Cyfraddau ymateb aelwydydd fesul llwybr

Yn ôl y disgwyl, mae’r gyfradd ymateb yn sylweddol uwch ymhlith aelwydydd Llwybr 2, lle disgwylir newidiadau, nag aelwydydd Llwybr 1, lle nad ydynt (65.5% o’i gymharu â 24.5%) (gweler Tabl 9).

Yn 2019, cyn i’r broses ganfasio gael ei diwygio, daeth 23.8 miliwn o ymatebion i law yn ystod y canfas. Yn 2023, derbyniwyd 10.3 miliwn o ymatebion, sydd yn gyfwerth â 2022 a dim ond ychydig yn uwch na lefel yr ymatebion a dderbyniwyd yn 2020 a 2021 (~9 miliwn). Gellir esbonio’r gostyngiad mewn ymatebion o gymharu â 2019 yn rhannol gan y gyfradd ymateb is ymhlith aelwydydd Llwybr 1, sy’n ffurfio’r mwyafrif helaeth o aelwydydd ac nad oes angen iddynt ymateb bellach oni bai bod newid wedi bod yng nghyfansoddiad yr aelwyd.

Fodd bynnag, fel yn 2021 a 2022, mae yna dal i fod tua traean o aelwydydd yn Llwybr 2 sydd heb ymateb, er y disgwylir newidiadau yn yr eiddo hyn. Ni chanfu ein hymchwil cywirdeb a chyflawnrwydd unrhyw ddirywiad yng nghywirdeb a chyflawnrwydd y cofrestrau, fodd bynnag nid oedd unrhyw welliant ychwaith. Byddai angen cyfraddau ymateb uwch ymhlith aelwydydd Llwybr 2 i wella cywirdeb a chyflawnrwydd. 

Awgrymodd sawl Swyddog Cofrestru Etholiadol fod pwysau ariannu yn ei gwneud yn anodd cyflawni cyfradd ymateb Llwybr 2 uwch, yn rhannol oherwydd bod y pwysau hyn yn ei gwneud yn anos recriwtio canfaswyr. Nid oedd eraill yn gallu cynnal ymgyrchoedd ymwybyddiaeth y cyhoedd neu roedd y cynnydd yng nghostau postio yn effeithio arnynt. Mae nifer cynyddol o Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn defnyddio e-gyfathrebu a chanfasio dros y ffôn gan fod hyn yn cynrychioli gwell gwerth am arian.  Mae hyn yn cyflwyno rhai cyfyngiadau gan nad yw data ffôn bob amser yn gyflawn a gall ymatebwyr fod yn wyliadwrus o e-gyfathrebu gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol a'u camgymryd am sbam, ond mae arwyddion calonogol bod e-gyfathrebu yn dod yn fwy defnyddiol. Mae rhai Swyddogion Cofrestru Etholiadol wedi adrodd bod nifer y cyfeiriadau e-bost a gofnodwyd yn cynyddu, a bod pobl yn gynyddol yn llai gwyliadwrus o dderbyn e-gyfathrebu gan eu hawdurdod lleol.

Mae cyrraedd cymunedau sydd yn hanesyddol wedi bod yn gyndyn i ymgysylltu â chanfaswyr yn parhau i fod yn her. Ymddengys mai ardaloedd trefol dwys eu poblogaeth gyda chyfraddau uchel o symudiad poblogaeth yw'r ardaloedd mwyaf heriol. Mae rhai Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn dewis targedu eu hymdrechion curo drysau yn y lleoliadau hyn yn unig. Fodd bynnag, mae data o flynyddoedd blaenorol yn dangos nad yw hynny hyd yn oed yn llwyddiannus yn gyffredinol.

Byddwn yn canolbwyntio ein dadansoddiad o ddata Llwybr 2 dros y blynyddoedd i ddod i ddatblygu ein dealltwriaeth ymhellach o'r heriau a wynebir gan Swyddogion Cofrestru Etholiadol ac i gefnogi nodi camau gweithredu i helpu i liniaru yn erbyn y risgiau i gywirdeb a chyflawnrwydd eu cofrestrau etholiadol. Byddwn hefyd yn gwneud gwaith gyda grwpiau llai o Swyddogion Cofrestru Etholiadol i hwyluso rhannu arfer da rhwng y rhai sy'n wynebu heriau tebyg.

Amrywiadau yn y gyfradd ymateb

Fel ym mhob blwyddyn ers 2020, mae’r Alban yn parhau i fod â’r gyfradd ymateb isaf ymhlith eiddo Llwybr 2 (50.4%) o gymharu â 64.0% yng Nghymru a 67.2% yn Lloegr (Tabl 9). Fodd bynnag, er gwaethaf y gwahaniaeth yn y gyfradd ymateb, ni chanfu’r astudiaeth cywirdeb a chyflawnrwydd ddiweddaraf fod cyflawnrwydd na chywirdeb y cofrestrau yn yr Alban wedi dirywio ers 2018.

Tabl 9: Cyfradd ymateb ar gyfer Llwybrau 1 a 2, fesul gwlad a rhanbarth yn Lloegr 2023
RhanbarthLlwybr 1Llwybr 2
Lloegr24.6%67.2%
Gogledd-ddwyrain Lloegr14.2%62.3%
Gogledd-orllewin Lloegr18.2%58.0%
Swydd Gaerefrog a'r Humber21.9%61.3%
Dwyrain Canolbarth Lloegr24.2%75.3%
Gorllewin Canolbarth Lloegr25.8%67.8%
Dwyrain Lloegr24.1%72.3%
Llundain24.5%66.5%
De-ddwyrain Lloegr32.4%70.3%
De-orllewin Lloegr29.0%72.7%
Yr Alban23.2%50.4%
Cymru25.0%64.0%
Prydain Fawr24.5%65.5%

Mae cyfraddau ymateb ar gyfer Llwybr 2 yn Lloegr wedi parhau ar yr un lefel yn fras ag y mae wedi bod arni am y tair blynedd ddiwethaf, er eu bod wedi gostwng ers yr uchafbwynt yn 2021 (Tabl 10). Mae cyfraddau ymatebion Llwybr 2 yng Nghymru a’r Alban wedi aros yn gyson dros y pedair blynedd diwethaf.

Tabl 10: Cyfradd ymateb ar gyfer Llwybr 2, fesul gwlad a rhanbarth yn Lloegr 2020-23
Rhanbarth2020202120222023
Lloegr67.4%70.1%69.0%67.2%
Gogledd-ddwyrain Lloegr59.3%62.7%65.6%62.3%
Gogledd-orllewin Lloegr61.8%63.2%61.7%58.0%
Swydd Gaerefrog a'r Humber70.5%67.3%65.6%61.3%
Dwyrain Canolbarth Lloegr72.5%75.6%76.0%75.3%
Gorllewin Canolbarth Lloegr69.3%71.2%70.3%67.8%
Dwyrain Lloegr72.3%75.8%73.9%72.3%
Llundain59.7%65.9%64.3%66.5%
De-ddwyrain Lloegr71.5%74.2%73.2%70.3%
De-orllewin Lloegr72.4%75.4%75.4%72.7%
Yr Alban50.0%50.7%50.7%50.4%
Cymru63.6%65.4%66.1%64.0%
Prydain Fawr65.5%68.1%67.1%65.5%

Ffigur 2

Newidiadau mawr a bach fesul llwybr

Gall natur yr ymatebion a dderbyniwyd hefyd roi syniad o effeithiolrwydd y broses ganfasio ddiwygiedig. Gall aelwydydd sy’n ymateb gofnodi newid mawr (e.e. adrodd bod etholwr newydd posibl yn preswylio), newid bach (e.e. diwygio enw etholwr presennol) neu ddim newid (h.y. cadarnhau manylion presennol aelodau’r aelwyd). Gall deall dosbarthiad y newidiadau hyn ddweud wrthym am gywirdeb y broses paru data.

O'r 10.3 miliwn o ymatebion a dderbyniwyd ar draws pob llwybr, nododd 2.6 miliwn o aelwydydd newid mawr. Mae Tabl 11 yn disgrifio sut y dosbarthwyd y newidiadau mawr hyn ar draws y tri llwybr. 

Tabl 11: Dosbarthiad newidiadau mawr ar draws bob llwybr
 Nifer yr aelwydydd sy'n adrodd am newid mawr% yr aelwydydd yn adrodd am newid mawr ar draws pob llwybr
Llwybr 1895,60133.6%
Llwybr  21,723,83364.7%
Llwybr 343,4411.6%
Cyfanswm2,662,875100.0%

Mae’r patrwm yn cyd-fynd yn fras â 2020-2022, lle adroddwyd tua dwy ran o dair o newidiadau mawr gan aelwydydd Llwybr 2 – h.y., lle byddai rhywun yn disgwyl i newidiadau gael eu hadrodd. Fel mewn blynyddoedd blaenorol, mae traean (33.6%) o newidiadau mawr a adroddwyd yn ymwneud ag aelwydydd Llwybr 1, lle’r oedd data’r Adran Gwaith a Phensiynau a/neu ddata lleol wedi nodi na ddylai fod angen unrhyw newid. 

Fel yn y ddwy flynedd flaenorol, o’r 22.1 miliwn o aelwydydd a ddyrannwyd ar gyfer Llwybr 1 (gan gynnwys y rheiny na wnaethant ymateb i’r canfas), mae’r ganran sy’n nodi newid mawr (4.0%) yn fach. Fodd bynnag, fel y mae Ffigur 2 yn dangos, mae dros un o bob deg (16.6%) o’r aelwydydd Llwybr 1 hynny a ymatebodd i’r canfas wedi nodi newid mawr. Yn bwysig iawn o ran ansawdd y cofrestrau, mae hefyd yn annhebygol bod yr holl aelwydydd Llwybr 1 yr oedd angen iddynt roi gwybod am newid mawr wedi gwneud hynny – yn enwedig gan y byddent wedi cael cyswllt cyfyngedig gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol. 

 

Ffigur 3: Canran yr aelwydydd a ymatebodd yn Llwybrau 1 a 2 a adroddodd newid mawr / bach / dim newid

Nid oes gennym ddata cymharol ar y nifer o newidiadau mawr a roddwyd gwybod amdanynt gan aelwydydd yn ystod y canfasau cyn y diwygiadau. Fodd bynnag, mae ein canlyniadau cywirdeb a chyflawnrwydd yn awgrymu nad yw canfasau 2020-23 yn anghydnaws â ffigurau hanesyddol. 

Mae’r data hwn yn awgrymu naill ai nad yw’r broses paru data yn nodi’n gywir pob eiddo lle bydd angen newidiadau a/neu mae yna effaith o’r oedi rhwng pryd mae’r paru’n digwydd a phryd mae’r canfasio’n digwydd.
 

Ychwanegiadau a dileadau

Nid yw canfasio aelwydydd yn arwain yn uniongyrchol at gofrestriadau newydd. Pan fydd aelwyd yn adrodd bod etholwr newydd posibl yn preswylio, mae angen i’r unigolyn hwnnw gyflwyno cais o hyd i gael ei ychwanegu at y gofrestr. Lle mae cartref yn adrodd bod angen tynnu etholwyr oddi ar y cofrestrau, mae angen ail ddarn o dystiolaeth (e.e. data a gedwir yn lleol) cyn y gall y Swyddog Cofrestru Etholiadol gadarnhau ei fod wedi'i ddileu.

Mae angen ychwanegu cofnodion at y cofrestrau a'u dileu am sawl rheswm gan gynnwys mudo, symud cartref a marwolaethau. Mae lefel yr ychwanegiadau a’r dileadau’n rhoi cipolwg ar p’un a yw gweithgareddau cofrestru’n cadw i fyny â newid yn y boblogaeth. Fel symudedd poblogaeth, mae’r her a wynebir gan Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn amrywio ar draws y wlad.

Fel yn 2020-22, aelwydydd Llwybr 2 sy’n cyfrif am y gyfran fwyaf o ychwanegiadau a dileadau (gweler Tabl 12). Fodd bynnag, daeth cyfran sylweddol (tua 40%) o'r ychwanegiadau a'r dileadau o aelwydydd Llwybr 1 y rhagdybiwyd bod eu cyfansoddiad heb fod wedi newid. Unwaith eto, mae hyn yn awgrymu naill ai rhywfaint o anghywirdeb wrth ddyrannu’r aelwydydd i lwybrau neu effaith sy’n deillio o symudiad poblogaeth rhwng paru a chanfasio.

Tabl 12: Canran o ychwanegiadau a dileadau fesul llwybr
 Llwybr 1Llwybr 2Llwybr 3
Ychwanegiadau41.30%55.06%3.65%
Dileadau39.34%56.79%3.87%

Mae o leiaf rhywfaint o newid yn y boblogaeth ddim yn cael ei nodi ar y cofrestrau. Ni chanfu ein hymchwil cywirdeb a chyflawnrwydd dystiolaeth bod ansawdd y cofrestrau wedi dirywio ers 2018 cyn i’r canfas gael ei ddiwygio, fodd bynnag gan nad yw ychwaith wedi achosi gwelliant sylweddol, mae hwn yn faes i roi sylw iddo.

Mae Tabl 13 yn dangos y lefelau o ychwanegiadau a dileadau yn y blynyddoedd diwethaf ar gyfer y flwyddyn gyfan, nid y cyfnod canfas yn unig. Mae canran yr ychwanegiadau a’r dileadau yn 2023 yn sefydlog o gymharu â 2021 a 2022, sydd wedi bod ychydig yn is na blynyddoedd blaenorol. Fodd bynnag, mae’n arferol gweld mwy o newid mewn blynyddoedd gyda digwyddiadau etholiadol sylweddol ledled y DU, megis etholiad cyffredinol neu refferendwm (e.e. 2015 neu 2019).

Tabl 13: Canran o ychwanegiadau a dileadau 2010-23
BlwyddynYchwanegiadauDileadau
201013%12%
201315%15%
201515%15%
201615%13%
201713%13%
201811%12%
201813%10%
202010%10%
202111%11%
202210%10%
202310%9%

Fel y nodir yn Tabl 14, rydym hefyd yn disgwyl gweld cyfran uwch o ychwanegiadau a dileadau yn ystod y cyfnod canfas nag y tu allan mewn blynyddoedd lle nad oes digwyddiad etholiadol ar gyfer y DU gyfan. Parhaodd y duedd hon yn 2023.

Tabl 14: Canran yr ychwanegiadau yn ystod a thu allan i gyfnod canfasio 2015-23
 YchwanegiadauDileadau
BlwyddynYn ystod y canfasY tu allan i’r canfasYn ystod y canfasY tu allan i’r canfas
201540%60%58%43%
201638%64%54%47%
201739%61%56%44%
201868%32%68%32%
201962%38%61%39%
202056%44%64%36%
202161%39%61%39%
202261%39%65%35%
202364%36%66%34%

Mae Tabl 15 isod yn dangos y gyfran o ychwanegiadau a dileadau a gofnodwyd yn ystod y cyfnod canfas ar draws dair gwlad Prydain Fawr. Roedd y gyfran o ychwanegiadau a dileadau yn ystod y canfas uchaf yng Nghymru (65.1% a 70.6% yn y drefn honno), lle na chafwyd unrhyw etholiadau yn ystod y flwyddyn. Roedd ychwanegiadau ar eu hisaf yn yr Alban (61.2%) tra roedd dileadau ar eu hisaf yn Lloegr (65.2%).

Tabl 15: Ychwanegiadau a dileadau yn ystod blwyddyn lawn a chyfnod canfasio fesul gwlad
 YchwanegiadauDileadau
 Blwyddyn lawnY cyfnod canfasio% yn ystod y canfasBlwyddyn lawnY cyfnod canfasio% yn ystod y canfas
Lloegr4,000,4622,555,57963.9%3,795,3252,474,54965.2%
Yr Alban369,381225,93061.2%376,004249,94266.5%
Cymru187,214121,86465.1%168,702119,16370.6%
Prydain Fawr4,557,0572,903,37363.7%4,340,0312,843,65465.5%

Page history

Cyhoeddwyd gyntaf: 19 Awst 2025

Diweddarwyd ddiwethaf: 1 Medi 2025