Mae ein hadnoddau newydd, wedi'u cynllunio i ymgysylltu â phobl ifanc yn etholiad y Senedd sydd ar ddod, yn rhoi'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r hyder sydd eu hangen ar bleidleiswyr ifanc i gymryd rhan mewn democratiaeth.
Deallodd 98% o fyfyrwyr fwy am sut i bleidleisio yn etholiad y Senedd yn 2026
Mae 90% o fyfyrwyr yn fwy hyderus i gymryd rhan mewn democratiaeth ac etholiadau
Mae 89% o athrawon yn cytuno bod y gwersi'n ddiddorol i'w myfyrwyr
Mae 70% o fyfyrwyr yn fwy tebygol o gofrestru i bleidleisio
Cynhelir etholiad nesaf y Senedd ar 7 Mai 2026
Eisiau cefnogi pobl ifanc i ddysgu mwy am ddemocratiaeth a sut i gymryd rhan? Ewch i’n tudalen we newydd i ddod o hyd i adnoddau newydd sbon gan y Comisiwn Etholiadol a’n partneriaid.
Mae ein didueddrwydd yn golygu y gallwch fod yn hyderus, beth bynnag yw eich pwnc, y bydd defnyddio ein hadnoddau llythrennedd gwleidyddol yn caniatáu i chi ddarparu gwers neu weithdy diduedd a chywir.
Rydym wedi partneru â Shout Out UK i greu cyfres o weithgareddau byr a chynlluniau gwersi ar gamwybodaeth a thwyllwybodaeth. Nod yr adnoddau hyn yw cynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth pobl ifanc o gamwybodaeth a thwyllwybodaeth, sut i’w hadnabod, a ble i ddod o hyd i wybodaeth ddibynadwy am wleidyddiaeth, democratiaeth ac etholiadau.
Mae’r cynllun chwe wythnos o waith hwn yn archwilio elfennau gwahanol democratiaeth a gwleidyddiaeth drwy edrych ar sut i gofrestru i bleidleisio a’r hyn i’w ddisgwyl ar ddiwrnod y bleidlais. Bydd gan bobl ifanc y cyfle i ddylunio a gweithredu eu hymgyrch eu hunain.
Gallwch ddefnyddio’r rhaglen chwe wythnos lawn neu ddewis y gwersi sy’n addas i’ch grŵp. Gellir hefyd darparu’r cynlluniau gwersi yn ystod diwrnod oddi ar yr amserlen.
Defnyddiwch y gweithgareddau 5-15 munud hyn mewn grwpiau ieuenctid neu yn y dosbarth i ddechrau sgwrs am ddemocratiaeth. Os nad ydych fel arfer yn dysgu addysg ddemocrataidd, gallwch ddefnyddio’r gweithgareddau byr fel gwersi dechreuol.
Gellir darparu addysg ddemocrataidd dda i ddysgwyr Blwyddyn 6 yn unol â'r egwyddorion canlynol sy'n seiliedig ar dystiolaeth a'r wybodaeth, y sgiliau a'r profiadau cysylltiedig.
Nod y rhaglen, sydd wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru, yw cefnogi'r cwricwlwm newydd, ac mae’n dod â disgyblion a'u gwleidyddion lleol ynghyd drwy fideo-gynadledda, gan feithrin dealltwriaeth a pherthnasoedd ar y ddwy ochr a fydd yn arwain at newidiadau go iawn yn eu cymunedau.
Byddwn ni'n lansio adnoddau hyfforddi ar gyfer athrawon yn fuan. Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr i gael diweddariadau.