Adroddiad ar y ffordd y gweinyddwyd etholiadau 5 Mai 2016 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru
Ynglŷn â'r etholiadau
Ar 5 Mai 2016, cynhaliwyd nifer o wahanol etholiadau ledled y DU. Mae’r adroddiad hwn yn edrych yn benodol ar weinyddiaeth yr etholiadau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cyfunwyd yr etholiadau hyn â'r etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru, a chynhaliwyd isetholiad Seneddol y DU yn Ogwr ar yr un diwrnod.
Er bod rhai problemau, y bydd yr adroddiad yn edrych arno yn fanylach, ar y cyfan, ein hasesiad yw bod etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi eu rhedeg yn dda
gyda nifer fechan o broblemau. Roedd pleidleiswyr yn fodlon ar y cyfan gyda’r broses o gofrestru i bleidleisio a chofrestru yn bersonol yn yr orsaf bleidleisio neu drwy’r post
neu ddirprwy.
Cofrestru a'r nifer a bleidleisiodd
Roedd cyfanswm o 2.246 miliwn o bobl wedi cofrestru i bleidleisio yn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 5 Mai 2016. Roedd hyn yn llai nag yn 2011 a mymryn yn llai nag yn 2007. Pleidleisiodd mwy na 1.02 miliwn o bobl yn yr etholiadau.
Y nifer gyffredinol a bleidleisiodd oedd 45.6% yn yr etholiad etholaethol a 45.4% yn yr etholiad rhanbarthol. Y nifer fwyaf a bleidleisiodd oedd 56.8% yng Ngogledd Caerdydd a'r isaf oedd 34.6% yn Alun a Glannau Dyfrdwy. Dyma'r nifer uchaf ond un o bleidleiswyr a ofnodwyd mewn etholiadau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

O gymharu, y nifer a bleidleisiodd yn etholiad Senedd yr Alban oedd 55.6% a'r nifer a bleidleisiodd yn yr etholiad i Gynulliad Gogledd Iwerddon oedd 54.9%. Mae adran 2.13
yn dangos y nifer a bleidleisiodd ym mhob un o'r etholiadau a gynhaliwyd ar 5 Mai.
Roedd gan gyfanswm o 17.6% o'r etholwyr bleidlais bost ar gyfer yr etholiad hwn. Mae hyn yn cymharu ag 17.0% yn 2011, 12.2% yn 2007 a 6.9% yn 2003. Dychwelwyd 73.9% o bleidleisiau post yn yr etholiad etholaethol a 73.8% o bleidleisiau post yn yr etholiad rhanbarthol. Roedd pleidleisiau post yn cyfrif am 27.6% o'r pleidleisiau a fwriwyd yn yr etholiad etholaethol a 27.5% yn yr etholiad rhanbarthol.
Gweinyddu'r etholiadau
Cynhaliwyd etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ledled 40 o etholaethau, sy'n cyfateb i etholaethau Senedd y DU, a phum rhanbarth etholiadol, sef:
- Gogledd Cymru
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
- Gorllewin De Cymru
- Canol De Cymru
- Dwyrain De Cymru
Profiad y pleidleiswyr
Awgryma ein hymchwil i farn y cyhoedd fod y rhan fwyaf o bleidleiswyr o'r farn bod yr etholiadau wedi cael eu cynnal yn dda a'u bod yn fodlon ar y broses o gofrestru i bleidleisio a'r broses bleidleisio. Fodd bynnag, ychydig iawn o ymwybyddiaeth a geir o hyd o'r ffordd y mae'r broses gofrestru'n gweithio. Yn fwyaf nodedig, mae mwy nag un o bob tri (35%) o bobl yn meddwl eich bod yn cael eich cofrestru'n awtomatig os ydych o oedran pleidleisio a dywed bron i un o bob tri (27%) y gallwch gofrestru i leidleisio hyd at ddiwrnod cyn yr etholiad.
O ran yr etholiad ei hun, dywedodd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr eu bod yn gwybod llawer neu gryn dipyn am yr etholiadau hyn, gydag 81% yn cytuno bod ganddynt ddigon o wybodaeth am sut i fwrw eu pleidlais.
Pleidiau ac ymgeiswyr gwleidyddol
Tabl 1: Ymgeiswyr a phleidiau a gymerodd ran yn etholiadau 2016 o gymharu â 2011
2011 | 2016 | |
---|---|---|
Ymgeiswyr etholaethol | 176 | 248 |
Pleidiau Gwleidyddol ar restrau rhanbarthol | 13 | 17 |
Ymgeiswyr annibynnol ar restrau rhanbarthol | 1 | 2 |
O edrych ar nifer yr ymgeiswyr a rhestrau rhanbarthol a enwebwyd gan bleidiau gwleidyddol, gwelir y tueddiadau canlynol:
- Unwaith eto, enwebodd Llafur Cymru, y Ceidwadwyr Cymreig, Plaid Cymru a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ymgeiswyr ym mhob un o 40 o etholaethau'r Cynulliad a phob un o'r pum rhanbarth etholiadol.
- Enwebodd Plaid Annibyniaeth y DU (UKIP) ymgeiswyr mewn 38 o'r 40 o etholaethau, ac ym mhob un o'r pum rhanbarth, o gymharu â 2011 pan na wnaethant enwebu unrhyw ymgeiswyr etholaethol.
- Enwebodd Plaid Werdd Cymru, Plaid Diddymu Cynulliad Cymru a Rhyddid i Ddewis ymgeiswyr mewn etholiadau etholaethol a/neu ranbarthol, ond nid ym mhob etholaeth na rhanbarth.
- Enwebwyd ymgeiswyr etholaethol gan gyfanswm o 12 o bleidiau, a gwnaeth 17 o bleidiau gystadlu am seddi rhanbarthol.
- Hefyd, roedd ymgeiswyr annibynnol yn ymladd etholiad mewn wyth etholaeth a dau ranbarth.
Awgryma ein harolwg o ymgeiswyr ar ôl yr etholiad fod y rhan fwyaf o ymgeiswyr yn cytuno ei bod yn hawdd cael gwybod sut i ddod yn ymgeisydd, a chytunodd bron i hanner fod y rheolau ar wariant a rhoddion yn glir.
Canlyniadau'r etholiadau
Tabl 2: Y Canlyniad Cenedlaethol
Pleidiau Gwleidyddol | Canran o'r bleidlais | Seddi etholaethol | Seddi rhanbarthol | Cyfanswm seddi |
---|---|---|---|---|
Llafur Cymru | 33.1% | 27 | 2 | 29 |
Plaid Cymru | 20.7% | 6 | 6 | 12 |
Y Ceidwadwyr Cymreig | 20% | 6 | 5 | 11 |
UKIP | 12.7% | 0 | 7 | 7 |
Y Democratiaid Rhyddfrydol | 7.1% | 1 | 0 | 1 |
Arall | 3.2% | 0 | 0 | 0 |
Y Blaid Werdd | 2.7% | 0 | 0 | 0 |
Annibynnol | 0.5% | 0 | 0 | 0 |
Argymhellion: Deddfwriaeth
Argymhelliad 1: Deddfwriaeth amserol a chywir yn Gymraeg ac yn Saesneg
Er mwyn sicrhau mwy o gywirdeb, rydym yn argymell cynnal trafodaeth ehangach ar y ffordd fwyaf effeithiol o wirio rheoliadau drafft ar gyfer etholiadau yng Nghymru cyn iddynt gael eu cyflwyno, gan arwain at sefydlu grŵp defnyddwyr i ystyried unrhyw reoliadau Cymraeg yn ystod y cyfnod drafftio. Dylai'r grŵp gynnwys staff y Comisiwn Etholiadol a chynrychiolwyr cymuned etholiadol Cymru, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt.
Byddem hefyd yn ailbwysleisio y dylai'r holl ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â digwyddiadau etholiadol, gan gynnwys deddfwriaeth gyllido, fod yn glir (naill ai drwy Gydsyniad Brenhinol i ddeddfwriaeth sylfaenol, neu drwy gyflwyno is-ddeddfwriaeth i'w chymeradwyo gan y Cynulliad / Senedd) o leiaf chwe mis cyn ei bod yn ofynnol ei rhoi ar waith neu gydymffurfio â hi - byddai hyn yn cynnwys ffurflenni rhagnodedig cywir ac amserol yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae unrhyw oedi cyn cyhoeddi ffurflenni Cymraeg yn rhoi timau etholiadau a phleidleiswyr yng Nghymru dan anfantais sylweddol a gall beri risg i'r etholiad dan sylw.
Argymhellion: Grŵp Cyflawni Cymru
Argymhelliad 2: Grŵp Cyflawni Cymru
Dylai Grŵp Cyflawni Cymru parhaol barhau i gwrdd er mwyn gwella a symleiddio'r gwaith o gynllunio ar gyfer digwyddiadau etholiadol yn y dyfodol, a rhoi cyfleoedd i drafod meysydd allweddol sy'n peri pryder cyffredin. Bydd y Comisiwn yn drafftio cylch gorchwyl ac yn ceisio barn yr holl bartneriaid allweddol, a bydd y gwaith hwn yn dechrau erbyn diwedd 2016.
Argymhelliad 3: Lliw'r papur pleidleisio
Ar gyfer etholiadau yn y dyfodol, dylai Grŵp Cyflawni Cymru ystyried lliw'r papurau pleidleisio i'w defnyddio ar gyfer pob etholiad a gwneud argymhelliad priodol, gan roi glurder i Swyddogion Canlyniadau a'u staff ar gam cynnar.
Argymhelliad 4: Gweithio ar lefel ranbarthol ac ar draws awdurdodau
Mae gweithio ar lefel ranbarthol yn gosod her sylweddol i Swyddogion Canlyniadau Rhanbarthol, Swyddogion Canlyniadau Etholaethol a gweinyddwyr etholiadol ac mae'n bwysig sicrhau bod rhwydweithiau a systemau cyfathrebu cadarn ar waith er mwyn hwyluso'r broses gynllunio.
Ar gyfer etholiadau rhanbarthol yn y dyfodol, byddwn yn hwyluso trafodaeth, drwy Grŵp Cyflawni Cymru, ynghylch sut y gallai Swyddogion Canlyniadau a gweinyddwyr etholiadol weithio ar draws awdurdodau er mwyn gwella prosesau gwneud penderfyniadau ac effeithiolrwydd gweithredol.
Argymhellion: Ymgeisyddiaeth
Argymhelliad 5: Dechrau ymgeisyddiaeth
Dylai'r Llywodraeth berthnasol sicrhau bod dyddiad cyhoeddi'r hysbysiad etholiad ar yr un diwrnod ag y diddymir y Cynulliad, er mwyn osgoi cyfnod o amser lle na chaiff gwariant ei reoleiddio.
Argymhellion: Costau ymgyrchu
Argymhelliad 6: Costau sy'n gysylltiedig ag anabledd unigolyn a chyfieithu o'r Gymraeg i Saesneg ac fel arall
Dylai Llywodraethau sydd â chymhwysedd deddfwriaethol dros etholiadau yn y DU ddiwygio'r diffiniadau o wariant ymgeiswyr neu bleidiau gwleidyddol fel bod treuliau rhesymol y gellir eu priodoli i anabledd unigol yn cael eu heithrio (fel y nodwyd yn ddiweddar yn rheolau diwygiedig Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda
2000 (PPERA) ar gyfer ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau).
Gan fod rheolau PPERA ar gyfer ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau bellach yn eithrio'r costau sy'n gysylltiedig â chyfieithu o'r Gymraeg i Saesneg ac fel arall, argymhellwn y dylai'r Llywodraeth berthnasol/y Llywodraethau perthnasol gyflwyno darpariaethau cyfreithiol cyfatebol i'r rheolau etholiadau sy'n ymwneud â gwariant ar ymgyrchu gan ymgeiswyr a phleidiau gwleidyddol.
Argymhellion: Cofrestru pleidiau
Argymhelliad 7: Cofrestru enwau a disgrifiadau pleidiau i'w defnyddio ar bapurau pleidleisio
Rydym yn parhau i argymell, lle y bo ymgeisydd yn cynrychioli plaid wleidyddol ar bapur pleidleisio, y dylai fod yn glir i bleidleiswyr pa blaid y mae'r ymgeiswyr yn ei chynrychioli. Mae'r darpariaethau cyfreithiol ar gyfer cofrestru disgrifiadau pleidiau yn peri risg y caiff pleidleiswyr eu drysu ac yn cyfyngu ar gyfranogiad pleidiau gwleidyddol. Dylai Llywodraeth Cymru a Llywodraethau eraill y DU gydweithio â'r Comisiwn Etholiadol er mwyn diwygio'r darpariaethau ynghylch disgrifiadau pleidiau.
Argymhellion: Gwariant ymgeiswyr
Argymhelliad 8: Tryloywder a hygyrchedd gwariant ymgeiswyr
Er mwyn gwneud ffurflenni gwariant ymgeiswyr yn fwy tryloyw a hygyrch, rydym wedi argymell yn y gorffennol y dylai fod yn ofynnol i Swyddogion Canlyniadau gyhoeddiffurflenni gwariant ar-lein yn ogystal â thrwy'r dulliau presennol o archwilio gan y cyhoedd. Rydym yn cefnogi argymhelliad 12-5 o adolygiad 12 Comisiwn y Gyfraith o Gyfraith Etholiadol sy'n cynnig dull o roi'r newid hwn ar waith drwy ddeddfwriaeth.1
Argymhellion: Pwerau'r Comisiwn
Argymhelliad 9: Ymestyn pwerau ymchwilio a gosod sancsiynau
Rydym yn parhau i argymell ymestyn ein pwerau ymchwilio a gosod sancsiynau mewn etholiadau mawr yn achos troseddau sy'n ymwneud â gwariant a rhoddion ymgeiswyr, gan gynnwys yn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Bydd yn bwysig i Lywodraethau a Seneddau ledled y DU gydweithio er mwyn cyflwyno pwerau newydd y Comisiwn ar gyfer gwahanol setiau o etholiadau.
Argymhellion: Cyfryngau cymdeithasol
Argymhelliad 10: Adrodd ar ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol mewn etholiadau yn y dyfodol
Byddwn yn ystyried ymhellach sut y dylai ymgyrchwyr adrodd ar wariant ar gyfryngau cymdeithasol mewn etholiadau yn y dyfodol. Wrth i wariant yn y maes hwn gynyddu, ceir potensial am lai o dryloywder os na ellir nodi gwariant ar gyfryngau cymdeithasol yn hawdd yn y ffurflenni gwariant, oherwydd nid yw cyfryngau cymdeithasol yn gategori penodol ar y ffurflen. Bydd angen ystyried hyn fel rhan o'r broses o adolygu'r holl gategorïau gwariant yr adroddir arnynt er mwyn sicrhau eu bod yn dal i fod yn gymesur ac yn berthnasol i dueddiadau ymgyrchu yn y dyfodol. Rhag ofn y byddai angen rhoi unrhyw rai o'r newidiadau hyn ar waith drwy ddeddfwriaeth, argymhellwn y dylai Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a deddfwrfeydd ystyried yr amseru sydd ei angen ar gyfer rhoi newidiadau ar waith cyn yr etholiadau mawr nesaf.2
Argymhellion: Cofrestru etholiadol
Argymhelliad 11: Darparu ffordd o wirio statws cofrestru ar-lein
Byddai darparu ffordd i etholwyr wirio eu statws cofrestru ar ddechrau'r broses o wneud cais ar-lein i gofrestru yn golygu bod angen i bleidleiswyr wneud llai er mwyn sicrhau bod eu cofnod ar y gofrestr yn gyfredol, a byddai hefyd yn lleihau'r baich o brosesu ceisiadau dyblyg sydd ar Swyddogion Cofrestru Etholiadol.
Dylai Llywodraeth y DU ddatblygu gwasanaeth ar-lein er mwyn galluogi pobl i wirio p'un a ydynt eisoes wedi cofrestru'n gywir i bleidleisio cyn iddynt gwblhau cais newydd
i gofrestru.
Byddai angen i unrhyw wasanaeth o'r fath reoli a diogelu gwybodaeth bersonol pleidleiswyr yn ofalus.
Lawrlwythwch ein hadroddiad llawn
- 1. Adolygiad Comisiwn y Gyfraith o Gyfraith Etholiadol, Argymhelliad 12-3, tudalen 161 (yn Saesneg yn unig) http://www.lawcom.gov.uk/wp-content/uploads/2016/02/electoral_law_interim_report.pdf ac argymhelliad 37 o Adolygiad Rheoleiddiol y Comisiwn Etholiadol o Gyllid Pleidiau ac Etholiadau 2013 (yn Saesneg yn unig) http://www.electoralcommission.org.uk/__data/assets/pdf_file/0008/157499/PEFRegulatory-Review-2013.pdf. ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Gwnaethom yr un argymhelliad mewn perthynas â chategorïau gwariant Etholiad Seneddol y DU, ac ar gyfer etholiadau Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon yn ein hadroddiadau ôl-etholiad yn 2015 a 2016. ↩ Back to content at footnote 2