Nodwch, rydym yn dangos gwybodaeth sydd yn berthnasol i Gymru yn unig.
Cyfrifoldebau cynghorau
Mae cynghorau yn gyfrifol am:
gwasanaethau addysg
cyfleusterau ieuenctid a hamdden
penderfyniadau cynllunio, er enghraifft, os oeddech am adeiladu estyniad ar eich cartref neu os hoffai rhywun adeiladu tai newydd
tai cymdeithasol
rheoli parciau a mannau cyhoeddus eraill
gwasanaethau cymdeithasol megis gofal maeth, cymorth i bobl anabl, neu ofal i’r henoed
ffyrdd a throedffyrdd lleol
sbwriel ac ailgylchu
llyfrgelloedd
cefnogi busnesau lleol
cofrestru pleidleiswyr a chynnal etholiadau lleol
Yn y rhan fwyaf o gynghorau, mae nifer fach o gynghorwyr yn ffurfio grŵp a elwir yn gabinet neu weithrediaeth. Dyma brif grŵp gwneud penderfyniadau'r cyngor. Caiff eu penderfyniadau eu llywio gan bolisïau neu gynlluniau eang y cytunwyd arnynt gan y cyngor cyfan.
Os ydych am wneud cwyn neu godi mater gyda'ch cynrychiolwyr etholedig, mae angen i chi wybod pa gyngor sy'n gyfrifol am eich ardal.