Nodwch, rydym yn dangos gwybodaeth sydd yn berthnasol i Gymru yn unig.
Pa etholiadau y gallwch chi bleidleisio ynddynt
Mae yna wahanol bethau sy'n dylanwadu ar ba etholiadau y gallwch bleidleisio ynddynt. Yn gyffredinol, y rhain yw eich oedran, eich cenedligrwydd a lle rydych chi'n byw. Ac mae'r rheolau'n wahanol yng ngwahanol rannau o'r DU.
Yng Nghymru, gallwch bleidleisio mewn rhai etholiadau pan fyddwch yn 16 oed.
Gwiriwch ym mha etholiadau y gallwch bleidleisio ynddynt.