Olrhain Barn y Cyhoedd 2022
Rhannu'r dudalen hon:
Olrhain Barn y Cyhoedd 2022
Ers 2007, mae'r Comisiwn Etholiadol wedi olrhain barn y cyhoedd am agweddau gwahanol ar etholiadau a democratiaeth yn y DU. Cynhaliwyd ein hastudiaeth ddiweddaraf ar-lein, ledled y DU, ym mis Chwefror 2022.
Canfyddiadau allweddol
- Mae hyder y cyhoedd yn parhau i fod yn uchel yn y modd y caiff etholiadau eu cynnal.
- Mae'r duedd negyddol hirdymor mewn perthynas â chanfyddiad y cyhoedd o dryloywder cyllid pleidiau ac ymgyrchwyr wedi parhau.
- Mae mwy o bobl yn credu y bydd cyflwyno'r gofyniad i ddangos prawf adnabod wrth bleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio yn gwella etholiadau (43%), ond mae'n begynol, gyda (31%) yn dweud eu bod yn anghytuno â hyn. Nid oes gan tua 4% y prawf adnabod â llun adnabyddadwy sy'n ofynnol . Mae'r ganran hon yn uwch ymhlith grwpiau sydd dan anfantais. Dywedodd 43% o'r rhai nad oes ganddynt y prawf adnabod cywir y byddent yn sicr neu fwy na thebyg yn gwneud cais am gerdyn adnabod am ddim i bleidleiswyr.
- Mae pobl yn cael anhawster gwybod a yw'r wybodaeth maent yn ei darllen ar-lein yn ddibynadwy ai peidio. Mae llawer o amheuaeth ynghylch cynnwys gwleidyddol ar-lein a deunydd ymgyrchu gwleidyddol.
- Er bod y man cychwyn yn isel (4% yn 2021), mae dwywaith yn fwy o bobl eleni yn credu nad yw'r pleidleisiau yn cael eu cyfrif yn gywir mewn etholiadau yn y DU (8% yn 2022). Ymysg y rheini sy'n credu nad yw’r bleidlais yn cael ei chyfrif yn gywir, y ffynhonnell newyddion a ddefnyddir fwyaf yw gwefannau cyfryngau cymdeithasol. I'r rheini sy’n credu bod y bleidlais yn cael ei chyfrif yn gywir, dim ond y chweched ffynhonnell newyddion a ddefnyddir fwyaf yw'r cyfryngau cymdeithasol.
Hyder a boddhad mewn perthynas â'r broses etholiadol
- Er y gwelwyd gostyngiad ers y llynedd yng nghanfyddiad y cyhoedd o b'un a yw etholiadau yn cael eu cynnal yn dda ac yn eu boddhad â'r broses o bleidleisio, mae'r tuedd tymor hwy yn dal i fod yn gadarnhaol.
- Dangosodd canlyniadau'r llynedd y boddhad uchaf a gofnodwyd (86%) â'r broses o bleidleisio mewn etholiadau, a gwelwyd y boddhad ail uchaf eleni (81%).
- Er bod gan Ogledd Iwerddon foddhad ychydig yn is na gwledydd eraill y DU, mae'r bwlch wedi bod yn gostwng dros y blynyddoedd diwethaf (3% yn is na Lloegr yn 2022 o gymharu â bwlch o 21% yn 2019).
- Ni welwyd llawer o newid dros amser yn hyder y cyhoedd o ran gwybod sut i gofrestru (90% yn hyderus) nac o ran gwybod sut i bleidleisio (92% yn hyderus).
Cyllid pleidiau
- Gwelwyd cynnydd yng nghyfran y bobl sy'n credu nad yw'r arian y mae pleidiau gwleidyddol yn ei wario ar eu hymgyrchoedd etholiadol yn cael ei reoleiddio'n ddigonol. Mae dros hanner y bobl yn ystyried bod hyn yn broblem (56%), i fyny o 48% yn 2021. O'r materion y gwnaethom ofyn amdanynt, roedd i fyny i drydydd yn y rhestr o bryderon, y tu ôl i duedd yn y cyfryngau a niferoedd bach yn pleidleisio.
- Mae canfyddiadau cadarnhaol ynghylch tryloywder gwariant a chyllid pleidiau/ymgyrchwyr gwleidyddol wedi bod yn dirywio ers i ni ofyn y cwestiwn gyntaf yn 2011 (pan gytunodd 37% fod hyn yn dryloyw). Mae 13% o'r farn bod hyn yn dryloyw yn 2022. Roedd y gyfran a oedd yn anghytuno'n weithredol bod gwariant a chyllid yn dryloyw wedi aros yn y 40au isel (40-42%) rhwng 2018 a 2020, ond ers hynny mae wedi codi i fwy na hanner (52%) yn 2022.
- Yn y flwyddyn ddiwethaf, mae Cymru wedi mynd o'r wlad leiaf negyddol (45% yn 2021) ar b'un a yw gwariant a chyllid yn dryloyw, i'r mwyaf negyddol (56% yn 2022). Hyd at 2020, Gogledd Iwerddon oedd y mwyaf negyddol ar hyn ond dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf mae'n unol â chyfartaledd y DU.
- Mae tuedd debyg mewn perthynas â chyllid pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr. Dywed 55% nad yw'r system yn dryloyw (0-4 ar raddfa 0-10) a dywed 24% fod y system yn dryloyw (6-10 ar raddfa 0-10). Yn 2020, dywedodd cyfran gyfartal bod y system yn dryloyw a’i bod ddim yn dryloyw (36% ym mhob achos).
- Roedd mwy na dwywaith yn fwy o bobl yn credu na allent ganfod sut y caiff pleidiau eu hariannu (43%), o gymharu â'r 18% a ddywedodd y gallent ganfod hynny. Mor ddiweddar â 2017, roedd 40% yn cytuno y gallent ganfod sut y caiff pleidiau gwleidyddol eu hariannu.
- Mae 32% yn cytuno y bydd yr awdurdodau'n cymryd camau priodol os canfyddir bod sefydliad yn torri'r rheolau. Mae hyn wedi gostwng hefyd ers 2017 pan oedd yn 58% (45% yn 2020). Ni fu llawer o newid yng nghyfran y bobl a oedd yn anghytuno rhwng 2018 a 2020 (19-22%), ond mae bellach wedi cynyddu i 37% yn 2022.
Prawf adnabod pleidleiswyr mewn gorsafoedd pleidleisio
- Mae mwy o bobl yn credu y gallai cyflwyno prawf adnabod wrth bleidleisio wella'r ffordd y caiff etholiadau eu cynnal ym Mhrydain Fawr (43%) o gymharu â'r rheini sy'n anghytuno (31%).
- Ystyrir bod twyll etholiadol yn llai o broblem na phroblemau eraill ynghylch etholiadau. Nodwyd fod hyn yn broblem gan 26% o'r boblogaeth sydd nawfed allan o naw ar y rhestr gyffredinol o broblemau posibl sy'n gysylltiedig ag etholiadau. Mae 35% o'r boblogaeth yn dweud nad yw'n broblem o gwbl.
- Mae 62% o bobl yn dweud y bydd cyflwyno prawf adnabod wrth bleidleisio yn cynyddu diogelwch mewn perthynas â'r etholiad. Er hyn, mae 50% yn dweud y bydd yn gwneud pleidleisio'n llai cyfleus. Mae 17% o bobl yn dweud y byddant yn llai tebygol o bleidleisio, o gymharu â 12% a fydd yn dweud y bydd yn golygu eu bod yn fwy tebygol o bleidleisio.
- Nid oes gan 4% o'r boblogaeth ym Mhrydain Fawr unrhyw brawf adnabod â llun (3%) neu nid oes ganddynt unrhyw brawf adnabod â llun sy'n adnabyddadwy yn eu barn nhw (1%). Dywedodd 2% arall nad oeddent yn gwybod a oedd ganddynt y math o brawf adnabod â llun y gwnaethom ofyn amdano.
- Dywedodd llai na hanner y bobl nad oedd ganddynt brawf adnabod â llun adnabyddadwy (43%) y byddent yn sicr neu fwy na thebyg yn gwneud cais am gerdyn adnabod am ddim i bleidleiswyr. Dywedodd 29% na fyddent yn sicr neu fwy na thebyg yn gwneud cais am gerdyn adnabod am ddim i bleidleiswyr.
- Roedd y bobl hynny nad oedd ganddynt gerdyn adnabod â llun adnabyddadwy yn fwy tebygol o fod o grwpiau difreintiedig, fel y rheini sy'n rhentu gan eu hawdurdod lleol (nad oedd gan 17% ohonynt y prawf adnabod cywir), y rheini sy'n rhentu gan gymdeithas dai (10%), y rheini sy'n ddi-waith (14%), y rheini o radd gymdeithasol is (8% o'r rheini sydd o radd gymdeithasol DE), a'r rheini sydd â lefelau addysg is (7%).
- Ni fydd angen i 74% ym Mhrydain Fawr wneud unrhyw beth yn wahanol pan fyddant yn mynd i bleidleisio am eu bod fel arfer yn cario'r prawf adnabod angenrheidiol gyda nhw bob tro y byddant yn gadael y tŷ.
- Nid oes gan 20% o'r boblogaeth y prawf adnabod cywir ond bydd angen eu hatgoffa i fynd ag ef gyda nhw wrth fynd i bleidleisio, am nad ydynt fel arfer yn mynd ag ef gyda nhw pan fyddant yn gadael y tŷ.
Ymgyrchu dibynadwy
- Mae ychydig dros hanner y bobl (59%) yn cytuno y gallant benderfynu a yw'r wybodaeth maent yn ei darllen ar-lein yn ddibynadwy ai peidio. O'r rheini a oedd yn cytuno, dim ond 13% oedd yn cytuno'n gryf â'r datganiad a dywedodd 46% eu bod yn dueddol o gytuno. Mae 12% yn anghytuno'n weithredol y gallent benderfynu a yw'r wybodaeth maent yn ei darllen ar-lein yn ddibynadwy ai peidio.
- Dywedodd 20% o'r bobl eu bod wedi gweld fideo ffugiad dwfn yn y flwyddyn ddiwethaf. O'r rhain, nid yw mwy na thraean y bobl (36%) yn credu y gallent adnabod fideo ffugiad dwfn yn rhwydd. Mae o dan hanner (44%) y bobl yn credu'n weithredol y gallent wneud hynny.
- Mae ychydig o dan hanner (48%) yn anghytuno bod yr wybodaeth sydd ar gael ar-lein am wleidyddiaeth yn ddibynadwy. Hefyd, mae ychydig o dan hanner y bobl (46%) yn dweud eu bod yn credu bod ymgyrchu gwleidyddol ar-lein yn anwir neu'n gamarweiniol.
Cynnydd yng nghyfran y bobl sy'n credu na chaiff y bleidlais ei chyfrif yn gywir
- Mae dwywaith cymaint o bobl yn credu na chaiff pleidleisiau eu cyfrif yn gywir (8% yn 2022) mewn etholiadau o gymharu â'r llynedd (4% yn 2021). Mae'r nifer sy'n cytuno bod y bleidlais yn cael ei chyfrif yn gywir wedi gostwng o 85% yn 2021 i 74% yn 2022.
- O'r rheini sy'n anghytuno bod pleidleisiau'n cael eu cyfrif yn gywir, eu prif ffynhonnell newyddion yw gwefannau rhwydweithiau cymdeithasol (mae 34% yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol fel eu prif ffynhonnell newyddion). I'r mwyafrif sy'n cytuno bod y bleidlais yn cael ei chyfrif yn gywir, gwefannau cyfryngau cymdeithasol yw eu chweched ffynhonnell newyddion (mae 18% yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol fel eu prif ffynhonnell newyddion).
- Mae'r rheini nad ydynt yn credu bod pleidleisiau'n cael eu cyfrif yn gywir yn fwy tebygol o ddweud nad ydynt yn credu eu bod mewn sefyllfa dda i benderfynu a yw'r wybodaeth maent yn ei darllen yn gywir ai peidio (18%) o gymharu â'r rheini sy’n credu bod y bleidlais yn cael ei chyfrif yn gywir (11%).
Addysg wleidyddol mewn ysgolion
- Mae 79% o rieni plant 14-18 oed yn cytuno ei bod yn bwysig bod plant yn dysgu'r hanfodion am wleidyddiaeth, pleidleisio a democratiaeth yn yr ysgol.
- Mae mwy o rieni yn anfodlon (35%) â'r wybodaeth y mae eu plant 14-18 oed yn ei chael am wleidyddiaeth a democratiaeth, o gymharu â'r 26% sy'n fodlon.
Canfyddiadau o'r Comisiwn Etholiadol
- Roedd 35% wedi clywed llawer iawn neu gryn dipyn am y Comisiwn yn 2022. Dywedodd 20% eu bod wedi clywed am y Comisiwn yn y flwyddyn ddiwethaf. Mae'r ddau ystadegyn yr un fath â chanlyniad y llynedd.
- ‘Annibynnol’ yw'r gair y mae pobl yn ei gysylltu fwyaf â'r Comisiwn o hyd (25%). Mae ‘pwysig’ yn ôl i'r ail gysylltiad mwyaf (21%). Mae ‘biwrocrataidd’ yn ôl i'r trydydd cysylltiad mwyaf (19%).
footnotes
- 1. Pa rai o'r mathau canlynol o brawf adnabod â llun sydd gennych? Dewiswch bob un sy'n gymwys. Pasbort (Prydeinig/ y Gymanwlad/ yr Ardal Economaidd Ewropeaidd), Trwydded yrru cerdyn-llun, Cerdyn adnabod etholiadol Gogledd Iwerddon/ SmartPass Translink â llun, Dogfen mewnfudo fiometrig y DU, Cerdyn Adnabod yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, Cerdyn cynllun PASS (prawf oedran swyddogol), Cerdyn adnabod â llun y Weinyddiaeth Amddiffyn, Cerdyn Teithio Rhatach, Cerdyn Oyster 60+, Cerdyn parcio Bathodyn Glas â llun, Nid oes gennyf unrhyw un o'r mathau hyn o brawf adnabod, Ddim yn gwybod DS. Ystyriwyd bod gan unrhyw un a ddewisodd unrhyw fath o brawf adnabod yn y cwestiwn hwn brawf adnabod pleidleisiwr (felly unrhyw ateb heblaw am Ddim yn gwybod neu Nid oes gennyf unrhyw un o'r mathau hyn o brawf adnabod)
- 2. Gwnaethom roi rhestr o bryderon posibl i'r ymatebwyr: Rhwystrau i gyfranogiad democrataidd i grwpiau lleiafrifol, Rhwystrau i gyfranogiad democrataidd i bobl anabl, Bygwth ymgeiswyr sy'n sefyll etholiad, Twyll etholiadol, Dylanwad tramor ar ganlyniadau etholiadau yn y DU, Mesurau annigonol i reoleiddio'r arian y bydd pleidiau gwleidyddol yn ei wario ar eu hymgyrchoedd etholiadol, Mesurau annigonol i reoleiddio gweithgareddau gwleidyddol ar y cyfryngau cymdeithasol, Niferoedd llai yn pleidleisio mewn etholiadau, Tuedd yn y cyfryngau