Adroddiad ar etholiad cyffredinol Senedd y DU 2024 ac etholiadau Mai 2024
Crynodeb
Ar 4 Gorffennaf 2024, pleidleisiodd pobl ledled y DU yn etholiad cyffredinol Senedd y DU. Galwyd yr etholiad ar 22 Mai ac roedd yn dilyn yr etholiadau a drefnwyd ar 2 Mai ar gyfer Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr, yn ogystal ag etholiadau lleol a maerol yn Lloegr.
Mae'r adroddiad hwn yn edrych ar sut y cynhaliwyd etholiadau mis Mai a Gorffennaf 2024, canfyddiadau pleidleiswyr ac ymgyrchwyr ynglŷn â chymryd rhan yn yr etholiadau, a pha wersi y gellir eu dysgu ar gyfer y dyfodol.
Etholiadau mis Mai a Gorffennaf oedd y rhai cyntaf yng Nghymru a’r Alban, yn y drefn honno, lle roedd y newidiadau a gyflwynwyd gan Ddeddf Etholiadau 2022 yn berthnasol – gan gynnwys y gofyniad i bleidleiswyr ddangos ID ffotograffig i bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio. Cyhoeddwyd ein dadansoddiad o ID pleidleisiwr yn etholiad cyffredinol y DU ym mis Medi a gwnaethom gyfres o argymhellion i wella hygyrchedd a chefnogi pobl nad oes ganddynt ID a dderbynnir.
Hefyd, dyma oedd etholiad cyffredinol cyntaf y DU ers ymestyn yr etholfraint i ddinasyddion Prydeinig a Gwyddelig cymwys sydd wedi bod yn byw dramor am fwy na 15 mlynedd.
Cyhoeddwyd yr etholiad ddiwedd mis Mai, ond roedd y diwrnod pleidleisio ei hun yn fuan ar ôl dechrau gwyliau haf ysgolion yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban. Roedd hyn yn ei gwneud yn anoddach i rai pobl fwrw eu pleidlais ac yn rhoi pwysau ychwanegol ar weinyddwyr etholiadol. Er mwyn osgoi'r problemau hyn mewn etholiadau cyffredinol yn y dyfodol, ni ddylai’r diwrnod pleidleisio gael ei drefnu, os yn bosibl, yn ystod cyfnod gwyliau o bwys mewn unrhyw ran o'r DU.
Ar y cyfan, cafodd etholiadau mis Mai a Gorffennaf 2024 eu rhedeg yn dda, ac yn yr arolygon barn, gwelir bod pleidleiswyr yn parhau i fod â lefelau uchel o hyder a boddhad yn yr etholiadau. Fodd bynnag, rydym wedi nodi nifer o welliannau sylweddol angenrheidiol i gefnogi cyfranogiad ac ymddiriedaeth pobl mewn etholiadau yn y dyfodol, gan gynnwys:
- Diwygio prosesau pleidleisio drwy'r post
- Nodi ffyrdd i bleidleiswyr tramor allu pleidleisio'n ddiogel ac mewn pryd
- Mynd i'r afael â chamdriniaeth a brawychu ymgeiswyr ac ymgyrchwyr
- Adolygu'r broses o enwebu ymgeiswyr
- Gwella gweithrediad y systemau digidol y mae gweinyddwyr etholiadol yn dibynnu arnynt
Yn yr adroddiad hwn, rydym yn nodi argymhellion penodol ar gyfer gwella. Rydym yn barod i weithio gyda llywodraethau’r DU a’r gymuned etholiadol ehangach i fynd i’r afael â’r heriau hyn.
Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio’n bennaf ar ganfyddiadau o etholiad cyffredinol y DU, ond rydym hefyd yn cynnwys gwybodaeth am etholiadau Mai 2024 lle daeth heriau penodol i’r amlwg neu pan fo’r canfyddiadau’n sylweddol wahanol.
Pleidleisio yn yr etholiadau
Y profiad o bleidleisio yn etholiad cyffredinol Senedd y DU 2024
- Mae hyder y cyhoedd yn y ffordd y caiff etholiadau eu rhedeg yn parhau i fod yn uchel ac mae'r rhan fwyaf o bobl yn fodlon ar y prosesau cofrestru a phleidleisio. Fodd bynnag, mae rhai grwpiau o bobl yn llai tebygol o fod â barn gadarnhaol am yr etholiad, gan gynnwys pobl iau, pobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, pobl anabl, a phobl yng ngradd gymdeithasol C2DE.
- Gwelwyd gostyngiad sylweddol yn y ganran a bleidleisiodd yn yr etholiad hwn, sef 60.0%, i lawr o 67.5% yn 2019. Er y gellir priodoli hyn i sawl ffactor, rydym yn parhau i weld bod canfyddiadau negyddol o wleidyddiaeth pleidiau a gwleidyddion yn cyfrannu at benderfyniadau pobl i beidio â bwrw eu pleidlais.
- Roedd y rhan fwyaf o bobl wedi ei chael hi’n hawdd pleidleisio’n bersonol neu drwy’r post, ond dywedodd nifer fach o etholwyr wrthym y bu angen cymorth arnynt i lenwi eu papur pleidleisio.
Rhwystrau rhag pleidleisio yn yr etholiadau
Profodd rhai pleidleiswyr heriau penodol wrth fwrw eu pleidlais yn etholiad cyffredinol Senedd y DU 2024
- Gellir gwneud mwy i wella ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael i bleidleiswyr mewn gorsafoedd pleidleisio. Er bod Swyddogion Canlyniadau yn darparu amrywiaeth o gyfarpar hygyrchedd a chymorth mewn gorsafoedd pleidleisio, nid oedd llawer o bobl yn ymwybodol o'r cymorth oedd ar gael iddynt. Roedd hyn yn cynnwys y cyfarpar y dylid ei ddarparu, yn ogystal â'r cymorth a'r gefnogaeth sydd ar gael gan staff a chymdeithion.
- Gwnaeth mwy na 1.3 miliwn o bobl gais i bleidleisio drwy’r post ar ôl cyhoeddi etholiad cyffredinol y DU, a dyma’r etholiad cyffredinol cyntaf yn y DU y gallai pobl wneud cais ar-lein ynddo. Fodd bynnag, ni dderbyniodd rhai pleidleiswyr post eu pecynnau pleidleisio mewn pryd i'w cwblhau a'u dychwelyd cyn y diwrnod pleidleisio. Er nad oedd y problemau hyn yn systemig, ni weithiodd systemau pleidleisio drwy'r post yn ddigon da i rai pleidleiswyr a dylid gwella hyn.
- Gallai dinasyddion Prydeinig a Gwyddelig cymwys sydd wedi byw dramor am fwy na 15 mlynedd bleidleisio am y tro cyntaf yn etholiad cyffredinol y DU. Fodd bynnag, nid yw'r opsiynau pleidleisio i ddinasyddion tramor yn gweithio'n ddigon da ac mae angen eu gwella'n sylfaenol.
Ymgyrchu yn yr etholiadau
Y profiad o ymgyrchu yn etholiad cyffredinol Senedd y DU 2024
- Safodd y nifer uchaf erioed o ymgeiswyr yn etholiad cyffredinol y DU. Er gwaethaf amseriad yr etholiad, cafwyd dadlau gwleidyddol cadarn a bywiog, gydag ymgyrchwyr yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau a phleidleiswyr yn gallu clywed gan amrywiaeth eang o safbwyntiau.
- Fodd bynnag, profodd llawer o ymgeiswyr lefelau annerbyniol o frawychu ac aflonyddu, wedi'i gyfeirio at fenywod ac ymgeiswyr o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig yn arbennig. Dywedodd dros hanner yr ymgeiswyr a ymatebodd i’n harolwg eu bod wedi osgoi rhyw fath o ymgyrchu oherwydd ofn camdriniaeth.
- Mae perygl i gamdriniaeth a brawychu atal pobl rhag sefyll mewn etholiad, a gall atal pleidleiswyr rhag clywed gan ymgeiswyr yn uniongyrchol. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid ar draws y gymuned etholiadol ehangach i ddeall beth sy’n ysgogi cam-drin a brawychu, ac i ddatblygu ymatebion effeithiol ar y cyd i fynd i’r afael â’r problemau hyn.
- Hwn oedd etholiad cyffredinol cyntaf y DU lle roedd gofynion argraffnodau digidol yn berthnasol. Dywedodd ymgeiswyr wrthym eu bod yn deall y gofyniad i gynnwys argraffnodau digidol a'i bod yn hawdd cydymffurfio â hyn.
- Cyflwynodd yr etholiad heriau newydd i'r system enwebu, gydag adroddiadau am ymgeiswyr ffug honedig ac ymgeiswyr lluosog o'r un enw. Dylid cryfhau'r gofynion a'r gwiriadau ar gyfer enwebu ymgeiswyr i'w gwneud yn anos i ymgeiswyr gamarwain pleidleiswyr ynghylch eu gwir hunaniaeth.
Gweithredu'r etholiadau
Profiad gweinyddu etholiadol yn etholiad cyffredinol Senedd y DU 2024
- Bu modd i weinyddwyr etholiadol gynnal yr etholiadau yn dda o dan amgylchiadau heriol. Fodd bynnag, ychwanegwyd haenau newydd o risg a chymhlethdod at broses a oedd eisoes o dan bwysau. Roedd hyn yn cynnwys amseriad etholiad cyffredinol y DU, sawl newid deddfwriaethol newydd, a ffiniau seneddol newydd.
- Mae gwytnwch awdurdodau lleol yn dibynnu ar fframwaith ariannu cymhleth a darniog ac wedi’i ategu gan system o gyfraith etholiadol sydd wedi dyddio ac sy’n fwyfwy cymhleth. Mae angen mynd i’r afael â’r heriau i wytnwch y system etholiadol – gan gynnwys cyllid.
- Mae gallu a gwytnwch cyflenwyr yn parhau i fod yn bryder allweddol i weinyddwyr etholiadol. Er mwyn parhau i weithredu etholiadau yn dda, gan fodloni disgwyliadau pleidleiswyr, mae angen iddynt ddibynnu ar systemau digidol cyd-gysylltiedig, cwbl weithredol. Mae hyn yn cynnwys meddalwedd rheoli etholiadol a'r systemau digidol y mae Llywodraeth y DU yn eu darparu.
Pleidleisio yn yr etholiadau
Yr hyn sy'n cael sylw yn yr adran hon
Pleidleisiodd pobl ledled y DU yn etholiad cyffredinol Senedd y DU ar 4 Gorffennaf 2024. Galwyd yr etholiad yn fuan ar ôl yr etholiadau a drefnwyd yng Nghymru a Lloegr ar 2 Mai.
Etholiad cyffredinol y DU oedd yr etholiad cyntaf lle roedd y newidiadau a gyflwynwyd gan y Ddeddf Etholiadau yn berthnasol mewn pleidlais broffil uchel ledled y DU. Roedd hyn yn cynnwys ymestyn yr etholfraint i ddinasyddion Prydeinig a Gwyddelig cymwys oedd wedi bod yn byw dramor am fwy na 15 mlynedd.
Roedd tua 48.2 miliwn o bobl yn gymwys i bleidleisio yn etholiad cyffredinol y DU.
Mae hyder y cyhoedd mewn etholiadau yn uchel
Ar ôl pob etholiad rydym yn gofyn i bobl a oedd yn gymwys i bleidleisio am eu barn nhw am bleidleisio ac etholiadau. Mae hyn yn ein helpu i ddeall a yw safbwyntiau pobl wedi newid ers y set gymaradwy ddiwethaf o etholiadau.
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn parhau i fod yn hyderus bod yr etholiadau'n cael eu rhedeg yn dda a'u bod yn fodlon ar y broses gofrestru a phleidleisio
Yn ôl ein hymchwil gyda’r cyhoedd:
- Dywedodd y rhan fwyaf o bobl (83%) eu bod yn hyderus bod yr etholiadau wedi eu rhedeg yn dda
- Roedd hyn yn gyson ledled y DU yn gyffredinol (Cymru 83%, Lloegr 83%, Gogledd Iwerddon 85%) er ychydig yn is yn yr Alban (79%)
- Mae hyn hefyd yn cynrychioli cynnydd ers etholiad cyffredinol y DU yn 2019 pan ddywedodd 69% o bobl y DU eu bod yn hyderus (Cymru 71%, Lloegr 69%, Gogledd Iwerddon 83%, a’r Alban 72%)
Ymhlith y 10% o bobl a ddywedodd nad oeddent yn hyderus bod yr etholiadau wedi’u rhedeg yn dda, y rhesymau mwyaf cyffredin a roddwyd oedd canfyddiad o annhegwch yn y system bleidleisio a diffyg gwybodaeth am ymgeiswyr a/neu bleidiau. Fodd bynnag, yn yr Alban, roedd pobl yn fwy tebygol nag mewn mannau eraill yn y DU, o gyfeirio at bryderon ynghylch amseriad yr etholiad mewn cyfnod o wyliau a phroblemau’n ymwneud â phleidleisio drwy’r post (o ran profiad uniongyrchol a materion y clywsant amdanynt yn y cyfryngau).
Ledled y DU, mae lefelau uchel o foddhad hefyd â’r ddwy broses allweddol o gofrestru i bleidleisio a phleidleisio:
- Roedd 80% o bobl yn fodlon â’r system o gofrestru i bleidleisio, sy’n debyg iawn i’r lefel a gofnodwyd yn 2019 (78%). Yn yr un modd â hyder cyffredinol, prin yw’r gwahaniaeth ar draws gwledydd y DU (Cymru 81%, Lloegr 80%, yr Alban 79%), ac eithrio Gogledd Iwerddon lle dywedodd 86% o bobl eu bod yn fodlon
- Roedd 90% o bleidleiswyr yn fodlon ar y broses bleidleisio, ffigur oedd yn gyson â 2019 pan oedd 93% o bleidleiswyr yn fodlon. Mae hyn yn debyg ledled y DU (Cymru 90%, Lloegr 90%, yr Alban 88%), er yn uwch, unwaith eto, yng Ngogledd Iwerddon (95%)
Caiff y canfyddiadau cadarnhaol cyffredinol hyn am yr etholiad eu hadlewyrchu mewn safbwyntiau ar dwyll etholiadol – dywedodd 87% o bobl eu bod o’r farn bod pleidleisio’n ddiogel rhag twyll a chamddefnydd ar y cyfan (Cymru 88%, Lloegr 86%, yr Alban 90%, a Gogledd Iwerddon 88% ). Mae hyn yn newid cadarnhaol ers etholiad cyffredinol 2019 pan ddywedodd 72% eu bod o’r farn bod pleidleisio’n ddiogel rhag twyll a chamddefnydd.
Mae rhai grwpiau o bobl yn gyson yn llai tebygol o fod â barn gadarnhaol am yr etholiad
Er gwaethaf lefelau uchel o hyder a boddhad yn gyffredinol, mae gwahaniaethau mewn llinellau demograffig penodol, gan gynnwys oedran, gradd gymdeithasol, anabledd ac ethnigrwydd.
Mae rhaniad o ran oedran:
- Mae grwpiau oedran hŷn yn fwy tebygol o deimlo’n hyderus bod yr etholiad wedi’i redeg yn dda (86% o bobl 65 i 74 oed ac 87% o bobl 75 oed neu’n hŷn, o gymharu â 75% o bobl 18 i 24 oed)
- Maent hefyd yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn fodlon ar y system o gofrestru i bleidleisio (dywedodd 60% o’r rhai 75 oed neu’n hŷn eu bod yn ‘fodlon iawn’ gyda’r system gofrestru o gymharu â 23% o’r rhai 18 i 24 oed)
- Mae pobl iau hefyd yn llai tebygol o gredu bod pleidleisio yn ddiogel rhag twyll neu gamddefnydd (mae 80% o bobl ifanc 18 i 24 oed yn credu ei fod yn ddiogel o gymharu â 92% o bobl 65 oed neu’n hŷn)
Mae gwahaniaethau sylweddol mewn agweddau rhwng pobl mewn gwahanol raddau cymdeithasol:
- Ymhlith pobl yng ngradd gymdeithasol C2DE, roedd yr hyder yn y modd y caiff yr etholiad ei redeg yn is (79% yn hyderus ei fod yn cael ei redeg yn dda o gymharu ag 87% o’r rhai yng ngradd gymdeithasol ABC1)
- Roedd boddhad â’r broses gofrestru hefyd yn is (roedd 83% yn fodlon ymhlith ABC1 o gymharu â 78% ymhlith grŵp C2DE)
- Mae’r rhai yn y grŵp cymdeithasol C2DE (83%) hefyd yn llai tebygol o deimlo bod pleidleisio’n ddiogel rhag twyll o gymharu ag ABC1 (90%)
Roedd canfyddiadau amrywiol gan bobl o gefndiroedd ethnig gwahanol:
- Yn gyffredinol, mae pobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig yn llai tebygol o deimlo bod pleidleisio’n ddiogel (82%) o gymharu â phobl wyn (87%)
- Mae pobl Asiaidd yn llai tebygol o gredu bod yr etholiad wedi’i redeg yn dda (79%) o gymharu â phobl wyn (84%) neu bobl Ddu (89%)
- Mae pobl Asiaidd hefyd yn llai tebygol o fod yn fodlon ar y system o gofrestru i bleidleisio (76% yn fodlon o gymharu ag 81% o bobl wyn ac 87% o bobl Ddu)
Mae gan bobl anabl safbwyntiau am yr etholiad sy’n gyson yn llai cadarnhaol:
- Ymhlith y rhai sy’n dweud eu bod wedi’u ‘cyfyngu’n sylweddol’ gan anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor, mae lefelau bodlonrwydd â chofrestru a phleidleisio (75% ac 85% yn y drefn honno) yn is o gymharu â phobl heb anabledd (82% a 92% yn y drefn honno)
- Mae hyder yn y modd y caiff yr etholiad ei redeg hefyd yn is (mae 78% o’r rhai sydd ‘wedi’u cyfyngu’n fawr’ oherwydd anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor yn hyderus o gymharu ag 85% o’r rhai heb anabledd)
- Rydym yn archwilio profiadau pobl anabl a'r mesurau sydd ar waith i gynorthwyo pobl i bleidleisio yn ddiweddarach yn yr adroddiad hwn
Mae cyfranogiad yn gwella canfyddiadau pobl o’r etholiad
Weithiau, mae p'un a bleidleisiodd pobl yn yr etholiad ai peidio yn gysylltiedig â gwahaniaethau mewn agwedd. Mae rhai o'r grwpiau uchod yn llai tebygol o bleidleisio, yn enwedig pobl iau a phobl yn y radd gymdeithasol C2DE. Fel bob amser, mae’r rhai sy’n pleidleisio yn fwy tebygol na'r rhai nad ydynt yn pleidleisio o feddwl bod yr etholiad yn cael ei redeg yn dda (88% o gymharu â 58%). Roeddent hefyd yn fwy tebygol o feddwl bod pleidleisio’n ddiogel rhag twyll neu gamddefnydd (90% o gymharu â 72%).
Nid oes modd esbonio’r amrywiadau mewn agweddau tuag at yr etholiad yn ôl p’un a wnaeth rhywun bleidleisio ai peidio. Mae gwahaniaethau o hyd, er eu bod yn llai, ar draws y grwpiau demograffig. Ond gallai lefelau uwch o gyfranogiad mewn etholiadau yn y dyfodol wella lefelau hyder a boddhad.
Gostyngodd y ganran a bleidleisiodd yn sylweddol yn yr etholiad hwn
Y ganran a bleidleisiodd yn etholiad cyffredinol y DU oedd 60.0%, i lawr o 67.5% yn 2019. Dyma’r ail ganran isaf o bleidleisio mewn etholiad cyffredinol yn y DU ers cyflwyno’r bleidlais gyffredinol ym 1928, gyda dim ond etholiad 2001 yn cofnodi nifer is yn pleidleisio (59.4%).
Mae'r niferoedd cyffredinol sy'n pleidleisio mewn etholiadau yn gostwng yn raddol
Yn etholiadau cyffredinol diweddar y DU, mae amrywiadau yn y nifer sy’n pleidleisio wedi'u hysgogi'n bennaf gan ffactorau gwleidyddol. Roedd hyn yn cynnwys canfyddiad o bwysigrwydd y bleidlais a lefel y gystadleuaeth a awgrymir gan arolygon barn cyn yr etholiad. Er enghraifft, roedd disgwyliad cyffredin na fyddai etholiad 2024 mor agos â’r pedwar etholiad a gafwyd rhwng 2010 a 2019. Roedd gan bob un o’r pedwar etholiad hyn ganran uwch o bleidleiswyr nag yn 2024.
Fodd bynnag, yr hyn sy'n peri mwy o bryder yw’r ffaith y gwelwyd gostyngiad dros y 25 mlynedd diwethaf yn y nifer sy’n bwrw eu pleidlais. Nid oes unrhyw arwydd y bydd y duedd hon yn newid.
Mae etholiadau lleol yn Lloegr, er eu bod bob amser yn cofnodi lefelau cyfranogiad is nag etholiadau cyffredinol y DU, wedi gweld dirywiad hirdymor tebyg. Yn ystod y 1980au a dechrau'r 1990au roedd y ganran a bleidleisiodd yn etholiadau lleol Lloegr rhwng 40% a 50%. Yn y blynyddoedd diwethaf mae'n fwy cyffredin gweld lefelau o dan 35%.
Gall canfyddiadau negyddol arwain pobl i beidio â phleidleisio
Gwyddom o’n hymchwil fod rhai pobl yn dewis peidio â phleidleisio neu’n methu â phleidleisio oherwydd amgylchiadau, gan gynnwys rhesymau meddygol, eu bod yn rhy brysur, eu bod ar wyliau, neu’n gweithio oddi cartref. Fodd bynnag, rydym hefyd yn gweld bod canfyddiadau negyddol o wleidyddiaeth pleidiau a gwleidyddion yn cyfrannu at benderfyniadau pobl i beidio â phleidleisio. Mae hyn yn cynnwys diffyg diddordeb cyffredinol, y farn bod pob plaid ‘yr un fath’, teimlad nad oedd unrhyw blaid nac ymgeisydd yn cynrychioli ‘eu barn nhw’, a diffyg ymddiriedaeth mewn gwleidyddion.
Mae’r gostyngiad yn y lefelau cyfranogiad yn peri pryder. Gallai hyn gael effaith negyddol ar ymddiriedaeth y cyhoedd mewn etholiadau. Mae’n arbennig o bwysig bod pleidleiswyr newydd yn dewis pleidleisio pan fyddant yn gymwys. Mae ymchwil wedi canfod mai arfer yw pleidleisio. Os na fydd pobl yn dechrau pleidleisio yn gynnar mewn bywyd, byddant yn llai tebygol o wneud hynny yn ddiweddarach.
Nid yw’r broses o fynd i'r afael â'r her hon yn un syml. Credwn mai rhan bwysig o’r ymateb yw sicrhau bod pobl ifanc yn cael addysg o safon uchel am ddemocratiaeth ac etholiadau boed hynny drwy’r ysgol, clybiau neu sefydliadau perthnasol eraill.
Roedd y rhan fwyaf o bobl yn gallu bwrw eu pleidlais gan ddefnyddio’r dull oedd orau ganddynt
Ledled y DU, dywedodd 94% o bleidleiswyr eu bod wedi bwrw eu pleidlais gan ddefnyddio’r dull oedd orau ganddynt, boed hynny yn bersonol, drwy’r post neu drwy ddirprwy. Nid oedd unrhyw wahaniaethau arwyddocaol ar draws gwledydd y DU nac yn ôl demograffeg. Roedd pleidleiswyr a bleidleisiodd yn bersonol yn fwy tebygol o ddweud eu bod wedi pleidleisio gan ddefnyddio eu dull dewisol (96%) o gymharu â phleidleiswyr post (91%), gan awgrymu bod rhai yn dewis pleidleisio drwy'r post allan o reidrwydd.
Gofynnwyd i bleidleiswyr post pam eu bod yn dewis pleidleisio drwy'r post a dywedodd y rhan fwyaf (32%) mai'r rheswm am hyn oedd nad oeddent am bleidleisio'n bersonol. Fodd bynnag, dywedodd rhai mai’r rheswm am hyn oedd nad oedd ganddynt amser i fynd i’w gorsaf bleidleisio ar 4 Gorffennaf (13%), eu bod i ffwrdd ar wyliau (14%) neu eu bod yn ei chael yn anodd cyrraedd neu deithio i’w gorsaf bleidleisio (18%).
Roedd pleidleiswyr yn ei chael hi’n hawdd llenwi eu papurau pleidleisio
Roedd bron pob pleidleisiwr yn etholiad cyffredinol y DU (98%) o’r farn ei bod yn hawdd llenwi eu papur pleidleisio, sy’n gyson â’n hymchwil o etholiadau Mai 2024.
Caiff hyn ei ategu hefyd gan lefelau'r pleidleisiau a wrthodwyd yn yr etholiadau hyn. Yn etholiad cyffredinol 2024, cafodd 0.4% o bapurau pleidleisio eu gwrthod, oherwydd eu bod wedi’u llenwi’n anghywir neu wedi’u gadael yn wag. Yn 2019, y ffigur oedd 0.36%.
Roedd y gyfradd wrthod yn Llundain ar gyfer etholiad y Maer yn 2024 yn debyg, sef 0.5%, yn sylweddol is nag mewn etholiadau maerol blaenorol. Yn dilyn newid yn y gyfraith, defnyddiwyd system bleidleisio y Cyntaf i'r Felin am y tro cyntaf yn yr etholiad hwn. Cyn 2024, etholwyd Maer Llundain gyda'r system Pleidlais Atodol, a oedd yn gofyn i bleidleiswyr am eu dewisiadau cyntaf ac ail. Yn 2021, cafodd 4.3% o bleidleisiau maerol dewis cyntaf eu gwrthod yn Llundain ac yn 2016 cafodd 1.9% eu gwrthod.
Fel arfer mae llai o bleidleisiau’n cael eu gwrthod mewn etholiadau’r Cyntaf i'r Felin o gymharu â systemau eraill sy'n ei gwneud yn ofynnol i bleidleiswyr farcio'r papur pleidleisio sawl gwaith. Fodd bynnag, roedd y lefel uwch o bleidleisiau a wrthodwyd yn 2021 yn etholiad Maer Llundain hefyd oherwydd problemau gyda chynllun y papur pleidleisio a’r nifer uchel o ymgeiswyr maerol.
Roedd pleidleiswyr post yn ei chael hi'n hawdd cwblhau eu pleidleisiau post
Dywedodd y rhan fwyaf o bleidleiswyr post (96%) ei bod hi’n hawdd cwblhau eu pecyn pleidleisio drwy’r post. Nid oedd unrhyw wahaniaethau ar draws gwledydd y DU a chyfyngedig oedd yr amrywiad yn ôl demograffeg wahanol. Roedd y pleidleiswyr ieuengaf, rhwng 18 a 24 oed, yn llai tebygol o’i chael hi’n hawdd, o gymharu â’r rhai dros 55 oed, ond wedi dweud hynny roedd 90% o bobl ifanc 18 i 24 oed yn dweud ei fod yn hawdd. Yn yr un modd, roedd pobl anabl a ddywedodd eu bod wedi’u ‘cyfyngu’n fawr’ gan anabledd neu gyflwr iechyd, yn llai tebygol o ddweud ei fod yn hawdd (93%) na phobl heb anabledd (98%), ond roedd canfyddiadau yn dal yn gadarnhaol iawn i bawb.
Mae data a ddarparwyd gan Swyddogion Canlyniadau ar y gyfran o bleidleisiau post a wrthodwyd (lle na ellir dilysu dynodyddion personol llofnod a dyddiad geni) yn dangos bod lefelau gwrthod pleidlais yn weddol debyg i'r rhai a gofnodwyd mewn etholiadau blaenorol. Yn gyffredinol, yn etholiad cyffredinol 2024, cafodd 2.2% o bleidleisiau post a ddychwelwyd (tua 168,000 o bleidleisiau i gyd) eu gwrthod ac ni fu modd eu cynnwys yn y cyfrif.
Cafodd rhai pobl help wrth bleidleisio
Dywedodd nifer fach o bleidleiswyr fod angen help arnynt i lenwi eu papur pleidleisio – 3% o’r rhai a bleidleisiodd yn bersonol a 3% o’r rhai a bleidleisiodd drwy’r post. Yn y ddau achos, roedd pobl ifanc yn fwy tebygol na phobl hŷn o ddweud eu bod wedi cael help. Ymhlith y rhai a bleidleisiodd yn bersonol, roedd pobl anabl sydd ‘wedi’u cyfyngu’n fawr’ gan eu hanabledd neu gyflwr iechyd, a phobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig hefyd yn fwy tebygol o ddweud eu bod wedi cael help.
Gofynnwyd i'r pleidleiswyr hyn ddewis y prif reswm pam y gwnaeth rhywun eu helpu i bleidleisio. Ar gyfer pleidleiswyr post, y prif reswm a roddwyd oedd oherwydd anhawster i ddilyn y cyfarwyddiadau ynghylch cwblhau’r papur pleidleisio. Ar gyfer pleidleiswyr personol, roedd yr ymatebion wedi'u dosbarthu'n fwy cyfartal er bod chwarter yn dweud ei fod yn ymwneud ag anabledd neu gyflwr iechyd.
Tabl 1: Rhesymau a roddwyd gan y 3% o bleidleiswyr a ddywedodd eu bod wedi cael help wrth bleidleisio
Y prif reswm dros gael help | Pleidleiswyr personol a gafodd help | Pleidleiswyr post a gafodd help |
---|---|---|
Mae gen i anabledd neu gyflwr iechyd | 24% | 27% |
Doeddwn i ddim yn gwybod i bwy y dylwn bleidleisio a gofynnais i rywun fy helpu | 20% | 10% |
Mynnodd oedolyn arall fy helpu i ddewis pwy i bleidleisio drosto | 20% | 9% |
Es i â phlentyn o dan 18 oed gyda mi a daethant i mewn i'r bwth pleidleisio | 14% | Amherthnasol |
Roedd y cyfarwyddiadau’n anodd eu deall | Amherthnasol | 43% |
Rheswm arall | 22% | 11% |
Ymhlith pleidleiswyr post a phleidleiswyr personol, dywedodd rhai fod oedolyn arall wedi mynnu eu helpu i ddewis pwy i bleidleisio drosto. Ni allwn farnu o'r data hwn i ba raddau nad oedd y pleidleisiwr yn dymuno help na graddau’r mewnbwn gan berson arall. Fodd bynnag, mae'n bosibl bod rhai o'r achosion hyn yn ymwneud â help nad oedd y pleidleisiwr yn ei ddymuno neu help yr oedd yn ei ystyried yn gymhellol.
Ar ddiwrnod yr etholiad ym mis Mai a mis Gorffennaf, ymwelodd cynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol â gorsafoedd pleidleisio ac arsylwi ar nifer fach o achosion lle ceisiodd rhywun fynd i mewn i'r bwth pleidleisio gyda phleidleisiwr arall. Gwelsom hefyd staff gorsafoedd pleidleisio yn atal hyn rhag digwydd, er nad oedd yr ymateb yn unffurf ar draws yr holl orsafoedd pleidleisio. Adroddodd sefydliadau arsylwi achrededig eraill, fel Gwirfoddolwyr Democratiaeth a Chymdeithas Seneddol y Gymanwlad, hefyd ar achosion mewn gorsafoedd pleidleisio lle mae'n bosibl nad oedd cyfrinachedd y bleidlais wedi'i gadw.
Bychan yw'r cyfrannau sydd o dan sylw yma. Dim ond 3% o bleidleiswyr yn gyffredinol a ddywedodd wrthym eu bod wedi cael help, a gofynnwyd am y rhan fwyaf o'r help hwnnw am reswm penodol. Ond mae’n hanfodol bod pob pleidleisiwr yn gallu pleidleisio heb orfodaeth na phwysau. Byddwn yn parhau i ddarparu gwybodaeth i bleidleiswyr am eu hawliau. Byddwn hefyd yn sicrhau bod gan staff gorsafoedd pleidleisio ganllawiau sy'n eu cefnogi i ddiogelu cyfrinachedd pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio. Mae hyn yn cynnwys gwybod pryd a sut i herio ymddygiad a allai dorri cyfrinachedd y bleidlais, a hysbysu'r heddlu am honiadau o droseddau posibl o dan y gyfraith etholiadol bresennol.
Rhwystrau rhag pleidleisio yn yr etholiadau
Yr hyn sy'n cael sylw yn yr adran hon
Ar y cyfan, roedd y rhan fwyaf o bobl a oedd yn dymuno pleidleisio yn etholiad cyffredinol y DU yn gallu gwneud hynny'n hyderus. Fodd bynnag, mae ein hymchwil wedi canfod bod rhai pleidleiswyr yn parhau i brofi heriau wrth fwrw eu pleidlais. Rhaid mynd i'r afael â'r rhain i gefnogi cyfranogiad ac ymddiriedaeth mewn etholiadau yn y dyfodol.
Darparodd Swyddogion Canlyniadau gymorth i bleidleiswyr anabl, ond mae angen gwella ymwybyddiaeth o'r cymorth hwn
Gwnaeth Deddf Etholiadau 2022 newidiadau i’r cymorth a’r cyfarpar y gall Swyddogion Canlyniadau ei ddarparu i alluogi i bobl anabl bleidleisio’n annibynnol ac yn gyfrinachol neu i’w gwneud yn haws iddynt wneud hynny.
Roedd newidiadau hefyd i’r sawl a all fod yn ‘gydymaith’. Gall unrhyw un sy'n 18 oed neu'n hŷn nawr fynd gyda phleidleisiwr anabl i'r orsaf bleidleisio ac, os bydd y pleidleisiwr yn gofyn amdano, gall roi cymorth. Nid oes angen i’r cydymaith fod yn gymwys i bleidleisio yn yr etholiad, ond mae’n rhaid iddynt gwblhau datganiad cyn darparu help i’r pleidleisiwr.
Daeth y newidiadau hyn i rym am y tro cyntaf yn yr etholiadau lleol yn Lloegr a Gogledd Iwerddon yn 2023. Etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu oedd y tro cyntaf y daeth y newidiadau i rym yng Nghymru. Etholiad cyffredinol y DU oedd y tro cyntaf iddynt ddod i rym yn yr Alban.
Rydym yn darparu arweiniad i Swyddogion Canlyniadau i'w cefnogi i gyflawni'r gofynion hygyrchedd. Cyn etholiad cyffredinol y DU, cyhoeddodd Cynullydd y Bwrdd Rheoli Etholiadol (EMB) ar gyfer yr Alban argymhellion hefyd i gefnogi gweinyddwyr yn yr Alban i wella hygyrchedd.
Darparodd Swyddogion Canlyniadau gymorth i bleidleiswyr mewn gorsafoedd pleidleisio
Yn dilyn yr etholiadau, gofynnwyd i weinyddwyr etholiadol a staff gorsafoedd pleidleisio am eu hadborth ar y cymorth hygyrchedd a ddarparwyd ganddynt. Gofynnwyd iddynt hefyd a wnaeth pleidleiswyr unrhyw geisiadau penodol am gymorth neu gyfarpar, y tu hwnt i'r hyn yr oedd y gweinyddwr eisoes wedi'i roi ar waith. Roedd yr ymatebion i’n harolygon yn wirfoddol, felly nid ydynt yn sampl gynrychioliadol o farn yr holl weinyddwyr. Ymhlith y gweinyddwyr a ymatebodd, canfuwyd y canlynol:
- Bod dros bedwar o bob pump (84%) o’r farn bod ein canllawiau ar gymorth i bleidleisio i bobl anabl yn ddefnyddiol, gyda dros hanner (62%) yn dweud eu bod yn ddefnyddiol iawn
- Darparodd bron pob gorsaf bleidleisio ran fwyaf yr eitemau o'r rhestr o gyfarpar y dylid eu darparu fel isafswm, fel y nodir yn ein canllawiau
- Dengys y data etholiadol a ddychwelwyd i ni mai dim ond 117 o geisiadau a gafwyd yn gyffredinol am gyfarpar penodol
Gall Swyddogion Canlyniadau ystyried ffactorau lleol wrth benderfynu pa gymorth a chyfarpar i'w darparu. Mewn achosion lle y dywedodd gweinyddwyr wrthym nad oedd y cyfarpar gofynnol wedi’i ddarparu, roedd hynny bron bob amser i’w briodoli i achos lle nad oedd angen y cyfarpar hwnnw. Er enghraifft, ni fydd mannau parcio ar gael mewn rhai gorsafoedd pleidleisio neu efallai na fydd angen rampiau arnynt.
Darparwyd y rhan fwyaf o'r cyfarpar a oedd ar gael mewn gorsafoedd pleidleisio yn rhagweithiol. Dywedodd nifer fach o weinyddwyr eu bod yn mynd y tu hwnt i'r isafswm rhestr o gyfarpar oherwydd gwybodaeth leol. Roedd y cymorth ychwanegol a ddarparwyd ganddynt yn cynnwys:
- Dyfeisiau sain neu godau QR i gael mynediad at y papur pleidleisio mewn fformat sain
- Papurau pleidleisio Braille
- Dolenni clyw
- Troshaenau lliw
Fel mewn etholiadau diweddar, gallai pleidleiswyr yng Ngogledd Iwerddon gael mynediad at linell gymorth ffôn i wrando ar y rhestr o ymgeiswyr oedd yn sefyll yn eu hetholaeth.
Roedd nifer cyfyngedig o geisiadau gan bleidleiswyr am ddarpariaeth cymorth neu gyfarpar penodol i'w galluogi, neu i'w gwneud yn haws, iddynt bleidleisio.
Dywedodd gweinyddwyr y gallent fodloni llawer o'r ceisiadau am gyfarpar penodol, ond nad oedd hyn yn bosibl ym mhob achos. Os na ellid bodloni ceisiadau, roedd hyn weithiau o ganlyniad i'r cais yn cyrraedd yn rhy agos at y diwrnod pleidleisio.
“Gofynnodd rhywun am ddyfeisiau sain tua wythnos cyn yr etholiad ac nid oeddem yn gallu gwneud hyn mewn pryd.”
Ni ellid darparu dulliau eraill, fel fformatau amgen o bapurau pleidleisio i farcio pleidlais arnynt, o gwbl. Roedd hyn oherwydd bod yn rhaid i bapurau pleidleisio ddilyn y manylebau dylunio ac argraffu a ragnodwyd mewn deddfwriaeth, a rhaid i bapurau pleidleisio a ddefnyddir gan bleidleiswyr post a phleidleiswyr gorsafoedd pleidleisio fod yr un fath o ran cynllun a maint.
“Doedden ni ddim yn gallu bodloni cais i gynhyrchu papur pleidleisio ar bapur lliw gwahanol ar gyfer pleidleisiwr post a byddai’r unig addasiadau rhesymol a oedd yn dderbyniol iddynt wedi golygu bod angen newid eu dull pleidleisio o bleidleisio drwy’r post i drefniadau dirprwy, ac ni fu modd i ni gynorthwyo â hynny gan fod y dyddiad cau ar gyfer newid trefniadau pleidleisio absennol eisoes wedi mynd heibio.”
Nododd rhai gweinyddwyr hefyd fod cyllid yn chwarae rhan yn eu penderfyniadau.
“Does dim problem dod o hyd i gyfarpar hygyrchedd ond mae pryder bob amser ynghylch faint o’r gost fydd yn cael ei ad-dalu gan [yr Uned Hawliadau Etholiadau].”
Dywedodd llawer o weinyddwyr wrthym eu bod wedi ceisio ymgysylltu â grwpiau anabledd a sefydliadau cymdeithas sifil lleol. Fodd bynnag, nododd rhai eu bod wedi wynebu problemau wrth wneud hynny, oherwydd nad oedd amseriad etholiad cyffredinol y DU wedi gadael llawer o amser iddynt gynnal gwaith ymgysylltu penodol. Cafwyd ymatebion cymysg gan eraill i'w hymdrechion i ymgysylltu. Pan oedd gweinyddwyr yn gallu gweithio gyda grwpiau lleol, dywedwyd bod hyn wedi bod yn ddefnyddiol wrth lywio'r hyfforddiant a'r cymorth a ddarparwyd.
“Cafodd y tîm etholiadau hyfforddiant arbenigol gan elusennau lleol i bobl â nam ar eu clyw a nam ar eu golwg. Cafodd hyn ei ymgorffori i sesiynau hyfforddi gorsafoedd pleidleisio.”
“Fe wnaethon ni ymgysylltu â grwpiau anabledd a defnyddio adborth i ddarparu cymorth, a hefyd rhwydwaith staff anabl i gael safbwynt cydweithwyr hefyd.”
Nododd rhai fod y graddau y gallai hyfforddiant gwmpasu mesurau hygyrchedd yn gyfyngedig o ganlyniad i nifer y newidiadau eraill yn sgil y Ddeddf Etholiadau.
“Rydyn ni’n cynnwys cynorthwyo pobl ag anableddau wrth hyfforddi staff pleidleisio. Hoffwn wneud mwy, ond mae hyfforddiant, gyda’r holl fesurau newydd, bellach yn cymryd dros ddwy awr. Dim ond hyn a hyn o wybodaeth a hyfforddiant y gallwch ei roi i aelod o staff sydd ond yn gweithio am un diwrnod, a dim ond unwaith bob ychydig flynyddoedd o bosib.”
Gofynnwyd i staff gorsafoedd pleidleisio am eu profiadau. Ymhlith y rhai a ymatebodd i’n harolwg:
- Roedd mwyafrif (93%) o’r farn eu bod wedi’u hyfforddi’n dda i gefnogi pleidleiswyr yr oedd angen cymorth ychwanegol arnynt
- Roedd y rhan fwyaf yn teimlo’n hyderus y byddent yn gallu cynorthwyo pleidleiswyr anabl – gan gynnwys pleidleiswyr sy’n anabl yn gorfforol (97%), yn ddall neu’n rhannol ddall (94%), yn fyddar neu â nam ar eu clyw (90%), neu sydd ag anabledd dysgu (91%)
- Roedd dros bedwar o bob pump (88%) o’r farn y byddent yn hyderus i gynorthwyo rhywun yr oedd angen iddynt ddefnyddio dyfais bleidleisio gyffyrddol
Yn gyffredinol, dywedodd niferoedd uchel o staff gorsafoedd pleidleisio fod y rhestr ofynnol o gyfarpar a argymhellir ar gael yn eu gorsaf bleidleisio. Fodd bynnag, er bod llawer o’r farn bod y cyfarpar a oedd ar gael yn ddefnyddiol, dywedodd 14% o staff gorsafoedd pleidleisio fod o leiaf un pleidleisiwr anabl wedi cael problemau naill ai'n cael mynediad i'r orsaf bleidleisio neu wrth lenwi'r papur pleidleisio.
Dylid gwella ymwybyddiaeth o'r mesurau hygyrchedd newydd
Yn ôl ein hymchwil gyda’r rhai a bleidleisiodd yn yr etholiadau:
- Dywedodd bron pob oedolyn (96%) a bleidleisiodd yn bersonol ac a ddywedodd wrthym fod ganddynt anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor ei bod yn hawdd mynd i mewn i’r orsaf bleidleisio a phleidleisio. Roedd hyn yn gyson ledled y DU (Cymru 96%, Lloegr 96%, yr Alban 97% a Gogledd Iwerddon 95%)
- Roedd pleidleiswyr sy’n dweud eu bod wedi’u cyfyngu’n fawr gan eu hanabledd neu gyflwr iechyd hirdymor yn fwy tebygol o ddweud eu bod wedi mynd i’r orsaf bleidleisio gyda pherson arall a’u helpodd i bleidleisio (14%) na phleidleiswyr yn gyffredinol (3%).
- Dywedodd un o bob ugain o’r rhai a bleidleisiodd yn bersonol ag anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor (5%) fod angen cymorth neu gyfarpar ychwanegol arnynt. Ymhlith y grŵp hwn, dywedodd 74% eu bod o’r farn bod y cymorth neu’r cyfarpar yr oedd ei angen arnynt ar gael iddynt yn yr orsaf bleidleisio (dywedodd 19% nad oedd, nid oedd 4% yn gwybod a byddai’n well gan 3% beidio â dweud)
Gofynnwyd i bawb sydd ag anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor am eu barn am y profiad o bleidleisio yn etholiad cyffredinol y DU:
- Cytunodd 49% o bleidleiswyr fod y cyfarpar, y wybodaeth a’r cymorth sydd eu hangen arnynt i bleidleisio ar gael, gyda 7% yn anghytuno
- Roedd 47% o’r farn bod staff mewn gorsafoedd pleidleisio wedi'u hyfforddi'n briodol i'w cynorthwyo i bleidleisio, tra bod 6% yn anghytuno
- Roedd 59% yn anghytuno bod y ffordd y caiff etholiadau eu rhedeg ar hyn o bryd yn eu hatal rhag pleidleisio yn bersonol, gydag un o bob deg (9%) yn cytuno
Lle nad oedd yr ymatebwyr yn cytuno nac yn anghytuno, gallent ddewis un o’r opsiynau canlynol: ddim yn cytuno nac yn anghytuno, ddim yn berthnasol, ddim yn gwybod, neu’n well ganddynt beidio â dweud. Gallai’r rhesymau dros ddewis yr opsiynau hyn gynnwys nad oedd angen iddynt ddefnyddio cyfarpar na chymorth i bleidleisio, neu gallai fod oherwydd nad oeddent wedi cael gwybod eu bod ar gael.
Gofynnwyd hefyd i sefydliadau cymdeithas sifil a’r bobl y maent yn eu cefnogi am adborth ar eu profiadau yn yr etholiadau eleni, ar effaith ID pleidleisiwr a’r mesurau hygyrchedd newydd. Mae’r adborth yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar brofiadau byw pobl anabl, er bod nifer yr ymatebion a’r sampl hunanddewisol yn golygu nad ydynt yn cynrychioli barn pob person anabl.
Roedd y rhan fwyaf o bobl a roddodd adborth wedi ei chael hi'n hawdd cofrestru a phleidleisio. Fodd bynnag, nid oedd llawer o bobl yn ymwybodol o'r cymorth a oedd ar gael iddynt yn yr orsaf bleidleisio. Roedd hyn yn cynnwys y cyfarpar y dylid ei ddarparu, yn ogystal â'r cymorth a'r gefnogaeth sydd ar gael gan staff a chymdeithion.
“Cyn eich arolwg, doeddwn i ddim yn ymwybodol ei bod yn bosibl cael cymorth mewn gorsaf bleidleisio.”
“Gellir gwneud mwy i roi cyhoeddusrwydd i’r gwahanol ffyrdd o bleidleisio a pha gymorth a chymhorthion hygyrchedd sydd ar gael mewn gorsafoedd pleidleisio.”
Mewn rhai achosion, lle gofynnwyd am gyfarpar, roedd y pleidleiswyr o’r farn nad oedd staff yn gyfarwydd â sut i'w ddefnyddio.
“[Gallai staff gorsafoedd pleidleisio wella] drwy wybod am y cynnyrch a sut maen nhw’n gweithio, fel eu bod nhw’n gallu eu hesbonio heb ddweud ‘Dydw i ddim yn siŵr’ a ‘dw i’n credu mai dyna sut mae’n gweithio’. Roedd yn rhaid i mi egluro wrth y staff y gwahaniaeth rhwng y chwyddwydr mawr a bach.”
Yn ogystal, cododd rhai pobl bryderon ynghylch:
- Y ffaith nad yw’r wybodaeth a ddarperir gan bleidiau ac ymgeiswyr bob amser mewn fformat hygyrch
- Y gofyniad i ddangos llun ID a'i effaith ar p’un a oedd rhai ymatebwyr yn dewis pleidleisio o gwbl neu'n bersonol
- Anawsterau gwneud cais am bleidlais bost a'i chwblhau
- Problemau gyda mynediad corfforol i'r orsaf bleidleisio
“Roedd angen cymorth rhywun arnaf wrth bleidleisio drwy’r post, gan nad oedd y wybodaeth mewn fformat hygyrch, ynghyd â’r ffaith na fyddwn yn gwybod pa flwch y byddwn yn rhoi tic ynddo, oherwydd fy nallineb.”
“Byddai wedi bod yn ddefnyddiol pe bai yna [agoriadau lletach] i’r drysau oherwydd prin fy mod yn gallu ffitio drwy’r drws.”
Argymhelliad 1: Dylid cynyddu ymwybyddiaeth o'r cymorth hygyrchedd sydd ar gael yn yr orsaf bleidleisio
Gellir gwneud mwy i wella ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael i bleidleiswyr mewn gorsafoedd pleidleisio.
Dylai gwybodaeth ar-lein ac all-lein esbonio'r cymorth sydd ar gael i bleidleiswyr. Mae hyn yn cynnwys egluro pa gymorth y gall pleidleiswyr ei ddisgwyl mewn gorsafoedd pleidleisio, a sut y gallent ofyn am gyfarpar neu gymorth ychwanegol.
Dylid darparu'r wybodaeth hon ar gardiau pleidleisio ac ar wefannau awdurdodau lleol mewn da bryd cyn yr etholiad. Dylid ei ddarparu hefyd i bleidleiswyr mewn gorsafoedd pleidleisio. Byddwn yn ystyried a oes angen i'n canllawiau ar gyfer Swyddogion Canlyniadau fod yn fwy penodol neu'n gliriach ynghylch sut i ddarparu'r wybodaeth hon.
Byddwn hefyd yn ystyried a ellid defnyddio'r offeryn Gwybodaeth Etholiad rydym yn ei gynnal gyda'r Clwb Democratiaeth i ddarparu gwybodaeth i bleidleiswyr am y cymorth y gallent ei gael yn eu gorsaf bleidleisio leol.
Byddwn yn parhau i godi ymwybyddiaeth ymhlith pleidleiswyr. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda llywodraethau’r DU, awdurdodau lleol, sefydliadau elusennol a chymdeithas sifil. Byddwn hefyd yn gweithio gyda’r cyfryngau lleol a chenedlaethol i roi gwybod am y cymorth sydd ar gael. Byddwn yn nodi ac yn rhannu enghreifftiau o arferion da a gwersi perthnasol a ddysgwyd.
Mae llywodraethau Cymru a’r Alban yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth newydd fel bod mwy o gymorth yn cael ei ddarparu mewn etholiadau datganoledig yng Nghymru a’r Alban. Byddwn yn gweithio gyda swyddogion, gweinyddwyr a sefydliadau cymdeithas sifil i'w cefnogi i sicrhau bod y newidiadau hynny'n gweithio er budd pleidleiswyr.
Effeithiodd oedi gyda phleidleisiau post ar allu rhai pobl i bleidleisio, ond roedd y nifer a bleidleisiodd yn parhau i fod yn uchel ar y cyfan
Gall pobl nad ydynt am bleidleisio'n bersonol yn yr orsaf bleidleisio wneud cais i bleidleisio drwy'r post neu benodi dirprwy i bleidleisio ar eu rhan. Gwnaeth mwy na 1.3 miliwn o bobl gais i bleidleisio drwy’r post ar ôl cyhoeddi etholiad cyffredinol y DU, a dyma’r etholiad cyffredinol cyntaf yn y DU y gallai pobl wneud cais ar-lein ar ei gyfer.
Yn ystod yr etholiad, cawsom adroddiadau am rai pleidleiswyr nad oeddent wedi derbyn eu pecynnau pleidleisio drwy'r post. Roedd yr adroddiadau hyn yn bennaf yn yr Alban, lle'r oedd y diwrnod pleidleisio yn cyd-daro â chyfnod gwyliau'r haf, ac mewn rhai ardaloedd yn Lloegr. Cafodd yr adroddiadau hyn sylw gan ystod eang o gyfryngau.
Canfu ein dadansoddiad nad oedd unrhyw broblemau systemig eang gyda phleidleisio drwy'r post a bod y rhan fwyaf o bobl yn fodlon â'r dull hwn o bleidleisio. Ledled y DU, dywedodd 89% o bleidleiswyr post wrthym eu bod yn fodlon ar y broses o bleidleisio (95% yng Ngogledd Iwerddon, 91% yng Nghymru, 89% yn Lloegr ac 85% yn yr Alban).
Fodd bynnag, wynebodd rhai pleidleiswyr broblemau oedd yn deillio o nifer o faterion gan gynnwys:
- Amseru’r etholiad
- Y cynnydd mewn ceisiadau am bleidleisio absennol yn agos at y dyddiad cau (y gellid ei wneud ar-lein am y tro cyntaf)
- Diffyg ymwybyddiaeth y cyhoedd ynghylch amseriad dosbarthu pleidleisiau post a bod modd pleidleisio drwy ddirprwy
- Yr amserlen ar gyfer etholiad cyffredinol y DU (sy’n fyrrach nag ar gyfer etholiadau eraill, fel etholiadau Senedd yr Alban)
- Problemau gyda chyflenwyr print a meddalwedd
Nid oedd cyfanswm cyffredinol y pleidleisiau post yn broblem allweddol. Bu cynnydd nodedig yng nghyfran y bobl oedd wedi cofrestru ar gyfer pleidlais bost ers etholiad cyffredinol y DU 2019 – o 18% i 20%. Roedd pandemig Covid-19 yn sbardun sylweddol ar gyfer pleidleisio drwy’r post, a phleidleisiodd niferoedd uchel drwy’r post mewn etholiadau rhwng 2021 a 2023. Yn yr Alban, dosbarthwyd ychydig yn fwy o bleidleisiau post yn etholiad Senedd yr Alban 2021 (ychydig dros filiwn) nag yn etholiad cyffredinol y DU 2024 (ychydig llai na miliwn).
Efallai fod rhai pleidleiswyr yn disgwyl i bleidleisiau post gyrraedd yn gynt
Roedd amseriad yr etholiad yn ystod cyfnod gwyliau'r haf yn golygu y gallai rhai pobl fod wedi gwneud cais am bleidlais bost oherwydd eu bod yn gwybod eu bod i ffwrdd ar y diwrnod pleidleisio. Nid yw'n anghyffredin i becynnau pleidleisio drwy'r post gyrraedd ychydig cyn y diwrnod pleidleisio.
Fodd bynnag, efallai nad oedd llawer o bleidleiswyr yn ymwybodol o hyn ac yn disgwyl eu derbyn mewn pryd i bleidleisio cyn iddynt fynd ar wyliau. Mae’n bosibl hefyd nad oedd rhai pleidleiswyr yn ymwybodol o’r opsiwn o bleidleisio drwy ddirprwy neu efallai nad oedd ganddynt rywun a allai fod yn ddirprwy iddynt ar y diwrnod pleidleisio.
Wrth symleiddio’r broses ar gyfer pleidleiswyr, gallai’r gallu i wneud cais ar-lein am bleidlais absennol, yn hytrach na thrwy lenwi ffurflen bapur neu gysylltu â’u swyddfa gofrestru leol, fod wedi’i gwneud yn llai tebygol bod pleidleiswyr yn gwybod am amseriad disgwyliedig dosbarthu pleidleisiau post a’r opsiynau pleidleisio gwahanol oedd ar gael iddynt (gan gynnwys drwy ddirprwy).
Ni chaiff pecynnau pleidleisio drwy’r post eu prosesu a’u cyhoeddi ‘ar gais’. Cânt eu prosesu, eu hargraffu a'u hanfon mewn sypiau. Yn etholiad cyffredinol y DU yn 2024:
- Digwyddodd dosbarthiad cyntaf y pleidleisiau post yn fuan ar ôl y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau ar 7 Mehefin. Byddai pobl a oedd eisoes â phleidlais bost, neu a wnaeth gais am un cyn 7 Mehefin, wedi derbyn eu pleidlais bost yn y dosbarthiad cyntaf hwn
- Roedd disgwyl i bobl a wnaeth gais ychydig cyn y dyddiad cau i gofrestru ar gyfer pleidlais bost dderbyn eu pecyn pleidleisio drwy'r post fel rhan o ail ddosbarthiad.
Yn wahanol i brosesau statudol eraill, nid yw'r dyddiadau cau ar gyfer prosesu a chyhoeddi pecynnau pleidleisio drwy'r post wedi'u nodi yn y ddeddfwriaeth. Fodd bynnag, mae nifer o derfynau amser statudol y mae'n rhaid i weinyddwyr etholiadol eu hystyried wrth gynllunio:
- Cau enwebiadau ymgeiswyr, 19 diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio. Ni ellir argraffu papurau pleidleisio cyn y dyddiad cau hwn.
- Cofrestru i bleidleisio, 12 diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio
- Ceisiadau i bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy (Prydain Fawr yn unig), 11 a chwe diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio yn y drefn honno
- Ceisiadau i bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy (Gogledd Iwerddon), 14 diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio
- Ceisiadau am bleidlais post newydd yn lle un a aeth ar goll, bedwar diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio. Cyn hyn, ni all gweinyddwyr etholiadol ailddyrannu pecynnau pleidleisio drwy'r post i bleidleiswyr.
Mae cyfnod amser cyfyngedig o fewn amserlen yr etholiad i weinyddwyr etholiadol brosesu a dosbarthu pecynnau pleidleisio drwy'r post.
Yn yr Alban, cyhoeddodd cynullydd Bwrdd Rheoli Etholiadol yr Alban gyfres o argymhellion cyn yr etholiad i gefnogi Swyddogion Cofrestru Etholiadol a Swyddogion Canlyniadau i hyrwyddo cysondeb ac i gefnogi mesurau wrth gefn effeithiol. Roedd hyn yn cynnwys argymell dyddiadau penodol ar gyfer dosbarthiad cyntaf y cardiau pleidleisio a’r pleidleisiau post.
Ychwanegwyd pwysau at y system gan nifer fawr o geisiadau yn agos at y dyddiad cau
Yn ogystal â’r heriau amseru, roedd 1.3 miliwn o geisiadau am bleidleisiau post ym Mhrydain Fawr rhwng yr etholiad yn cael ei alw ar 22 Mai a’r dyddiad cau ar 19 Mehefin. Roedd hyn yn cynnwys bron i 470,000 o geisiadau o 14 Mehefin ymlaen, pan oedd pleidleiswyr post presennol yn dechrau derbyn eu pecynnau pleidleisio drwy'r post.
Nid oes data ar gael ar nifer y ceisiadau a dderbyniwyd cyn etholiadau cyffredinol blaenorol y DU, ond mae dau ffactor yn awgrymu bod nifer y ceisiadau hwyrach yn uwch yn yr etholiad hwn:
- Mae’r gallu i wneud cais ar-lein yn debygol o fod wedi cynyddu nifer y ceisiadau a dderbyniwyd yn agos at y dyddiad cau (fel y mae wedi’i wneud gyda cheisiadau i gofrestru i bleidleisio)
- Roedd amseriad yr etholiad yn ystod cyfnod gwyliau'r haf yn yr Alban a Gogledd Iwerddon yn golygu y byddai rhai pobl, y byddai'n well ganddynt bleidleisio'n bersonol efallai, wedi bod i ffwrdd ar ddiwrnod y bleidlais ac wedi dewis pleidleisio drwy'r post.
Mae angen anfon pleidleisiau post at yr etholwyr ac yna rhaid eu dychwelyd. Po fwyaf o geisiadau sy'n cael eu prosesu'n nes at y diwrnod pleidleisio, y mwyaf o bleidleisiau post fydd yn cyrraedd pleidleiswyr yn agos at y diwrnod pleidleisio a'r mwyaf yw'r risg o oedi wrth anfon, sy'n golygu na fydd rhai pobl yn gallu bwrw eu pleidlais.
Yng Ngogledd Iwerddon, bu cynnydd yn nifer y ceisiadau am bleidlais bost, yn bennaf oherwydd bod yr etholiad yn cyd-daro â gwyliau'r ysgol. Fodd bynnag, nid oedd yn ymddangos bod problemau sylweddol i bleidleiswyr post. Mae’n debyg mai’r rheswm am hyn yw nad yw pleidleisio drwy’r post yn ôl y galw ar gael yng Ngogledd Iwerddon, bod dyddiad cau cynharach ar gyfer gwneud cais am bleidlais absennol, ac oherwydd bod Swyddfa Etholiadol Gogledd Iwerddon yn prosesu ceisiadau yn ddyddiol, yn hytrach nag mewn sypiau.
Rhaid i bobl yng Ngogledd Iwerddon ddarparu Rhif Cofrestru Digidol i wneud cais am bleidlais absennol. Canfu ein hymchwil blaenorol fod y Rhif Cofrestru Digidol yn rhwystr i bleidleiswyr, o ystyried nifer y ceisiadau post a dirprwy a wrthodwyd oherwydd Rhif Cofrestru Digidol coll. Am y tro cyntaf yn etholiad cyffredinol y DU, cynigiodd Swyddfa Etholiadol Gogledd Iwerddon declyn chwilio ar-lein lle gallai pleidleiswyr wirio a oeddent wedi cofrestru i bleidleisio a chael eu Rhif Cofrestru Digidol. Roedd gostyngiad amlwg yn nifer y ceisiadau a wrthodwyd am beidio â chynnwys Rhif Cofrestru Digidol yn etholiad cyffredinol y DU, sy’n awgrymu i’r gwasanaeth hwn fod yn un effeithiol.
Cafodd rhai ardaloedd broblemau gyda chyflenwyr yn argraffu ac yn anfon pecynnau pleidleisio drwy'r post
Gyda gweinyddwyr yn gweithio yn ôl terfynau amser heriol, roedd yn hanfodol eu bod yn gallu dibynnu ar gyflenwyr allanol i ddarparu gwasanaethau argraffu. Fodd bynnag, yn yr Alban yn benodol roedd problemau gyda chapasiti cyflenwyr i gynhyrchu'r symiau gofynnol yn yr amser a oedd ar gael. Mae amserlen yr etholiad yn fyrrach ar gyfer etholiad cyffredinol y DU (25 diwrnod gwaith) nag ar gyfer etholiadau datganoledig yn yr Alban (35 diwrnod gwaith). Yn wahanol i etholiadau Senedd yr Alban, nid yw dyddiad etholiad cyffredinol y DU yn sefydlog ac roedd eleni yn cyd-daro â chyfnod gwyliau'r ysgol. Arweiniodd hyn at gynnydd yn y galw am bleidleisio drwy'r post yn yr Alban gan waethygu’r problemau gyda chapasiti.
Er enghraifft, mewn rhai ardaloedd, dim ond tua 50% o becynnau pleidleisio drwy'r post a ddosbarthwyd o fewn yr amserlenni a argymhellwyd gan y Bwrdd Rheoli Etholiadol ar gyfer y swp cyntaf o bleidleisiau post (18-19 Mehefin). Deëllir bod yr oedi hwn yn rhannol oherwydd problem yn y broses gynhyrchu. Roedd anfon ail swp y pecynnau pleidleisio drwy'r post hefyd yn destun oedi mewn rhai ardaloedd. Roedd hyn i gyd oherwydd sawl ffactor, gan gynnwys nifer y ceisiadau hwyrach, problemau cynhyrchu, ac amserlenni.
Oherwydd yr oedi wrth ddosbarthu a brofwyd gan rai pleidleiswyr post, sefydlodd rhai cynghorau yn yr Alban gyfleusterau galw heibio brys i bleidleiswyr gael pecyn pleidleisio drwy'r post newydd.
Roedd y nifer a bleidleisiodd drwy'r post yn parhau i fod yn uchel ar y cyfan
Er gwaethaf y problemau a wynebwyd gan rai pleidleiswyr, parhaodd y ganran a bleidleisiodd ymhlith y pleidleiswyr post yn uchel er, yn yr un modd â’r ganran a bleidleisiodd yn gyffredinol, gwelwyd gostyngiad o gymharu â 2019 (dychwelwyd 80.7% o bleidleisiau post yn 2024 o gymharu ag 83.9% yn 2019). Er ei bod yn amlwg bod rhai pleidleiswyr wedi wynebu problemau wrth geisio pleidleisio, nid oes tystiolaeth bod hyn wedi effeithio’n helaeth ar y nifer a bleidleisiodd yn yr Alban yn benodol, lle’r oedd y gostyngiad yng nghyfran y pleidleisiau post a ddychwelwyd yn llai nag mewn llawer o ardaloedd eraill.
Argymhelliad 2: Dylid diwygio systemau pleidleisio drwy’r post i wella’r gwasanaeth i bleidleiswyr a chryfhau gwytnwch y broses
Ni weithiodd systemau pleidleisio drwy'r post yn ddigon da i rai pleidleiswyr eleni. Roedd hyn yn golygu na dderbynion nhw eu pecynnau pleidleisio drwy’r post mewn pryd i'w cwblhau a'u dychwelyd cyn y diwrnod pleidleisio.
Mewn nifer cyfyngedig o ardaloedd, roedd hyn oherwydd gwallau neu broblemau gyda chyflenwyr. Mewn achosion eraill, nid oedd pleidleiswyr yn deall pryd y dylent ddisgwyl derbyn eu pleidleisiau post. Roedd hyn yn golygu nad oeddent yn gallu dewis ffordd wahanol o bleidleisio a fyddai’n gweddu’n well i’w hamgylchiadau.
Dylid diwygio’r system pleidleisiau absennol (gan gynnwys pleidleisio drwy’r post a phleidleisio drwy ddirprwy) i wella’r gwasanaeth i bleidleiswyr a chryfhau gwytnwch etholiadau’r dyfodol.
Dyma feysydd allweddol ar gyfer diwygio a gwella posibl:
- Gwella’r wybodaeth a roddir i bleidleiswyr cyn ac ar ôl iddynt wneud cais i bleidleisio drwy’r post – fel eu bod yn deall pryd y dylent ddisgwyl derbyn eu pleidlais bost, a’u bod yn gallu penderfynu a oes angen iddynt ddewis ffordd wahanol o bleidleisio
- Ystyried a yw'r dyddiad cau presennol ar gyfer ceisiadau am bleidlais bost yn caniatáu digon o amser i brosesu ceisiadau a dosbarthu pleidleisiau post fel y gall pleidleiswyr eu cwblhau a'u dychwelyd cyn y diwrnod pleidleisio
- Rheolau mwy hyblyg ar gyfer ailddosbarthu pleidleisiau post i bleidleiswyr nad ydynt wedi eu derbyn, fel y gellir eu hanfon allan yn gynt na'r terfyn amser presennol o bedwar diwrnod cyn y diwrnod pleidleisio
- Caniatáu i bleidleiswyr post ganslo eu pleidlais bost neu benodi dirprwy i bleidleisio ar eu rhan yn lle hynny, os nad ydynt wedi derbyn eu pleidlais bost mewn pryd i'w chwblhau a'i dychwelyd cyn y diwrnod pleidleisio
- Archwilio a allai mathau eraill o bleidleisio cyn y diwrnod pleidleisio roi dewisiadau amgen gwell i bleidleiswyr yn lle pleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy – gallai hyn gynnwys pleidleisio cynnar neu fathau eraill o bleidleisio hyblyg
- Ystyried a yw’r cyllid sydd ar gael i dalu am argraffu a dosbarthu pleidleisiau post yn ddigon i ateb y galw cynyddol, a gwella’r sylfaen gontract a chyflenwi i ddarparu’r lefel o wasanaeth y mae pleidleiswyr yn ei disgwyl.
Efallai y bydd angen newidiadau i ddeddfwriaeth neu gyllid ar gyfer y diwygiadau hyn. Dylai llywodraethau’r DU ac eraill ar draws y sector etholiadol ddatblygu atebion i’r rhain. Gan ddefnyddio'r sylfaen dystiolaeth hon, byddwn yn gweithio i nodi atebion effeithiol a sicrhau bod unrhyw newidiadau yn gwella hygyrchedd, eu bod yn ymarferol, ac yn cael eu cyfleu'n glir i bleidleiswyr, ymgyrchwyr, a gweinyddwyr etholiadol.
Mae pleidleiswyr tramor yn parhau i wynebu rhwystrau rhag cyfranogi
Dyma oedd yr etholiad cyffredinol cyntaf ers ymestyn yr etholfraint i ddinasyddion Prydeinig a Gwyddelig cymwys sydd wedi bod yn byw dramor am fwy na 15 mlynedd, gan ddileu’r cyfyngiad amser blaenorol.
Derbyniwyd mwy na 170,000 o geisiadau i gofrestru fel pleidleisiwr tramor rhwng cyflwyno’r newid hwn ar 16 Ionawr 2024 a’r dyddiad cau ar gyfer cofrestru cyn yr etholiad cyffredinol. Daeth tua 110,000 o'r ceisiadau hyn ar ôl i'r etholiad cyffredinol gael ei gyhoeddi ar 22 Mai. Cyfanswm y pleidleiswyr tramor a gofrestrwyd ar gyfer etholiad cyffredinol 2024 oedd 191,338.
Mae hyn yn llai na’r 234,000 a gofrestrodd i bleidleisio yn etholiad cyffredinol 2019. Ni allwn gynnal arolwg o sampl gynrychioliadol o bleidleiswyr tramor oherwydd nid oes unrhyw wybodaeth am y boblogaeth yn ei chyfanrwydd. Fodd bynnag, cynhaliwyd arolwg o 500 o ddinasyddion y DU sy’n byw dramor drwy YouGov a chanfuwyd bod ymwybyddiaeth o’r newid yn yr etholfraint yn isel – dim ond 26% a ddywedodd eu bod yn gwybod amdano.
Mae pleidleiswyr tramor yn parhau i gael trafferth i gymryd rhan drwy ddefnyddio’r opsiynau pleidleisio presennol
Fel mewn etholiadau diweddar eraill, wynebodd pleidleiswyr tramor gryn anawsterau wrth geisio cymryd rhan yn yr etholiad. Fe wnaethom dynnu sylw at dystiolaeth o’r materion hyn yn ein hadroddiadau statudol ar etholiadau cyffredinol y DU yn 2015, 2017 a 2019, yn ogystal ag yn dilyn refferendwm yr UE yn 2016 ac etholiad Senedd Ewrop yn 2019. Fodd bynnag, mae gennym dystiolaeth fanylach ynghylch maint y broblem ar gyfer yr etholiad hwn.
Gall pleidleiswyr tramor ddewis pleidleisio drwy'r post, drwy ddirprwy, neu'n bersonol os byddant yn y DU ar y diwrnod pleidleisio. Fel gyda phleidleiswyr post domestig, prin oedd yr amser oedd gan weinyddwyr etholiadol i ddosbarthu pleidleisiau post a'u derbyn yn ôl erbyn diwedd y cyfnod pleidleisio. Yn ogystal, yn dilyn ymestyn yr etholfraint, roedd pennu cymhwysedd pleidleiswyr tramor hefyd yn cymryd llawer o amser i’r gweinyddwyr. Roedd amserlenni hefyd yn fwy heriol i bleidleiswyr tramor gan ei bod yn cymryd mwy o amser i becyn pleidleisio drwy'r post gyrraedd eu gwlad breswyl ac yna i’w ddychwelyd i'r DU.
Nid oes gennym ddata ar faint o bleidleiswyr tramor a bleidleisiodd drwy ddirprwy. Gwyddom fod hanner (49%) yr holl bleidleiswyr tramor cofrestredig wedi cofrestru ar gyfer pleidlais bost. O'r rhain, dim ond 52% a ddychwelodd eu papur pleidleisio mewn pryd i gael ei gyfrif yn yr etholiad cyffredinol. Mae hyn yn golygu bod tua chwarter yr holl bleidleiswyr tramor cofrestredig wedi gallu pleidleisio drwy'r post, heb ddefnyddio dirprwy.
Tua 80% yw’r gyfradd ddychwelyd ar gyfartaledd ar gyfer pleidleisiau post domestig.
Roedd y dyddiadau dosbarthu a’r wlad y’u dosbarthwyd iddi wedi effeithio ar y cyfraddau dychwelyd ar gyfer pleidleisiau post tramor
Nid oes gennym ddata cynhwysfawr ar gyfrannau'r pleidleisiau post a ddychwelwyd yn ôl y dyddiad y cawsant eu hanfon na'r wlad y cawsant eu hanfon iddi. Fodd bynnag, mae data o sampl fach o awdurdodau lleol yn dangos rhai patrymau clir.
Roedd pleidleiswyr tramor yr anfonwyd eu pecynnau pleidleisio drwy'r post iddynt yn y dosbarthiad cyntaf (o tua 14 Mehefin) yn fwy tebygol o'u dychwelyd cyn diwedd y cyfnod pleidleisio. Mae'r siart isod yn dangos sut y gostyngodd cyfraddau dychwelyd ar gyfer pob swp yn dilyn y dosbarthiad cyntaf.
Er bod Swyddogion Canlyniadau a chyflenwyr yn blaenoriaethu pleidleisiau post etholwyr tramor, gan eu dosbarthu cyn gynted â phosibl, dim ond ar gyfer etholwyr tramor a oedd eisoes wedi cofrestru ar gyfer pleidlais bost yr oedd hyn yn bosibl. Byddai wedi bod yn annhebygol i geisiadau'r rhai a wnaeth gais ar ôl cyhoeddi’r etholiad gael eu prosesu mewn pryd i'w cynnwys yn y swp cyntaf.
Mae gwlad breswyl y pleidleisiwr tramor hefyd yn ffactor o ran pa mor debygol yw hi y byddai pleidlais yn cael ei dychwelyd mewn pryd i gael ei chyfrif. Mae hyn yn rhannol oherwydd bod pleidleisiau'n cymryd mwy o amser i gyrraedd a chael eu dychwelyd o wahanol wledydd. Mae hyn yn arwain at gyfraddau dychwelyd gwahanol ar draws yr awdurdodau lleol a samplwyd gennym.
Tabl 3: Pleidleisiau post tramor wedi’u dosbarthu a'u dychwelyd yn ôl gwlad gyrchfan
Gwlad | Nifer a ddosbarthwyd | Nifer a dderbyniwyd mewn pryd i'w cyfrif | Cyfradd dychwelyd (%) |
---|---|---|---|
Awstralia | 559 | 31 | 6% |
Canada | 265 | 128 | 48% |
Ffrainc | 956 | 712 | 75% |
Yr Almaen | 460 | 240 | 52% |
Singapôr | 159 | 70 | 44% |
Sbaen | 418 | 135 | 32% |
UDA | 910 | 342 | 38% |
Mae'r data hwn hefyd yn awgrymu nad pellter yw'r unig ffactor sy'n effeithio ar gyfraddau dychwelyd. Er enghraifft, mae'r gyfradd ddychwelyd o Sbaen yn isel o gymharu â chyrchfannau mwy pellennig fel Canada, Singapôr ac UDA. Nid yw'n ymddangos mai'r rheswm am hyn yw bod y pecynnau pleidleisio drwy'r post a oedd yn mynd i Sbaen yn digwydd bod mewn dosbarthiad diweddarach. Er enghraifft, yn seiliedig ar y rhediad cyntaf o bleidleisiau post a ddosbarthwyd ar draws y sampl o awdurdodau lleol yn unig, y gyfradd ddychwelyd o Sbaen oedd 47% o gymharu ag 88% o Ffrainc.
Nid yw pleidleiswyr tramor o’r farn bod y system yn gweithio iddyn nhw
Ar ôl yr etholiad, gofynnwyd i bleidleiswyr tramor am eu profiad o'r etholiad.1 Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oeddent yn fodlon â'r broses o bleidleisio yn yr etholiad – dywedodd 46% wrthym eu bod yn fodlon, a dywedodd 51% nad oeddent yn fodlon. .
Dywedodd pleidleiswyr tramor eu bod yn anfodlon â'r amser a oedd ar gael i dderbyn a dychwelyd eu pleidlais bost.
“Yn anffodus, ni chefais i fwrw fy mhleidlais gan nad anfonwyd fy mhecyn pleidleisio tan 24 Mehefin er fy mod wedi cyflwyno fy nghais ar y 6ed. Fel arfer mae’n cymryd 6-8 diwrnod i bost arferol gyrraedd yr Unol Daleithiau, ac felly, fel y rhagwelwyd, dim ond ar 3 Gorffennaf y cyrhaeddodd fy mhecyn pleidleisio, y diwrnod cyn yr etholiad. Roedd hyn yn golygu ei bod yn amhosibl i mi ddychwelyd fy mhapur pleidleisio mewn pryd hyd yn oed o ddefnyddio'r gwasanaeth negesydd cyflymaf. Byddai hynny angen dau ddiwrnod o leiaf.”
“Cyrhaeddodd y papur pleidleisio dridiau cyn y diwrnod pleidleisio ac rwy’n byw yn Iwerddon. Doedd dim posibilrwydd y byddai wedi cyrraedd yn ôl i Lundain drwy’r post heblaw drwy anfon dosbarthiad cofnodedig gwasanaeth dau ddiwrnod sy’n costio tipyn.”
Ystyriwyd bod pleidleisio drwy ddirprwy yn anaddas i rai pobl gan fod angen i bleidleisiwr fod â rhywun y mae’n ymddiried ynddo yn y DU ac y gallent ei benodi’n ddirprwy.
“Doeddwn i ddim yn adnabod unrhyw un y gallwn i ei benodi fel dirprwy i bleidleisio ar fy rhan felly pleidlais bost oedd yr unig opsiwn.”
“Dim ond os oes gennych chi rywun yr ydych yn ymddiried ynddo yn yr etholaeth i allu pleidleisio ar eich rhan y mae pleidleisio drwy ddirprwy yn gweithio’n effeithlon. Heb hynny, mae’n rhaid i chi naill ai bleidleisio drwy’r post, teithio i bleidleisio’n bersonol, neu wneud pleidlais bost drwy ddirprwy – mae’r olaf yn hynod gymhleth ac mae perygl o oedi pellach. Roeddwn yn ffodus y tro hwn oherwydd roedd gennyf bartner dibynadwy i weithredu fel dirprwy, ond efallai na fydd hynny bob amser yn bosibl.”
Argymhelliad 3: Mae angen systemau gwell ar bleidleiswyr tramor i sicrhau y gellir cyfrif eu pleidleisiau
Nid yw'r opsiynau pleidleisio ar gyfer dinasyddion Prydeinig a Gwyddelig cymwys dramor yn gweithio'n ddigon da. Nid oes digon o amser i lawer o bleidleiswyr tramor dderbyn a dychwelyd pleidlais bost mewn pryd i’w pleidleisiau gael eu cyfrif. Nid yw rhai pleidleiswyr tramor yn adnabod unrhyw un yn y DU y gallent eu penodi fel dirprwy i bleidleisio ar eu rhan yn hytrach na dibynnu ar bleidleisio post.
Dylid diwygio'r systemau pleidleisio i bleidleiswyr tramor er mwyn gwella'r gwasanaeth fel y gellir cyfrif eu pleidleisiau. Gall y DU ddysgu o brofiadau gwledydd eraill sy’n darparu gwahanol ffyrdd o gefnogi eu dinasyddion dramor i bleidleisio mewn etholiadau, gan gynnwys Awstralia, Canada, Seland Newydd a’r Unol Daleithiau.
Dyma feysydd allweddol ar gyfer diwygio a gwella posibl:
- Ystyried a yw'r dyddiad cau presennol ar gyfer cofrestru fel pleidleisiwr dramor yn caniatáu digon o amser i brosesu ceisiadau a dosbarthu pleidleisiau post fel y gall pleidleiswyr dramor eu cwblhau a'u dychwelyd cyn y diwrnod pleidleisio
- Ystyried a ddylai pleidleisio drwy’r post fod yn ddewis diofyn i bob pleidleisiwr tramor pan fyddant yn cofrestru (oni bai eu bod yn dewis pleidleisio’n bersonol neu benodi dirprwy) – fel y gellir cyhoeddi mwy o bleidleisiau post cyn gynted â phosibl yn yr amserlen
- Archwilio sut i anfon pleidleisiau post at bleidleiswyr tramor yn gynharach yn amserlen yr etholiad – er enghraifft drwy anfon papur pleidleisio gwag cyn y dyddiad cau ar gyfer enwebu ymgeiswyr, neu ganiatáu i bleidleiswyr lawrlwytho ac argraffu eu papur pleidleisio eu hunain yn ddiogel, a’i bostio (yn hytrach na dibynnu ar bost yn cyrraedd o'r DU)
- Archwilio a allai rhai pleidleiswyr tramor bleidleisio'n bersonol mewn llysgenhadaeth neu gonswliaeth yn y wlad y maent yn byw ynddi, yn lle dibynnu ar bleidleisio drwy’r post
- Archwilio a allai pleidleisio â chymorth ar y ffôn, fel y’i defnyddir yn Queensland Awstralia, fod ar gael i bleidleiswyr tramor na allant ddibynnu ar y gwasanaeth post.
Efallai y bydd angen newidiadau i ddeddfwriaeth neu gyllid ar gyfer y diwygiadau hyn. Dylai llywodraeth y DU ac eraill ar draws y sector etholiadol ddatblygu atebion i’r rhain. Gan ddefnyddio'r sylfaen dystiolaeth hon, byddwn yn gweithio i nodi atebion effeithiol a sicrhau bod unrhyw newidiadau yn gwella hygyrchedd i bleidleiswyr a’u bod yn ymarferol.
Ymgyrchu yn yr etholiadau
Yr hyn sy'n cael sylw yn yr adran hon
Safodd cyfanswm o 4,515 o ymgeiswyr ar gyfer etholiad Senedd y DU ar 4 Gorffennaf, dros fil yn fwy nag yn etholiad cyffredinol y DU yn 2019. Daeth yr ymgeiswyr o bron i 100 o bleidiau gwleidyddol.
Roedd ffiniau etholaethau seneddol newydd yn y DU ar gyfer 584 o seddi (ac eithrio pedair etholaeth y newidiodd eu henw yn unig), yr oedd eu hymgeiswyr yn ymladd seddi newydd neu seddi lle’r oedd y ffiniau (a'r etholwyr) wedi newid.
Roedd rhai newidiadau yn y gyfraith cyn etholiad cyffredinol y DU. Ar gyfer ymgeiswyr ac ymgyrchwyr, hwn oedd etholiad cyffredinol cyntaf y DU lle roedd y gofynion argraffnodau digidol a gyflwynwyd gan y Ddeddf Etholiadau yn berthnasol. Hwn hefyd oedd etholiad cyffredinol cyntaf y DU yn dilyn newid diweddar i drothwyon adrodd am roddion, a olygai ei bod yn ofynnol i bleidiau adrodd am roddion dros £11,180 (£7,500 yn flaenorol). Cafodd terfynau gwariant ar gyfer pleidiau gwleidyddol eu huwchraddio hefyd yn unol â chwyddiant.
Byddwn yn dychwelyd at hyn yn 2025 pan fyddwn yn cyhoeddi’r adroddiadau gwariant gan bleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr.
Mae perygl i gamdriniaeth a brawychu parhaus wanhau trafodaethau cyhoeddus
Mae ymgyrchu yn rhan hanfodol o’r broses ddemocrataidd. Mae'n caniatáu i bleidleiswyr glywed safbwyntiau gwahanol a gwneud penderfyniadau gwybodus. Gall safbwyntiau gwleidyddol fod yn amrywiol, ac ar adegau, rwygo barn. Rhaid i’r dadlau fod yn gadarn ac yn agored. Ond rhaid i ymgeiswyr allu ymgyrchu heb deimlo dan fygythiad.
Ar ôl yr etholiadau yn 2022 a 2023, dangosodd ein hymchwil fod llawer o ymgeiswyr a ymatebodd i’n harolwg wedi adrodd eu bod wedi profi rhyw fath o gamdriniaeth neu frawychu. O ganlyniad, fe wnaethom argymell y dylid cymryd camau brys i fynd i'r afael â'r problemau hyn.
Mewn ymateb i bryderon ynghylch diogelwch, cymerodd amrywiaeth o asiantau gamau i fynd i’r afael â cham-drin a brawychu yn y cyfnod cyn yr etholiad cyffredinol:
- Am y tro cyntaf, cynigiwyd diogelwch sylfaenol i bob ymgeisydd yn yr etholiad cyffredinol yn ystod yr ymgyrch. Fel rhan o Ymgyrch Bridger, roedd ganddynt hefyd enw cyswllt heddlu penodol, ym mhob un o’r heddluoedd i godi pryderon neu roi gwybod iddynt am fygythiadau yn eu herbyn.
- Galwodd y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus a’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar bleidiau ac ymgeiswyr i gynnal safonau ymddygiad a chymryd rhan mewn trafodaethau parchus.
- Fe wnaethom hyrwyddo ymgyrch yn rhydd o gamdriniaeth a bygythiadau. Buom yn gweithio gyda Chyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu a’r Coleg Plismona, Gwasanaeth Erlyn y Goron a Gwasanaeth yr Heddlu yng Ngogledd Iwerddon i gyhoeddi canllawiau wedi’u diweddaru i ymgeiswyr.
Fodd bynnag, dywedodd ymgeiswyr ac ymgyrchwyr, a rhai gweinyddwyr etholiadol, eu bod wedi wynebu lefelau cynyddol ac annerbyniol o gamdriniaeth a brawychu ar-lein, wrth ymgyrchu, mewn hystingau, ac mewn lleoliadau cyfrif. Arweiniodd tensiynau rhyngwladol parhaus mewn rhai achosion at gynnydd mewn camdriniaeth gwrthsemitaidd ac Islamoffobaidd a oedd wedi’i gyfeirio at ymgeiswyr.
Mae llawer o ymgeiswyr yn parhau i brofi lefelau annerbyniol o frawychu ac aflonyddu
Ar ôl yr etholiad cyffredinol, gofynnwyd i ymgeiswyr a oeddent wedi profi unrhyw broblem gydag aflonyddu, brawychu neu fygythiadau:
- Roedd dros hanner (55%) yr ymatebwyr o’r farn eu bod wedi cael rhyw fath o broblem gydag aflonyddu, brawychu, neu gamdriniaeth, gan roi sgôr o ddau neu uwch i’r broblem ar raddfa o un i bump
- Dywedodd ychydig dros un o bob 10 (13%) o’r ymatebwyr eu bod wedi cael problem ddifrifol gyda chamdriniaeth (pedwar neu bump allan o bump ar y raddfa)
Dangoswyd rhestr o senarios o gamdriniaeth neu aflonyddu i’r ymatebwyr, gan gynnwys cam-drin ar gyfryngau cymdeithasol, cam-drin corfforol, ac ymddygiad bygythiol, a gofynnwyd pa mor aml yr oeddent wedi’u profi:
- Yn gyffredinol, profodd 70% o’r ymatebwyr un o’r senarios o leiaf unwaith yn ystod ymgyrch etholiad cyffredinol y DU, gyda chwarter (26%) yr ymgeiswyr yn profi pedwar math gwahanol o aflonyddu, bygwth neu gam-drin o leiaf unwaith.
- Roedd traean o'r ymatebwyr wedi'u brawychu neu wedi’u gwneud i deimlo'n anniogel o leiaf unwaith yn ystod eu hymgyrch. Cafodd yr un gyfran o’r ymatebwyr eu hasedau ymgyrchu wedi’u rhwygo neu eu dinistrio, tra bod eiddo neu asedau ymgyrchu 30% wedi'u difwyno neu eu difrodi.
Yn ystod yr ymgyrch, cawsom adroddiadau am ddeunydd ymgyrchu ymosodol a bygythiol, ar-lein ac mewn print, nad oedd yn cynnwys argraffnod. Roedd hyn yn ei gwneud yn anos nodi ffynonellau'r aflonyddu.
Gall cam-drin a brawychu gael effaith sylweddol ar weithgarwch ymgyrchu’r ymgeiswyr. Dywedodd y mwyafrif (56%) o’r ymatebwyr eu bod wedi osgoi rhyw fath o weithgarwch ymgyrchu o leiaf unwaith oherwydd ofn camdriniaeth
- Y gweithgaredd yr oedd yr ymgeiswyr yn osgoi ei wneud fwyaf oedd ymgyrchu ar eu pen eu hunain. Dywedodd 44% o’r ymatebwyr eu bod wedi osgoi gwneud hynny o leiaf unwaith. Mae hyn yn codi i 66% o’r ymatebwyr benywaidd
- Dywedodd traean (32%) o’r ymatebwyr eu bod wedi osgoi siarad am bynciau dadleuol neu roi eu barn arnynt er mwyn osgoi aflonyddu
- Fe wnaeth tua un o bob pump osgoi defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol (23%), gosod deunyddiau ymgyrchu (20%), a mynychu gweithgareddau ymgyrchu wyneb yn wyneb (17%) o leiaf unwaith.
Roedd rhai grwpiau o ymgeiswyr yn fwy tebygol o brofi camdriniaeth a brawychu
Roedd ymatebwyr benywaidd ac ymatebwyr o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig yn fwy tebygol o adrodd eu bod wedi profi camdriniaeth ddifrifol.
Wrth ddewis o blith yr enghreifftiau o’r brawychu a brofwyd, roedd menywod a ymatebodd i’n harolwg yn fwy tebygol nag ymgeiswyr gwrywaidd o adrodd eu bod yn cael eu cyffwrdd, eu cofleidio neu eu cusanu yn groes i’w hewyllys.
Mewn cyfweliadau dilynol, siaradom â phedwar ymgeisydd benywaidd a chawsom dystiolaeth ysgrifenedig gan eraill, gan gynnwys ASau a phleidiau gwleidyddol, am eu profiadau o gamdriniaeth. Roedd teimlad clir bod y gamdriniaeth a’r aflonyddu a gawsant yn ystod yr ymgyrch wedi’i dargedu tuag atynt oherwydd eu rhyw, a’u bod yn derbyn mwy o gamdriniaeth na dynion.
“Pan oeddwn i'n mynd o gwmpas yn curo ar ddrysau, roedd gen i ddynion sarhaus iawn. Roedden nhw'n danbaid iawn, yn eich wyneb yn dweud bod [fy mhlaid] yn gachu rwtsh ac roedd gwleidyddiaeth yn anghywir ac roedden nhw'n rhegi arnoch chi ac roedd yn annymunol iawn wyddoch chi. […] Rhoddais y gorau i gnocio ar y drysau gan roi taflenni drwy’r drws yn y diwedd. Gwnaeth fy ngŵr y rhan fwyaf o'r curo drysau ar fy rhan, oherwydd ei fod yn ddyn roedd ganddo berthynas well. Ond rwy’n dal i feddwl ei fod yn hynod drist oherwydd yn amlwg nid ydynt yn ymateb i fenyw sydd eisiau cynnig ei hun.” - Menyw, Lloegr, 45-54; Wedi profi achosion o ddifrodi a dinistrio deunyddiau ymgyrchu, camdriniaeth ar gyfryngau cymdeithasol, ac ymddygiad bygythiol.
“Wn i ddim sut rydych chi’n mynd i’r afael â hyn. Dw i ddim yn gwybod beth sydd wrth wraidd hyn. Dw i’n meddwl taw’r menywod sy’n wynebu’r gwaethaf oherwydd rydyn ni’n cael ein gweld fel targed haws i’w argyhoeddi i beidio [â sefyll].” - Menyw, Lloegr, 45-54; Wedi derbyn bygythiadau o niwed, ymddygiad bygythiol, difrodi a dinistrio deunyddiau ymgyrchu, camdriniaeth ar y cyfryngau cymdeithasol, a chafodd ei chyffwrdd yn erbyn ei hewyllys.
Roedd ymatebwyr o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig yn fwy tebygol nag unrhyw grwpiau demograffig eraill o ddweud eu bod wedi profi pob un o’r senarios brawychu a gyflwynwyd gennym i’r ymatebwyr (ar wahân i gael eu cyffwrdd, eu cofleidio neu eu cusanu yn groes i’w hewyllys).
Roeddent hefyd yn fwy tebygol o fod:
- Wedi derbyn postiadau sarhaus ar y cyfryngau cymdeithasol am eu hethnigrwydd (55%) neu grefydd (41%) na’r holl ymatebwyr (15% a 10% yn y drefn honno)
- Wedi cael eu brawychu neu eu gwneud i deimlo’n anniogel yn fwriadol (58%) na menywod (39%), ymatebwyr gwyn (32%) a dynion (31%).
Roedd ymatebwyr anabl ddwywaith yn fwy tebygol o fod wedi dioddef ymosodiad corfforol, cael eu taro, neu fod rhywbeth wedi’i daflu atynt o gymharu ag ymatebwyr heb anabledd (10% yn erbyn 5%). Roeddent hefyd ychydig yn fwy tebygol o fod wedi cael eu cam-drin ar y cyfryngau cymdeithasol na’r rhai heb anabledd (60% o gymharu â 51%).
Weithiau nid yw achosion o gamdriniaeth a brawychu yn cael eu hadrodd
Dim ond un o bob pump (21%) o’r ymatebwyr hynny a ddywedodd wrthym eu bod wedi cael eu cam-drin, eu haflonyddu neu eu brawychu a roddodd wybod i’r heddlu.
Y rheswm mwyaf cyffredin a roddwyd dros beidio ag adrodd am gamdriniaeth oedd bod ymgeiswyr o’r farn ei fod yn rhy ddibwys neu nad oedd yn ddigon difrifol i fod yn werth adrodd amdano. Yn ôl eraill, ni wnaethant adrodd amdano oherwydd eu bod o’r farn nad oedd unrhyw ddiben neu na fyddai dim yn cael ei wneud o ganlyniad.
"Roedd yn achos digon dibwys i beri i mi deimlo’n flin ac wedi fy mrifo yn hytrach nag yn un bygythiol.” - Gwryw, Gogledd Iwerddon, 55-64; Wedi derbyn camdriniaeth ar y cyfryngau cymdeithasol
“Dim ond ar Twitter oedd e a does dim pwynt. Nid oes unrhyw bwynt ychwaith adrodd wrth Twitter am y peth oherwydd nid yw byth yn cyrraedd eu trothwyon ar gyfer gweithredu dim mwy.” - Menyw, Yr Alban, 35-44; Wedi derbyn camdriniaeth ar y cyfryngau cymdeithasol
“Mae [camdriniaeth] yn cael ei hystyried yn beth arferol yn y bôn ac rwy’n amau a fyddai unrhyw beth yn cael ei wneud yn ei gylch.” - Menyw, Lloegr, 45-54; Wedi cael camdriniaeth ar y cyfryngau cymdeithasol a chael ei bychanu neu ei sarhau
Pan roddwyd gwybod i'r heddlu am achosion o gamdriniaeth a brawychu, adroddodd ymgeiswyr am brofiadau cymysg o ran yr ymateb a gawsant. O ran ymdrin ag adroddiadau gan ymgeiswyr o frawychu a chamdriniaeth, canfu ein harolwg o swyddogion pwyntiau cyswllt unigol mewn heddluoedd, sy'n gyfrifol am ddarparu cyngor ar droseddau sy'n gysylltiedig ag etholiadau, fod 61% o’r ymatebwyr yn hyderus eu bod nhw'n gwybod i ble y dylid cyfeirio ymgeiswyr i gael cyngor neu i adrodd am unrhyw broblem.
Dywedodd dros hanner (53%) y swyddogion pwynt cyswllt unigol a ymatebodd i’n harolwg fod nifer yr adroddiadau am fygythiadau, camdriniaeth a brawychu a gawsant yn yr etholiad hwn wedi cynyddu o gymharu ag etholiadau blaenorol.
“Derbyniwyd llai o droseddau’n ymwneud â Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (argraffnodau ac ati) ond mwy o gwynion am aflonyddu ar gyfryngau cymdeithasol, brawychu ac ymosodiadau corfforol. Roedd y rhan fwyaf o'r adroddiadau rhwng ymgeiswyr ac asiantau yn hytrach na brawychu neu gamdriniaeth gan aelodau'r cyhoedd. Yn yr wythnos olaf cyn yr etholiad gwelwyd y tensiwn mwyaf a chynnydd yn yr adroddiadau. Adroddodd llawer o ymgeiswyr am ‘fygythiadau’ neu aflonyddu ar-lein nad oeddent o natur droseddol ac yn fwy gysylltiedig â rhyddid i lefaru.”
“Cafodd ymgeiswyr eu haflonyddu mewn hystingau ac wrth ganfasio, a chael eu herlid mewn ceir. Cafodd posteri etholiadol eu difrodi a'u difwyno. Crëwyd deunydd a oedd yn gamdriniol ac yn sarhaus (posteri o ymgeiswyr a oedd wedi’u ffugio).”
Mae angen gweithredu ar frys i fynd i'r afael â chamdriniaeth a brawychu
Mae gwahaniaeth barn cryf yn rhan arferol o ddadlau ac ymgyrchu gwleidyddol. Ond nid yw byth yn briodol cam-drin neu frawychu ymgyrchwyr. Gall ymddygiad annerbyniol a rhethreg wleidyddol negyddol atal ymgyrchwyr rhag ymgymryd â gweithgareddau cyfreithlon a gall atal rhai pobl rhag sefyll fel ymgeiswyr yn llwyr.
Mae nifer o newidiadau deddfwriaethol wedi’u gwneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf ledled y DU i fynd i’r afael â’r problemau hyn. Cyflwynodd y Ddeddf Etholiadau gosb etholiadol newydd i atal unigolion rhag bygwth ymgeiswyr neu ymgyrchwyr, drwy wahardd y rhai a gafwyd yn euog o drosedd rhag sefyll am, cael eu hethol i, neu ddal swydd etholiadol am bum mlynedd. Roedd hefyd yn egluro pa weithgareddau sy’n cael eu hystyried yn ddylanwad gormodol ar bleidleiswyr (sef pan fydd rhywun yn defnyddio, neu’n bygwth defnyddio, grym neu drais i wneud i rywun bleidleisio mewn ffordd benodol neu i beidio â phleidleisio o gwbl) i wneud y ddeddfwriaeth yn haws i’w dehongli a’i gorfodi.
Bellach, nid oes angen argraffu cyfeiriadau cartref ymgeiswyr ar bapurau pleidleisio na’u dangos ar ddatganiadau’r pobl a enwebwyd. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymestyn hyn i ymgeiswyr sy’n gweithredu fel eu hasiant etholiadol eu hunain ers 2022. Gallent ddarparu cyfeiriad gohebu a fyddai'n cael ei gyhoeddi yn y datganiad ynghylch y bobl a enwebwyd a'r hysbysiad cyhoeddus o enw a chyfeiriad asiantiaid etholiad yn lle hynny.
Nid yw treuliau rhesymol y gellir eu priodoli i ddiogelu unigolion neu eiddo yn cyfrif fel gwariant etholiadol ar gyfer ymgeiswyr na’r pleidiau. Er enghraifft, llogi swyddog diogelwch, defnyddio Blwch Post i osgoi rhoi cyhoeddusrwydd i gyfeiriad cartref neu swyddfa ar argraffnodau, neu brynu meddalwedd gwrthfeirws ar gyfer amddiffyn cyfrifiaduron ymgyrchu.
Yng Ngogledd Iwerddon, cyhoeddodd Comisiwn Cynulliad Stormont y byddai’n sefydlu cronfa i dalu am fesurau diogelwch cynyddol yng nghartrefi a swyddfeydd Aelodau’r Cynulliad Deddfwriaethol (ACDau).
Er bod cynnydd wedi bod mewn sawl maes, dim ond un rhan yw newid deddfwriaethol o’r ymateb i’r lefelau cynyddol o gamdriniaeth a brawychu, sy’n parhau i gael effaith andwyol ar ymgyrchu.
Yn dilyn yr etholiad cyffredinol, cyhoeddodd Llefarydd Tŷ’r Cyffredin y byddai’n cynnull Cynhadledd Llefarydd ar gamdriniaeth a brawychu. Disgwylir i hyn ystyried ‘y ffactorau sy’n dylanwadu ar y lefelau bygythiad yn erbyn ymgeiswyr ac ASau ac effeithiolrwydd yr ymateb i fygythiadau o’r fath’. Bydd Cynhadledd y Llefarydd yn ganolog i ddatblygu ymatebion effeithiol i’r problemau hyn a disgwylir iddi ‘wneud argymhellion ynghylch y trefniadau angenrheidiol i sicrhau etholiadau rhydd a theg a’r amddiffyniad priodol i ymgeiswyr mewn etholiadau seneddol ledled y DU yn y dyfodol a chynrychiolwyr etholedig wedi hynny.'
Argymhelliad 4: Mae angen newidiadau i atal ac ymateb i lefelau cynyddol o gamdriniaeth a brawychu tuag at ymgeiswyr ac ymgyrchwyr
Mae ymgeiswyr yn nodi eu pryderon cynyddol am y gamdriniaeth a’r brawychu y maent wedi'u hwynebu mewn etholiadau diweddar. Mae perygl bod y gweithredoedd annerbyniol hyn yn atal pobl sydd am sefyll mewn etholiad. Maent hefyd yn golygu y gall pleidleiswyr gael eu hatal rhag clywed am bolisïau a dadleuon gan ystod o ymgyrchwyr.
Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid ar draws y gymuned etholiadol ehangach i ddeall beth sy’n ysgogi cam-drin a brawychu, ac i ddatblygu ymatebion effeithiol ar y cyd i fynd i’r afael â’r problemau hyn. Byddwn yn cefnogi Cynhadledd y Llefarydd ar fygythiadau yn erbyn ymgeiswyr ac ASau, yn ogystal â’r gwaith a arweinir gan y Swyddfa Gartref, y Tasglu Amddiffyn Democratiaeth a’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol.
Rhaid i heddluoedd ac erlynyddion barhau i drin honiadau ac achosion o frawychu sy'n gysylltiedig ag etholiadau o ddifrif. Rhaid iddynt ddangos y bydd y rhai sy'n cyflawni troseddau yn erbyn ymgeiswyr ac ymgyrchwyr yn wynebu cosb sylweddol. Rhaid i bleidiau gwleidyddol hefyd chwarae eu rhan i gryfhau mesurau ataliol. Dyma feysydd allweddol ar gyfer diwygio a gwella posibl:
- Sicrhau bod pleidiau gwleidyddol yn cynnwys rheolau aelodaeth sy'n pwysleisio'n glir barch at ymgyrchwyr eraill, ac yn eu galluogi i gymryd camau priodol i gosbi aelodau os canfyddir eu bod wedi cam-drin neu aflonyddu ar ymgyrchydd arall (er enghraifft dileu aelodaeth neu eu dad-ddewis fel ymgeisydd)
- Sicrhau bod y cosbau i'r rhai a gaiff eu canfod yn euog o droseddau yn erbyn ymgeiswyr, ymgyrchwyr neu staff etholiadol yn adlewyrchu'r effaith ehangach fel ymosodiadau ar y broses ddemocrataidd.
Mae cyfleoedd i gryfhau ymhellach yr amddiffyniadau ar gyfer ymgeiswyr a phleidleiswyr yn y broses etholiadol, gan gynnwys:
- Ymestyn dull gweithredu a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru sy’n diogelu cyfeiriadau cartref ymgeiswyr sy’n gweithredu fel eu hasiantau etholiadol eu hunain, i gynnwys holl etholiadau’r DU
- Ystyried, gyda heddluoedd a Swyddogion Canlyniadau, a ddylid sefydlu parthau diogel lle na fyddai gweithgarwch ymgyrchu yn cael ei ganiatáu o amgylch gorsafoedd pleidleisio neu leoliadau cyfrif penodol lle yr aseswyd risg.
Mae lle hefyd i gryfhau’r cydgysylltu a’r gefnogaeth ragweithiol a gynigir i ymgeiswyr cyn ac yn ystod etholiadau, gan gynnwys:
- Sicrhau bod ymgeiswyr yn cael gwybodaeth ac arweiniad clir ynghylch sut i gael cymorth – gallai hyn olygu ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr roi manylion cyswllt i’r heddlu er mwyn caniatáu iddynt rannu gwybodaeth hanfodol a chysylltu â nhw mewn argyfwng
- Cael pwynt cyswllt penodol ar gyfer ymgeiswyr ac ymgyrchwyr, lle gallent ofyn am gymorth ac adnoddau i ymdrin â chamdriniaeth a brawychu
- Sicrhau trefniadau ariannu sefydlog, tymor hwy ar gyfer cymorth diogelwch i ymgeiswyr a chynrychiolwyr etholedig, gan gynnwys ar gyfer cynghorwyr lleol ac ymgeiswyr, fel y cynigiwyd ar gyfer Aelodau’r Cynulliad Deddfwriaethol yng Ngogledd Iwerddon. Dylai'r cymorth hwn gael ei hysbysebu'n briodol gyda chyfeiriadau clir fel bod ymgeiswyr yn gwybod ei fod ar gael ac yn rhywbeth y gallent ei ddefnyddio.
O ystyried maint a graddfa'r gamdriniaeth ar-lein a brofwyd gan ymgeiswyr ac ymgyrchwyr, dylai’r cyfryngau cymdeithasol a’r llwyfannau ar-lein wneud mwy i helpu i ddatblygu offer sgrinio gwell ar gyfer proffiliau digidol ymgeiswyr, i gael gwared ar gynnwys difrïol ac i adnabod y sawl sy’n gyfrifol. Gallai’r rhain gael eu datblygu a’u darparu gan gwmnïau digidol/cyfryngau cymdeithasol unigol, neu’n ganolog, gyda chymdeithas sifil. Dylai Ofcom, y rheoleiddiwr gwasanaethau cyfathrebiadau, hefyd ystyried sut y gallai’r dyletswyddau a’r cyfrifoldebau newydd a gyflwynwyd gan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein gael eu datblygu yn y dyfodol i wella amddiffyniadau ar-lein i ymgeiswyr ac ymgyrchwyr.
Yn ehangach na hyn, bydd yn hanfodol sicrhau bod cyd-ddealltwriaeth glir o'r hyn sy'n gyfystyr ag ymddygiad annerbyniol tuag at ymgeiswyr ac ymgyrchwyr, yn wahanol i ddadlau gwleidyddol cadarn. Mae angen hyn i ategu ymagwedd gyson sy'n amddiffyn ymgeiswyr ac yn rhoi'r hyder iddynt gymryd rhan. Dylai hyn ystyried yn arbennig brofiadau gwahaniaethol y rhai yr effeithir arnynt fwyaf gan gamdriniaeth a brawychu (gan gynnwys menywod, pobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, a phobl anabl).
Bydd y newidiadau hyn yn gofyn am ymdrech gyd-gysylltiedig gan amrywiaeth o sefydliadau ar draws y sectorau etholiadol a gorfodi'r gyfraith, gan gynnwys pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr, awdurdodau lleol, heddluoedd ac awdurdodau erlyn.
Byddwn yn cynnal ymchwil gyda'r cyhoedd i ddatblygu dealltwriaeth gliriach o ble mae'r trothwy rhwng ymddygiad derbyniol ac annerbyniol. Byddwn yn parhau i godi ymwybyddiaeth o'r ffaith nad yw ymddygiad camdriniol tuag at ymgyrchwyr a swyddogion etholedig byth yn dderbyniol. Byddwn hefyd yn gwneud yn siŵr bod ymgeiswyr ac ymgyrchwyr yn deall yr hyn yr ystyrir yn gamdriniaeth a brawychu a’u bod yn gwybod sut i adrodd amdano.
Ni dderbyniodd rhai pleidleiswyr y wybodaeth yr oedd ei hangen arnynt gan ymgyrchwyr
Ymgysylltodd ymgyrchwyr â phleidleiswyr mewn amrywiaeth o ffyrdd cyn yr etholiadau ac roedd llawer o’r farn eu bod yn gallu cyfleu eu safbwyntiau’n effeithiol. Fodd bynnag, nid oedd pleidleiswyr bob amser yn cael gwybodaeth a oedd yn gywir, yn ddibynadwy neu'n hygyrch iddynt.
Cafodd rhai ymgeiswyr drafferth i gyfathrebu â phleidleiswyr
Mewn etholiad cyffredinol, mae gan ymgeiswyr hawl i bostio ‘anerchiad etholiad’ (taflen) am ddim i bleidleiswyr yn eu hetholaeth. Rhaid i'r daflen gynnwys gwybodaeth sy'n ymwneud â'r etholiad yn unig a chaiff ei dosbarthu gan y Post Brenhinol. Mae cynnig tebyg mewn etholiadau maerol, lle mae ymgeiswyr yn cael cyfle i ddweud wrth bleidleiswyr amdanynt eu hunain a'u polisïau yn y llyfryn maerol, a gynhyrchir gan y Swyddog Canlyniadau lleol. Ar gyfer etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, mae gwefan Dewis Fy NghHTh yn crynhoi gwybodaeth am yr ymgeiswyr.
Ymgysylltodd yr ymgeiswyr â’r pleidleiswyr gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau. Canfuwyd y canlynol:
- Y cyfryngau cymdeithasol oedd y dull a ddefnyddiwyd fwyaf, wedi’u dewis gan 83% o’r ymatebwyr
- Dywedodd dros dri chwarter yr ymgeiswyr wrthym eu bod yn defnyddio taflenni/cylchlythyrau (78%) a thaflen anerchiad etholiad am ddim drwy’r Post Brenhinol (75%)
- Dywedodd dros hanner yr ymatebwyr eu bod yn mynd i ganfasio o ddrws i ddrws ac yn mynychu cyfarfodydd wyneb yn wyneb (59% ill dau).
- Dywedodd tua pedwar o bob 10 o’r ymatebwyr eu bod yn defnyddio posteri neu hysbysfyrddau (44%) neu wefannau/hysbysebion digidol (41%)
Dywedodd ychydig llai nag un o bob deg (9%) eu bod wedi defnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) yn ystod eu hymgyrch. Defnyddiwyd AI ar gyfer amrywiaeth o dasgau, fel drafftio ymatebion i e-byst gan bleidleiswyr, crynhoi maniffestos ar gyfer deunyddiau ymgyrchu, cynhyrchu delweddau, a dadansoddi data (e.e. at ddibenion targedu).
Roedd llai na hanner (48%) yr ymatebwyr yn cytuno eu bod yn gallu cyfleu eu barn yn effeithiol i bleidleiswyr yn ystod yr ymgyrch ac roedd 39% yn anghytuno (dywedodd 12% nad oeddent yn cytuno nac yn anghytuno). O’r rhai a anghytunodd, y rhesymau mwyaf cyffredin a roddwyd oedd:
- Anghydraddoldebau rhwng pleidiau mawr a bach, a rhwng pleidiau ac ymgyrchwyr annibynnol
- Rhagfarn yn y cyfryngau neu ddiffyg sylw yn y cyfryngau
- Problemau gyda chynllun rhadbost y Post Brenhinol
- Amserlen fer oherwydd y cyhoeddiad byr rybudd am yr etholiad
Mae'r rhan fwyaf o resymau yn themâu cyffredin mewn etholiadau blaenorol, ond mae problemau gyda'r Post Brenhinol wedi dod yn fwy amlwg ymhlith yr ymgeiswyr yn yr etholiad cyffredinol.
Anfonodd tua thri chwarter yr ymatebwyr daflenni fel rhan o’u hymgyrch, gan ddefnyddio taflen anerchiad etholiad am ddim y Post Brenhinol (75%) a thalu am bostio eu hunain (78%). Soniodd tua un o bob pump a ddywedodd eu bod yn cael anawsterau wrth gyfleu eu barn i bleidleiswyr am y gwasanaeth post yn eu rhesymau (21%).
“Mae ceisio cyfathrebu â dros 70,000 o bobl y tu hwnt i fod yn heriol. Mae’r Rhadbost yn annibynadwy ac yn aml yn mynd allan cyn y pleidleisiau post.” - Gwryw, Lloegr, 65-74
“Roedd cynllun Rhadbost y Post Brenhinol yn anghyson ac ni dderbyniodd llawer o bleidleiswyr eu rhai nhw. Fel ymgeisydd anabl rwyf dan anfantais amlwg gan nad wyf yn gallu curo ar ddrysau. Soniodd llawer o bleidleiswyr am hyn. Rwy’n teimlo bod gwahaniaethu yn fy erbyn gan nad oes arian ychwanegol ar gael i’m helpu i ymgyrchu’n effeithiol.” - Menyw, Lloegr, 45-54
“Rhaid i ni newid Llyfryn y Maer i ddolen at wefan yn unig, y gall pobl ei gweld. Mae cost llyfryn copi caled yn wastraff arian cyhoeddus." - Gweinyddwr etholiadol, Llundain
Yn yr etholiadau maerol ym mis Mai 2024, codwyd rhai pryderon am lyfryn y maer, fel:
- Cost ac effeithiolrwydd cynhyrchu llyfrynnau maerol wedi'u hargraffu
- Y baich ar yr ymgeiswyr o ran darparu datganiad, ac ar y gweinyddwyr yn eu golygu
- Yr ymagwedd anghyson gydag etholiadau CHTh.
Dylai unrhyw adolygiad o sut mae llyfrynnau argraffedig ymgeiswyr yn cael eu cynhyrchu a'u dosbarthu ystyried sut i sicrhau bod yr opsiynau yn hygyrch i bob pleidleisiwr, gan gynnwys y rhai sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol.
Er gwaethaf hyn, mae dulliau mwy traddodiadol yn parhau i fod yn ffordd effeithiol i ymgeiswyr gyfathrebu â'r cyhoedd. Yn ôl pobl, y ffyrdd mwyaf cyffredin o fod wedi gweld gwybodaeth oedd:
- Taflen gan ymgeisydd neu blaid wleidyddol (63%)
- Newyddion ar y teledu (48%)
- Cyfryngau cymdeithasol (39%)
- Gwefan newyddion (35%)
- Dadleuon ar y teledu (35%)
- Ar lafar (24%)
Yn ôl ein hymchwil gyda’r cyhoedd ar ôl yr etholiad cyffredinol, gwelwyd:
- Bod y rhan fwyaf o bobl o’r farn ei bod hi’n hawdd cael gafael ar wybodaeth, gan gynnwys am ID pleidleisiwr (dywedodd 87% ei bod yn hawdd), y gwahanol ffyrdd o bleidleisio, a’r ymgeiswyr a’r pleidiau oedd yn sefyll yn yr etholiad (83% ill dau)
- Bod y cyhoedd yn fwy ansicr ynghylch pa mor hawdd oedd hi i gael gafael ar wybodaeth am wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr, gyda dim ond 36% yn dweud ei bod yn hawdd a 54% yn dweud nad oeddent yn gwybod (dywedodd 10% ei bod yn anodd)
- Bod dros bedwar o bob pump (85%) o’r farn bod digon o sylw neu wybodaeth am yr etholiad, gan gynnwys ID pleidleisiwr (84%) a sut i fwrw eu pleidlais (82%)
- Bod ychydig yn llai na thri chwarter (72%) o bobl yn dweud bod ganddynt ddigon o wybodaeth am yr ymgeiswyr i wneud penderfyniad gwybodus.
Dywedodd llawer o bobl eu bod wedi gweld neu glywed gwybodaeth anghywir yn ystod yr etholiad
Cyn yr etholiad cyhoeddwyd cyngor newydd i bleidleiswyr ar sut i ymgysylltu’n hyderus â deunydd ymgyrchu ac i feddwl yn feirniadol am ddeunydd roedden nhw’n ei weld a’i glywed. Galwyd ar bob ymgyrchydd i beidio â chamarwain pleidleiswyr, ac i ystyried sut bydd eu deunydd ymgyrchu yn cael ei dderbyn, yn enwedig wrth ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) cynhyrchiol. Buom yn gweithio gyda sefydliadau eraill, gan gynnwys rheoleiddwyr a chwmnïau cyfryngau cymdeithasol, i helpu pobl i ddeall sut mae ymgeiswyr, pleidiau gwleidyddol a sefydliadau eraill yn ymgyrchu dros eu pleidlais.
Yn ôl ein harolwg ar ôl yr etholiad:
- Dywedodd dros hanner y bobl eu bod wedi gweld gwybodaeth gamarweiniol neu anghywir am bolisïau pleidiau gwleidyddol (61%) ac ymgeiswyr (52%) yn yr etholiad cyffredinol
- Gwelodd llai na thraean (30%) wybodaeth gamarweiniol neu anghywir am sut mae'r etholiadau'n gweithio
- Roedd tua chwarter (24%) wedi gweld neu glywed llun, fideo neu glip sain ffugiad dwfn am yr etholiad
- Dywedodd ychydig dros un o bob 10 (12% i 13%) o bobl nad oeddent yn gwybod a oeddent wedi gweld gwybodaeth anghywir neu gamarweiniol am bolisïau, ymgeiswyr neu’r etholiadau,
- Dywedodd bron i un o bob pump (18%) nad oeddent yn gwybod a oeddent wedi gweld neu glywed ffugiad dwfn, gan awgrymu efallai fod dryswch ymhlith y cyhoedd ynghylch y gallu i adnabod y math hwn o gynnwys
Yr ymateb mwyaf cyffredin i weld neu glywed cynnwys camarweiniol oedd ei anwybyddu (64%). Dywedodd tua hanner (49%) yr ymatebwyr eu bod wedi cymryd camau penodol, megis gwirio ffeithiau neu adrodd am y wybodaeth hon mewn rhyw ffordd. O'r rhain, dim ond un o bob 10 (12%) a ddywedodd eu bod wedi adrodd amdano i'r llwyfan y gwelwyd y wybodaeth arno.
Roedd pobl iau ychydig yn fwy tebygol o ddweud eu bod wedi gweithredu (57% o’r rhai 18 i 34 oed, o gymharu â 46% o’r rhai 55 i 64 oed a 48% o’r rhai 65 i 74 oed).
Roedd ymgeiswyr o'r farn bod y drefn argraffnodau digidol yn hawdd cydymffurfio â hi
Etholiadau lleol 2024 ac etholiad cyffredinol y DU oedd y digwyddiadau etholiadol mawr cyntaf, y tu allan i’r Alban, lle’r oedd angen argraffnodau ar rai mathau o ddeunydd ymgyrchu digidol. Fe wnaethom alw am y newid hwn gyntaf yn 2003.
Mae argraffnodau yn nodi pwy sy'n gyfrifol am gyhoeddi deunydd ymgyrchu, gan ddarparu tryloywder i bleidleiswyr ynghylch pwy sy'n ymgyrchu.
Cyflwynodd Llywodraeth yr Alban ofynion newydd ar gyfer argraffnodau ar ddeunydd ymgyrchu digidol ar gyfer etholiadau Senedd yr Alban ac etholiadau lleol ym mis Rhagfyr 2020. Roedd y rheolau mewn grym am y tro cyntaf yn etholiadau Senedd yr Alban yn 2021.
Fe wnaethom ddarparu canllawiau statudol yn esbonio sut y byddai'r drefn argraffnodau digidol newydd yn gweithredu, a chyfarfod â phleidiau, ymgeiswyr ac ymgyrchwyr i'w hysbysu am y gofyniad newydd hwn.
Ni a’r heddlu sy’n rhannu’r cyfrifoldeb dros sicrhau bod gan ddeunydd digidol argraffnod sy’n cydymffurfio, yn dibynnu ar y math o ddeunydd. Cawsom sawl cwyn am argraffnodau a allai fod ar goll neu nad oeddent yn cydymffurfio yn ystod yr etholiadau. Fe wnaethom gyfathrebu â’r pleidiau, yr ymgeiswyr a’r ymgyrchwyr os cafodd achos o dorri'r drefn ei nodi.
Ni welsom dystiolaeth o lefelau sylweddol o ddiffyg cydymffurfio. Roedd llawer o'r cwynion a gawsom yn ymwneud â deunydd ag argraffnod a oedd yn cydymffurfio. Lle gwnaethom nodi diffyg cydymffurfio, ymatebodd y rhan fwyaf o ymgyrchwyr i'n cyngor gan ddiwygio eu hargraffnodau.
Roedd y rhan fwyaf o’r ymgeiswyr a ymatebodd i’n harolwg yn cytuno’n fras eu bod yn deall y gofynion i gynnwys argraffnodau digidol (86%), a dywedodd dros ddwy ran o dair (69%) ei bod yn hawdd bodloni’r gofyniad.
Dywedodd ein harolwg o’r pwyntiau cyswllt unigol yn dilyn etholiadau eleni eu bod wedi profi sawl problem yn ymwneud ag argraffnodau digidol. Roedd rhai o'r problemau hyn yn deillio oherwydd nifer yr adroddiadau a dderbyniwyd, tra bod eraill yn deillio o ansicrwydd ynghylch sut i ddehongli'r ddeddfwriaeth wrth ymateb i adroddiadau.
Dywedodd y pwyntiau cyswllt unigol wrthym yr hoffent gael mwy o wybodaeth ac arweiniad am argraffnodau digidol, gan gynnwys eu defnyddio gyda’r cyfryngau cymdeithasol. Ond mae'n ymddangos eu bod wedi gallu datrys yr ymholiadau neu'r cwynion a gawsant ar y cyfan.
“Cawsom ychydig o honiadau ynghylch argraffnodau lle nad oedd y deunydd yn hyrwyddo plaid nac ymgeisydd, dim ond yn ymgyrchu yn erbyn ymgeisydd neu blaid benodol. Nid yw'n ymddangos bod llawer o wybodaeth am [Arferion Proffesiynol Awdurdodedig] nac yn y ddeddfwriaeth am hyn. Mae'n dweud bod yn rhaid i'r deunydd fod yn hyrwyddo ymgeisydd neu blaid ond gall hefyd gynnwys ymgyrchu yn erbyn ymgeisydd, ond nid oes rhagor o wybodaeth am sut beth fyddai ymgyrchu yn erbyn ymgeisydd ac a allai unrhyw un gyflawni'r drosedd hon. Roeddem yn ansicr a oedd hon yn drosedd mewn gwirionedd, felly bu’n rhaid inni ofyn am gyngor gan [y Comisiwn Etholiadol].”
Rhoddodd y pwyntiau cyswllt unigol ragor o fanylion yn eu hymateb i’n harolwg ar etholiadau lleol 2024. Ymhlith y materion a rannwyd ganddynt oedd:
- The need to clarify whether imprints should be on every post, or on a home page/profile.
- Heriau penderfynu pa bostiadau ar gyfryngau cymdeithasol oedd yn gyfystyr â ‘deunydd etholiadol’
- Cymhlethdod y drefn
- Y rhaniad cyfrifoldebau rhwng yr heddlu a'r Comisiwn, a olygai nad oedd bob amser yn glir at bwy y dylid troi
- Llwyfannau sy'n cyfyngu ar nifer y llythrennau sy’n ei gwneud hi'n anodd cynnwys argraffnodau o fewn y postiad
- Deall a oedd angen argraffnod ar ddeunydd etholiad organig
- Yr angen i egluro a ddylai argraffnodau fod ar bob postiad, neu ar dudalen hafan/proffil.
Rydym yn gwneud gwaith pellach i werthuso gweithrediad y drefn hon. Bydd yn ystyried sut y cydymffurfiodd ymgyrchwyr â hi ac a allwn argymell newidiadau a fyddai'n gwella tryloywder i bleidleiswyr.
Dylai etholiadau fod yn hygyrch i bawb
Cyhoeddodd y pleidiau eu maniffestos mewn da bryd cyn yr etholiad, ond nid oedd pob un ar gael mewn fformatau hygyrch, fel testun hawdd ei ddarllen neu BSL, naill ai o gwbl neu mewn da bryd. Gall hyn ei gwneud yn anoddach i rai pobl benderfynu sut i bleidleisio. Mae hwn yn broblem yr ydym wedi tynnu sylw ati o'r blaen, ac eto mae pleidiau gwleidyddol yn dal i fethu â darparu gwybodaeth am eu polisïau mewn fformatau hygyrch.
Dylai pleidiau gwleidyddol sicrhau bod fersiynau hygyrch o'u maniffesto yn cael eu cyhoeddi ar yr un pryd. Dylai pobl anabl gael yr un faint o amser ag unrhyw un arall i ddeall beth yw safbwynt y pleidiau.
Ar hyn o bryd, ni all ymgeiswyr anabl gael cymorth ariannol i sefyll fel ymgeiswyr yn etholiadau cyffredinol y DU. Darparodd Llywodraeth y DU rywfaint o gymorth ariannol yn y gorffennol, fel y Gronfa Mynediad at Swyddi Etholedig, a oedd yn rhedeg rhwng 2012 a 2015. Roedd y gronfa hon yn caniatáu i ymgeiswyr anabl wneud cais am arian am gymorth, i sicrhau nad oeddent dan anfantais oherwydd y costau uwch y gallent eu hysgwyddo wrth ymgyrchu oherwydd eu hanabledd. Gallai'r mathau o gefnogaeth fod wedi cynnwys pethau fel dehonglwyr BSL, cynorthwyydd personol i gynorthwyo gyda thasgau penodol, neu gwariant ar dacsi lle nad oedd cludiant addas arall ar gael.
Mae cronfeydd cyfatebol ar gael i bobl anabl sy'n sefyll mewn etholiadau datganoledig yng Nghymru a'r Alban. Gellid sefydlu cynllun tebyg ar gyfer etholiadau a gedwir yn ôl i ddileu rhwystrau i ymgeiswyr rhag cymryd rhan yn y broses ddemocrataidd, ac i sicrhau bod pleidleiswyr yn gallu clywed gan amrywiaeth o ymgyrchwyr.
Cyflwynodd rhai ymgeiswyr heriau newydd i'r system
Roedd yr ymgeiswyr a ymatebodd i'n harolwg yn fodlon ar y cyfan â'r broses o ddod yn ymgeisydd a chymryd rhan yn yr etholiad. Roedd ganddynt lefelau uchel o hyder bod yr etholiad yn cael ei redeg yn dda, a bod pleidleisio yn gyffredinol yn ddiogel rhag twyll a chamdriniaeth.
Fodd bynnag, nododd rhai broblemau ynghylch casglu llofnodion. Gwaethygwyd hyn mewn rhai ardaloedd yn sgil anawsterau a nodwyd o ran cael gafael ar y gofrestr etholiadol gan awdurdodau lleol. Nodwyd problemau hefyd gyda'r system ffurflenni papur, yr oedd llawer yn cwyno ei bod yn ddull hen ffasiwn.
“2024 yw hi ac rydyn ni’n dal i orfod ymbalfalu gyda ffurflenni papur – dw i’n siŵr y gallai rhai o’r ffurflenni fod yn electronig, neu o leiaf gael eu sganio a’u hanfon mewn e-bost i’r cyngor. Hefyd, o ran llofnodion, dim ond pan oeddwn i'n casglu'r rhain ar gyfer fy ymgeisydd y darganfyddais nad oedd dau berson hyd yn oed wedi’u cofrestru i bleidleisio (roedden nhw'n meddwl eu bod nhw) – felly roedd hynny'n fuddiol iddyn nhw am ei bod yn golygu y gallent sicrhau eu bod wedi cofrestru, ond roedd yn golygu bod yn rhaid i mi redeg o gwmpas yn chwilio am fwy o bobl i lofnodi'r ffurflen enwebu. Does dim angen llofnodion ar gyfer etholiadau eraill, felly dydw i ddim yn siŵr pam mae hyn yn dal i fodoli ar gyfer etholiadau’r DU.” - Gwryw, Yr Alban, 35-44
Roedd rhai ymgeiswyr yn cynnig her i weinyddwyr ac yn peri dryswch i bleidleiswyr
Yn ystod yr ymgyrch etholiadol, cawsom sawl adroddiad am ymgeiswyr ffug honedig neu nifer o ymgeiswyr gyda'r un enw yn sefyll mewn etholaethau penodol. Mewn rhai achosion, bwriad yr enwebiadau hyn oedd i ddrysu neu gamarwain pleidleiswyr, er enghraifft drwy geisio dynwared ymgeisydd go iawn.
Mewn un achos, anogodd person ar YouTube, Niko Omilana, ei ddilynwyr i sefyll fel ymgeisydd o dan yr enw 'Niko Omilana' mewn o leiaf 11 etholaeth. Nid oedd yn glir ar y pryd – ond sefydlwyd hyn wedyn – a oedd yr ymgeiswyr eraill, y tu hwnt i'r personoliaeth YouTube ei hun, wedi newid eu henw yn gyfreithiol.
Er mwyn sefyll mewn etholiad rhaid i ymgeisydd gwblhau set o bapurau enwebu a llofnodi datganiad o wirionedd bod y manylion a ddarparwyd ganddynt yn gywir. Nid oes gofyniad i ymgeisydd ddangos ID fel rhan o hyn, ond mae’n drosedd darparu datganiad ffug ar bapurau enwebu, gan gynnwys cadarnhau ar gam nad yw’n sefyll mewn etholaeth arall. Pe bai datganiad ffug yn cael ei roi, mae gan yr heddlu y pŵer i ymchwilio.
Mae seiliau cyfyngedig a phenodol yn y gyfraith dros benderfynu bod enwebiad yn annilys. O dan gyfraith etholiadol, mae'n rhaid i Swyddogion Canlyniadau ymddiried yn y manylion a ddarperir ar ffurflenni enwebu ymgeiswyr, a derbyn yr enwebiad os yw'n bodloni'r gofynion. Nid oes ganddynt y pŵer i gynnal ymchwiliad nac ymchwilio i'r wybodaeth a ddarperir gan yr ymgeisydd.
Fodd bynnag, gall rhai ymgeiswyr newid eu henw yn gyfreithiol. Mae’n bosibl nad yw eraill yn ymwybodol o’r rheolau a’u bod mewn perygl o dorri’r gyfraith yn anfwriadol.
Argymhelliad 5: Dylid adolygu'r broses o enwebu ymgeiswyr
Manteisiodd nifer fach o bobl ar gyfyngiadau’r gofynion a'r gwiriadau ar gyfer enwebu ymgeiswyr yn etholiad cyffredinol y DU. Golygai hyn fod pleidleiswyr mewn 11 o etholaethau mewn perygl o fod wedi cael eu camarwain ynghylch pwy y gallent bleidleisio drostynt fel ymgeiswyr. Rhoddwyd y Swyddogion Canlyniadau yn yr etholaethau hynny mewn sefyllfa anodd oherwydd nad oedd ganddynt bwerau clir i atal pleidleiswyr rhag cael eu camarwain gan yr ymgeiswyr hyn.
Dylid cryfhau'r gofynion a'r gwiriadau ar gyfer enwebu ymgeiswyr i'w gwneud yn anos i ymgeiswyr gamarwain pleidleiswyr ynghylch eu gwir hunaniaeth. Rhaid i bleidleiswyr nawr ddarparu prawf o bwy ydynt pan fyddant yn cofrestru i bleidleisio, yn gwneud cais am bleidlais absennol neu'n bwrw eu pleidlais mewn gorsaf bleidleisio - ond nid oes rhaid i ymgeiswyr ddarparu unrhyw brawf adnabod i gael eu henwebu.
Dyma feysydd allweddol ar gyfer diwygio a gwella posibl:
- Ystyried a ellid ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr ddarparu prawf hunaniaeth fel rhan o'r broses enwebu – dylai hyn ystyried yr effaith ar hygyrchedd, diogelwch ac ymarferoldeb y broses enwebu os mai dim ond wyneb yn wyneb y gellid darparu a gwirio prawf adnabod
- Gan edrych eto ar argymhelliad blaenorol Comisiwn y Gyfraith y ‘dylai Swyddogion Canlyniadau feddu ar bŵer datganedig i wrthod enwebiadau sy’n defnyddio enw ymgeisydd sydd wedi’i fwriadu i ddrysu neu gamarwain etholwyr neu i rwystro arfer yr etholfraint, neu sy’n anweddus neu’n sarhaus’ – tra’n parhau i ddiogelu'r didueddrwydd sydd ei angen ar Swyddogion Canlyniadau i weinyddu prosesau etholiadol
- Adolygu'r diffiniad o droseddau (a chosbau) ar gyfer ymgeiswyr sy'n gwneud datganiadau ffug mewn papurau enwebu i sicrhau bod y rhain yn parhau i gynnig rhwystr priodol a realistig rhag camddefnyddio'r broses enwebu.
Mae cyfraith etholiadol hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr mewn etholiad cyffredinol yn y DU wneud datganiad nad ydynt wedi cytuno i gael eu henwebu mewn mwy nag un etholaeth. Byddai gwneud datganiad ffug am hyn yn drosedd. Yn ymarferol, fodd bynnag, ar hyn o bryd nid oes unrhyw fecanwaith hawdd i nodi a oes unrhyw ymgeiswyr wedi cytuno i gael eu henwebu mewn mwy nag un etholaeth. Mae’n bosibl hefyd y bydd angen datblygu proses ar gyfer coladu manylion yr holl ymgeiswyr mewn etholiad cyffredinol, er mwyn nodi a oes rhai ohonynt wedi’u henwebu mewn mwy nag un etholaeth.
Mae perygl nad yw’r system gyfethol yng Ngogledd Iwerddon yn dilyn penderfyniadau’r pleidleiswyr
Yng Ngogledd Iwerddon, mae swyddi gwag yn y Cynulliad ac yn yr 11 cyngor lleol yn cael eu llenwi drwy broses a elwir yn ‘gyfethol’: yn lle cynnal is-etholiad, mae swyddog enwebu plaid wleidyddol yn llenwi’r sedd wag a grëwyd gan ymddiswyddiad neu farwolaeth un o'u haelodau. Mae hyn oherwydd bod yr etholiadau hyn yn defnyddio'r system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy, felly mae cyfethol ar waith i sicrhau bod dewis etholwyr yn yr etholiad blaenorol yn parhau i gael ei adlewyrchu.
Yn dilyn etholiad cyffredinol y DU yn 2024, etholwyd pedwar Aelod Cynulliad Deddfwriaethol (ACD) presennol ac un cynghorydd fel ASau, felly bu’n rhaid iddynt ymddiswyddo o’u swyddi etholedig eraill. Drwy gyfethol, cafodd y swyddi gweigion yn y Cynulliad eu llenwi gan gynghorwyr cyfredol. Creodd hyn bedair swydd wag arall i'w llenwi yn y cynghorau lleol, hefyd drwy broses gyfethol.
Bu cynnydd yn y defnydd o’r broses gyfethol yn y blynyddoedd diwethaf. Er enghraifft:
- Mae naw ACD (10% o’r holl ACDau) a 24 cynghorydd (5% o’r holl seddi cyngor) wedi’u cyfethol ers etholiadau 2022 a 2023 yn y drefn honno
- Rrhwng Mai 2019 a Rhagfyr 2022, llenwyd 90 o swyddi gwag mewn cynghorau drwy gyfethol
- Rhwng Mawrth 2017 a Mawrth 2022, cafodd 29 ACD eu cyfethol i’r Cynulliad.
Mae cyfethol yn tynnu dewis democrataidd oddi ar bleidleiswyr ac yn lleihau tryloywder. Mae’r broblem hon yn debygol o waethygu yn 2027 pan mae disgwyl i etholiadau’r Cynulliad a llywodraeth leol gael eu cynnal.
Gallai ‘rhestr dirprwyo’ a ddarperir gan ymgeiswyr ar adeg eu henwebu fod yn un ateb posibl i’r mater hwn. Cyn etholiadau 2027, byddwn yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU a phleidiau gwleidyddol i gynnal uniondeb a hyder yn y broses etholiadol.
Gweithredu'r etholiadau
Yr hyn sy'n cael sylw yn yr adran hon
Mae swyddogion awdurdodau lleol a'u timau yn gyfrifol am nifer o brosesau hollbwysig. Mae hyn yn cynnwys cofrestru etholiadol, rheoli'r broses enwebu, pleidleisio absennol, gorsafoedd pleidleisio, a chyfrif pleidleisiau. Ochr yn ochr â’r rhain, etholiad cyffredinol y DU oedd y tro cyntaf i weinyddwyr ledled y DU orfod cyflawni’r newidiadau a gyflwynwyd gan y Ddeddf Etholiadau ar raddfa fawr mewn etholiad proffil uchel.
Mae’r pwysau ar gapasiti a gwytnwch timau etholiadol yn cynyddu
Roedd etholiad cyffredinol y DU yn heriol am sawl rheswm. Roedd hyn yn cynnwys:
- Ei amseriad
- Nifer y newidiadau deddfwriaethol oedd yn cael eu rhoi ar waith am y tro cyntaf mewn etholiad proffil uchel ledled y DU
- Gweithredu'r ffiniau seneddol newydd.
Yn ogystal, mewn etholiad cyffredinol, mae'r gyfraith yn mynnu bod yn rhaid i Swyddogion Canlyniadau ddechrau'r cyfrif o fewn pedair awr i ddiwedd y cyfnod pleidleisio. Rhaid i'r rhai na allant wneud hynny gyflwyno eu rhesymau i ni (gweler Atodiad B).
Roedd adborth gan weinyddwyr etholiadol yn adlewyrchu pryderon ynghylch cymhlethdod cynyddol y broses o weinyddu’r etholiadau. Yn yr un modd, dywedodd tua phedwar o bob deg aelod o staff mewn gorsafoedd pleidleisio (43%) a ymatebodd i’n harolwg ac a oedd wedi gweithio mewn etholiadau cyffredinol blaenorol yn y DU, fod eu profiad yn anoddach o gymharu ag etholiadau blaenorol.
Er gwaethaf newidiadau a heriau sylweddol i brosesau, cafodd yr etholiadau eu cynnal yn llwyddiannus. Fodd bynnag, mae capasiti a gwytnwch y system etholiadol ehangach yn parhau i fod yn faes allweddol o bryder, yn enwedig gyda nifer o newidiadau newydd, rhyng-gysylltiedig a chymhleth ar ben system sydd eisoes o dan bwysau.
Prin oedd yr amser oedd gan weinyddwyr i baratoi ar gyfer etholiad cyffredinol y DU
Rodd yn rhaid cynnal etholiad cyffredinol y DU cyn diwedd Ionawr 2025. Cafwyd adroddiadau helaeth yn y wasg a’r cyfryngau y byddai'n digwydd yn ail hanner 2024. Fodd bynnag, nid oedd union ddyddiad yr etholiad yn hysbys tan y cyhoeddiad ar 22 Mai.
Cafodd yr etholiad ei alw lai na thair wythnos ar ôl i’r etholiadau yng Nghymru a Lloegr gael eu cynnal. I'r rheini yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, roedd diwrnod y bleidlais (4 Gorffennaf) yn cyd-daro â dechrau gwyliau haf yr ysgolion.
Roedd yr amserlen ar gyfer etholiadau cyffredinol y DU, a diffyg dyddiad penodol, yn golygu mai dim ond 25 diwrnod gwaith oedd gan dimau etholiadau i baratoi ar gyfer yr etholiad a'i gyflawni. Roedd hyn yn cynnwys prosesu’r 2.8 miliwn a mwy o geisiadau i gofrestru i bleidleisio a dderbyniwyd rhwng 22 Mai a’r dyddiad cau ar gyfer cofrestru ar 27 Mehefin.
Rhoddodd prosesau newydd a newidiadau deddfwriaethol bwysau ychwanegol ar weinyddwyr
Ers y Ddeddf Etholiadau, mae timau etholiadol wedi bod yn gyfrifol am sawl gweithgaredd newydd, gan gynnwys:
- prosesu ceisiadau am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr a Dogfennau Etholwr Dienw
- cyhoeddi Tystysgrifau Awdurdod Pleidleisiwr neu Ddogfennau Etholwr Dienw dros dro
- darparu cyfarpar a chymorth mewn gorsafoedd pleidleisio
- prosesu pleidleisiau post a gyflwynwyd mewn gorsafoedd pleidleisio.
Yr etholiad cyffredinol hefyd oedd y tro cyntaf i ddinasyddion Prydeinig a Gwyddelig cymwys, a oedd wedi'u cofrestru'n flaenorol neu'n byw yn y DU ac sydd wedi byw dramor am fwy na 15 mlynedd, fod yn gymwys i bleidleisio.
Bu cynnydd hefyd yn nifer y ceisiadau am bleidlais bost yn ystod y cyfnod cyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau o gymharu ag etholiad cyffredinol diwethaf y DU. Rhoddodd hyn gryn bwysau o ran amser ac adnoddau ar weinyddwyr, oherwydd ni fu’n bosibl iddynt ddosbarthu pleidleisiau post cyn dyddiad cau enwebiadau ymgeiswyr, sef 7 Mehefin. Rydym yn ymdrin yn fanylach â phleidleisio drwy'r post yn gynharach yn yr adroddiad hwn.
Gofynnodd ein harolwg o weinyddwyr i’r ymatebwyr raddio yn ôl graddfa o un i bump a gawsant unrhyw broblemau gyda phrosesau penodol:
- dywedodd tua naw o bob 10 (89%) wrthym eu bod wedi profi o leiaf rai problemau (a raddiwyd fel dau neu’n uwch) gyda phrosesu ceisiadau pleidlais absennol domestig (ar-lein ac all-lein)
- dywedodd 95% iddynt gael problemau gyda cheisiadau tramor.
Roedd prosesu ceisiadau pleidleiswyr tramor yn golygu llawer o amser i’r gweinyddwyr. Soniodd gweinyddwyr a ymatebodd i’n harolwg am broblemau lu o ran y ffaith nad oedd gan bleidleiswyr y ddogfennaeth i allu cofrestru. Nodwyd llai o broblemau gyda phrosesau mwy cyfarwydd, gan gynnwys ceisiadau cofrestru domestig.
Mae ceisiadau dyblyg a cheisiadau munud olaf yn parhau i fod yn broblem. Mewn rhai achosion, disgrifiodd gweinyddwyr y niferoedd a dderbyniwyd fel ‘aruthrol’ neu ‘y tu hwnt i bob disgwyl’. Dangosodd ein data etholiadol fod 39% o geisiadau cofrestru i bleidleisio ym Mhrydain Fawr a dderbyniwyd cyn yr etholiad cyffredinol, yn rhai dyblyg.
“Yn aml byddai gennym fwy o geisiadau dyblyg na chofrestriadau newydd ac mae hynny’n mynd â’n hamser ni.”
Roedd her benodol, ychwanegol yn etholiadau Awdurdod Llundain Fwyaf a Maer Llundain ym mis Mai, lle cafodd pleidleisiau eu cyfrif â llaw am y tro cyntaf. Cyn hynny, roeddent wedi cael eu cyfrif yn electronig ers 2000. Er eu bod wedi llwyddo i gyfrif â llaw heb unrhyw broblemau, yn ôl yr adborth gan y gweinyddwyr, amlygwyd yr her logistaidd a rheolaethol o gyfrif â llaw dros sawl diwrnod, gan gynnwys gallu dod o hyd i staff cyfrif a lleoliadau priodol.
Roedd ffiniau etholaethau newydd yn ystyriaeth ychwanegol i weinyddwyr
Roedd ffiniau etholaethau newydd yn eu lle am y tro cyntaf yn yr etholiad cyffredinol hwn. Ymladdodd rhai ymgeiswyr am seddi newydd neu seddi oedd wedi newid. Roedd yna hefyd gyfuniadau newydd o awdurdodau lleol mewn etholaethau gwahanol oherwydd newidiadau i ffiniau’r etholaethau. Nid oedd llawer o’r trefniadau trawsffiniol yr oedd gweinyddwyr wedi’u datblygu ar gyfer etholiad cyffredinol 2019 yn berthnasol bellach ac roedd yn rhaid rhoi rhai newydd ar waith o fewn yr amser cyfyngedig a oedd ar gael. Roedd hyn yn cynnwys trefniadau ar gyfer rhannu gwybodaeth a chynhyrchu a chyflenwi deunyddiau pleidleisio, fel y manylion i'w cynnwys ar hysbysiadau’r etholiad.
Dywedodd bron i chwarter y gweinyddwyr a ymatebodd i’n harolwg na chawsant unrhyw broblemau wrth reoli’r ffiniau seneddol newydd. Cafodd y tri chwarter arall rywfaint o broblemau o leiaf. Nododd rhai broblemau penodol wrth ddefnyddio gwahanol Systemau Rheoli Etholiadol ar draws awdurdodau lleol.
“Roedd y drefn drawsffiniol yn risg ychwanegol i’r etholiad o ystyried nad oedd gan ein hawdurdod partner yr arbenigedd i ddarparu’r wybodaeth angenrheidiol i ni am nifer o ardaloedd heb i ni orfod holi neu eu hatgoffa.”
“Fe achosodd y drefn drawsffiniol broblemau aruthrol gyda dealltwriaeth a rheoli data o ran cydweithwyr. Roedd yn hynod ddryslyd i etholwyr wrth wneud cais am bleidleisiau post o’r newydd yr oedd yn rhaid eu casglu'n bersonol oddi wrth yr awdurdod derbyn sydd gryn bellter oddi wrth yr awdurdod sy’n eu dosbarthu. Mae’r broses drawsffiniol yn amhosibl i'w hesbonio i staff y ganolfan gyswllt sy'n derbyn galwadau. Ar y cyfan, byddwn yn dweud mai dyma’r hunllef fwyaf a gawsom.”
Roedd dod o hyd i ddigon o staff a'u cadw yn her
Cawsom adborth gan 47% o awdurdodau lleol ar ôl yr etholiadau. Mae’r sylwadau a’r safbwyntiau a dderbyniwyd gan weinyddwyr yn dangos bod dod o hyd i staff a chadw staff yn parhau i fod yn bryder allweddol.
Pan ofynnwyd iddynt nodi faint o broblem oedd hi i recriwtio staff, canfuwyd:
- Bod 90% o’r ymatebwyr wedi wynebu problemau wrth recriwtio staff gorsafoedd pleidleisio, gydag un o bob wyth (13%) yn profi problemau sylweddol
- Bod 93% o’r ymatebwyr wedi profi o leiaf rai problemau o ran cadw staff gorsafoedd pleidleisio rhwng y diwrnod recriwtio a’r diwrnod pleidleisio
- Bod recriwtio staff cyfrif yn llai o broblem, gyda thraean (33%) o’r ymatebwyr yn dweud na fu ganddynt unrhyw broblemau
Amlygodd sylwadau gan weinyddwyr fod cymhlethdod cynyddol y gwaith, ynghyd â chyfradd y tâl a gynigir, wedi effeithio ar eu gallu i recriwtio a chadw staff. Nododd eraill yr anawsterau a grëwyd gan amseriad yr etholiad yn ystod y cyfnod gwyliau yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
“Y broblem staffio unigol fwyaf o hyd yw’r anhawster i recriwtio a chadw Swyddogion Llywyddu wrth i’w cylch gwaith gynyddu o ran maint ac anhawster o un etholiad i’r llall, ond nid yw eu ffioedd yn cynyddu.”
“Anhawster wrth recriwtio staff profiadol oherwydd bod yr etholiad yn cael ei gynnal yn ystod gwyliau’r ysgol yn yr Alban.”
Nododd gweinyddwyr hefyd sut yr effeithiwyd ar y broses recriwtio gan y gofyniad i ddechrau’r cyfrif ar gyfer yr etholiad cyffredinol o fewn pedair awr i ddiwedd y cyfnod pleidleisio, gan roi pwysau ychwanegol ar staff.
“Roedd recriwtio staff yn her gan na allem ddefnyddio ein staff pleidleisio.”
“Mae’n teimlo bod pwysau arnom i sicrhau canlyniadau cyflym ac rydyn ni’n cael ein beirniadu os ydyn ni’n cymryd gormod o amser i’w cwblhau. Gyda phawb yn gweithio am 12 awr a mwy y dydd am yr ychydig wythnosau diwethaf, dydy bod yn glir eich meddwl ddim yn hawdd ac mae hyn yn achosi oedi wrth wneud penderfyniadau.”
“I lawer o staff mae’n ddiwrnod 24 awr ac mae hyn yn bryder.”
Rydym yn ymwybodol bod nifer o wallau yn yr etholiadau eleni a allai fod wedi effeithio ar lefelau hyder ymgeiswyr, asiantiaid a phleidleiswyr yn effeithiolrwydd ac uniondeb y broses etholiadol. Roedd hyn yn cynnwys dau fater yn etholiadau mis Mai a dau yn etholiad cyffredinol y DU, lle daethom i'r casgliad nad oedd y Swyddogion Canlyniadau yn bodloni elfennau o'n safonau perfformiad. O'r rhain, roedd tri yn ymwneud â chyfrif a datgan canlyniadau:
- Datgan y canlyniad yn anghywir: yn etholiadau lleol mis Mai yn Maidstone, darllenodd y Swyddog Canlyniadau enw’r ymgeisydd anghywir oherwydd gwall ar y daflen canlyniadau ar gyfer cyfrif cyngor plwyf
- Gwallau cyfrif: yn yr etholiad cyffredinol yn Wandsworth, gwnaed camgymeriad wrth gyfrif y cyfansymiau, gyda 6,558 o bleidleisiau heb eu cynnwys yn y datganiad a wnaed ar noson yr etholiad. Ar ôl eu hychwanegu, ni newidiodd hyn ganlyniad yr etholiad. Yn Richmond, hefyd ar gyfer yr etholiad cyffredinol, arweiniodd gwall ar y daenlen at dangofnodi cyfanswm o 688 o bleidleisiau ar gyfer un ymgeisydd. Ni newidiodd hyn y canlyniad a ddatganwyd ond fe newidiodd drefn y canlyniadau.
Digwyddodd y mater olaf yn gynharach yn y broses etholiadol:
- Ardaloedd pleidleisio yn cael eu cyfnewid rhwng wardiau: yn ystod etholiadau lleol mis Mai yn Epping Forest, arweiniodd camgymeriad, a ddarganfuwyd ar ôl y bleidlais, at gyfarwyddo 1,394 o bleidleiswyr mewn un ward i bleidleisio dros ymgeiswyr mewn ward arall. Yn dilyn cytundeb yr ymgeiswyr, cafodd y pleidleisiau eu cyfrif wedyn a datganwyd y canlyniad.
Ers yr etholiadau, rydym wedi ymgysylltu â'r Swyddogion Canlyniadau a'u timau i nodi gwraidd y problemau er mwyn atal problemau tebyg rhag codi yn y dyfodol. Byddwn yn parhau i gefnogi'r Swyddogion Canlyniadau wrth iddynt roi'r gwelliannau angenrheidiol i brosesau ar waith i helpu i sicrhau y gall pleidleiswyr, ymgeiswyr a phleidiau gwleidyddol barhau i fod â hyder yn y prosesau etholiadol.
Mae angen i weinyddwyr allu dibynnu ar gyflenwyr a systemau
Caiff etholiadau eu gweithredu drwy systemau cymhleth sy'n cynnwys llawer o wahanol bartneriaid, gan gynnwys cyflenwyr masnachol. Mae nifer cyfyngedig o gyflenwyr a chontractwyr a all ddarparu gwasanaethau. Roedd diffyg capasiti yn bryder allweddol i weinyddwyr. Cododd gweinyddwyr bryderon hefyd am addasrwydd systemau digidol y maent yn eu defnyddio i reoli ystod o brosesau etholiadol. Mae hyn yn cynnwys systemau rheoli etholiadol yn ogystal â'r Porth Swyddogion Cofrestru Etholiadol.
Drwy gydol yr etholiad, buom yn gweithio’n agos gyda gweinyddwyr etholiadol, Llywodraeth y DU, a chyflenwyr allweddol, gan gynnwys drwy’r Bwrdd Cynghori ar Gydgysylltu Etholiadol, i sicrhau y gellid nodi unrhyw broblemau a, lle y bo’n bosibl, eu lliniaru neu eu datrys. Yng Nghymru a'r Alban yn y drefn honno, fe wnaeth Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru a Bwrdd Rheoli Etholiadol yr Alban gryn dipyn i gefnogi'r gymuned etholiadol ehangach.
Cododd gweinyddwyr etholiadol bryderon am gapasiti a gwytnwch cyflenwyr
Diolch i'w hymdrechion a'u hymrwymiad eithriadol, llwyddodd gweinyddwyr etholiadol i wneud i'r system weithio'n dda i gyflawni etholiadau mis Mai a mis Gorffennaf. Ar y cyfan, roedd cyflenwyr a chontractwyr yn cyflawni popeth yn ôl y gofyn, ac nid oedd unrhyw broblemau systemig eang gyda’r broses.
Fodd bynnag, cododd gweinyddwyr bryderon ynghylch capasiti a gwytnwch eu cyflenwyr, yn enwedig o ystyried yr amserlenni tynn a’r niferoedd uchel yn yr etholiad cyffredinol. Yn ystod yr etholiad, cawsom adroddiadau am rai problemau ar lefel leol gyda dosbarthu pleidleisiau post, gyda chyflenwyr meddalwedd, ac argraffu a phrawfddarllen papurau pleidleisio.
Dywedodd y gweinyddwyr a ymatebodd i'n harolwg eu bod wedi wynebu rhai problemau gyda chyflenwyr a systemau. Roedd hyn yn cynnwys problemau gyda phorth y Swyddogion Cofrestru Etholiadol, y systemau rheoli etholiadol neu ddarparwyr print, a'r Post Brenhinol.
Mewn rhai achosion, gwaethygodd y problemau hyn y materion a gwmpesir yn yr adroddiad hwn, gan gynnwys nifer y ceisiadau a gweinyddiaeth pleidleisio drwy’r post.
“Roedd nifer y ceisiadau a’r anallu i reoli ceisiadau o fewn y porth yn ddigonol wedi achosi aneffeithlonrwydd a risg ychwanegol. Roedd ceisiadau cofrestru dyblyg yn broblem sylweddol. Roedd amserlen fer ac ychydig iawn o rybudd am yr etholiad wedi atal gwaith cynllunio priodol. Roedd y ffaith nad oedd unrhyw wybodaeth reoli ar gael yn y porth yn rhwystr i olrhain llwyth gwaith a thagfeydd yn effeithiol.”
“Cawsom broblemau pan na chyrhaeddodd y post (cardiau pleidleisio yn bennaf, rhai pecynnau post), faint o amser yr oedd eitemau’n eu cymryd yn y post (yn dod i mewn ac yn mynd allan), a phleidleisiau post yn mynd i’r awdurdod anghywir.”
Mae gwytnwch y farchnad cyflenwyr yn parhau i beri risgiau sylweddol i’r broses o gynnal etholiadau. Gall fforymau fel Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru neu Fwrdd Rheoli Etholiadol yr Alban sicrhau bod mesurau lliniaru a mesurau wrth gefn yn cael eu rhoi ar waith. Ond mae perygl y bydd methiant yn y gadwyn gyflenwi yn amharu ar y system gyfan.
Argymhelliad 6: Dylid mynd i’r afael â heriau i wytnwch y system etholiadol, gan gynnwys cyllid
Cyfrannodd y newidiadau a gyflwynwyd gan y Ddeddf Etholiadau at lwyth gwaith gweinyddwyr. Mae ymdeimlad clir yn yr adborth a gawsom fod gweinyddwyr o’r farn eu bod wedi ‘goroesi’r broses’ er gwaethaf yr heriau hyn, yn hytrach na’u bod yn gwbl hyderus bod ganddynt amser a chapasiti digonol, ac adnoddau gweithredol cwbl effeithiol i gynnal yr etholiad.
Mae gwytnwch ehangach awdurdodau lleol yn parhau i fod yn bryder sylweddol. Mae'n dibynnu ar fframwaith ariannu cymhleth a darniog, ac mae wedi'i ategu gan system o gyfraith etholiadol sydd wedi dyddio ac sy’n fwyfwy cymhleth.
Heb newid sylweddol, gan gynnwys ariannu etholiadau, mae’r perygl o gamgymeriadau gweinyddol neu fethiant prosesau gweinyddu etholiadol yn parhau yn y tymor byr a'r hirdymor. Yn ddiweddar, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi adolygiad strategol o ymddygiad a chofrestru etholiadol. Mewn llythyr at y sector etholiadol, roedd yn cydnabod bod ‘pentyrru llu o newidiadau ar sector sydd eisoes yn brysur a chymhleth yn golygu risg gynyddol i’n hetholiadau.’
Fel rhan o’i hadolygiad strategol, dylai Llywodraeth y DU ystyried a yw’r cyllid i gynnal etholiadau cyffredinol yn parhau i fod yn briodol ac yn ddigonol i gynnal etholiadau mewn ffordd sy’n bodloni disgwyliadau’r pleidleiswyr. Dylai hyn gynnwys sut y gellir sicrhau adnoddau effeithiol ar gyfer gwaith sy’n ymwneud â chofrestru etholiadol a cheisiadau pleidleisio absennol yn ystod cyfnodau etholiadau o bwys, fel yr etholiad cyffredinol. Mae hefyd angen asesiad risg cynhwysfawr o gapasiti a gwytnwch yn y sector, gan gynnwys y farchnad cyflenwyr. Dylai pob un o lywodraethau’r DU nodi sut y byddant yn gwneud cynnydd tuag at gyfraith etholiadol sydd wedi’i symleiddio, ei moderneiddio a’i chydgyfnerthu, gan adeiladu ar argymhellion cynhwysfawr Comisiwn y Gyfraith y DU sydd wedi denu cefnogaeth dda.
Nid yw systemau digidol bob amser yn gweithio'n ddigon da i weinyddwyr
Ddeng mlynedd ers cyflwyno cofrestru etholiadol unigol a lansio Gwasanaeth Digidol Cofrestru Etholiadol Unigol (IER), mae yna bellach nifer o wasanaethau digidol y mae gweinyddwyr etholiadol yn dibynnu arnynt – mae hyn yn cynnwys gwefannau lle gall pleidleiswyr wneud cais am bleidlais absennol. neu ofyn am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr, yn ogystal â'r porth Swyddogion Cofrestru Etholiadol. Caiff Gwasanaeth Digidol IER a’r porth Swyddogion Cofrestru Etholiadol eu rheoli gan y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, sy’n golygu bod Llywodraeth y DU yn ddarparwr gwasanaeth hanfodol i Swyddogion Cofrestru Etholiadol a Swyddogion Canlyniadau mewn ffordd nad oedd o’r blaen.
Yn y cyfnod cyn ac yn ystod etholiadau mis Mai a mis Gorffennaf, cododd gweinyddwyr bryderon ynghylch gweithrediad ac ymarferoldeb systemau digidol a ddarperir yn ganolog, yn enwedig y broses o wneud cais am bleidlais absennol ar-lein newydd, yn ogystal â'r cydnawsedd rhwng systemau rheoli etholiadol a'r system ganolog, y porth Swyddogion Cofrestru Etholiadol. Y farn oedd y byddai cael systemau digidol gwahanol (canolog a mwy lleol) yn arwain at lai o oruchwyliaeth a rheolaeth dros brosesau gan Swyddogion Cofrestru Etholiadol a Swyddogion Canlyniadau. Yng Nghymru a’r Alban, codwyd mater arall gan y gofynion amrywiol ar gyfer etholiadau a gedwir yn ôl ac etholiadau datganoledig, o ystyried nad oes mecanwaith ar hyn o bryd i wneud cais am bleidlais absennol ar-lein ar gyfer etholiadau datganoledig.
“Mae’r rhyngwyneb â’r system rheoli etholiadol a’r porth Swyddogion Cofrestru Etholiadol ar gyfer etholwyr tramor ymhlith un o’r prosesau mwyaf cymhleth y mae’r tîm wedi gorfod delio â hi erioed, mae’n broses aml-gam, aml-sgrin, heb unrhyw lif rhesymegol.”
“Roedd y defnydd o byrth ar wahân y Llywodraeth ar gyfer Tystysgrifau Awdurdod Pleidleisiwr, pleidleisiau post a dirprwyon, nad oedd yn cyfathrebu’n hawdd â’i gilydd yn gor-gymhlethu pethau ac unwaith eto, yn defnyddio amser craidd yr etholiadau ar draul dyletswyddau eraill. Er y gallai hyn wella effeithlonrwydd i’r etholwyr, mae’r gwrthwyneb yn wir i’r gweinyddwyr ac yn ei gwneud hi’n hynod o drwsgl wrth brosesu ochr yn ochr â’r system rheoli etholiadol.”
Thema gyson yn yr adborth gan weinyddwyr oedd nad oedd y porth Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn ‘addas i’r diben’, gyda llawer yn mynegi rhwystredigaeth ynghylch problemau a pha mor drwsgl oedd y broses. Amlygodd yr adborth gan weinyddwyr diffyg ymarferoldeb y porth a'r ffaith nad oedd yn integreiddio'n hawdd â’r meddalwedd system rheoli etholiadol presennol. Dywedodd rhai gweinyddwyr wrthym fod yn rhaid iddynt ddatblygu dulliau amgen o oresgyn yr heriau hyn. Roedd prosesu ceisiadau dyblyg ac etholwyr tramor yn anhawster arbennig gyda'r meddalwedd.
“O 22 Mai hyd at y diwrnodau cau, derbyniwyd 26,000 o geisiadau cofrestru i bleidleisio, 15,500 o geisiadau am bleidlais bost, 3,000 o geisiadau am ddirprwy a 600 o geisiadau am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr. Nid yw'r porth Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn ddigon datblygedig i ymdopi â'r symiau hyn. Bu’n rhaid i ni ddod â chymorth ychwanegol sylweddol i mewn i ymdopi.”
“Roedd cael tair system ar wahân ar gyfer ceisiadau post, dirprwy a thramor yn golygu bod rhai etholwyr wedi’u difreinio. Mae’n amhosibl monitro lle mae rhywun wedi gwneud cais mewn mwy nag un porth – felly, er enghraifft, gall etholwr wneud cais i gofrestru dramor a hefyd ofyn am bleidlais bost ar yr un pryd. Mae'r [cais am bleidlais bost] yn cael ei drefnu’n gyntaf, ond oherwydd nad ydym yn gwybod eu bod wedi gwneud cais i gofrestru fel etholwr tramor (naill ai oherwydd nad yw wedi'i brosesu eto neu dim ond yn ddiweddar iawn), mae'r bleidlais bost ynghlwm wrth eu cofrestriad domestig presennol. Yn llythrennol, yr un diwrnod/ychydig ddiwrnodau'n ddiweddarach mae'r [cais tramor] yn cael ei brosesu – mae’r cofrestriad domestig yn cael ei ddileu ac felly hefyd y bleidlais bost sydd ynghlwm â hynny. Canfu nifer sylweddol o [etholwyr tramor] nad oedd ganddynt bleidlais bost oherwydd yr union senario hwn.”
Gallai dibynnu ar systemau canolog fod wedi effeithio hefyd ar brofiad y pleidleisiwr. Cododd rhai gweinyddwyr bryderon ynghylch y wybodaeth a’r negeseuon a ddarparwyd i bleidleiswyr domestig a thramor o ran pryd a/neu sut i wneud cais am bleidlais absennol, a phryd y gallent ddisgwyl derbyn eu pleidleisiau post.
Er y gellir, ac y dylid gwneud gwelliannau i'r system i’r pleidleiswyr, nid lleiaf er mwyn sicrhau negeseuon cliriach, mae angen newidiadau mwy sylweddol i weithrediad systemau digidol i gefnogi’r gweinyddwyr i gyflawni eu dyletswyddau.
“Mae’r porth unigol cenedlaethol ar gyfer ceisiadau o fudd i etholwyr, ond mae’n eu tynnu allan o’r sgwrs leol lle ceir mwy o wybodaeth leol ddefnyddiol ynglŷn â phryd y gallwn anfon pleidleisiau post ac ystyriaethau ar gyfer anfon pleidleisiau post dramor. Mae'r porth cenedlaethol yn ôl-derfynu'r cyfathrebiad hwn tan ar ôl i'r cais gael ei wneud, gan achosi rhwystredigaeth i bleidleiswyr a allai fod wedi dewis opsiwn gwahanol pe bai'r holl wybodaeth berthnasol ganddynt ymlaen llaw. Mae perfformiad y system rheoli etholiadol o ran anfon cyfathrebiadau at y sawl sy’n gwneud cais yn rhy araf i gadw i fyny â maint y gwaith sy’n dod drwodd, gan ei gwneud yn ofynnol i swyddogion redeg llythyrau ac e-byst dros nos ac ar liniaduron ychwanegol i gadw i fyny.”
Argymhelliad 7: Mae angen gwella systemau digidol i gefnogi gweinyddwyr etholiadol yn well
Mae angen i weinyddwyr allu dibynnu ar systemau digidol gweithredol, cyd-gysylltiedig i gyflawni eu dyletswyddau. Mae hyn yn arbennig o bwysig yn y cyfnod cyn yr etholiadau pan fyddant dan bwysau sylweddol i gyflawni.
Dylai Llywodraeth y DU weithio gyda’r gymuned etholiadol i barhau i wella’r systemau digidol y mae’n eu darparu. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda chyflenwyr systemau rheoli etholiadol i sicrhau bod y porth digidol canolog yn gweithredu'n effeithiol gyda'r systemau y mae Swyddogion Canlyniadau a Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn eu defnyddio i gynnal etholiadau yn lleol.
Dylai Llywodraeth y DU hefyd sicrhau ei bod yn rheoli’r broses o roi newidiadau ar waith i systemau digidol yn ofalus, gan gynnwys eu profi’n drylwyr cyn gweithredu’r newidiadau. Dylai hyn gynnwys sicrhau cyngor gweithredol gan weinyddwyr etholiadol a'i ystyried cyn cadarnhau a fydd newidiadau yn dod i rym a phryd. Yn benodol, dylai Llywodraeth y DU wella gweithrediad ac ymarferoldeb y porth Swyddogion Cofrestru Etholiadol i gefnogi gweinyddwyr etholiadol yn well a sicrhau ei fod yn integreiddio ac yn gydnaws â meddalwedd system rheoli etholiadol.
Crynodeb o’r argymhellion
Gellir gwneud mwy i wella ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael i bleidleiswyr mewn gorsafoedd pleidleisio.
Dylai gwybodaeth ar-lein ac all-lein esbonio'r cymorth sydd ar gael i bleidleiswyr. Mae hyn yn cynnwys egluro pa gymorth y gall pleidleiswyr ei ddisgwyl mewn gorsafoedd pleidleisio, a sut y gallent ofyn am gyfarpar neu gymorth ychwanegol.
Dylid darparu'r wybodaeth hon ar gardiau pleidleisio ac ar wefannau awdurdodau lleol mewn da bryd cyn yr etholiad. Dylid ei ddarparu hefyd i bleidleiswyr mewn gorsafoedd pleidleisio. Byddwn yn ystyried a oes angen i'n canllawiau ar gyfer Swyddogion Canlyniadau fod yn fwy penodol neu'n gliriach ynghylch sut i ddarparu'r wybodaeth hon.
Byddwn hefyd yn ystyried a ellid defnyddio'r offeryn Gwybodaeth Etholiad rydym yn ei gynnal gyda'r Clwb Democratiaeth i ddarparu gwybodaeth i bleidleiswyr am y cymorth y gallent ei gael yn eu gorsaf bleidleisio leol.
Byddwn yn parhau i godi ymwybyddiaeth ymhlith pleidleiswyr. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda llywodraethau’r DU, awdurdodau lleol, sefydliadau elusennol a chymdeithas sifil. Byddwn hefyd yn gweithio gyda’r cyfryngau lleol a chenedlaethol i roi gwybod am y cymorth sydd ar gael. Byddwn yn nodi ac yn rhannu enghreifftiau o arferion da a gwersi perthnasol a ddysgwyd.
Mae llywodraethau Cymru a’r Alban yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth newydd fel bod mwy o gymorth yn cael ei ddarparu mewn etholiadau datganoledig yng Nghymru a’r Alban. Byddwn yn gweithio gyda swyddogion, gweinyddwyr a sefydliadau cymdeithas sifil i'w cefnogi i sicrhau bod y newidiadau hynny'n gweithio er budd pleidleiswyr.
Ni weithiodd systemau pleidleisio drwy'r post yn ddigon da i rai pleidleiswyr eleni. Roedd hyn yn golygu na dderbynion nhw eu pecynnau pleidleisio drwy’r post mewn pryd i'w cwblhau a'u dychwelyd cyn y diwrnod pleidleisio.
Mewn nifer cyfyngedig o ardaloedd, roedd hyn oherwydd gwallau neu broblemau gyda chyflenwyr. Mewn achosion eraill, nid oedd pleidleiswyr yn deall pryd y dylent ddisgwyl derbyn eu pleidleisiau post. Roedd hyn yn golygu nad oeddent yn gallu dewis ffordd wahanol o bleidleisio a fyddai’n gweddu’n well i’w hamgylchiadau.
Dylid diwygio’r system pleidleisiau absennol (gan gynnwys pleidleisio drwy’r post a phleidleisio drwy ddirprwy) i wella’r gwasanaeth i bleidleiswyr a chryfhau gwytnwch etholiadau’r dyfodol.
Dyma feysydd allweddol ar gyfer diwygio a gwella posibl:
- Gwella’r wybodaeth a roddir i bleidleiswyr cyn ac ar ôl iddynt wneud cais i bleidleisio drwy’r post – fel eu bod yn deall pryd y dylent ddisgwyl derbyn eu pleidlais bost, a’u bod yn gallu penderfynu a oes angen iddynt ddewis ffordd wahanol o bleidleisio
- Ystyried a yw'r dyddiad cau presennol ar gyfer ceisiadau am bleidlais bost yn caniatáu digon o amser i brosesu ceisiadau a dosbarthu pleidleisiau post fel y gall pleidleiswyr eu cwblhau a'u dychwelyd cyn y diwrnod pleidleisio
- Rheolau mwy hyblyg ar gyfer ailddosbarthu pleidleisiau post i bleidleiswyr nad ydynt wedi eu derbyn, fel y gellir eu hanfon allan yn gynt na'r terfyn amser presennol o bedwar diwrnod cyn y diwrnod pleidleisio
- Caniatáu i bleidleiswyr post ganslo eu pleidlais bost neu benodi dirprwy i bleidleisio ar eu rhan yn lle hynny, os nad ydynt wedi derbyn eu pleidlais bost mewn pryd i'w chwblhau a'i dychwelyd cyn y diwrnod pleidleisio
- Archwilio a allai mathau eraill o bleidleisio cyn y diwrnod pleidleisio roi dewisiadau amgen gwell i bleidleiswyr yn lle pleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy – gallai hyn gynnwys pleidleisio cynnar neu fathau eraill o bleidleisio hyblyg
- Ystyried a yw’r cyllid sydd ar gael i dalu am argraffu a dosbarthu pleidleisiau post yn ddigon i ateb y galw cynyddol, a gwella’r sylfaen gontract a chyflenwi i ddarparu’r lefel o wasanaeth y mae pleidleiswyr yn ei disgwyl.
Efallai y bydd angen newidiadau i ddeddfwriaeth neu gyllid ar gyfer y diwygiadau hyn. Dylai llywodraethau’r DU ac eraill ar draws y sector etholiadol ddatblygu atebion i’r rhain. Gan ddefnyddio'r sylfaen dystiolaeth hon, byddwn yn gweithio i nodi atebion effeithiol a sicrhau bod unrhyw newidiadau yn gwella hygyrchedd, eu bod yn ymarferol, ac yn cael eu cyfleu'n glir i bleidleiswyr, ymgyrchwyr, a gweinyddwyr etholiadol.
Nid yw'r opsiynau pleidleisio ar gyfer dinasyddion Prydeinig a Gwyddelig cymwys dramor yn gweithio'n ddigon da. Nid oes digon o amser i lawer o bleidleiswyr tramor dderbyn a dychwelyd pleidlais bost mewn pryd i’w pleidleisiau gael eu cyfrif. Nid yw rhai pleidleiswyr tramor yn adnabod unrhyw un yn y DU y gallent eu penodi fel dirprwy i bleidleisio ar eu rhan yn hytrach na dibynnu ar bleidleisio post.
Dylid diwygio'r systemau pleidleisio i bleidleiswyr tramor er mwyn gwella'r gwasanaeth fel y gellir cyfrif eu pleidleisiau. Gall y DU ddysgu o brofiadau gwledydd eraill sy’n darparu gwahanol ffyrdd o gefnogi eu dinasyddion dramor i bleidleisio mewn etholiadau, gan gynnwys Awstralia, Canada, Seland Newydd a’r Unol Daleithiau.
Dyma feysydd allweddol ar gyfer diwygio a gwella posibl:
- Ystyried a yw'r dyddiad cau presennol ar gyfer cofrestru fel pleidleisiwr dramor yn caniatáu digon o amser i brosesu ceisiadau a dosbarthu pleidleisiau post fel y gall pleidleiswyr dramor eu cwblhau a'u dychwelyd cyn y diwrnod pleidleisio
- Ystyried a ddylai pleidleisio drwy’r post fod yn ddewis diofyn i bob pleidleisiwr tramor pan fyddant yn cofrestru (oni bai eu bod yn dewis pleidleisio’n bersonol neu benodi dirprwy) – fel y gellir cyhoeddi mwy o bleidleisiau post cyn gynted â phosibl yn yr amserlen
- Archwilio sut i anfon pleidleisiau post at bleidleiswyr tramor yn gynharach yn amserlen yr etholiad – er enghraifft drwy anfon papur pleidleisio gwag cyn y dyddiad cau ar gyfer enwebu ymgeiswyr, neu ganiatáu i bleidleiswyr lawrlwytho ac argraffu eu papur pleidleisio eu hunain yn ddiogel, a’i bostio (yn hytrach na dibynnu ar bost yn cyrraedd o'r DU)
- Archwilio a allai rhai pleidleiswyr tramor bleidleisio'n bersonol mewn llysgenhadaeth neu gonswliaeth yn y wlad y maent yn byw ynddi, yn lle dibynnu ar bleidleisio drwy’r post
- Archwilio a allai pleidleisio â chymorth ar y ffôn, fel y’i defnyddir yn Queensland Awstralia, fod ar gael i bleidleiswyr tramor na allant ddibynnu ar y gwasanaeth post.
Efallai y bydd angen newidiadau i ddeddfwriaeth neu gyllid ar gyfer y diwygiadau hyn. Dylai llywodraeth y DU ac eraill ar draws y sector etholiadol ddatblygu atebion i’r rhain. Gan ddefnyddio'r sylfaen dystiolaeth hon, byddwn yn gweithio i nodi atebion effeithiol a sicrhau bod unrhyw newidiadau yn gwella hygyrchedd i bleidleiswyr a’u bod yn ymarferol.
Mae ymgeiswyr yn nodi eu pryderon cynyddol am y gamdriniaeth a’r brawychu y maent wedi'u hwynebu mewn etholiadau diweddar. Mae perygl bod y gweithredoedd annerbyniol hyn yn atal pobl sydd am sefyll mewn etholiad. Maent hefyd yn golygu y gall pleidleiswyr gael eu hatal rhag clywed am bolisïau a dadleuon gan ystod o ymgyrchwyr.
Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid ar draws y gymuned etholiadol ehangach i ddeall beth sy’n ysgogi cam-drin a brawychu, ac i ddatblygu ymatebion effeithiol ar y cyd i fynd i’r afael â’r problemau hyn. Byddwn yn cefnogi Cynhadledd y Llefarydd ar fygythiadau yn erbyn ymgeiswyr ac ASau, yn ogystal â’r gwaith a arweinir gan y Swyddfa Gartref, y Tasglu Amddiffyn Democratiaeth a’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol.
Rhaid i heddluoedd ac erlynyddion barhau i drin honiadau ac achosion o frawychu sy'n gysylltiedig ag etholiadau o ddifrif. Rhaid iddynt ddangos y bydd y rhai sy'n cyflawni troseddau yn erbyn ymgeiswyr ac ymgyrchwyr yn wynebu cosb sylweddol. Rhaid i bleidiau gwleidyddol hefyd chwarae eu rhan i gryfhau mesurau ataliol. Dyma feysydd allweddol ar gyfer diwygio a gwella posibl:
- Sicrhau bod pleidiau gwleidyddol yn cynnwys rheolau aelodaeth sy'n pwysleisio'n glir barch at ymgyrchwyr eraill, ac yn eu galluogi i gymryd camau priodol i gosbi aelodau os canfyddir eu bod wedi cam-drin neu aflonyddu ar ymgyrchydd arall (er enghraifft dileu aelodaeth neu eu dad-ddewis fel ymgeisydd)
- Sicrhau bod y cosbau i'r rhai a gaiff eu canfod yn euog o droseddau yn erbyn ymgeiswyr, ymgyrchwyr neu staff etholiadol yn adlewyrchu'r effaith ehangach fel ymosodiadau ar y broses ddemocrataidd.
Mae cyfleoedd i gryfhau ymhellach yr amddiffyniadau ar gyfer ymgeiswyr a phleidleiswyr yn y broses etholiadol, gan gynnwys:
- Ymestyn dull gweithredu a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru sy’n diogelu cyfeiriadau cartref ymgeiswyr sy’n gweithredu fel eu hasiantau etholiadol eu hunain, i gynnwys holl etholiadau’r DU
- Ystyried, gyda heddluoedd a Swyddogion Canlyniadau, a ddylid sefydlu parthau diogel lle na fyddai gweithgarwch ymgyrchu yn cael ei ganiatáu o amgylch gorsafoedd pleidleisio neu leoliadau cyfrif penodol lle yr aseswyd risg.
Mae lle hefyd i gryfhau’r cydgysylltu a’r gefnogaeth ragweithiol a gynigir i ymgeiswyr cyn ac yn ystod etholiadau, gan gynnwys:
- Sicrhau bod ymgeiswyr yn cael gwybodaeth ac arweiniad clir ynghylch sut i gael cymorth – gallai hyn olygu ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr roi manylion cyswllt i’r heddlu er mwyn caniatáu iddynt rannu gwybodaeth hanfodol a chysylltu â nhw mewn argyfwng
- Cael pwynt cyswllt penodol ar gyfer ymgeiswyr ac ymgyrchwyr, lle gallent ofyn am gymorth ac adnoddau i ymdrin â chamdriniaeth a brawychu
- Sicrhau trefniadau ariannu sefydlog, tymor hwy ar gyfer cymorth diogelwch i ymgeiswyr a chynrychiolwyr etholedig, gan gynnwys ar gyfer cynghorwyr lleol ac ymgeiswyr, fel y cynigiwyd ar gyfer Aelodau’r Cynulliad Deddfwriaethol yng Ngogledd Iwerddon. Dylai'r cymorth hwn gael ei hysbysebu'n briodol gyda chyfeiriadau clir fel bod ymgeiswyr yn gwybod ei fod ar gael ac yn rhywbeth y gallent ei ddefnyddio.
O ystyried maint a graddfa'r gamdriniaeth ar-lein a brofwyd gan ymgeiswyr ac ymgyrchwyr, dylai’r cyfryngau cymdeithasol a’r llwyfannau ar-lein wneud mwy i helpu i ddatblygu offer sgrinio gwell ar gyfer proffiliau digidol ymgeiswyr, i gael gwared ar gynnwys difrïol ac i adnabod y sawl sy’n gyfrifol. Gallai’r rhain gael eu datblygu a’u darparu gan gwmnïau digidol/cyfryngau cymdeithasol unigol, neu’n ganolog, gyda chymdeithas sifil. Dylai Ofcom, y rheoleiddiwr gwasanaethau cyfathrebiadau, hefyd ystyried sut y gallai’r dyletswyddau a’r cyfrifoldebau newydd a gyflwynwyd gan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein gael eu datblygu yn y dyfodol i wella amddiffyniadau ar-lein i ymgeiswyr ac ymgyrchwyr.
Yn ehangach na hyn, bydd yn hanfodol sicrhau bod cyd-ddealltwriaeth glir o'r hyn sy'n gyfystyr ag ymddygiad annerbyniol tuag at ymgeiswyr ac ymgyrchwyr, yn wahanol i ddadlau gwleidyddol cadarn. Mae angen hyn i ategu ymagwedd gyson sy'n amddiffyn ymgeiswyr ac yn rhoi'r hyder iddynt gymryd rhan. Dylai hyn ystyried yn arbennig brofiadau gwahaniaethol y rhai yr effeithir arnynt fwyaf gan gamdriniaeth a brawychu (gan gynnwys menywod, pobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, a phobl anabl).
Bydd y newidiadau hyn yn gofyn am ymdrech gyd-gysylltiedig gan amrywiaeth o sefydliadau ar draws y sectorau etholiadol a gorfodi'r gyfraith, gan gynnwys pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr, awdurdodau lleol, heddluoedd ac awdurdodau erlyn.
Byddwn yn cynnal ymchwil gyda'r cyhoedd i ddatblygu dealltwriaeth gliriach o ble mae'r trothwy rhwng ymddygiad derbyniol ac annerbyniol. Byddwn yn parhau i godi ymwybyddiaeth o'r ffaith nad yw ymddygiad camdriniol tuag at ymgyrchwyr a swyddogion etholedig byth yn dderbyniol. Byddwn hefyd yn gwneud yn siŵr bod ymgeiswyr ac ymgyrchwyr yn deall yr hyn yr ystyrir yn gamdriniaeth a brawychu a’u bod yn gwybod sut i adrodd amdano.
Manteisiodd nifer fach o bobl ar gyfyngiadau’r gofynion a'r gwiriadau ar gyfer enwebu ymgeiswyr yn etholiad cyffredinol y DU. Golygai hyn fod pleidleiswyr mewn 11 o etholaethau mewn perygl o fod wedi cael eu camarwain ynghylch pwy y gallent bleidleisio drostynt fel ymgeiswyr. Rhoddwyd y Swyddogion Canlyniadau yn yr etholaethau hynny mewn sefyllfa anodd oherwydd nad oedd ganddynt bwerau clir i atal pleidleiswyr rhag cael eu camarwain gan yr ymgeiswyr hyn.
Dylid cryfhau'r gofynion a'r gwiriadau ar gyfer enwebu ymgeiswyr i'w gwneud yn anos i ymgeiswyr gamarwain pleidleiswyr ynghylch eu gwir hunaniaeth. Rhaid i bleidleiswyr nawr ddarparu prawf o bwy ydynt pan fyddant yn cofrestru i bleidleisio, yn gwneud cais am bleidlais absennol neu'n bwrw eu pleidlais mewn gorsaf bleidleisio - ond nid oes rhaid i ymgeiswyr ddarparu unrhyw brawf adnabod i gael eu henwebu.
Dyma feysydd allweddol ar gyfer diwygio a gwella posibl:
- Ystyried a ellid ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr ddarparu prawf hunaniaeth fel rhan o'r broses enwebu – dylai hyn ystyried yr effaith ar hygyrchedd, diogelwch ac ymarferoldeb y broses enwebu os mai dim ond wyneb yn wyneb y gellid darparu a gwirio prawf adnabod
- Gan edrych eto ar argymhelliad blaenorol Comisiwn y Gyfraith y ‘dylai Swyddogion Canlyniadau feddu ar bŵer datganedig i wrthod enwebiadau sy’n defnyddio enw ymgeisydd sydd wedi’i fwriadu i ddrysu neu gamarwain etholwyr neu i rwystro arfer yr etholfraint, neu sy’n anweddus neu’n sarhaus’ – tra’n parhau i ddiogelu'r didueddrwydd sydd ei angen ar Swyddogion Canlyniadau i weinyddu prosesau etholiadol
- Adolygu'r diffiniad o droseddau (a chosbau) ar gyfer ymgeiswyr sy'n gwneud datganiadau ffug mewn papurau enwebu i sicrhau bod y rhain yn parhau i gynnig rhwystr priodol a realistig rhag camddefnyddio'r broses enwebu.
Mae cyfraith etholiadol hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr mewn etholiad cyffredinol yn y DU wneud datganiad nad ydynt wedi cytuno i gael eu henwebu mewn mwy nag un etholaeth. Byddai gwneud datganiad ffug am hyn yn drosedd. Yn ymarferol, fodd bynnag, ar hyn o bryd nid oes unrhyw fecanwaith hawdd i nodi a oes unrhyw ymgeiswyr wedi cytuno i gael eu henwebu mewn mwy nag un etholaeth. Mae’n bosibl hefyd y bydd angen datblygu proses ar gyfer coladu manylion yr holl ymgeiswyr mewn etholiad cyffredinol, er mwyn nodi a oes rhai ohonynt wedi’u henwebu mewn mwy nag un etholaeth.
Cyfrannodd y newidiadau a gyflwynwyd gan y Ddeddf Etholiadau at lwyth gwaith gweinyddwyr. Mae ymdeimlad clir yn yr adborth a gawsom fod gweinyddwyr o’r farn eu bod wedi ‘goroesi’r broses’ er gwaethaf yr heriau hyn, yn hytrach na’u bod yn gwbl hyderus bod ganddynt amser a chapasiti digonol, ac adnoddau gweithredol cwbl effeithiol i gynnal yr etholiad.
Mae gwytnwch ehangach awdurdodau lleol yn parhau i fod yn bryder sylweddol. Mae'n dibynnu ar fframwaith ariannu cymhleth a darniog, ac mae wedi'i ategu gan system o gyfraith etholiadol sydd wedi dyddio ac sy’n fwyfwy cymhleth.
Heb newid sylweddol, gan gynnwys ariannu etholiadau, mae’r perygl o gamgymeriadau gweinyddol neu fethiant prosesau gweinyddu etholiadol yn parhau yn y tymor byr a'r hirdymor. Yn ddiweddar, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi adolygiad strategol o ymddygiad a chofrestru etholiadol. Mewn llythyr at y sector etholiadol, roedd yn cydnabod bod ‘pentyrru llu o newidiadau ar sector sydd eisoes yn brysur a chymhleth yn golygu risg gynyddol i’n hetholiadau.’
Fel rhan o’i hadolygiad strategol, dylai Llywodraeth y DU ystyried a yw’r cyllid i gynnal etholiadau cyffredinol yn parhau i fod yn briodol ac yn ddigonol i gynnal etholiadau mewn ffordd sy’n bodloni disgwyliadau’r pleidleiswyr. Dylai hyn gynnwys sut y gellir sicrhau adnoddau effeithiol ar gyfer gwaith sy’n ymwneud â chofrestru etholiadol a cheisiadau pleidleisio absennol yn ystod cyfnodau etholiadau o bwys, fel yr etholiad cyffredinol. Mae hefyd angen asesiad risg cynhwysfawr o gapasiti a gwytnwch yn y sector, gan gynnwys y farchnad cyflenwyr. Dylai pob un o lywodraethau’r DU nodi sut y byddant yn gwneud cynnydd tuag at gyfraith etholiadol sydd wedi’i symleiddio, ei moderneiddio a’i chydgyfnerthu, gan adeiladu ar argymhellion cynhwysfawr Comisiwn y Gyfraith y DU sydd wedi denu cefnogaeth dda.
Mae angen i weinyddwyr allu dibynnu ar systemau digidol gweithredol, cyd-gysylltiedig i gyflawni eu dyletswyddau. Mae hyn yn arbennig o bwysig yn y cyfnod cyn yr etholiadau pan fyddant dan bwysau sylweddol i gyflawni.
Dylai Llywodraeth y DU weithio gyda’r gymuned etholiadol i barhau i wella’r systemau digidol y mae’n eu darparu. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda chyflenwyr systemau rheoli etholiadol i sicrhau bod y porth digidol canolog yn gweithredu'n effeithiol gyda'r systemau y mae Swyddogion Canlyniadau a Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn eu defnyddio i gynnal etholiadau yn lleol.
Dylai Llywodraeth y DU hefyd sicrhau ei bod yn rheoli’r broses o roi newidiadau ar waith i systemau digidol yn ofalus, gan gynnwys eu profi’n drylwyr cyn gweithredu’r newidiadau. Dylai hyn gynnwys sicrhau cyngor gweithredol gan weinyddwyr etholiadol a'i ystyried cyn cadarnhau a fydd newidiadau yn dod i rym a phryd. Yn benodol, dylai Llywodraeth y DU wella gweithrediad ac ymarferoldeb y porth Swyddogion Cofrestru Etholiadol i gefnogi gweinyddwyr etholiadol yn well a sicrhau ei fod yn integreiddio ac yn gydnaws â meddalwedd system rheoli etholiadol.
Datganiadau’r cyfrif
Etholaethau lle na ddechreuodd y cyfrif ar amser
Yn etholiad cyffredinol y DU, rhaid i'r broses o gyfrif pleidleisiau ddechrau cyn gynted ag y bo'n ymarferol o fewn pedair awr i ddiwedd y cyfnod pleidleisio. Dylai Swyddogion Canlyniadau sicrhau eu bod yn cymryd pob cam rhesymol i gychwyn y cyfrif erbyn 2am.
Os na allant, rhaid iddynt:
- Gyhoeddi ac anfon datganiad atom yn nodi'r amser y dechreuodd y cyfrif
- Y camau a gymerwyd i gydymffurfio â’r ddyletswydd
- Y rhesymau pam na ddechreuwyd cyfrif y pleidleisiau erbyn 2am.
Mae’n ofynnol i ni gyhoeddi rhestr o’r holl etholaethau lle na ddechreuodd y cyfrif o fewn yr amserlen ragnodedig:
- Angus a Perthshire Glens
- Arbroath a Broughty Ferry
- Braintree
- Dumfries a Galloway
- Dumfriesshire, Clydesdale a Tweeddale
- Gogledd Northumberland
- Orkney a Shetland
- Witham
Lawrlwytho fersiwn PDF o'r adroddiad hwn
- 1. Rydym wedi casglu barn pleidleiswyr tramor drwy ddau arolwg: un drwy ein hasiantaeth ymchwil allanol, YouGov, ac arolwg mewnol oedd ar gael drwy amrywiaeth o sianeli. Roedd y rhain yn cynnwys sefydliadau a Phrydeinwyr oedd yn byw dramor. Fe wnaethom hefyd ei anfon at bleidleiswyr a gysylltodd â ni am wybodaeth. Mae arolwg YouGov yn debygol o fod yn fwy cynrychioliadol o ddinasyddion Prydeinig sy'n byw dramor yn gyffredinol. Fodd bynnag, mae hyn hefyd yn golygu, yn unol â’r nifer fach o ddinasyddion Prydeinig tramor sydd wedi’u cofrestru, mai dim ond cyfran fach o’r sampl a gofrestrodd ac a geisiodd bleidleisio yn etholiad cyffredinol y DU. Roedd ein hail arolwg yn canolbwyntio mwy ar y pleidleiswyr tramor hynny a oedd eisoes yn ymgysylltu â'r etholiad. ↩ Back to content at footnote 1