Pleidleisio yn Etholiadau'r Senedd
We're showing you content for:
Trosolwg
Mae’r Senedd yn cynrychioli pobl Cymru. Mae ganddo’r pŵer i wneud penderfyniadau mewn meysydd penodol, a elwir yn faterion datganoledig. Mae’r rhain yn cynnwys meysydd megis addysg, iechyd, diwylliant, a rhai trethi.
Y Senedd:
- creu cyfreithiau ar gyfer Cymru sydd wedi’u cynnig gan Lywodraeth Cymru
- cytuno ar drethi Cymru
- dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif
Mae Senedd y DU yn dal i fod yn gyfrifol am rai gwasanaethau cyhoeddus, a rhai meysydd deddfwriaethol yng Nghymru.
Etholaethau’r Senedd
O fis Mai 2026 ymlaen, lle bynnag yr ydych yn byw yng Nghymru, bydd chwe Aelod etholedig yn cynrychioli eich ardal.
Cafodd yr ardaloedd newydd eu llunio gan y Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru drwy baru 32 o Etholaethau Senedd y DU i Gymru. Wnaeth y Comisiwn hefyd ystyried ffiniau lleol, cysylltiadau trafnidiaeth a ffyrdd, a nodweddion naturiol megis afonydd a mynyddoedd.
Allwch chi bleidleisio yn yr etholiadau hyn?
Sut mae system bleidleisio newydd y Senedd yn gweithio?
Yn dilyn yr etholiad ar 7 Mai, bydd y Senedd yn edrych ychydig yn wahanol. Bydd 96 o Aelodau yn cael eu hethol gan gynrychioli 16 etholaeth ledled Cymru. Dim ond unwaith y byddwch chi'n pleidleisio, gan ddewis plaid wleidyddol neu ymgeisydd annibynnol.
Y system a ddefnyddir i ddyrannu seddi yn y Senedd yw'r un system ag a ddefnyddiwyd i ddyrannu seddi rhanbarthol yn etholiadau blaenorol y Senedd ac etholiadau blaenorol Cynulliad Cymru.
Po fwyaf o bleidleisiau y mae plaid wleidyddol neu ymgeisydd annibynnol yn eu cael, y mwyaf o seddi y byddant yn eu hennill. Y bobl sydd ar frig rhestr pob plaid wleidyddol sy'n cael eu hethol yn gyntaf.
Penderfynir ar ymgeiswyr sy’n cael eu hethol drwy'r system hon gan ddefnyddio rhywbeth o’r enw ‘fformiwla D'Hondt’, sy'n rhannu pleidleisiau pob plaid â nifer y seddi mae nhw eisoes wedi'u hennill, yn ogystal ag un.
Ar ôl ennill sedd, mae pleidleisiau plaid yn cael eu rhannu â dau; ar ôl ennill dwy sedd, mae eu pleidleisiau'n cael eu rhannu â thri ac yn y blaen.
Mae cyfrif pleidleisiau yn digwydd mewn rowndiau, gyda'r blaid sydd â'r cyfanswm uchaf ym mhob rownd yn ennill y sedd.
Mae'r tabl isod yn dangos enghraifft o hyn a sut mae'n newid ym mhob rownd.
| Plaid A | Plaid B | Plaid C | Plaid CH | Ymgeisydd annibynnol | |
|---|---|---|---|---|---|
| Pleidleisiau | 300 | 210 | 120 | 30 | 10 |
Rownd 1
Byddai Plaid A yn cymryd y sedd gyntaf gan mai hi yw'r blaid gyda'r mwyaf o bleidleisiau. Byddai'r ymgeisydd cyntaf ar eu rhestr yn cael ei ethol.
| Plaid A | Plaid B | Plaid C | Plaid CH | Ymgeisydd annibynnol | |
|---|---|---|---|---|---|
| Pleidleisiau | 300 | 210 | 120 | 30 | 10 |
| Rownd 1 | 300 | 210 | 120 | 30 | 10 |
Yna byddai pleidleisiau Plaid A yn cael eu rhannu â dau ar gyfer y rownd nesaf:
Plaid A: 300 ÷ (1+1 sedd) = 150
Rownd 2
Yn y rownd nesaf, Plaid B sydd â'r nifer uchaf o bleidleisiau nawr, felly maen nhw'n ennill sedd. Felly, yr ymgeisydd cyntaf ar eu rhestr fydd yn cael ei ethol.
| Plaid A | Plaid B | Plaid C | Plaid CH | Ymgeisydd annibynnol | |
|---|---|---|---|---|---|
| Pleidleisiau | 300 | 210 | 120 | 30 | 10 |
| Rownd 1 | 300 | 210 | 120 | 30 | 10 |
| Rownd 2 | 150 | 210 | 120 | 30 | 10 |
Yna byddai pleidleisiau Plaid B yn cael eu rhannu â dau ar gyfer y rownd nesaf.
Plaid B: 210 ÷ (1+1 sedd) = 105
Rownd 3
Yn y drydedd rownd, Plaid A sydd â'r cyfanswm uchaf o bleidleisiau eto ac felly mae'n ennill ail sedd. Byddai'r ail berson ar restr y blaid hon nawr yn cael ei ethol.
| Plaid A | Plaid B | Plaid C | Plaid CH | Ymgeisydd annibynnol | |
|---|---|---|---|---|---|
| Pleidleisiau | 300 | 210 | 120 | 30 | 10 |
| Rownd 1 | 300 | 210 | 120 | 30 | 10 |
| Rownd 2 | 150 | 210 | 120 | 30 | 10 |
| Rownd 3 | 150 | 105 | 120 | 30 | 10 |
Mae cyfanswm pleidleisiau gwreiddiol Plaid A (300) bellach wedi'i rannu â thri (1+2 sedd y maent eisoes wedi'u hennill).
Plaid A: 300 ÷ (1+2 seddi) = 100
Mae hyn yn parhau hyd nes bod yr holl seddi wedi'u llenwi.
Yn yr enghraifft hon, bydd Plaid A yn ennill 3 sedd, bydd Plaid B yn ennill 2 sedd, a bydd Plaid C yn ennill 1 sedd.
| Plaid A | Plaid B | Plaid C | Plaid CH | Ymgeisydd annibynnol | |
|---|---|---|---|---|---|
| Pleidleisiau | 300 | 210 | 120 | 30 | 10 |
| Rownd 1 | 300 | 210 | 120 | 30 | 10 |
| Rownd 2 | 150 | 210 | 120 | 30 | 10 |
| Rownd 3 | 150 | 105 | 120 | 30 | 10 |
| Rownd 4 | 100 | 105 | 120 | 30 | 10 |
| Rownd 5 | 100 | 105 | 60 | 30 | 10 |
| Rownd 6 | 100 | 70 | 60 | 30 | 10 |
| Etholedig | 3 | 2 | 1 | 0 | 0 |
Mae'r system newydd yn sicrhau bod nifer y seddi y mae pob plaid neu ymgeisydd annibynnol yn eu hennill yn agosach at ganran y pleidleisiau maen nhw'n eu derbyn.
Felly, yn yr enghraifft hon enillodd Plaid A 45% o'r bleidlais a 50% o'r seddi; enillodd Plaid B 31% o'r bleidlais a 33.3% o'r seddi; enillodd Plaid C 18% o'r bleidlais a 16.6% o'r seddi.
Os bydd plaid yn cael digon o bleidleisiau, byddant yn sicrhau un neu fwy o seddi yn y Senedd. Gall ymgeiswyr annibynnol ennill sedd hefyd os cânt ddigon o bleidleisiau.