruchwylio gwaith y cyngor, ac yn gosod y strategaethau a'r blaenoriaethau. Pan fyddwch chi'n pleidleisio mewn etholiadau lleol, byddwch chi'n pleidleisio dros gynghorwyr i gynrychioli eich ward.
Pwy all bleidleisio yn yr etholiadau hyn
Os ydych chi'n gymwys i bleidleisio, gallwch bleidleisio yn etholiadau cynghorau lleol pan fyddant yn digwydd yn eich ardal chi.
Mathau o gynghorau
Yn y DU, mae yna wahanol fathau o gynghorau sy'n gyfrifol am ddarparu gwahanol wasanaethau a chyfleusterau.
Mewn rhai ardaloedd, efallai y bydd mwy nag un cyngor yn darparu eich gwasanaethau a'ch cyfleusterau.
Types of councils
Mae pob cyngor yn yr Alban a Chymru, a rhai cynghorau yn Lloegr, yn awdurdodau unedol.
Mae hyn yn golygu bod y cyngor yn darparu'r holl wasanaethau a chyfleusterau yn yr ardal.
Mae cynghorau dosbarth metropolitanaidd yn darparu'r holl wasanaethau a chyfleusterau lleol. Mae gan ddinasoedd fel Birmingham, Lerpwl a Manceinion cynghorau dosbarth metropolitanaidd.
Mewn rhai rhannau o Loegr, mae system gynghorau ddwyhaenog. Yn yr ardaloedd hyn, bydd cyngor sir a chyngor dosbarth. Bydd y cyngor sir yn darparu rhai gwasanaethau a chyfleusterau yn yr ardal, a bydd y cyngor dosbarth yn darparu gwasanaethau a chyfleusterau eraill.
Mae'r cyngor sir yn aml yn gyfrifol am wasanaethau a chyfleusterau fel ysgolion a dysgu, llyfrgelloedd a ffyrdd.
I ddarganfod rhagor am yr hyn y mae eich cyngor sir yn gyfrifol amdano, ewch i'w gwefan.
Mewn rhai rhannau o Loegr, mae system gynghorau ddwyhaenog. Yn yr ardaloedd hyn, bydd cyngor sir a chyngor dosbarth. Bydd y cyngor sir yn darparu rhai gwasanaethau a chyfleusterau yn yr ardal, a bydd y cyngor dosbarth yn darparu rhai eraill.
Mae'r cyngor dosbarth yn aml yn gyfrifol am wasanaethau a chyfleusterau fel casglu'r Dreth Gyngor, gwasanaethau tai a chofrestru etholiadol.
Gall eich cyngor dosbarth hefyd gael ei alw'n gyngor bwrdeistref neu gyngor dinas, yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw.
I ddarganfod rhgaor am yr hyn y mae eich cyngor dosbarth yn gyfrifol amdano, ewch i'w gwefan.
Mae gan rai ardaloedd hefyd gyngor tref, plwyf neu gymuned, yn ogystal â'r cynghorau eraill yn yr ardal.
Mae cyfrifoldebau cynghorau tref, plwyf a chymuned yn wahanol ym mhob ardal.
Weithiau mae cynghorau tref, plwyf a chymuned yn gyfrifol am bethau fel meysydd parcio cymunedol, biniau sbwriel a thoiledau cyhoeddus.
Mae 11 cyngor lleol yng Ngogledd Iwerddon, y mae pob un yn darparu pob gwasanaeth lleol ar gyfer eu hardal.
Darganfyddwch ragor am y cynghorau lleol yng Ngogledd Iwerddon
Yn Llundain, mae gan bob bwrdeistref gyngor sy'n darparu'r holl wasanaethau a chyfleusterau ar gyfer yr ardal honno.
Mae Maer Llundain a Chynulliad Llundain yn gweithio gyda chynghorau bwrdeistref Llundain.
Darganfyddwch ragor am Faer Llundain a Chynulliad Llundain
Pleidleisio yn yr etholiadau hyn
Mae etholiadau cynghorau lleol yng Nghymru yn defnyddio'r system cyntaf i'r felin.
Bydd y papur pleidleisio yn rhestru'r holl ymgeiswyr eich ardal. Gallwch bleidleisio dros gynifer o ymgeiswyr ag y sydd swyddi gwag i gynghorwyr, trwy roi [X] yn y blwch wrth eich dewis. Er enghraifft, os ydych wedi eich cynrychioli gan dri chynghorydd ac mae yna dair swydd wag, gallwch bleidleisio dros dri ymgeisydd. Bydd y papur pleidleisio yn esbonio faint o ymgeiswyr y gallwch bleidleisio drostynt.
Mae pob cynghorydd yn eistedd am dymor o bum mlynedd. Yng Nghymru mae gan gynghorau etholiadau lleol pob pum mlynedd, ac ar yr adeg hyn yr etholir pob cynghorydd. Bydd yr etholiadau cynghorau lleol nesaf yng Nghymru yn cael eu cynnal ym mis Mai 2022.
Dod o hyd i’ch ymgeiswyr
Chwilio am yr ymgeiswyr sy’n sefyll yn eich ardal? Rhowch eich cod post i weld rhestr. Bydd eich ymgeiswyr ar gael ychydig wythnosau cyn y diwrnod pleidleisio.