Report: Costau refferendwm mis Mehefin 2016 ar aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd
Crynodeb
Ar 23 Mehefin 2016, cynhaliwyd refferendwm ledled y Deyrnas Unedig a Gibraltar ynghylch p'un a ddylai'r DU barhau i fod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd neu adael yr Undeb Ewropeaidd.
Roedd gennym nifer o gyfrifoldebau a swyddogaethau penodol mewn perthynas â'r refferendwm, gan gynnwys rôl ein Cadeirydd ar y pryd, Jenny Watson, fel Prif Swyddog Cyfrif gyda chyfrifoldeb cyffredinol am weinyddu'r bleidlais.
Gwnaeth y Prif Swyddog Cyfrif benodi Swyddog Cyfrif Rhanbarthol ar gyfer pob un o'r 11 o ranbarthau etholiadol ym Mhrydain Fawr.
Y Swyddog Canlyniadau llywodraeth leol ar gyfer pob awdurdod lleol ym Mhrydain Fawr oedd Swyddog Cyfrif yr ardal honno. Y Prif Swyddog Etholiadol ar gyfer Gogledd Iwerddon oedd y Swyddog Cyfrif ar gyfer Gogledd Iwerddon i gyd.
Roeddem hefyd yn gyfrifol am oruchwylio'r broses o dalu ffioedd i Swyddogion Cyfrif Rhanbarthol a Swyddogion Cyfrif am gynnal y refferendwm ac ad-dalu'r costau yr aethant iddynt wrth wneud hynny, a chyfrif am y taliadau hynny i Senedd y DU.
Ynglŷn â'r adroddiad hwn
Mae'r adroddiad hwn yn ymdrin â'r canlynol:
- costau'r Comisiwn Etholiadol, gan gynnwys grantiau a roddwyd i'r ymgyrchwyr arweiniol dynodedig
- costau ymgyrchoedd post ar ran yr ymgyrchwyr arweiniol dynodedig
- costau Swyddogion Cyfrif Rhanbarthol a Swyddogion Cyfrif
Er i ni gyhoeddi adroddiad ar gostau yn dilyn y refferendwm diwethaf a gynhaliwyd ledled y DU ym mis Mai 2011 (ynghylch system bleidleisio Senedd y DU), nid ydym wedi gwneud cymariaethau rhwng costau'r digwyddiad pleidleisio hwnnw yn 2011 a chostau'r refferendwm yn 2016. Cynhaliwyd refferendwm mis Mai 2011 ar yr un diwrnod â nifer o etholiadau eraill, gan olygu bod llawer o'r costau yr aed iddynt wrth gynnal y refferendwm, fel llogi gorsafoedd pleidleisio a lleoliadau cyfrif, wedi cael eu rhannu â'r etholiadau eraill hynny. O ganlyniad i hynny, mae'n anodd cymharu'r ffigurau mewn unrhyw ffordd ystyrlon.
Rydym yn cyhoeddi'r adroddiad hwn nawr gan mai dim ond yn ddiweddar y gwnaethom setlo'r hawliadau terfynol gan Swyddogion Cyfrif. Cymerodd fwy o amser na'r disgwyl i gwblhau'r broses hawlio gan fod y rhan fwyaf o'r hawliadau wedi cael eu cyflwyno'n agos at y terfyn amser a'u bod wedi arwain at fwy o ymholiadau nag a ragwelwyd. O ganlyniad i hynny, bu oedi cyn i ni ddadansoddi'r hawliadau. Hefyd, gwnaeth y cyhoeddiad y byddai Etholiad Cyffredinol Senedd y DU yn cael ei gynnal yn gynnar, sef ym mis Ebrill 2017, waethygu'r sefyllfa am fod angen i adnoddau gael eu dargyfeirio – gan awdurdodau lleol a'r Comisiwn – er mwyn sicrhau bod y digwyddiad pleidleisio hwnnw'n cael ei gynnal yn llwyddiannus.
Nid yw'r adroddiad hwn yn ymdrin â gwariant gan ymgyrchwyr na chostau darlledu sy'n gysylltiedig ag ymgyrch y refferendwm.
Mae manylion am wariant ymgyrchwyr cofrestredig, gan gynnwys ymgyrchwyr arweiniol dynodedig, ar gael ar ein cronfa ddata ar-lein chwiliadwy, CPE Ar-lein, a chânt eu trafod yn fanylach yn ein dogfen ‘Adroddiad ar reoleiddio ymgyrchwyr yn y refferendwm ar aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2016’ (Mawrth 2017).
Mae ein hadroddiad ar refferendwm yr UE, a gyhoeddwyd ym mis Medi 2016, yn cyflwyno dadansoddiad o'r ffordd y cafodd y refferendwm ei weinyddu. Roedd hyn yn cynnwys profiad pleidleiswyr ac ymgyrchwyr, rheoli a chynnal y bleidlais, rheoleiddio ymgyrchwyr yn y refferendwm a rhoi gwybodaeth i bleidleiswyr.
Yn y refferendwm ar 23 Mehefin 2016:
- roedd cyfanswm o 46,500,001 wedi'u cofrestru i bleidleisio
- gwnaeth 33,577,342 o etholwyr fwrw pleidlais – sef 72.2%
- pleidleisiodd 16,141,241 o bobl i Aros – 48.1% o'r holl bleidleisiau dilys
- pleidleisiodd 17,410,742 o bobl i Adael – 51.9% o'r holl bleidleisiau dilys
- gwrthodwyd 25,359 o bapurau pleidleisio
- 382 COs set up 41,050 polling stations
- gwnaeth 107,100 o aelodau o staff weithio yn y gorsafoedd pleidleisio hynny
- gwnaeth 51,500 o aelodau o staff weithio ar ddilysu a chyfrif y papurau pleidleisio
- anfonwyd dros 8.5 miliwn o bapurau pleidleisio drwy'r post at etholwyr, sef 18.4% o etholwyr y DU, a dychwelwyd 7.3 miliwn (87.6%) o'r papurau hynny
- roedd 123 o grwpiau ymgyrchu cofrestredig, a chafodd dau grŵp ymgyrchu arweiniol eu dynodi gan y Comisiwn Etholiadol:
- Vote Leave
- Britain Stronger in Europe (Britain Stronger in Europe oedd enw ymgyrchu The In Campaign Ltd)
- dosbarthodd y Comisiwn Etholiadol 28 miliwn o lyfrynnau gwybodaeth i gartrefi ledled y DU
Mae'r cyfansymiau lleol ar gyfer pob ardal bleidleisio a'r canlyniad cyffredinol ar gael ar ein gwefan.
Referendum total cost and cost breakdown
Costau'r refferendwm
Cyfanswm cost cynnal y refferendwm oedd £129.128m.
Dadansoddiad o'r gost
£7.998m mewn costau gweithredu gan y Comisiwn Etholiadol, gan gynnwys:
- £1.642m mewn costau staff uniongyrchol
- £6.025m mewn costau gweithgarwch codi ymwybyddiaeth y cyhoedd
- £0.331m mewn costau gweinyddu hawliadau Swyddogion Cyfrif Rhanbarthol a Swyddogion Cyfrif
£26.589m mewn perthynas â'r sefydliadau dynodedig
- £1.200m mewn grantiau i Sefydliadau Dynodedig
- £25.389m mewn costau ymgyrchoedd post sefydliadau dynoedig a chostau eraill mewn perthynas â'r Post Brenhinol
£94.541m mewn costau Swyddogion Cyfrif a Swyddogion Cyfrif Rhanbarthol, gan gynnwys:
- costau gorsafoedd pleidleisio
- costau pleidleisiau post
- costau cardiau pleidleisio
- costau cyfrif
- ffioedd am wasanaethau Swyddogion Cyfrif Rhanbarthol a Swyddogion Cyfrif
Mae dadansoddiad manylach fesul categori i'w weld yn adran 3: Cost y refferendwm.
Sut y cafodd y refferendwm ei ariannu
Y fframwaith deddfwriaethol
Sut y cafodd y refferendwm ei ariannu
Mae deddfwriaeth a ddeddfwyd gan Senedd y DU o dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) yn nodi'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer refferenda ac yn rhoi cyfrifoldebau penodol i'r Comisiwn Etholiadol. Mae hefyd yn nodi y bydd Prif Swyddog Cyfrif sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am gynnal refferendwm.
Cyn y gellir cynnal refferendwm o dan y fframwaith deddfwriaethol hwn, mae angen deddfwriaeth ychwanegol benodol sy'n ymdrin â manylion fel:
- dyddiad y refferendwm
- cwestiwn y refferendwm
- rheolau penodol ar gyfer cynnal y refferendwm
Llywodraeth y DU oedd yn gyfrifol am y ddeddfwriaeth fanwl ar gyfer y refferendwm hwn. Cafodd Bil Refferendwm yr Undeb Ewropeaidd ei gyflwyno gerbron y Senedd ar 28 Mai 2015 a daeth yn gyfraith ar 17 Rhagfyr 2015.
Roedd angen sawl darn o is-ddeddfwriaeth hefyd cyn bod modd cynnal y refferendwm. Roedd hyn yn cynnwys rheoliadau i bennu'r rheolau manwl ar gyfer gweinyddu'r bleidlais a darparu cyllid i'r Swyddogion Cyfrif a'r Swyddogion Cyfrif Rhanbarthol ar gyfer cynnal y refferendwm.
Roedd Deddf Refferendwm yr Undeb Ewropeaidd 2015 yn galluogi'r Prif Swyddog Cyfrif i benodi Swyddog Cyfrif Rhanbarthol ar gyfer pob un o'r 11 o ranbarthau etholiadol ym Mhrydain Fawr. Roedd y rhanbarthau hyn yr un fath â'r rhai a ddefnyddir ar gyfer etholiadau Senedd Ewrop. Roedd naw rhanbarth yn Lloegr, gyda Gibraltar yn rhan o ranbarth etholiadol De-orllewin Lloegr, yn ogystal â Chymru a'r Alban. Roedd Gogledd Iwerddon yn un ardal bleidleisio, gyda'r Prif Swyddog Cyfrif yn gweithredu fel y Swyddog Cyfrif.
Rheoliadau (Cynnal) Refferendwm yr Undeb Ewropeaidd 2016, a wnaed ar 25 Chwefror 2016, oedd yn pennu'r rheolau ar gyfer gweinyddu'r bleidlais ac roeddent wedi'u modelu'n bennaf ar y rhai a ddefnyddiwyd ar gyfer refferendwm mis Mai 2011 ynghylch y system bleidleisio ar gyfer etholiadau Senedd y DU.
Roedd y dyraniad cyllid ar gyfer Refferendwm yr UE yn dilyn y fframwaith a oedd eisoes wedi'i sefydlu gan Lywodraeth y DU ar gyfer ariannu etholiadau Senedd y DU a Senedd Ewrop. O dan y fframwaith hwn, gwnaeth Swyddfa'r Cabinet gyfrifo Cyfanswm Cyffredinol Mwyaf y gallai pob Swyddog Cyfrif a Swyddog Cyfrif Rhanbarthol ei ddefnyddio i ddyrannu adnoddau fel y gwelent orau, ar yr amod bod y symiau a fyddai'n cael eu gwario yn angenrheidiol ar gyfer cynnal y refferendwm yn effeithlon ac yn effeithiol. Roedd y Cyfanswm Cyffredinol Mwyaf a gyfrifwyd gan Swyddfa'r Cabinet yn seiliedig ar y swm gwirioneddol a wariwyd ar gyfer y digwyddiad pleidleisio cenedlaethol perthnasol diwethaf, wedi'i addasu ar gyfer ffactorau fel chwyddiant a chynnydd mewn costau eraill.
Roedd Rheoliadau Refferendwm yr Undeb Ewropeaidd (Taliadau Swyddogion Cyfrif a Swyddogion Cyfrif Rhanbarthol) 2016, a wnaed ar 22 Mawrth 2016, yn nodi'r Cyfanswm Cyffredinol Mwyaf y gallai Swyddogion Cyfrif Rhanbarthol a Swyddogion Cyfrif ei adennill am eu costau wrth gynnal y refferendwm. Roedd hyn yn cynnwys eu gwasanaethau personol wrth gyflawni'r rolau hynny a'r treuliau yr aethant iddynt wrth weinyddu'r bleidlais.
Hefyd, gyda chaniatâd y Trysorlys, roedd modd i ni awdurdodi taliadau gwerth mwy na'r Cyfanswm Cyffredinol Mwyaf os oeddem yn fodlon bod y gwariant yn angenrheidiol er mwyn cynnal y refferendwm yn effeithlon ac yn effeithiol a bod maint y taliad yn rhesymol.
Gofynion deddfwriaethol, ynghyd â chyfarwyddiadau a roddwyd gan y Prif Swyddog Cyfrif, oedd yn pennu rhai o'r costau roedd angen mynd iddynt. Ymhlith y rhain roedd yr angen i ddarparu staff a lleoliadau, a'r nifer y dylid eu darparu. Roedd modd i Swyddogion Cyfrif reoli costau eraill yr aed iddynt drwy wneud penderfyniadau yn lleol. Er enghraifft, llwyddodd rhai awdurdodau lleol i gyd-drafod costau ar gyfer llogi gorsafoedd pleidleisio.
Cawsom gyfrifoldeb am weinyddu'r broses ar gyfer talu ffioedd Swyddogion Cyfrif Rhanbarthol a Swyddogion Cyfrif a'u had-dalu am eu costau wrth gynnal y refferendwm. Hefyd, cawsom bwerau i wneud rheoliadau yn nodi'r gweithdrefnau manwl ar gyfer y broses honno. Gwnaethom hyn yn Rheoliadau Cyfrifon Swyddogion Cyfrif, Swyddogion Cyfrif Rhanbarthol a Phrif Swyddogion Cyfrif (Refferendwm yr Undeb Ewropeaidd) 2016.
Ym mis Mawrth 2016, gwnaethom gyhoeddi canllawiau cynhwysfawr i Swyddogion Cyfrif Rhanbarthol a Swyddogion Cyfrif ar sut y dylent roi cyfrif am eu gwariant, ac i'w helpu gyda'r broses o gyflwyno eu hawliadau.
Yn unol ag arfer blaenorol Llywodraeth y DU, ac ar ôl i ni gael yr awdurdod statudol i wneud hynny, gwnaethom dalu blaenswm i Swyddogion Cyfrif gwerth 75% o'u Cyfanswm Cyffredinol Mwyaf o fis Ebrill 2016. Diben hyn oedd galluogi Swyddogion Cyfrif i dalu unrhyw gostau uniongyrchol cyn y bleidlais a thalu am staff, lleoliadau, cyfarpar a gwasanaethau eraill yn syth ar ôl y bleidlais.
Roedd hynny'n gadael 25% o'r Cyfanswm Cyffredinol Mwyaf i bob Swyddog Cyfrif i'w ad-dalu ar ôl i'w hawliad gael ei gyflwyno a'i setlo. Hefyd yn unol ag arfer blaenorol, gwnaethom alluogi Swyddogion Cyfrif a oedd o'r farn na fyddai eu blaenswm yn ddigon i dalu eu costau uniongyrchol i wneud cais am flaenswm uwch (hyd at 90% o'r Cyfanswm Cyffredinol Mwyaf). Ni wnaeth unrhyw Swyddogion Cyfrif fanteisio ar y cyfleuster hwn.
Prosesu hawliadau
Fel y digwyddodd yn 2011, gwnaethom ddefnyddio'r Uned Hawliadau Etholiadau, sy'n rhan o Swyddfa'r Cabinet, fel arbenigwyr pwnc i dderbyn a phrosesu hawliadau gan Swyddogion Cyfrif am ad-dalu eu costau. Cost gwasanaethau'r Uned, gan gynnwys staffio, swyddfeydd a chostau gweinyddol cysylltiedig, oedd £0.293m.
Gofynnwyd i'r Swyddogion Cyfrif gyflwyno hawliadau refferendwm i'r Uned o fewn chwe mis i ddyddiad y bleidlais. Golygai hyn mai'r dyddiad cau oedd 23 Rhagfyr 2016. Wedyn, roedd yr Uned yn gyfrifol am sicrhau'r canlynol:
- bod cyfrif cywir wedi cael ei roi am y costau
- bod y dystiolaeth ategol angenrheidiol wedi cael ei chyflwyno
- bod yr eitemau yr hawliwyd amdanynt yn ad-daladwy yn unol â'r canllawiau roeddem wedi'u darparu
Fel rhan o'r broses hon, roedd yr Uned yn gallu gofyn am wybodaeth neu dystiolaeth ychwanegol gan Swyddogion Cyfrif a gwneud ymholiadau ynghylch eitemau o wariant.
Dilynodd yr Uned y model tair lefel graffu a gyflwynwyd gan Swyddfa'r Cabinet yn 2014. Y tair lefel oedd: cyfrifon clir, cyffyrddiad ysgafn a chraffu llawn. Roedd gan bob lefel graffu ofynion gwahanol o ran tystiolaeth ategol. Er bod angen i Swyddogion Cyfrif ym mhob categori roi cyfrif am eu gwariant, dim ond anfonebau ac ati am wasanaethau TG a thaliadau gwerth mwy na £2,500 i staff roedd angen i'r rhai yn y categori craffu Cyfrifon Clir eu cyflwyno. Roedd yn rhaid i'r rhai yn y categori Cyffyrddiad Ysgafn gyflwyno'r un wybodaeth, ond roedd yn rhaid iddynt hefyd gyflwyno anfonebau/derbynebau ac ati am gostau argraffu a phostio. Roedd yn ofynnol i Swyddogion Cyfrif yn y categori Craffu Llawn gyflwyno derbynebau/anfonebau ac ati am eu holl wariant mewn perthynas â'r refferendwm. Defnyddiwyd dull seiliedig ar risg i ddewis ym mha gategori y byddai Swyddog Cyfrif yn cael ei roi. Ategwyd hyn gan system hapddewis. Mae rhestr lawn o'r categori craffu a glustnodwyd i bob ardal bleidleisio i'w gweld ar ein gwefan. Roedd unrhyw Swyddog Cyfrif a wariodd mwy na'r Cyfanswm Cyffredinol Mwyaf yn destun adolygiad craffu llawn yn awtomatig.
Pan oedd yr Uned wedi craffu ar hawliad a phob ymholiad wedi cael ei ddatrys, roeddem yn gyfrifol am gymeradwyo'r setliad terfynol a thalu'r swm a oedd yn weddill i'r Swyddog Cyfrif, neu ofyn am unrhyw ad-daliad a allai fod yn ddyledus. Lle'r oedd y swm terfynol y cytunwyd arno yn fwy na'r Cyfanswm Cyffredinol Mwyaf, roedd angen i'r Trysorlys gymeradwyo'r taliad terfynol.
Cost y refferendwm
Cost cyffredinol y refferendwm oedd £129.128m. Mae hyn yn cynnwys:
- costau'r Comisiwn Etholiadol
- costau ymgyrchoedd post ar ran yr ymgyrchwyr arweiniol dynodedig
- costau Swyddogion Cyfrif Rhanbarthol a Swyddogion Cyfrif
Costau'r Comisiwn Etholiadol
Ein rôl
Mewn refferendwm a gynhelir o dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA), rydym yn gyfrifol am y canlynol:
- gwneud sylwadau ar eglurder geiriad cwestiwn y refferendwm
- cofrestru sefydliadau neu unigolion sydd am ymgyrchu yn y refferendwm
- ystyried a chymeradwyo ceisiadau am ddynodiad fel y grŵp ymgyrchu arweiniol ar gyfer y naill ganlyniad a'r llall yn y refferendwm
- talu grantiau i'r sefydliadau dynodedig cymeradwy
- monitro gwariant ar ymgyrch y refferendwm, yn unol â therfynau gwariant y refferendwm a osodwyd gan PPERA
- rhoi cyngor a chanllawiau ar y rheolau i ymgyrchwyr
- monitro a sicrhau cydymffurfiaeth â rhoddion, benthyciadau a rheolaethau gwariant ymgyrchoedd
- codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r refferendwm, y pwnc dan sylw, a sut i bleidleisio ynddo
- cyflwyno adroddiad ar weinyddu'r refferendwm a gwariant ar ymgyrch y refferendwm
Cyn refferendwm yr UE, gwnaethom gynnal ymgyrch amlgyfrwng i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd a rhoi'r wybodaeth hanfodol roedd ei hangen ar bobl i gymryd rhan. Dechreuodd ein gweithgarwch, a oedd yn targedu pob pleidleisiwr, ar 15 Mai 2016. Roedd yn cynnwys hysbysebu, canllaw ar bleidleisio, cysylltiadau cyhoeddus a gweithgareddau partneriaeth.
Yn refferendwm yr UE, Cadeirydd y Comisiwn oedd y Prif Swyddog Cyfrif gyda chyfrifoldeb am gynnal y refferendwm a sicrhau cywirdeb y canlyniad cyffredinol. Roedd rôl y Prif Swyddog Cyfrif yn cynnwys:
- pŵer i roi cyfarwyddiadau i Swyddogion Cyfrif Rhanbarthol a Swyddogion Cyfrif mewn perthynas â pharatoadau ar gyfer y refferendwm a chyflawni eu swyddogaethau
- ardystio a datgan cyfanswm y papurau pleidleisio a gyfrifwyd a chyfanswm y pleidleisiau a fwriwyd o blaid y naill ateb a'r llall i'r cwestiwn yn y refferendwm
Rydym yn atebol i Senedd y DU am ein gwariant. Yn unol â PPERA, mae'n ofynnol i ni gyflwyno ein cyllideb ar ffurf Amcangyfrif Seneddol bob blwyddyn ariannol i Bwyllgor y Llefarydd. Ar ôl cynnal adolygiad, bydd Pwyllgor y Llefarydd yn cyflwyno'r Amcangyfrif gerbron Tŷ'r Cyffredin. Yr Amcangyfrifon hyn yw'r ffordd rydym yn ceisio awdurdod gan y Senedd am ein gwariant bob blwyddyn.
Yn unol â Deddf Refferendwm yr UE 2015, roedd modd i ni hefyd dynnu cyllid i lawr ar gyfer:
- treuliau a gwasanaethau Swyddogion Cyfrif Rhanbarthol a Swyddogion Cyfrif
- y broses o ddarparu gwybodaeth ymgyrchu gan y sefydliadau arweiniol dynodedig
- archwiliadau gan y Post Brenhinol ar y diwrnod pleidleisio
Caiff y rhain i gyd eu hariannu'n uniongyrchol o'r Gronfa Gyfunol ac felly nid ydynt yn rhan o Amcangyfrif y Comisiwn.
Costau'r refferendwm
Costau'r refferendwm
Cyfanswm ein gwariant ar gyfer Refferendwm yr UE oedd £129.090m.
£m | 2015-16 | 2016-17 | 2017-18 | Cyfanswm |
---|---|---|---|---|
Grantiau ymgyrchwyr arweiniol | 0.000 | 1.2000 | 0.000 | 1.2000 |
Gweithgarwch y Comisiwn Etholiadol i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd (Dangosir credyd ar gyfer ymwybyddiaeth y cyhoedd yn 2017-18 am fod nodyn credyd wedi dod i law gan yr hysbysebwr.) |
0.802 | 5.252 | -0.029 | 6.025 |
Costau staffio a gweithredol y Comisiwn Etholiadol | 0.287 | 1.463 | 0.223 | 1.973 |
Ffioedd a thaliadau Swyddogion Cyfrif Rhanbarthol a Swyddogion Cyfrif | 0.000 | 94.541 | 0.000 | 94.541 |
Costau'r Post Brenhinol | 0.000 | 25.389 | 0.000 | 25.398 |
Cyfanswm | 1.089 | 127.845 | 0.94 | 129.128 |
Nid yw'r Comisiwn Etholiadol wedi'i gofrestru ar gyfer TAW ac felly mae'r holl gostau a ddangosir yn cynnwys TAW lle y bo'n gymwys.
Mae rhagor o fanylion am ein gweithgarwch, ein perfformiad a'n defnydd o adnoddau ariannol (gan gynnwys datganiadau ariannol manwl) i'w gweld yn ein Hadroddiad Blynyddol, a gyhoeddir bob blwyddyn ar ein gwefan.
Costau ymgyrchoedd post ar ran yr ymgyrchwyr arweiniol dynodedig
Mae dyletswydd statudol arnom i benodi grwpiau ymgyrchu arweiniol dynodedig ar gyfer y naill ochr a'r llall o ymgyrch y refferendwm. Gallem ddynodi ymgeisydd ar gyfer un ochr o'r ddadl yn unig, neu beidio â dynodi ymgeisydd ar gyfer y naill ochr na'r llall, os na chawsom ymgeiswyr ar gyfer canlyniad neu os nad oeddem yn fodlon bod unrhyw rai o'r ymgeiswyr yn cynrychioli'r rhai sy'n cefnogi canlyniad penodol yn ddigonol. Gallai ymgyrchwyr cofrestredig wneud cais i fod yn grwpiau ymgyrchu arweiniol dynodedig.
Ar 13 Ebrill 2016, gwnaethom ddynodi:
- The In Campaign Ltd (a elwir hefyd yn Britain Stronger in Europe) yn ymgyrchydd arweiniol i'r canlyniad ‘Aros’
- Vote Leave Ltd yn ymgyrchydd arweiniol i'r canlyniad ‘Gadael’.
Mae gan grwpiau ymgyrchu arweiniol fuddiannau penodol yn ychwanegol at y rhai a roddir i ymgyrchwyr cofrestredig, gan gynnwys anfon anerchiad refferendwm at bob etholwr neu bob cartref yn ardal y refferendwm. Mae hyn yn hawl statudol o dan Adran 110(4) o PPERA.
O'r cyllid heb bleidlais a ddyrannwyd ar gyfer Refferendwm yr UE, y gwariant gwirioneddol mwyaf yr aethom iddo, heb gynnwys ffioedd a thaliadau Swyddogion Cyfrif Rhanbarthol a Swyddogion Cyfrif, oedd am gynnal ymgyrchoedd post ar ran yr ymgyrchwyr arweiniol dynodedig. Roedd hyn yn talu cost anfon deunyddiau ymgyrchu, nid cost llunio'r deunyddiau hynny, yr oedd yr ymgyrchwyr eu hunain yn gyfrifol am ei thalu.
Mae'r tabl isod yn dangos manylion y gost hon fesul grŵp ymgyrchu:
Ymgyrchydd arweiniol dynodedig | Nifer y dosbarthiadau | Cost (£m) |
---|---|---|
Vote Leave | 44,936,142 | 12.942 |
Britain Stronger in Europe (Britain Stronger in Europe was the campaign name for The In Campaign Ltd) |
40,760,719 | 11.739 |
Costau'r Post Brenhinol
Gwnaethom ddefnyddio gwasanaethau Royal Mail Ltd fel darparwr gwasanaethau cyffredinol i gyflawni ymgyrchoedd post yr ymgyrchwyr arweiniol dynodedig. Cafwyd cyllid o'r Gronfa Gyfunol er mwyn i'r sefydliadau dynodedig Gadael ac Aros arfer eu hawl statudol i anfon anerchiad refferendwm i bob cartref neu at bob etholwr.
Aed i gostau oherwydd archwiliadau ar y diwrnod olaf a Thrwyddedau Ymateb Busnes Rhyngwladol hefyd. Cynhelir archwiliadau ar y diwrnod pleidleisio, pan fydd y Post Brenhinol yn archwilio eu swyddfeydd trefnu er mwyn dod o hyd i becynnau pleidleisio drwy'r post sydd wedi cael eu postio'n agos iawn at y diwrnod pleidleisio neu ar y diwrnod hwnnw. Mae'r archwiliadau'n sicrhau bod y pleidleisiau hynny'n cael eu dosbarthu i'r Swyddog Cyfrif perthnasol cyn diwedd y cyfnod pleidleisio, fel bod modd eu cynnwys wrth gyfrif. Roedd y costau yr aed iddynt mewn perthynas â'r Trwyddedau Ymateb Busnes Rhyngwladol yn galluogi etholwyr tramor i ddychwelyd eu pleidleisiau ar sail “talu ymlaen llaw”.
Cyfanswm y gost oedd £25.389m. Mae'r tabl isod yn dangos dadansoddiad manwl o'r gost hon:
Disgrifiad | Cost (£m) (mae'r holl gostau yn cynnwys TAW o 20%) |
---|---|
Campaign mailings | 24.681 |
Administration fee | 0.444 |
Final day sweeps | 0.202 |
International Business Response Licence (overseas voters) | 0.063 |
Total | 25.389 |
Costau Swyddogion Cyfrif Rhanbarthol a Swyddogion Cyfrif
Gwnaeth ein Cadeirydd, yn rhinwedd ei rôl fel Prif Swyddog Cyfrif ar gyfer y refferendwm, benodi Swyddog Cyfrif Rhanbarthol ar gyfer pob un o'r 11 o ranbarthau etholiadol ym Mhrydain Fawr. Ar y cyfan, roedd y rhai a benodwyd yn swyddogion a oedd wedi cael eu dynodi gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn Swyddogion Canlyniadau Rhanbarthol ar gyfer rhanbarthau etholiadol yn etholiadau Senedd Ewrop 2014.
Roedd y Swyddogion Cyfrif Rhanbarthol yn gyfrifol am gydgysylltu’r gwaith o gynllunio a gweinyddu'r bleidlais yn eu rhanbarth etholiadol ac am reoli'r broses o goladu'r cyfansymiau lleol i roi un cyfanswm ar gyfer y rhanbarth etholiadol. Roeddent hefyd yn gyfrifol am rannu'r canlyniadau hynny â'r Prif Swyddog Cyfrif er mwyn iddo eu bwydo i mewn i'r canlyniad ar gyfer y DU gyfan.
Ym Mhrydain Fawr, roedd penodiad yn Swyddog Cyfrif yn deillio'n awtomatig o benodiad yn Swyddog Canlyniadau llywodraeth leol. Mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol benodi uwch swyddog sy'n gweithredu fel Swyddog Canlyniadau ar gyfer etholiadau lleol yn ardal yr awdurdod hwnnw. At ddibenion y refferendwm ym Mhrydain Fawr, roedd yr ardal awdurdod lleol yn cael ei galw'n ardal bleidleisio. Roedd pob awdurdod lleol yn ardal bleidleisio ar wahân.
Yng Ngogledd Iwerddon, y Swyddog Cyfrif dros ardal bleidleisio Gogledd Iwerddon oedd Prif Swyddog Etholiadol Gogledd Iwerddon.
Y Swyddogion Cyfrif oedd yn bersonol gyfrifol am gynnal y refferendwm. Rôl y Swyddog Cyfrif oedd sicrhau bod y refferendwm yn cael ei weinyddu'n effeithiol yn ei ardal bleidleisio. Roedd hyn yn cynnwys rheoli'r broses o gynnal y bleidlais, cyfrif y pleidleisiau a throsglwyddo cyfansymiau'r ardal leol i'r Swyddog Cyfrif Rhanbarthol.
Roedd Swyddogion Cyfrif a Swyddogion Cyfrif Rhanbarthol hefyd yn bersonol gyfrifol am y gwariant yr aed iddo at ddiben cynnal y refferendwm yn eu hardaloedd pleidleisio, ac am baratoi a chyflwyno'r cyfrifon mewn perthynas â'u gweithgareddau eu hunain.
Roedd rôl Swyddog Cyfrif Rhanbarthol yn cynnwys cynllunio a chydgysylltu ar lefel ranbarthol, rheoli'r broses o goladu cyfansymiau cyfrif rhanbarthol a hysbysu'r Prif Swyddog Cyfrif am y cyfansymiau hynny.
Roedd y Gorchymyn Taliadau yn nodi bod gan Swyddogion Cyfrif Rhanbarthol hawl i ffi benodedig o £12,000 am eu gwasanaethau. Gwnaeth pob Swyddog Cyfrif Rhanbarthol hawlio'r ffi am ei wasanaethau yn llawn, gan roi cyfanswm cost o £132,000.
Roedd gan Swyddogion Cyfrif Rhanbarthol hefyd hawl i adennill y treuliau angenrheidiol yr aed iddynt mewn perthynas â'u dyletswyddau. Roedd y Gorchymyn Taliadau yn nodi'r Cyfanswm Cyffredinol Mwyaf y gallai pob Swyddog Cyfrif Rhanbarthol ei hawlio am dreuliau, sef cyfanswm o £320,486.
Yn dilyn gwaith craffu ar yr holl hawliadau, cyfanswm y gost am dreuliau oedd £259,445, sef tanwariant o £61,041 (13%). Gwariodd 10 Swyddog Cyfrif Rhanbarthol lai na'r Cyfanswm Cyffredinol Mwyaf a ddyrannwyd ar eu cyfer a gwariodd un Swyddog Cyfrif Rhanbarthol fwy na'r Cyfanswm Cyffredinol Mwyaf.
O gyfanswm y gost am dreuliau, gwariodd Swyddogion Cyfrif Rhanbarthol £151,303 ar weinyddu elfen ranbarthol y broses o goladu'r canlyniadau a'r gweddill (£108,142) ar gostau eraill.
Cyfanswm Cyffredinol Mwyaf | Cyfanswm y Gost | |
---|---|---|
Gwasanaethau | £132,000 | £132,000 |
Treuliau | £320,486 | £259,445 |
Cyfanswm | £252,486 | £391,445 |
Roedd y Gorchymyn Taliadau (Rheoliadau Refferendwm yr Undeb Ewropeaidd (Taliadau Swyddogion Cyfrif a Swyddogion Cyfrif Rhanbarthol) 2016) yn rhestru'r hyn y gallai Swyddog Cyfrif ei hawlio mewn perthynas â gwasanaethau a threuliau. At ei gilydd, y Cyfanswm Cyffredinol Mwyaf y gallai Swyddogion Cyfrif ei hawlio oedd £2,078,342 am wasanaethau a £99,649,604 am dreuliau, sef cyfanswm o £101,727,946.
Ar ôl i bob hawliad gael ei setlo, y gost oedd £2,073,163 am wasanaethau Swyddogion Cyfrif, gyda £5,179 mewn ffioedd Swyddogion Cyfrif heb ei hawlio, a £92,076,530 am dreuliau, sef cyfanswm o £94,149,643. Golygai hyn danwariant o £7,578,253 (7%).
Cyfanswm Cyffredinol Mwyaf | Cyfanswm y Gost | |
---|---|---|
Gwasanaethau | £2,078,342 | £2,073,163 |
Treuliau | £99,649,604 | £92,076,530 |
Cyfanswm | £101,727,946 | £94,149,693 |
Cyfanswm Cyffredinol Mwyaf 3.30 Gwnaeth 287 o Swyddogion Cyfrif wario llai na'r Cyfanswm Cyffredinol Mwyaf a ddyrannwyd ar eu cyfer, gwnaeth 93 wario mwy na'r Cyfanswm Cyffredinol Mwyaf a gwnaeth dau wario'r union swm a ddyrannwyd ar eu cyfer. Roedd 208 o hawliadau o fewn amrediad o +/- 10% o'r Cyfanswm Cyffredinol Mwyaf, ac roedd 353 o hawliadau o fewn amrediad o +/- 25% o'r Cyfanswm Cyffredinol Mwyaf.
Byddwn yn cyflawni dadansoddiad pellach o'r gwariant o gymharu â pherfformiad Swyddogion Cyfrif er mwyn ceisio canfod a oes unrhyw gysylltiad amlwg rhwng perfformiad a gwariant. Byddwn yn canolbwyntio ar wariant cyfrif ac yn ystyried ffactorau fel:
- nifer y staff a ddefnyddiwyd
- nifer y papurau pleidleisio a gyfrifwyd
- nifer y papurau pleidleisio a gyfrifwyd
Rydym yn bwriadu defnyddio'r wybodaeth hon er mwyn ein helpu i nodi a wedyn rhannu enghreifftiau o arfer da er mwyn cefnogi'r broses o gyfrif pleidleisiau mewn digwyddiadau etholiadol yn y dyfodol.
Roedd y Gorchymyn yn pennu Cyfanswm Cyffredinol Mwyaf ar gyfer treuliau i bob ardal bleidleisio. Talwyd blaendal o 75% o'r Cyfanswm Cyffredinol Mwyaf i bob Swyddog Cyfrif o fis Ebrill 2016, gyda'r gweddill yn cael ei dalu ar ôl i'w hawliad gael ei setlo.
Roedd treuliau Swyddogion Cyfrif, a gwmpesir gan y Cyfanswm Cyffredinol Mwyaf, yn cynnwys darparu a thalu staff, cynnal y refferendwm a'r cyfrif a'r holl weithgareddau atodol sydd eu hangen er mwyn cyflawni swyddogaethau'r Swyddog Cyfrif.
Costau gorsafoedd pleidleisio
Y cyfanswm a wariwyd gan Swyddogion Cyfrif ar orsafoedd pleidleisio oedd £39.456 million.
Cost gyfartalog darparu gorsaf bleidleisio ledled y DU (gan gynnwys Gibraltar) oedd £961. Roedd amrywiadau sylweddol rhwng gwahanol rannau o'r DU, gan amrywio o gyfartaledd o £828 yng Ngogledd Iwerddon i £1,586 yn Llundain.
Mae gwariant ar orsafoedd pleidleisio yn cynnwys:
- costau lleoliadau parhaol a lleoliadau dros dro ar gyfer cynnal 41,050 o orsafoedd pleidleisio ledled y DU a Gibraltar yn y refferendwm (£8.308 miliwn)
- costau cyfarpar a ddefnyddir mewn gorsafoedd pleidleisio, fel bythau pleidleisio, blychau pleidleisio, deunydd ysgrifennu a hysbysiadau (£1.303 miliwn)
- costau paratoi a chludo cyfarpar i'w ddefnyddio mewn gorsafoedd pleidleisio (£3.487 miliwn)
- costau argraffu papurau pleidleisio (£2.837 miliwn)
- taliadau a wnaed i'r 107,100 o staff gorsafoedd pleidleisio a'r staff a fu'n goruchwylio gorsafoedd pleidleisio (£23.521 miliwn). Mae hyn yn cynnwys costau sy'n gysylltiedig â hyfforddi'r staff hynny cyn y diwrnod pleidleisio
Disgrifiad | Cost (£m) |
---|---|
Presiding Officers | 8.901 |
Poll clerks | 9.307 |
Supervising officers | 1.323 |
Travel and subsistence | 0.858 |
Training | 3.131 |
Accommodation: permanent | 6.455 |
Accommodation: temporary | 1.854 |
Preparation and transport | 3.487 |
Equipment | 1.303 |
Printing ballot papers | 2.837 |
Total | 39.456 |
Costau pleidleisiau post
Roedd 8.488 miliwn o bleidleiswyr post cofrestredig yn y refferendwm. Cafodd cyfanswm o 8.536 miliwn o becynnau pleidleisio drwy'r post, gan gynnwys pecynnau pleidleisio newydd, eu dosbarthu ledled y DU gan Swyddogion Cyfrif. Dychwelwyd 7.476 miliwn o bleidleisiau.
Y cyfanswm a wariwyd gan Swyddogion Cyfrif ar bleidleisiau post oedd £19.383 miliwn. Y gost gyfartalog fesul pleidleisiwr post oedd £2.28 a'r gost gyfartalog fesul pleidlais bost a ddychwelwyd oedd £2.59.
Mae gwariant ar bleidleisiau post yn cynnwys:
- cost argraffu a phostio (dosbarthu a dychwelyd – rhoddir amlen ddychwelyd ragdaledig i bleidleiswyr post) (£13.904m)
- taliadau a wnaed i staff a oedd yn gweithio ar ddosbarthu, derbyn a gwirio pleidleisiau post, gan gynnwys hyfforddiant (£3.589m)
- costau (lle y bônt yn berthnasol) lleoliadau a ddefnyddiwyd i gynnal gweithrediad y pleidleisiau post (£0.913m)
- costau cyfarpar a ddefnyddiwyd i ddosbarthu, derbyn a gwirio pleidleisiau post fel peiriannau mewnosod, agorellau a pheiriannau ganio ar gyfer gwirio dyddiadau geni a llofnodion (£0.977m)
Disgrifiad | Cost (£m) |
---|---|
Staff: preparation and issue | 0.602 |
Staff: opening and verification | 2.953 |
Training | 0.033 |
Printing and stationary | 5.672 |
Postage: outbound | 4.624 |
Postage: inbound | 3.609 |
Accommodation | 0.913 |
Equipment | 0.977 |
Total | 19.383 |
Costau cardiau pleidleisio
Dosbarthwyd cardiau pleidleisio i bob un o'r 46.5 miliwn o etholwyr cofrestredig yn y refferendwm, gan arwain at gyfanswm cost o £15.485 million.
Mae gwariant ar gardiau pleidleisio yn cynnwys:
- cost argraffu a dosbarthu cardiau pleidleisio i bob etholwr (£15.259m)
- cost taliadau i staff a oedd yn rhan o'r ymarfer hwn (£0.161m)
- costau cyfarpar (£0.065m)
Description | Cost (£m) |
---|---|
Staff: preparation | 0.161 |
Equipment | 0.065 |
Printing and stationary | 2.003 |
Postage or delivery | 13.256 |
Total | 15.485 |
Costau cyfrif
Y cyfanswm a wariwyd gan Swyddogion Cyfrif ar gyfrif oedd £12.557 million. Y gost gyfartalog fesul etholwr ledled y DU am weinyddu'r broses gyfrif oedd £0.27. Roedd hyn yn amrywio o £0.20 yng Nghymru i £0.47 yn yr Alban.
Mae gwariant ar y broses gyfrif yn cynnwys:
- costau lleoliadau ar gyfer cyfrif, gan gynnwys costau diogelwch (£2.889m)
- costau cludo papurau pleidleisio o orsafoedd pleidleisio i ganolfannau cyfrif (£0.718m)
- costau cyfarpar a ddefnyddiwyd mewn canolfannau cyfrif (£0.666m)
- taliadau a wnaed i 51,000 o staff canolfannau cyfrif – mae hyn yn cynnwys teithio a chynhaliaeth a chostau sy'n gysylltiedig â hyfforddi'r staff hynny (£8.283m)
Disgrifiad | Cost (£m) |
---|---|
Count staff | 5.454 |
Supervising staff | 2.552 |
Travel and subsistence | 0.098 |
Training | 0.179 |
Accommodation | 2.583 |
Equipment | 0.666 |
Transport | 0.718 |
Security | 0.306 |
Total | 12.557 |
Costau eraill
Y cyfanswm a wariwyd gan Swyddogion Cyfrif ar gostau eraill oedd £5.195 miliwn.
Mae'r categori hwn yn cynnwys:
- costau staff a gyflogwyd i roi cymorth clercyddol a gweinyddol i'r Swyddog Cyfrif drwy gydol cyfnod y refferendwm (h.y. heb fod yn gysylltiedig â'r ymarferion penodol a drafodir uchod)
- costau deunyddiau a gwasanaethau nad oedd modd rhoi cyfrif amdanynt o dan gategorïau gwariant eraill, fel costau argraffu hysbysiadau statudol a hysbysiadau eraill, deunydd ysgrifennu cyffredinol, costau postio cyffredinol, ffioedd trwyddedau meddalwedd, biliau ffôn a thaliadau banc
Disgrifiad | Cost (£m) |
---|---|
General clerical | 2.851 |
Travel and subsistence | 0.036 |
Providing training | 0.696 |
Materials and services | 1.605 |
Nominations | 0.000 |
Translation: Welsh | 0.001 |
Legal advice | 0.006 |
Staff superannuarion | 0.000 |
Total | 5.195 |
Roedd y Gorchymyn Taliadau yn galluogi Swyddogion Cyfrif i adennill Cyfanswm Cyffredinol Mwyaf am y gwasanaethau a nodwyd yn y Gorchymyn, gan gynnwys cynnal y refferendwm, cyflawni dyletswyddau'r Swyddogion Cyfrif yn y refferendwm a gwneud trefniadau ar gyfer y refferendwm.
Cyfrifwyd y Cyfanswm Cyffredinol Mwyaf yn seiliedig ar nifer yr etholwyr yn yr ardal bleidleisio roedd y Swyddog Cyfrif yn gyfrifol amdani. Roedd gennym bŵer i leihau neu wrthod talu ffi unrhyw Swyddogion Cyfrif os oeddem o'r farn nad oeddent wedi darparu eu gwasanaethau yn ddigonol. Mae ein gweithdrefn ar gyfer gwerthuso'r ffordd y cafodd gwasanaethau eu darparu i'w gweld ar ein gwefan.
Ffioedd am wasanaethau
Er mwyn sicrhau bod taliadau'n gysylltiedig â chyflawni dyletswyddau Swyddogion Cyfrif Rhanbarthol a Swyddogion Cyfrif yn foddhaol ar y cyfan, gan gynnwys cyflwyno cyfrifon yn brydlon, gwnaethom nodi'n glir y gwahaniaeth rhwng hawlio treuliau a hawlio'r ffi am wasanaethau. Cafodd 75% o ffi benodedig Swyddogion Cyfrif am eu gwasanaethau ei thalu yn syth ar ôl y bleidlais. Cafodd yr hyn a oedd yn weddill o ffi pob Swyddog Cyfrif ei dalu ar ôl i'w hawliad gael ei gyflwyno a'i glirio, yn amodol ar berfformiad boddhaol. Nid ystyriwyd bod unrhyw Swyddog Cyfrif wedi perfformio'n anfoddhaol ac felly ni chafodd unrhyw ffioedd eu cadw yn ôl.
Mae manylion y taliadau a wnaed i Swyddogion Cyfrif am eu gwasanaethau i'w gweld yn Atodiad B.
Pensiwn
Cyfrifoldeb yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol yng Nghymru a Lloegr a Llywodraeth yr Alban yn yr Alban yw'r rheoliadau ar gyfer taliadau pensiwn.
Er bod ffioedd a delir i Swyddogion Canlyniadau mewn etholiadau yn bensiynadwy, nid yw'r ffioedd presennol am ddyletswyddau Swyddog Cyfrif yn bensiynadwy. Nid yw'r rheoliadau presennol yn darparu ar gyfer gwneud taliadau pensiwn mewn perthynas â ffioedd Swyddog Cyfrif mewn refferendwm (yn wahanol i Swyddog Canlyniadau mewn etholiad).
Yswiriant ac indemniad
Roedd Swyddogion Cyfrif eisoes wedi rhoi eu trefniadau eu hunain ar waith i'w hyswirio eu hunain rhag unrhyw risgiau a wynebir wrth gyflawni eu dyletswyddau statudol mewn etholiadau. Mewn llawer o achosion byddai trefniadau yswiriant yr awdurdodau lleol eu hunain ar gyfer etholiadau yn cynnwys darpariaethau i ymestyn yr yswiriant ar gyfer refferenda.
Felly, gofynnwyd i Swyddogion Cyfrif gadarnhau pa yswiriant oedd ganddynt ar waith. Cydnabuwyd, er y gall yswiriant yr awdurdod lleol gwmpasu rhai risgiau, y gall Swyddogion Cyfrif hefyd fod yn atebol am hawliadau nas cwmpesir gan bolisïau yswiriant presennol.
O ganlyniad i hynny, gwnaethom drefnu drwy'r Senedd i indemniad penodol ar gyfer y refferendwm gael ei ddarparu i Swyddogion Cyfrif Rhanbarthol a Swyddogion Cyfrif er mwyn ategu unrhyw bolisïau yswiriant a oedd eisoes ar waith yn lleol. Byddai'r indemniad hwn ond yn gymwys pan fyddai Swyddog Cyfrif wedi defnyddio pob opsiwn o dan yswiriant a oedd yn bodoli eisoes h.y. dylai polisïau presennol gwmpasu pob hawliad yn y lle cyntaf. Fel y digwyddodd hi, ni wnaed unrhyw hawliadau gan Swyddogion Cyfrif Rhanbarthol na Swyddogion Cyfrif o dan y trefniant indemniad.
Roeddem wedi gobeithio y byddai categoreiddio hawliadau a'r lefelau craffu cysylltiedig wedi galluogi'r Swyddogion Cyfrif hynny yn y categorïau is, sef cyfrifon clir a chyffyrddiad ysgafn, i gyflwyno eu hawliadau wedi'u cwblhau ymhell cyn y dyddiad cau ar 23 Rhagfyr. Byddai hyn wedi galluogi'r Uned Hawliadau Etholiadau i ddechrau archwilio a phrosesu mwy o hawliadau yn llawer cynharach nag a ddigwyddodd yn ymarferol. Mewn gwirionedd, cafodd yr Uned y rhan fwyaf o'r hawliadau yn ystod yr ychydig wythnosau olaf cyn y dyddiad cau.
Hefyd, cafodd amser ei golli yn y broses o ystyried hawliadau am fod Etholiad Cyffredinol Senedd y DU wedi cael ei alw'n gynnar, i'w gynnal ym mis Mehefin 2017. Yn y cyfnod cyn yr etholiad hwnnw, ac yn syth ar ei ôl, roedd angen i Swyddogion Cyfrif a'u staff allweddol fod yn rhan o'r gwaith o weinyddu'r etholiad. Felly, gwnaethom ofyn i'r Uned oedi ei gwaith dilynol mewn perthynas ag arsylwadau ac ymholiadau heb eu datrys â Swyddogion Cyfrif yn ystod y cyfnod hwn.
Roedd y nifer fawr o hawliadau a oedd yn fwy na'r Cyfanswm Cyffredinol Mwyaf yn ffactor arall nas rhagwelwyd a arweiniodd at oedi wrth gwblhau'r broses hawliadau. Ar y cyfan, roedd 94 allan o 393 o hawliadau (24% o'r cyfanswm) yn fwy na'r Cyfanswm Cyffredinol Mwyaf, gan olygu bod angen i Swyddogion Cyfrif Rhanbarthol a Swyddogion Cyfrif gyflwyno achosion busnes i gyfiawnhau eu gwariant. Aeth pob hawliad a oedd yn fwy na'r Cyfanswm Cyffredinol Mwyaf yn syth i'r categori craffu llawn, gan olygu bod angen i Swyddogion Cyfrif Rhanbarthol a Swyddogion Cyfrif gyflwyno rhagor o dystiolaeth. Wedyn, roedd rhaid cyflwyno pob hawliad i gael ei ystyried gan y Trysorlys cyn bod modd cytuno'n derfynol ar setliad. Mewn cymhariaeth, yn refferendwm 2011 ar System Bleidleisio Senedd y DU, dim ond pedwar Swyddog Cyfrif Rhanbarthol a Swyddog Cyfrif (1% o'r cyfanswm) a gyflwynodd hawliadau a oedd yn fwy na'r Cyfanswm Cyffredinol Mwyaf. Er bod y setliad cyffredinol yn agos at y Cyfanswm Cyffredinol Mwyaf, mae'r amrywiadau ar gyfer Swyddogion Cyfrif unigol yn awgrymu bod angen i Lywodraeth y DU wneud rhagor o waith dadansoddi er mwyn sicrhau dyraniad cywirach o gyllid ar gyfer digwyddiadau etholiadol yn y dyfodol.
Byddwn yn adolygu'r prosesau a ddefnyddiwyd i brosesu a setlo hawliadau nawr bod pob hawliad wedi cael ei setlo. Byddwn yn adrodd yn ôl i Swyddfa'r Cabinet ar y gwersi a ddysgwyd o'r adolygiad hwn, er mwyn ei galluogi i sicrhau y bydd y prosesau y bydd yn eu dilyn ar gyfer etholiadau yn y dyfodol yn eu hadlewyrchu.
Treuliau Swyddogion Cyfrif Rhanbarthol
Region | Funding allocation (MRA) (£) | Actual expenditure (£) | + / - (£) |
---|---|---|---|
East Midlands | 22,383.00 | 21,845.20 | 537.80 |
Eastern | 22,670.00 | 30,300.00 | -7,630.00 |
London | 22,861.00 | 18,137.42 | 4,723.58 |
North East | 10,019.00 | 9,978.09 | 40.91 |
North West | 55,910.00 | 45,177.33 | 10,732.67 |
Scotland | 43,794.00 | 43,766.05 | 27.95 |
South East | 36,520.00 | 19,900.95 | 16,619.05 |
South West and Gibraltar | 35,000.00 | 18,136.96 | 16,863.04 |
Wales | 38,118.00 | 24,579.17 | 13,538.83 |
West Midlands | 22,273.00 | 19,681.53 | 2,591.47 |
Yorkshire and the Humber | 10,938.00 | 7,942.45 | 2,995.55 |
Total | 320,486.00 | 259,445.15 | 61,040.85 |
Treuliau Swyddogion Cyfrif
Treuliau Swyddogion Cyfrif
Region | Funding allocation for expenses (MRA) (£) | Actual expenditure (£) | + / - (£) |
---|---|---|---|
East Midlands | 7,170,798 | 6,524,485 | 646,313 |
Eastern | 8,613,431 | 7,922,373 | 691,058 |
London | 12,023,242 | 12,865,583 | -842,341 |
Northern Ireland | 3,292,686 | 2,579,076 | 713,610 |
North East | 4,130,203 | 3,691,992 | 438,211 |
North West | 10,937,858 | 9,661,359 | 1,276,499 |
Scotland | 12,166,220 | 9,818,505 | 2,347,715 |
South East | 12,220,262 | 11,923,666 | 296,596 |
South West | 8,371,085 | 8,006,517 | 364,568 |
Wales | 4,911,921 | 4,441,805 | 470,116 |
West Midlands | 8,315,347 | 7,461,687 | 853,660 |
Yorkshire and the Humber | 7,496,551 | 7,179,484 | 317,067 |
Total | 99,649,604 | 92,076,530 | 7,573,072 |
Treuliau Swyddogion Cyfrif fesul categori
Region | Polling stations (£000) | Postal voting (£000) | Poll cards (£000) | Count (£000) | Other (£000) | Total (£000) |
---|---|---|---|---|---|---|
East Midlands | 2,676 | 1,440 | 1,167 | 769 | 472 | 6,524 |
Eastern | 3,460 | 1,701 | 1,451 | 902 | 408 | 7,922 |
London | 5,955 | 2,346 | 1,794 | 2,138 | 632 | 12,866 |
Northern Ireland | 1,142 | 62 | 422 | 493 | 460 | 2,579 |
North East | 1,411 | 1,161 | 552 | 397 | 171 | 3,692 |
North West | 3,926 | 2,232 | 1,753 | 1,311 | 440 | 9,662 |
Scotland | 4,210 | 1,980 | 1,376 | 1,864 | 388 | 9,819 |
South East | 4,817 | 2,645 | 2,325 | 1,463 | 674 | 11,924 |
South West | 3,433 | 1,722 | 1,430 | 964 | 457 | 8,007 |
Wales | 2,084 | 913 | 753 | 444 | 249 | 4,442 |
West Midlands | 3,277 | 1,506 | 1,216 | 1,013 | 451 | 7,462 |
Yorkshire and the Humber | 3,066 | 1,675 | 1,247 | 797 | 394 | 7,179 |
Total | 39,456 | 19,383 | 15,485 | 12,557 | 5,195 | 92,077 |
Costau Swyddogion Cyfrif fesul etholwr a'r pleidleisiau a fwriwy
Costau fesul etholwr/pleidlais yn ôl rhanbarth etholiadol
Region | Total expenses (£) | Electorate | Votes cast | Cost per elector | Cost per vote |
---|---|---|---|---|---|
East Midlands | 6,524,485 | 3,384,299 | 2,510,496 | 1.93 | 2.60 |
Eastern | 7,922,373 | 4,398,796 | 3,331,312 | 1.80 | 2.38 |
London | 12,865,583 | 5,424,768 | 3,781,204 | 2.37 | 3.40 |
Northern Ireland | 2,579,076 | 1,260,955 | 790,523 | 2.05 | 3.26 |
North East | 3,691,992 | 1,934,341 | 1,341,387 | 1.91 | 2.75 |
North West | 9,661,359 | 5,241,568 | 3,668,627 | 1.84 | 2.63 |
Scotland | 9,818,505 | 3,987,112 | 2,681,179 | 2.46 | 3.66 |
South East | 11,923,666 | 6,465,404 | 4,963,110 | 1.84 | 2.40 |
South West | 8,006,517 | 4,138,134 | 3,174,909 | 1.93 | 2.52 |
Wales | 4,441,805 | 2,270,272 | 1,628,054 | 1.96 | 2.73 |
West Midlands | 7,461,687 | 4,116,572 | 2,965,369 | 1.81 | 2.52 |
Yorkshire and the Humber | 7,179,484 | 3,877,780 | 2,741,172 | 1.85 | 2.62 |
Total | 92,076,480 | 46,500,001 | 33,577,342 | 1.98 | 2.74 |
Costau fesul etholwr/pleidlais yn ôl categori
Category | Total cost (£m) | Electorate (millions) | Votes cast (millions) | Cost per elector (£) | Cost per vote (£) |
---|---|---|---|---|---|
Counting Officer services | 2.073 | 46.500 | 33.577 | 0.04 | 0.06 |
Polling stations (Excludes electors registered to vote by post) |
39.456 | 38.012 | 26.101 | 1.04 | 1.51 |
Postal votes (Only includes electors registered to vote by post) |
19.383 | 8.488 | 7.476 | 2.28 | 2.59 |
Poll cards | 15.485 | 46.500 | 33.577 | 0.33 | 0.46 |
The count | 12.557 | 46.500 | 33.577 | 0.27 | 0.37 |
Other costs | 5.195 | 46.500 | 33.577 | 0.11 | 0.15 |
Costau etholwyr fesul categori
Category | Total cost (£) | Electors (millions) | Cost per elector (£) |
---|---|---|---|
Poll cards (printing) | 2.003 | 46.500 | 0.04 |
Poll cards (delivery) | 13.256 | 46.500 | 0.29 |
Ballot papers (printing) | 2.837 | 38.012 | 0.07 |
Postal ballots (printing) | 5.672 | 8.488 | 0.67 |
Postal ballots (delivery) | 4.624 | 8.488 | 0.54 |
Postal ballots (return) | 3.609 | 8.488 | 0.43 |
Data Swyddogion Cyfrif Rhanbarthol
RCO | RCO services | Count costs | Other costs |
---|---|---|---|
East midlands | £12,000 | £13,958 | £7,887 |
Eastern | £12,000 | £15,750 | £14,550 |
London | £12,000 | £11,387 | £6,750 |
North East | £12,000 | £6,933 | £3,045 |
North West | £12,000 | £33,671 | £11,506 |
Scotland | £12,000 | £43,766 | - |
South East | £12,000 | £1,570 | £18,331 |
South West | £12,000 | £8,076 | £10,061 |
Wales | £12,000 | £3,307 | £21,273 |
West Midlands | £12,000 | £9,682 | £10,000 |
Yorkshire and the Humber | £12,000 | £3,203 | £4,740 |
Total | £132,000 | £151,303 | £108,142 |