Pwy sy'n eich cynrychioli chi yn eich cyngor?

We're showing you content for:

Crynodeb

Nodwch, rydym yn dangos gwybodaeth sydd yn berthnasol i Gymru yn unig. 

Pwy sy'n eich cynrychioli chi

Gelwir y bobl a etholir i'ch cynrychioli yn eich cyngor lleol yn gynghorwyr lleol. 

Rydych chi ac eraill yn eich ardal yn eu hethol am gyfnod o bedair blynedd ond gall is-etholiadau ddigwydd unrhyw bryd. 

Rhennir yr ardal a gwmpesir gan eich cyngor lleol yn ardaloedd llai a elwir yn wardiau.  

Gall eich cynghorydd lleol wneud y canlynol: 

  • cymryd rhan yn y gwaith o gyfrifo faint i'w wario ar wasanaethau lleol fel parciau, llyfrgelloedd a ffyrdd 
  • datblygu cynlluniau ar gyfer y dyfodol ar gyfer eich ardal
  • delio ag unrhyw bryder sydd gennych am wasanaethau lleol y mae'r cyngor yn eu darparu

Mae llawer o gynghorwyr yn gweithio'n llawn amser neu'n rhan amser mewn swyddi eraill ar ben eu gwaith fel cynghorwyr. 

Gallwch gysylltu â’ch cynghorwyr lleol i ofyn cwestiynau iddynt am yr hyn sy’n digwydd yn eich ardal, neu rannu pryder. Fel arfer gallwch ddod o hyd i’w manylion cyswllt ar wefan eich cyngor.

Gallech hefyd fynd i gyfarfod cyngor yn yr oriel gyhoeddus yn eich neuadd dref neu ddinas leol a gwylio sut y gwneir penderfyniadau. Efallai y byddai’n ddefnyddiol gofyn i gynghorydd lleol esbonio beth sy’n digwydd mewn cyfarfod cyngor cyn i chi fynd er mwyn i chi wybod beth i’w ddisgwyl.

Dewch o hyd i'ch cyngor