Barn pobl ifanc ar wleidyddiaeth a phleidleisio 2026
Ein canfyddiadau allweddol
Mae ein hymchwil yn dangos bod pobl ifanc yn gwerthfawrogi democratiaeth ac eisiau ymgysylltu â gwleidyddiaeth, ond mae cyfleoedd i feithrin eu gwybodaeth wleidyddol a'u hyder yn anghyfartal.
Mae'r ymchwil yn tynnu sylw at sut mae ymgysylltiad pobl ifanc â democratiaeth yn cael ei lunio gan:
- eu mynediad at addysg ddemocrataidd
- eu cefndir teuluol
- ffynonellau gwybodaeth
Mae'r rhan fwyaf o bobl ifanc yn credu bod gwleidyddiaeth yn effeithio ar eu bywydau bob dydd ac yn meddwl ei bod hi'n bwysig byw mewn democratiaeth. Fodd bynnag, dim ond lleiafrif sy'n derbyn addysg wleidyddol gyson yn yr ysgol. O ganlyniad, mae cyfryngau cymdeithasol yn aml yn dod yn ffynhonnell wybodaeth wleidyddol bwysicach.
Mae hyn er gwaethaf cydnabod ei fod yn llai dibynadwy na ffynonellau gwybodaeth eraill a’i fod yn achosi pryder ynghylch gwybodaeth anghywir.
Mae ein canfyddiadau’n tynnu sylw at bwysigrwydd cryfhau addysg ddemocrataidd i bobl ifanc. Gall ysgolion a cholegau chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi pob person ifanc — waeth beth fo'u cefndir — i ddatblygu'r wybodaeth, yr hyder, a'r sgiliau sydd eu hangen i gymryd rhan mewn democratiaeth a llywio gwybodaeth wleidyddol yn effeithiol.
Mae ein rhaglen Olrhain Ieuenctid yn cynnwys cynnal ymchwil flynyddol sy'n archwilio:
- dealltwriaeth pobl ifanc o ddemocratiaeth
- eu hyder wrth gymryd rhan
- sut maen nhw'n ymgysylltu â gwleidyddiaeth
Mae rhaglen Olrhain Ieuenctid 2026 yn seiliedig ar:
- arolwg ar-lein ledled y DU o 2,501 o bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed
- pedwar grŵp ffocws gyda phobl ifanc o wahanol grwpiau oedran a lefelau o ddiddordeb gwleidyddol
Dyma ail ran yr ymchwil, gan adeiladu ar ganfyddiadau o 2025 a chaniatáu inni olrhain patrymau sy'n dod i'r amlwg dros amser.
Rydym wedi creu set o daflenni sy'n tynnu sylw at yr hyn sy'n llunio ymgysylltiad gwleidyddol ymhlith pobl ifanc a pham mae addysg ddemocrataidd gryfach mewn ysgolion yn bwysig. Mae taflenni ar gael ar gyfer Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon, a Lloegr.
Mae pobl ifanc eisiau cymryd rhan mewn democratiaeth, a gall addysg ddemocrataidd well helpu i gynyddu cyfleoedd
Yr hyn y gwnaethom ei ganfod
Mae pobl ifanc yn gwerthfawrogi democratiaeth ac eisiau cymryd rhan ynddi. Mae'r rhan fwyaf yn dweud ei bod hi'n bwysig byw mewn gwlad ddemocrataidd ac mae'r mwyafrif yn credu bod gwleidyddiaeth yn effeithio ar eu bywydau bob dydd. Fodd bynnag, nid oes cyfle cyfartal i ddatblygu hyder a gwybodaeth wleidyddol. Mae ein hymchwil yn dangos bod cefndir teuluol a diddordeb rhieni mewn gwleidyddiaeth yn dylanwadu'n gryf ar ymgysylltiad â gwleidyddiaeth.
Mae 81% o bobl ifanc yn meddwl bod byw mewn democratiaeth yn bwysig!
Mae addysg ddemocrataidd yn anghyson
Dim ond tua thri o bob deg o bobl ifanc o dan 18 oed sy'n dweud eu bod wedi clywed am wleidyddiaeth yn yr ysgol neu'r coleg yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, er gwaethaf y ffaith bod ysgolion yn un o'r ffynonellau gwybodaeth wleidyddol mwyaf dibynadwy i bobl ifanc. Pan fydd disgyblion yn dysgu amdano, mae'n tueddu i fod mewn gweithgareddau ynysig neu bynciau dewisol yn hytrach na chynnig cyson i bawb.
Ar yr un pryd, mae galw mawr am addysg ddemocrataidd. Mae bron i bedwar o bob pump o bobl ifanc yn credu y dylid dysgu mwy am wleidyddiaeth mewn ysgolion. Mae pobl ifanc yn dweud amlaf eu bod nhw eisiau deall:
- sut mae pleidleisio yn gwneud gwahaniaeth
- beth mae pleidiau gwleidyddol yn ei gynrychioli
- sut mae pleidleisio'n gweithio'n ymarferol
Mae 30% o'r rhai 18 oed ac iau yn dweud eu bod wedi dysgu am wleidyddiaeth yn yr ysgol neu'r coleg
Mae dylanwad teuluol hefyd yn chwarae rhan arwyddocaol
Pan fydd oedolion gartref â diddordeb mewn gwleidyddiaeth, mae pobl ifanc yn llawer mwy tebygol o fod â diddordeb eu hunain. Mae trafodaeth am wleidyddiaeth gartref yn helpu i feithrin cynefindra a hyder cynnar. Mae siarad ag aelodau’r teulu yn un o’r prif ffyrdd y mae pobl ifanc yn clywed am wleidyddiaeth – yn enwedig mewn cartrefi lle mae rhieni’n ymgysylltu’n wleidyddol.
Mae cefndir economaidd-gymdeithasol yn dylanwadu ar ymgysylltiad
Mae pobl ifanc o gartrefi mwy breintiedig yn fwy tebygol o:
- fod â diddordeb mewn gwleidyddiaeth
- cymryd rhan mewn gweithgareddau dinesig
- dysgu am wleidyddiaeth drwy bynciau ysgol
Mae pobl ifanc sydd eisoes â diddordeb mewn gwleidyddiaeth — yn aml wedi'u dylanwadu gan drafodaeth gartref — yn fwy tebygol o ddewis pynciau lle mae gwleidyddiaeth yn cael ei thrafod yn fanylach. Mae hyn yn helpu'r rhai sydd â chysylltiad cynnar i barhau i feithrin gwybodaeth a hyder tra bod eraill yn colli allan.
Pam mae'n bwysig
Mae mynediad anghyfartal at ddysgu gwleidyddol yn peryglu lledu bylchau o ran pwy sy'n cymryd rhan mewn democratiaeth dros amser. Mae ysgolion a cholegau yn un o'r ychydig leoedd lle gallai pob person ifanc ddatblygu hyder a gwybodaeth wleidyddol waeth beth fo'u cefndir.
Gallai darparu addysg ddemocrataidd gyson a hygyrch helpu i leihau anghydraddoldebau o ran cyfranogiad a chefnogi ymgysylltiad hirdymor â democratiaeth.
| % | |
|---|---|
| Mae gan y rhieni ddiddordeb | 51% |
| Does gan y rhieni ddim diddordeb | 2% |
| Cefndir economaidd-gymdeithasol | % |
|---|---|
| AB | 67% |
| C1 | 38% |
| C2 | 39% |
| DE | 32% |
| % | |
|---|---|
| Ar gyfryngau cymdeithasol | 53% |
| Teulu | 48% |
| Ar y teledu | 46% |
| Y rhyngrwyd - gan eithrio cyfryngau cymdeithasol | 33% |
| Ffrindiau | 30% |
| Ar y radio | 25% |
| Yn yr ysgol neu’r coleg | 23% |
| Ar bodlediad | 15% |
| Sgwrsfot deallusrwydd artiffisial | 9% |
Mae pobl ifanc yn ymgysylltu mwy â gwleidyddiaeth pan mae'n teimlo'n berthnasol i'w bywydau
Yr hyn y gwnaethom ei ganfod
Mae diddordeb a gwybodaeth hunan-adroddedig mewn gwleidyddiaeth yn cynyddu wrth i bobl ifanc nesáu at fod yn oedolion a phrofi sut mae penderfyniadau gwleidyddol yn effeithio ar eu bywydau, gan gynnwys y rhai sy'n gysylltiedig â:
- cyflogaeth
- cyllid
- tai
- addysg
Mae'r rhan fwyaf o bobl ifanc yn dweud y byddent yn pleidleisio i leisio barn neu i ddylanwadu ar benderfyniadau sy'n effeithio ar genedlaethau'r dyfodol. Yn aml, mae pobl ifanc sy'n teimlo'n ddatgysylltiedig yn dweud bod gwleidyddiaeth yn teimlo'n bell, yn ddryslyd, neu'n annhebygol o wneud gwahaniaeth.
Mae dod i gysylltiad â gwleidyddiaeth drwy:
- addysg
- trafodaeth deuluol
- ffynonellau gwybodaeth dibynadwy
yn helpu pobl ifanc i ddeall sut mae gwleidyddiaeth yn effeithio ar eu bywydau ac yn cynyddu hyder i gymryd rhan.
Pam mae'n bwysig
Mae pobl ifanc yn cymryd mwy o ran mewn gwleidyddiaeth pan mae'n teimlo'n:
- berthnasol
- yn hawdd ei ddeall
- yn hygyrch
Yn ogystal â hybu ymwybyddiaeth o wleidyddiaeth, gallai helpu pobl ifanc i ddeall sut mae penderfyniadau gwleidyddol yn cysylltu â bywyd bob dydd gefnogi cyfranogiad democrataidd hirdymor.
| Oedran | Canran sydd â diddordeb mewn gwleidyddiaeth |
|---|---|
| 11-14 | 28% |
| 15-17 | 32% |
| 18-20 | 42% |
| 21-25 | 61% |
Things like taxes and all that didn't affect me
in the past. So I guess, like, 16 year old me
wouldn't have cared at all. But now that I am
18 and sorting everything out myself, I do see
the other things affecting me.
Male, aged 18
When you're younger you can't really vote, so there's not much point.
Female, aged 13
| Oedran | % |
|---|---|
| 11-12 | 52% |
| 13-14 | 50% |
| 15-16 | 48% |
| 17-18 | 55% |
| 19-20 | 56% |
| 21-22 | 75% |
| 23-25 | 77% |
| Oedran | % |
|---|---|
| 11-12 | 49% |
| 13-14 | 60% |
| 15-16 | 58% |
| 17-18 | 67% |
| 19-20 | 72% |
| 21-22 | 79% |
| 23-25 | 76% |
Yr hyn rydym yn ei wneud
Fel corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau yn y DU, rydym yn gweithio i sicrhau bod gan bob person ifanc fynediad at addysg ddemocrataidd ddiduedd, fel y gall pawb fwrw eu pleidlais gyntaf yn hyderus.
Rydym yn darparu adnoddau addysg i'w defnyddio mewn lleoliadau addysg ffurfiol ac anffurfiol i gefnogi pobl ifanc i ddysgu mwy am ddemocratiaeth y DU a'u pleidlais eu hunain, ac i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i gymryd rhan lawn.
Yn ddiweddar, rydym wedi lansio rhaglen addysg ddemocrataidd newydd mewn cydweithrediad â sefydliadau partner arbenigol. Mae'r gwaith yn bwriadu:
- helpu i baratoi pobl ifanc ar gyfer cynlluniau Llywodraeth y DU i ostwng yr oedran pleidleisio i 16 oed drwy gynyddu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o ddemocratiaeth ac etholiadau
- cefnogi addysgwyr i deimlo'n hyderus wrth ddysgu’r pwnc drwy ddarparu adnoddau a hyfforddiant cywir a diduedd
Rydym hefyd wedi argymell newidiadau i'r cwricwlwm, gyda chefnogaeth y sector addysg ddemocrataidd, a fyddai'n sicrhau bod y gefnogaeth gywir ar waith i baratoi pobl ifanc i gymryd rhan yn ein hetholiadau am y tro cyntaf.
Os hoffech drafod ein gwaith addysg, cysylltwch â ni drwy anfon neges e-bost [email protected]
Mae cyfryngau cymdeithasol yn ffynhonnell allweddol o wybodaeth wleidyddol i bobl ifanc ond mae ymddiriedaeth yn isel ac mae dod i gysylltiad â chamwybodaeth yn gyffredin
Yr hyn y gwnaethom ei ganfod
Ar y cyfryngau cymdeithasol y mae pobl ifanc yn dod ar draws gwybodaeth wleidyddol amlaf. Mae mwy na hanner yn dweud eu bod wedi gweld neu glywed am wleidyddiaeth drwy gyfryngau cymdeithasol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Fodd bynnag, mae pobl ifanc yn ymddiried llai mewn gwybodaeth wleidyddol ar gyfryngau cymdeithasol nag mewn gwybodaeth gan:
Many young people encounter political content passively through suggested content and algorithms rather than actively searching for information.
Mae llawer o bobl ifanc yn dod ar draws cynnwys gwleidyddol yn oddefol drwy gynnwys a awgrymir ac algorithmau yn hytrach na chwilio'n benodol am wybodaeth.
Mae bron i hanner y bobl ifanc yn dweud eu bod yn gweld gwybodaeth wleidyddol ffug o leiaf unwaith yr wythnos, ac mae'r rhan fwyaf yn mynegi pryder ynghylch camwybodaeth. Mae hyder wrth adnabod gwybodaeth ddibynadwy ar-lein yn gymysg, a dim ond tua thraean sy'n cofio cael eu dysgu sut i adnabod gwybodaeth ffug neu gamarweiniol yn yr ysgol.
Mae pobl ifanc sydd eisoes â diddordeb mewn gwleidyddiaeth yn fwy tebygol o chwilio am wybodaeth yn weithredol a datblygu sgiliau llythrennedd cyfryngau cryfach. Gall y rhai sydd â llai o gysylltiad â gwleidyddiaeth ddod ar draws cynnwys gwleidyddol ar-lein o hyd ond gallant deimlo'n llai hyderus wrth farnu a yw'n gywir neu'n ddibynadwy.
Pam mae'n bwysig
Mae dibynnu ar gyfryngau cymdeithasol am wybodaeth wleidyddol fel:
yn cynyddu pwysigrwydd llythrennedd yn y cyfryngau a ffynonellau addysgol dibynadwy.
Heb y sgiliau hyn, efallai y bydd pobl ifanc yn ei chael hi'n anodd nodi gwybodaeth ddibynadwy a gallant fod yn fwy agored i gamwybodaeth.
Gallai dysgu sgiliau i bobl ifanc i asesu'r hyn maen nhw'n ei weld ar-lein helpu i gryfhau hyder mewn prosesau democrataidd.