Blwch cryno

Mae is-etholiad cyngor lleol yn digwydd pan fydd cynghorydd yn gadael ei sedd yn ystod ei dymor.

Gall sedd ddod yn wag pan fydd cynghorydd:

  • yn ymddeol neu’n marw
  • yn cael ei ddatgan yn fethdalwr
  • yn cael ei anghymhwyso rhag bod yn gynghorydd
  • yn cael ei gollfarnu am drosedd ddifrifol

Pan ddaw'r sedd yn wag, bydd is-etholiad lleol yn cael ei alw os bydd etholwyr yn gofyn am etholiad.

Pwy sy’n gallu pleidleisio yn yr etholiadau hyn

I bleidleisio mewn is-etholiad cyngor lleol mae'n rhaid eich bod wedi cofrestru i bleidleisio ac:

  • yn 18 oed neu'n hŷn ar y diwrnod pleidleisio, neu’n 18 oed neu dros 16 oed yng Nghymru a’r Alban
  • yn ddinesydd Prydeinig neu Wyddelig neu’n ddinesydd cymwys y Gymanwlad, neu’n wladolyn tramor cymwys sy’n byw yng Nghymru neu'r Alban ac sydd â chaniatâd i ddod i mewn i'r DU neu aros ynddi, neu nad oes angen caniatâd o'r fath arno
  • bod yn ddinesydd mewn cyfeiriad yn y DU (neu’n ddinesydd sy’n byw dramor sydd wedi ei gofrestru i bleidleisio yn y DU yn ystod y 15 mlynedd diwethaf)
  • heb ei eithrio yn gyfreithiol rhag pleidleisio

Darganfyddwch ragor o wybodaeth am bwy sy'n gymwys i bleidleisio.

Pleidleisio yn yr etholiadau hyn

Mae etholiadau cynghorau lleol yn Lloegr yn defnyddio'r system cyntaf i'r felin.

Mae cynghorwyr yn Lloegr yn eistedd am gyfnod o bedair blynedd. Fodd bynnag, pan fydd cynghorydd yn cael ei ethol am is-etholiad, bydd yn gwasanaethu am weddill y tymor gwreiddiol. Er enghraifft, os cynhelir is-etholiad flwyddyn ar ôl etholiad lleol, bydd y cynghorydd sy'n cael ei ethol yn gwasanaethu am dair blynedd tan yr etholiad lleol nesaf.

Pleidleisio yn yr etholiadau hyn

Mae etholiadau cynghorau lleol yng Nghymru yn defnyddio'r system cyntaf i'r felin.

Mae cynghorwyr yng Nghymru yn eistedd am dymor o bum mlynedd. Fodd bynnag, pan fydd cynghorydd yn cael ei ethol am is-etholiad, bydd yn gwasanaethu am weddill y tymor gwreiddiol. Er enghraifft, os cynhelir is-etholiad flwyddyn ar ôl etholiad lleol, bydd y cynghorydd sy'n cael ei ethol yn gwasanaethu am dair blynedd tan yr etholiad lleol nesaf.

Pleidleisio yn yr etholiadau hyn

Mae etholiadau cynghorau lleol yng Ngogledd Iwerddon yn defnyddio'r system bleidleisio sengl drosglwyddadwy.

Mae cynghorwyr yng Ngogledd Iwerddon yn eistedd am gyfnod o bedair blynedd. Fodd bynnag, pan fydd cynghorydd yn cael ei ethol am is-etholiad, bydd yn gwasanaethu am weddill y tymor gwreiddiol. Er enghraifft, os cynhelir is-etholiad flwyddyn ar ôl etholiad lleol, bydd y cynghorydd sy'n cael ei ethol yn gwasanaethu am dair blynedd tan yr etholiad lleol nesaf.

Pleidleisio yn yr etholiadau hyn

Mae etholiadau cynghorau lleol yn yr Alban yn defnyddio'r system bleidleisio sengl drosglwyddadwy sy'n golygu eich bod yn pleidleisio gan ddefnyddio rhifau.  Bydd eich papur pleidleisio yn rhestru'r holl ymgeiswyr sy'n sefyll etholiad yn ward eich cyngor.

Mae cynghorwyr yn yr Alban yn eistedd am dymor o bum mlynedd. Fodd bynnag, pan fydd cynghorydd yn cael ei ethol am is-etholiad, bydd yn gwasanaethu am weddill y tymor gwreiddiol. Er enghraifft, os cynhelir is-etholiad flwyddyn ar ôl etholiad lleol, bydd y cynghorydd sy'n cael ei ethol yn gwasanaethu am dair blynedd tan yr etholiad lleol nesaf.