Senedd
Eich lleoliad:
Beth mae Senedd yn ei wneud?
Mae Senedd yn cynrychioli pobl Cymru.
Mae ganddo'r grym i wneud penderfyniadau yn y meysydd canlynol:
- amaethyddiaeth, pysgodfeydd, coedwigaeth a datblygu gwleidig
- henebau ac adeiladau hanesyddol
- diwylliant
- datblygu economaidd
- addysg a hyfforddiant
- yr amgylchedd
- gwasanaethau tân ac achub
- iechyd a gwasnaethau iechyd
- priffyrdd a thrafnidiaeth
- tai
- diwydiant
- llywodraeth leol
- gweinyddiaeth gyhoeddus
- lles cymdeithasol
- chwaraeon a hamdden
- twristiaeth
- cynllunio gwlad a thref
- amddiffynfeydd dŵr a llifogydd
- yr iaith Gymraeg
O ganlyniad i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, galluogwyd Senedd, a elwid y pryd hynny yn Gynulliad Cenedlaethol Cymru, i ddeddfu yn y meysydd hyn, a elwir yn Filiau'r Senedd. Mae'r cyfreithiau hyn yn unigrwy i Gymru a byddant yn adlewyrchu anghenion a phryderon penodol pobl Cymru.
Mae gan Llywodraeth y DU beth rheolaeth dros rai gwasanaethau cyhoeddus a meysydd deddfwriaethol, megis cyfrifoldeb dros wasanaethau'r heddlu, nawdd cymdeithasol a chyflogaeth.
Beth yw ei gyfansoddiad?
Mae 60 o Aelodau Senedd (ASau) etholedig ac mae pump ohonynt yn eich cynrychioli chi. Mae un AS yn cynrychioli eich etholaeth yn y Senedd, ac mae'r pedwar arall yn cynrychioli eich rhanbarth.
Ffurfir Llywodraeth Cymru gan y blaid neu'r pleidiau sydd â'r nifer uchaf o seddi yn y Senedd, ac fe'u harweinir gan y Prif Weinidog.
Mae naw Gweinidog arall yn y Llywodraeth sydd â chyfrifoldeb dros faes penodol yr un. Mae hefyd bedwar Dirprwy Weinidog.
Mae'r Gweinidogion yn atebol i'r Senedd ac mae'n rhaid iddynt ateb cwestiynau gan ASau eraill am eu polisïau a'u gweithgareddau.
Sut mae'n cael ei ethol?
Pan fyddwch yn pleidleisio mewn etholiad Senedd bydd gennych ddwy bleidlais - un i ethol eich aelod etholaethol ac un i ethol eich aelod rhanbarthol.
Yn y bleidlais etholaethol, rydych yn dewis yr ymgeisydd rydych am iddynt eich cynrychioli'n uniongyrchol.
Yn y bleidlais ranbarthol, rydych yn dewis o restr plaid neu ymgeiswyr annibynnol i gynrychioli'ch rhanbarth.
Pryd caiff ei ethol?
Mae etholiadau ar gyfer Senedd yn cael eu cynnal bob pedair blynedd.
Pwy sy'n gymwys i bleidleisio?
I bleidleisio yn etholiad Senedd mae'n rhaid i chi fod wedi cofrestru i bleidleisio, yn 16 oed neu'n hŷn ac:
- yn ddinesydd Prydeinig, dinesydd cymwys y Gymanwlad, dinesydd yr Undeb Ewropeaidd neu ddinesydd tramor cymwys
- yn preswylio yng Nghymru
- ddim yn destun unrhyw anghymhwysedd cyfreithiol i bleidleisio
Darganfod rhagor am bwy sy'n gymwys i bleidleisio
Eich lleoliad: