Data 2019 ar dwyll etholiadol
Twyll etholiadol yn 2019
Mae lefelau twyll etholiadol profedig yn y DU yn isel.
Nid oedd tystiolaeth o dwyll etholiadol ar raddfa fawr yn 2019.
Trosolwg
Fe wnaeth yr heddlu ymchwilio i 595 o achosion o dwyll etholiadol honedig. O’r rhain, fe wnaeth pump arwain at euogfarnau, a rhoddodd yr heddlu rybudd i ddau unigolyn.
Mae’r tabl hwn yn dangos nifer yr achosion o dwyll honedig y gwnaeth yr heddlu eu hadrodd i ni, ar gyfer pob etholiad a gynhaliwyd yn 2019.
Etholiad | Nifer yr achosion |
---|---|
Etholiad lleol | 362 |
Etholiad cyffredinol Senedd y DU | 164 |
Etholiad Senedd Ewrop | 21 |
Heb fod yn benodol i etholiad (er enghraifft, cofrestru etholiadol) | 21 |
Isetholiad lleol | 12 |
Isetholiad Senedd y DU | 7 |
Etholiad maerol | 6 |
Etholiad maerol awdurdod cyfun | 1 |
Isetholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu | 1 |
Achosion lle cafodd yr unigolyn dan amheuaeth ei euogfarnu, neu lle cafodd rybudd gan yr heddlu
Euogfarn am wyrdroi cwrs cyfiawnder
Derbyniodd Heddlu Swydd Derby adroddiad yn etholiadau lleol 2019 fod cefnogwr un o’r ymgeiswyr wedi ymyrryd â phleidleisiau post teulu a’u casglu. Rhyng-gipiwyd eu pleidleisiau, a chanfuwyd olion bysedd y cefnogwr ar y papurau pleidleisio a'r amlenni. Nid oedd y teulu'n onest nac yn agored am sut aeth yr olion bysedd ar y pleidleisiau a rwystrodd ymchwiliad yr heddlu. Roedd hyn yn golygu bod yr heddlu allan o amser i gyhuddo'r cefnogwr o gambersonadu pleidlais bost. Fodd bynnag, cafodd aelodau’r teulu eu cyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder, yn ogystal â’r ymgeisydd a dderbyniodd eu pleidleisiau.
Yn y treial, cafwyd yr ymgeisydd yn ddieuog. Cafodd yr achos yn erbyn dau aelod o'r teulu ei derfynu. Plediodd y trydydd aelod o'r teulu yn euog i ddau gyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder. Ar 6 Rhagfyr 2023, cafodd:
- ddwy ddedfryd gyfredol o garchar am chwe mis, wedi'u gohirio am 12 mis.
- gorchymyn i dalu costau o £2,615.
Euogfarn am wybodaeth anghywir ar bapur enwebu
Fe wnaeth Heddlu De Cymru dderbyn adroddiad bod ymgeisydd ar gyfer is-etholiad cyngor (Cyngor Castell-nedd Port Talbot) wedi cyflwyno ffurflen enwebu a oedd yn cynnwys llofnodion a ffugiwyd. Ni ddarganfuwyd hyn tan ar ôl i’r enwebiadau gau, ac felly roedd yr ymgeisydd ar y papur pleidleisio o hyd.
Ni chafodd yr ymgeisydd ei ethol.
Wedi ymchwiliad gan yr heddlu, plediodd y sawl dan amheuaeth yn euog ar ddiwrnod cyntaf y treial, a chafodd:
- ddedfryd o 6 mis yn y carchar, a dedfryd ohiriedig o 12 mis
- ofyniad adsefydlu 15 diwrnod
- ei orchymyn i gwblhau 180 awr o wasanaeth cymunedol
- ei orchymyn i dalu costau o £2,366
Euogfarn am wybodaeth anghywir ar bapur enwebu
Derbyniodd heddlu Norfolk adroddiad i’r perwyl bod ymgeisydd annibynnol wedi cyflwyno ffurflen enwebu etholiad llywodraeth leol a oedd yn cynnwys llofnod gan gefnogwr yr oedd yn gwybod ei fod yn anghywir.
Etholwyd yr ymgeisydd, ond wedi ymchwiliad gan yr heddlu, camodd i lawr a chafodd:
- ddirwy o £3,300
- ei wahardd rhag sefyll mewn etholiad am bum mlynedd.
Euogfarn am ddefnyddio pleidlais rhywun arall mewn gorsaf bleidleisio
Derbyniodd heddlu Gorllewin Swydd Efrog adroddiad gan staff gorsaf bleidleisio bod rhywun wedi pleidleisio ddwywaith mewn etholiad Senedd Ewrop.
Enynnwyd drwgdybiaeth aelod staff yr orsaf bleidleisio, ac aethant at yr heddlu. Fe wnaeth yr heddlu wedyn arestio a chyfweld â’r pleidleisiwr. Cyfaddefodd bleidleisio ddwywaith, unwaith gan ddefnyddio ei enw ei hun, ac unwaith gan ddefnyddio enw ei fab. Cafodd:
- ddedfryd o 8 wythnos yn y carchar, a dedfryd ohiriedig o 12 mis
- ddirwy o £50
- ei wahardd rhag pleidleisio am 5 mlynedd
Euogfarn am ymyrryd â phapurau pleidleisio
Derbyniodd yr Heddlu Metropolitanaidd adroddiad am darfu mewn gorsaf bleidleisio yn etholaeth Erith a Thamesmead yn etholiad cyffredinol Senedd y DU. Aeth rhywun i mewn i’r orsaf bleidleisio, ac ar ôl cael gwybod nad oeddent yn cael pleidleisio, fe wnaethant gythru yn y blwch pleidleisio i rwystro unrhyw un arall rhag bwrw eu pleidlais. Oherwydd ymddygiad tarfus yr unigolyn, fe wnaeth yr heddlu eu harestio’r a mynd â nhw i’r orsaf heddlu.
Wedi ymchwiliad gan yr heddlu, cyhuddwyd yr unigolyn o gymryd neu ymyrryd â blwch pleidleisio, ac fe wnaethant bledio’n euog yn y llys. Cafodd ei ddedfrydu i ymgymryd â rhaglen gweithgareddau adsefydlu 24 mis, a’i orchymyn i dalu £620 mewn costau.
Rhybudd am ddefnyddio pleidlais rhywun arall mewn gorsaf bleidleisio
Derbyniodd heddlu Gorllewin Mercia adroddiad fod rhywun wedi pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio yn etholiad Senedd Ewrop, ond heb fod ar y gofrestr etholiadol.
Roedd y sawl a amheuwyd yn gwybod nad oeddent ar y gofrestr etholiadol, ac felly’n methu â phleidleisio. Yn hytrach, fe roddodd enw ei dad i staff yr orsaf bleidleisio, gan dderbyn papur pleidleisio ac yna bwrw ei bleidlais.
Fe wnaeth aelod staff yr orsaf bleidleisio amau nad oedd y sawl dan amheuaeth pwy oeddent yn honni yr oeddent. Fe wnaethant godi eu pryderon gyda’r heddlu a wnaeth gyfweld ag ef dan rybudd. Fe dderbyniodd ei fod wedi pleidleisio gan ddefnyddio enw ei dad.
Derbyniodd rybudd gan yr heddlu.
Rhybudd am wybodaeth anghywir ar bapur enwebu
Fe wnaeth Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon dderbyn adroddiad bod ymgeisydd Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd wedi cyflwyno ffurflen enwebu llywodraeth leol a oedd yn cynnwys eu cyfeiriad blaenorol ac nid eu cyfeiriad cyfredol. Unwaith y cysylltwyd â’r heddlu, fe wnaeth Cyngor Lisburn a Dinas Castlereagh gadarnhau bod y papurau enwebu wedi eu derbyn ar gyfer yr ymgeisydd hwn, ac ei bod yn rhy hwyr i’r cyfeiriad gael ei dynnu o’r hysbysiad etholiad neu’r o’r papurau pleidleisio ar gyfer yr etholiad.
Ni chafodd yr ymgeisydd ei ethol, ond wedi ymchwiliad gan yr heddlu, fe wnaethant dderbyn rhybudd gan yr heddlu.
Deisebau etholiadol
Mae deiseb etholiadol yn her gyfreithiol i ganlyniad a/neu gyflawniad etholiadol.
Cafwyd wyth deiseb wedi etholiadau yn 2019. Gwnaed chwech o’r rhain ar ôl etholiadau yr 2il o Fai. Dim ond dwy o’r rhain oedd yn llwyddiannus.
Gwnaed un ddeiseb wedi isetholiad seneddol Peterborough ar y 6ed o Fehefin 2019. Gwnaed deiseb arall yn etholaeth Seneddol East Ham wedi etholiad cyffredinol Senedd y DU ar 12 Rhagfyr 2019. Roedd y ddwy ddeiseb yn aflwyddiannus.
Canlyniadau pob achos a adroddwyd arnynt
Canlyniad | Nifer yr achosion | Canran o'r cyfanswm |
---|---|---|
Dim camau pellach | 384 | 65% |
Wedi’i ddatrys yn lleol | 200 | 34% |
Euogfarn | 5 | 1% |
Rhybudd | 2 | Llai nag 1% |
Arall | 2 | Llai nag 1% |
Rhyddfarnwyd | 1 | Llai nag 1% |
Trafodion llys heb eu parhau | 1 | Llai nag 1% |
Ni wnaeth yr heddlu gymryd camau pellach gyda dau ym mhob tri achos. Mae hyn yn golygu nad ymchwiliwyd ymhellach i’r achosion gan yr heddlu am nad oedd tystiolaeth (neu nad oedd digon o dystiolaeth), neu na chadwyd bod trosedd.
Mathau o honiadau o dwyll etholiadol
Roedd mwy na hanner yr holl achosion yr adroddwyd arnynt yn droseddau ymgyrchu. Roedd y rhan fwyaf ohonynt ynghylch:
- ymgyrchwyr yn methu â chynnwys manylion ynghylch yr argraffwr, hyrwyddwr neu gyhoeddwr ar ddeunydd etholiadol - ‘argraffnod’
- rhywun yn gwneud datganiadau ynghylch cymeriad personol neu ymddygiad ymgeisydd
Nifer yr achosion a'r mathau o droseddau yr ymchwiliwyd iddynt yn 2019
Categori | Nifer o achosion | Canran o'r cyfanswm |
---|---|---|
Ymgyrchu | 320 | 54% |
Pleidleisio | 142 | 24% |
Enwebu | 71 | 12% |
Cofrestru | 58 | 10% |
Gweinyddu | 4 | 1% |
Data ar honiadau fesul heddlu 2019
Lawrlwythwch y tabl hwn ar gyfer data gan heddluoedd penodol, yn ôl categori'r drosedd neu'r canlyniad.
Os oes angen yr wybodaeth hon arnoch am mewn fformat arall, cysylltwch â ni
Mathau o honiadau o dwyll etholiadol ers 2010
Description of the tableau
Categori | Canran o'r cyfanswm |
---|---|
Ymgyrchu | 54% |
Pleidleisio | 24% |
Enwebu | 12% |
Cofrestru | 10% |
Gweinyddu | 1% |
Categori | Canran o'r cyfanswm |
---|---|
Ymgyrchu | 48% |
Pleidleisio | 21% |
Enwebu | 15% |
Cofrestru | 15% |
Gweinyddu | 0% |
Categori | Canran o'r cyfanswm |
---|---|
Ymgyrchu | 49% |
Pleidleisio | 31% |
Cofrestru | 11% |
Enwebu | 7% |
Gweinyddu | 1% |
Amrywiol | 1% |
Categori | Canran o'r cyfanswm |
---|---|
Pleidleisio | 43% |
Ymgyrchu | 37% |
Enwebu | 9% |
Cofrestru | 8% |
Gweinyddu | 2% |
Categori | Canran o'r cyfanswm |
---|---|
Ymgyrchu | 56% |
Pleidleisio | 26% |
Enwebu | 10% |
Cofrestru | 8% |
Gweinyddu | 1% |
Categori | Canran o'r cyfanswm |
---|---|
Ymgyrchu | 38% |
Pleidleisio | 27% |
Cofrestru | 15% |
Enwebu | 14% |
Amrywiol | 3% |
Gweinyddu | 3% |
Categori | Canran o'r cyfanswm |
---|---|
Ymgyrchu | 54% |
Cofrestru | 18% |
Pleidleisio | 13% |
Enwebu | 8% |
Amrywiol | 5% |
Gweinyddu | 1% |
Categori | Canran o'r cyfanswm |
---|---|
Ymgyrchu | 41% |
Pleidleisio | 25% |
Cofrestru | 23% |
Enwebu | 6% |
Amrywiol | 3% |
Gweinyddu | 1% |
Categori | Canran o'r cyfanswm |
---|---|
Ymgyrchu | 52% |
Cofrestru | 22% |
Pleidleisio | 14% |
Enwebu | 7% |
Amrywiol | 4% |
Gweinyddu | 2% |
Categori | Canran o'r cyfanswm |
---|---|
Pleidleisio | 32% |
Ymgyrchu | 31% |
Cofrestru | 28% |
Enwebu | 6% |
Amrywiol | 2% |
Gweinyddu | 1% |