We're showing you content for:

Crynodeb

Nodwch, rydym yn dangos gwybodaeth sydd yn berthnasol i Gymru yn unig.

Byw mewn dau gyfeiriad

Mae rhai pobl yn rhannu eu hamser rhwng dau gyfeiriad. Er enghraifft, efallai eich bod yn fyfyriwr sy’n byw oddi cartref, neu’n rhannu’ch amser rhwng cartrefi dau riant. Os yw hyn yn berthnasol i chi, efallai y gallwch gofrestru i bleidleisio mewn dau gyfeiriad, cyn belled â bod eich cyfeiriadau mewn gwahanol ardaloedd cyngor. 

Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu y cewch ddwy bleidlais. Rhaid i chi bleidleisio mewn un cyfeiriad yn unig yn etholiadau’r Senedd ac etholiadau Senedd y DU, ond gallwch ddewis ym mha ardal i bleidleisio.

Mae pleidleisio fwy nag unwaith yn yr un etholiad yn groes i’r gyfraith.

Mewn etholiadau cyngor lleol, byddwch yn gallu pleidleisio yn y ddau gyfeiriad cyn belled â'ch bod yn pleidleisio mewn gwahanol ardaloedd cyngor.