Summary

Mae pedwar math o faer yn Lloegr. Mae'r math o faer neu feiri sydd gennych yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw.

Yn Llundain, mae'r Maer yn gosod y weledigaeth ar gyfer y ddinas. Darganfyddwch ragor am Faer Llundain

Mewn rhai ardaloedd, mae yna awdurdod cyfun, lle mae grŵp o gynghorau lleol yn gweithio gyda'i gilydd ar faterion sy'n effeithio ar yr ardal gyfan, fel trafnidiaeth a thai. Maer etholedig sy'n arwain awdurdodau cyfun.

Mae yna feiri awdurdodau lleol hefyd, sy'n cael eu hethol i arwain y cyngor lleol mewn un ardal.

Yn olaf, mae yna feiri sy'n ymgymryd â rôl seremonïol. Nid yw'r meiri hyn yn cael eu hethol, ac nid oes ganddynt rôl wleidyddol. Maent yn aml yn cynrychioli'r cyngor ar achlysuron arbennig a digwyddiadau elusennol.

Pleidleisio yn yr etholiadau hyn

Mae etholiadau maerol yn cael eu cynnal ar wahanol adegau, yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw.

Ar hyn o bryd, mae etholiadau maerol yn defnyddio'r system Pleidlais Atodol. O 4 Mai 2023 ymlaen, bydd etholiadau maerol yn defnyddio system y cyntaf i'r felin.

Bydd y papur pleidleisio yn rhestru'r ymgeiswyr ar gyfer rôl y maer.

Dim ond ar gyfer un ymgeisydd y byddwch yn gallu pleidleisio, drwy roi croes [X] yn y blwch wrth ymyl eich dewis.