Taith dysgwr drwy addysg ddemocrataidd a’r Cwricwlwm i Gymru
Bydd addysg ddemocrataidd dda yn sicrhau bod gan holl ddisgyblion y cyfleoedd sydd eu hangen arnynt i ddod yn “ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sydd yn deall ac yn arfer eu cyfrifoldebau a’u hawliau dynol a democrataidd” (Cwricwlwm i Gymru).
Gall ysgolion gefnogi cynnydd trwy ddysgu am ddemocratiaeth i ddysgwyr ond hefyd trwy roi cyfleoedd iddynt ddysgu trwy ddemocratiaeth trwy greu diwylliant ysgol gyfranogol. Trwy adolygiad llenyddiaeth, mae'r Comisiwn Etholiadol wedi nodi 6 egwyddor ar gyfer addysg ddemocrataidd dda.
Egwyddor 1: Dysgu am ddemocratiaeth
Egwyddor 2: Cymryd rhan mewn prosesau democrataidd
Egwyddor 3: Defnyddio’u llais mewn trafodaethau agored
Egwyddor 4: Cyfrannu i’w cymuned
Egwyddor 5: Bod yn rhan o ddiwylliant cynhwysol
Egwyddor 6: Cymryd rhan yn y broses gwneud penderfyniadau
Yn ogystal â'r egwyddorion hyn, mae'r dystiolaeth yn glir bod ymrwymiad y pennaeth i gyfranogiad ystyrlon trwy gydol y flwyddyn yn hanfodol. Mae hyn yn cynnwys datblygu diwylliant ysgol sy’n wirioneddol gyfranogol sy'n grymuso dysgwyr yn fwriadol, yn hytrach na'i ddefnyddio fel ffordd o reoli neu fel ffordd o ddynwared democratiaeth.
Gosod addysg ddemocrataidd yn y Cwricwlwm i Gymru
Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol
Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, ac wedi’u llunio gan weithredoedd a chredoau dynol.
Sgiliau annatod: creadigrwydd ac arloesedd, meddwl beirniadol a datrys problemau
Safbwyntiau lleol, cenedlaethol a’r byd ehangach, gan gynnwys Gwleidyddiaeth Cymru
Meddwl dwfn a myfyrio
Datblygu dealltwriaeth o'r ddisgyblaeth a'i gwerth
Annog dealltwriaeth gysyniadol o'r byd trwy ddysgu am bobl a'u gwerthoedd, ar adegau ac mewn lleoliadau ac amgylchiadau gwahanol
Darparu cyd-destunau cyfoethog i archwilio materion cymdeithasol, hunaniaeth, hawliau a chyfrifoldebau, a threfniadaeth gymdeithasol
Annog cyfranogiad gweithgar ac ymgysylltu â materion cymdeithasol trwy ymholi cymdeithasol, trafodaethau a gweithredu cymdeithasol
Datblygu dealltwriaeth o sut mae systemau llywodraethu yng Nghymru yn gweithredu ac yn effeithio ar fywydau pobl, a sut maent yn cymharu â systemau eraill
Archwilio cysyniadau llywodraethu, hawliau, cydraddoldeb, anghydraddoldeb, ethnigrwydd, rhyw a thlodi
Ystod o gyfleoedd i ymweld ac archwilio, gan gynnwys:
Mannau o bwysigrwydd gwleidyddol, crefyddol neu ysbrydol
Mae cyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol yn hanfodol ac yn ffurfio rhan o'r egwyddorion allweddol sy'n ymwneud â'r dewis o gynnwys.
Addysg hawliau dynol ac amrywiaeth
Gall profiadau helpu dysgwyr ddatblygu dealltwriaeth o'u cyfrifoldebau fel dinasyddion Cymru, amrywiaeth Cymru, ac ymwybyddiaeth o sut mae dehongliadau o hawliau dynol, gwerthoedd, moeseg, athroniaethau, a safbwyntiau crefyddol ac anghrefyddol yn dylanwadu ar eu hawliau eu hunain. Yn y Maes hwn, dylai fod cyfleoedd i ddatblygu dealltwriaeth o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) ac annog dysgwyr i gydnabod eu hawliau eu hunain ac eraill.