Ar eich papur pleidleisio, fe welwch restr o enwau a phleidiau gwleidyddol – dyma eich ymgeiswyr.
Defnyddiwch rifau i restru eich dewisiadau mewn trefn.
Rhowch ‘1’ yn y blwch wrth ymyl eich ymgeisydd dewis cyntaf, ‘2’ wrth ymyl eich ail ddewis, ‘3’ wrth ymyl eich trydydd dewis ac ati. Gallwch wneud hyn ar gyfer yr holl bobl yr ydych am bleidleisio drostynt. Does dim rhaid i chi roi rhif wrth ymyl pob enw os nad ydych chi eisiau gwneud hynny.
Yn y cam cyntaf, caiff y pleidleisiau dewis cyntaf eu cyfrif a chyfrifir cwota. Y cwota yw'r lleiafswm o bleidleisiau y mae'n rhaid i ymgeisydd eu hennill i gael eu hethol. Mae unrhyw ymgeisydd sydd â nifer o bleidleisiau dewis cyntaf sy'n gyfartal neu'n uwch na'r cwota yn cael ei ethol ar unwaith.
Os oes lleoedd gwag o hyd ar gyfer cynrychiolwyr, trosglwyddir y pleidleisiau dros ben ar gyfer y rhai a etholwyd i'r ymgeiswyr ail ddewis. Os bydd seddi'n dal heb eu llenwi oherwydd nad oes digon o ymgeiswyr wedi cyrraedd y cwota, mae'r ymgeiswyr gyda'r nifer lleiaf o bleidleisiau yn colli eu lle yn y bleidlais a throsglwyddir eu pleidleisiau i'r ymgeiswyr ail ddewis.
Mae'r broses yn parhau hyd nes bod pob sedd wedi'i llenwi.
Felly, os na fydd eich ymgeisydd dewis cyntaf yn cael ei ethol neu os caiff ei ethol gyda mwyafrif mawr, gellir dal i ddefnyddio eich pleidlais i helpu i ethol eich ymgeisydd ail ddewis. Mae'n bosibl y caiff eich pleidlais ei throsglwyddo nifer o weithiau wrth i seddi gael eu llenwi a gall chwarae rhan mewn ethol nifer o ymgeiswyr, neu hyd yn oed pob un ohonynt.
Cofiwch wirio a dilyn y cyfarwyddiadau ar eich papur pleidleisio.