Ymchwil moderneiddio etholiadau
Ymchwil moderneiddio etholiadau
Ymchwil moderneiddio etholiadau
Mae’r ymchwil ansoddol hwn yn edrych ar agweddau’r cyhoedd tuag at bleidleisio a’r wybodaeth sydd ar gael o amgylch etholiadau. Mae’n ystyried safbwyntiau ar ddulliau pleidleisio presennol ac yn archwilio syniadau ac agweddau ynghylch ffyrdd newydd o bleidleisio yn y dyfodol.
Mae hyn yn rhan o brosiect ehangach sy’n edrych ar ddyfodol pleidleisio. Bydd y dystiolaeth a ddarperir gan yr ymchwil yn llywio gwaith pellach i archwilio anghenion a dyheadau grwpiau allweddol eraill, gan gynnwys gweinyddwyr etholiadol, ymgyrchwyr a sefydliadau cymdeithas sifil. Yn y pen draw, bydd y gwaith hwn yn cael ei ddefnyddio i gefnogi argymhellion i lywodraethau’r DU ynghylch sut y gall y system etholiadol barhau i gefnogi cyfranogiad yn y broses ddemocrataidd.
Mae pobl yn gwerthfawrogi cyfranogiad eang y cyhoedd mewn etholiadau ac yn hoffi’r dulliau presennol ar gyfer pleidleisio
Ar y cyfan, mae pobl yn fodlon gyda’r opsiynau presennol sydd ganddynt ar gyfer pleidleisio, a’u barn oedd eu bod yn syml, yn enwedig ar ôl iddynt bleidleisio cwpl o weithiau a dod yn gyfarwydd â’r broses.
Pleidleisio’n bersonol yw’r opsiwn safonol a dewisol ar gyfer y rhan fwyaf o bobl. Caiff pleidleisio drwy’r post ei ddefnyddio gan amlaf mewn sefyllfaoedd lle na allai pobl gyrraedd yr orsaf bleidleisio neu lle roeddent yn dilyn dull o bleidleisio arferol eu rhieni. Barn y rheiny a oedd ond wedi pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio oedd bod pleidleisio drwy’r post yn cymryd mwy o ymdrech ac yn llai dibynadwy na phleidleisio’n bersonol. Fodd bynnag, gwnaeth bawb gwerthfawrogi bod dulliau gwahanol ar gael gan fod pobl, yn fwy na dim, am i bawb allu pleidleisio’n rhwydd ac yn hyderus.
Er y codwyd rhai problemau, megis rhai o amgylch hygyrchedd, nid oes tystiolaeth i awgrymu bod y prosesau pleidleisio presennol yn gyfrifol am bobl yn dewis peidio â phleidleisio, neu fod pobl ddim yn pleidleisio oherwydd nad ydynt yn gwybod sut i wneud hynny. Ar gyfer y rhan fwyaf o bobl, roedd gwybodaeth weithdrefnol ar gael yn rhwydd.
Gellir gwneud gwelliannau ond rhaid iddynt beidio â thanseilio pwysigrwydd ymddangosiadol y broses
Roedd prosesau arloesol wnaeth pleidleisio’n gyflym, yn rhwydd ac yn hygyrch yn ddeniadol i’r bobl a gymerodd ran yn yr ymchwil Er bod rhwyddineb yn bwysig i bobl wrth bleidleisio – a’u bod felly’n cefnogi’n fras dulliau a allai gynyddu rhwyddineb – mae yna deimlad cryf hefyd na ddylai pleidleisio fod mor hawdd y gellid ei wneud heb roi gwir ystyriaeth iddo.
Teimlai pobl ei bod yn hanfodol bod y broses o bleidleisio’n parhau i deimlo’n bwysig, ac y dylai arwain at deimladau o reolaeth, diben ar y cyd a chymuned.
Dywedodd pobl hefyd bod diogelwch yn bwysig a’u bod am fod yn sicr bod eu pleidlais wedi’i chyfrif yn gywir ac y byddai’n cael ei storio’n ddiogel.
Ystyriwyd bod preifatrwydd hefyd yn elfen allweddol o bleidleisio. Roedd rhai pobl yn gofidio y gellid colli hyn gyda phrosesau arloesol ar gyfer pleidleisio o bell, oherwydd gallai pobl fod yn pleidleisio gydag eraill gerllaw.
Ar y cyfan roedd pobl yn hoffi’r syniad o bleidleisio ar-lein. Eu barn oedd ei fod yn hyblyg, yn debyg i weithgareddau ar-lein tebyg i fancio a siopa, ac y gallai, o bosib, annog mwy o bobl i bleidleisio.
Fodd bynnag, roedd rhai gofidion ynghylch diogelwch pleidleisio ar-lein; y perygl o beidio â chadw anhysbysrwydd pleidleiswyr; llythrennedd digidol; a’r posibilrwydd y gallai rhai pobl gael eu gorfodi i bleidleisio mewn modd penodol.
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwybod sut y gallant bleidleisio
Ar y cyfan, roedd gan bobl ddigon o wybodaeth i ddeall sut i bleidleisio, ar wahân i nifer fach o bobl oedd heb bleidleisio eto.
Er mwyn i bobl ifanc a phleidleiswyr tro cyntaf deimlo’n barod i bleidleisio, roedd yn bwysig iddynt glywed am y broses o bleidleisio a’r system etholiadol, sut mae ymgeiswyr yn cael eu hethol, a’r gwahaniaeth rhwng etholiadau.
Dywedwyd ei bod hi’n bwysig i bobl gydag anghenion iechyd meddwl neu anableddau corfforol gael gwybodaeth gliriach am sut i gael ‘cymorth ychwanegol’ os byddai ei angen arnynt.
Roedd dealltwriaeth bobl o natur y dulliau gwahanol o bleidleisio’n amrywio’n sylweddol. Pleidleisio drwy ddirprwy oedd yr opsiwn roedd pobl yn lleiaf cyfarwydd ag ef.
Nid yw pawb yn gwybod pam y dylent bleidleisio
Rhoddodd pobl wybod i ni mai’r prif herion i bleidleisio oedd gwybod pa etholiadau oedd yn cael eu cynnal a phryd, pam ei bod hi’n bwysig pleidleisio, a sut i wneud penderfyniad gwybodus ynghylch pwy i bleidleisio ar ei gyfer. Weithiau roedd yr heriau hyn yn atal pobl rhag pleidleisio, er eu bod i bob diben yn gwybod sut i bleidleisio.
Dywedodd pobl yn aml eu bod yn cael eu ‘llethu’ gan yr wybodaeth oedd ar gael yn ystod etholiad. Doedd rhai ddim yn gwybod ble i ddechrau chwilio. Roedd eraill yn ansicr ble y gallent ddod o hyd i ffynonellau y gallent ymddiried ynddynt. Ac roedd gan eraill ddiffyg hyder yn eu gallu i ddadansoddi gwybodaeth wrth ddod i benderfyniad ynghylch pwy i bleidleisio ar ei gyfer.
Yn gyffredinol, roedd pobl am gael gwybodaeth glir a chymaradwy mewn un man, yn hytrach na chael llawer o wybodaeth o ffynonellau gwahanol. Roedd pobl hefyd yn gwerthfawrogi bod yr wybodaeth roeddent yn ei chael am ymgeiswyr a’u polisïau’n dod o ffynonellau ‘niwtral’, sef ffynonellau amhleidiol, annibynnol.
Sut y gwnaethom gynnal yr ymchwil hwn
Roedd hwn yn brosiect ansoddol ar raddfa fawr gyda sampl amrywiol sy’n cwmpasu’r pedair gwlad. Cynhaliwyd cyfweliadau drwy’r Gymraeg hefyd. Cynhaliwyd y gwaith gan Revealing Reality.
Yn ystod misoedd Ionawr, Chwefror a Mawrth 2021, gwnaethom gynnal cyfanswm o 50 o grwpiau ffocws, 48 o gyfweliadau manwl a 15 o gyfweliadau dilynol, gan siarad gyda dros 300 o bobl am eu profiadau o bleidleisio. Roedd yr ymchwil yn cwmpasu:
- pobl 18 i 85 mlwydd oed yn y DU
- pobl ifanc 16-17 mlwydd oed yng Nghymru a’r Alban
- ystod o grwpiau economaidd-gymdeithasol
- lleoliadau trefol a gwledig ar draws y pedair gwlad
- y difreintiedig a’r rheiny sy’n dra ymgysylltiedig
- y rheiny sydd wedi pleidleisio ar hyd eu hoes a’r rheiny nad ydynt wedi pleidleisio o’r blaen
- y rheiny sy’n rhychwantu’r sbectrwm gwleidyddol
Gwnaeth yr ymchwil hefyd sicrhau cynrychiolaeth gan bobl sydd ag anghenion iechyd, megis anableddau corfforol, nam ar y clyw / golwg a phroblemau iechyd meddwl. Mae hefyd yn cynnwys y rheiny nad ydynt yn defnyddio’r rhyngrwyd a chyfranogwyr nad ydynt yn hyderus yn ddigidol.
- Deall beth mae’r cyhoedd yn ei feddwl am y ffyrdd presennol y gall pobl bleidleisio mewn etholiadau yn y DU
- Deall beth sy’n bwysig i bobl wrth iddynt bleidleisio
- Deall beth fyddai’n gwella profiad pobl o bleidleisio
- Archwilio beth yw teimladau pobl am ffyrdd gwahanol arfaethedig o bleidleisio, a pham efallai y byddai’n well ganddynt rai dulliau dros rai eraill
- Deall p’un a oes gwahaniaethau mewn safbwyntiau yn ôl demograffeg neu ddull pleidleisio
- Nodi pa wybodaeth y mae’r cyhoedd am ei chael am etholiadau, pleidleisio a gwleidyddiaeth
- Archwilio pam mae pobl am gael yr wybodaeth hon, a beth fyddai’n newid petaent yn ei chael
- Archwilio pa wybodaeth sydd bwysicaf i grwpiau gwahanol o bobl
- Deall sut mae pobl yn asesu p’un a yw gwybodaeth yn wybodaeth dda
- Deall pwysigrwydd ffynonellau unrhyw wybodaeth i bobl