Adnoddau Canfasiad Blynyddol
Rhannu'r dudalen hon:
Canfasiad Blynyddol
Mae'r canfasiad blynyddol ar y gweill ar hyn o bryd yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, ac rydym wedi datblygu rhai adnoddau i'ch helpu i hyrwyddo'r canfasio yn eich ardal.
Gallwch lawrlwytho graffigau cyfryngau cymdeithasol, templedi negeseuon cymdeithasol a thempledi datganiadau i'r wasg.
Graffigau cyfryngau cymdeithasol
Mae’r graffigau cyfryngau cymdeithasol yn syml ac yn amlbwrpas, gyda dim ond eicon yn cynrychioli camau gwahanol o’r canfasiad.
Mae’r graffigau’n cynrychioli:
- Mae’r canfasiad ar y gweill
- Pam fod y canfasiad yn cael ei gynnal
- Mae’r canfasiad bron wedi gorffen
- Sut y gellir cysylltu â thrigolion
Templedi negeseuon cyfryngau cymdeithasol
Dyma dempledi negeseuon cyfryngau cymdeithasol i chi eu defnyddio i godi ymwybyddiaeth o'r canfasiad blynyddol yn eich ardal. Mae croeso i chi newid y negeseuon hyn a'u haddasu er mwyn iddynt weddu i anghenion eich trigolion.
- Ydych chi wedi derbyn neges gennym am y gofrestr etholiadol? Yr unig beth sydd angen i chi ei wneud yw dilyn y cyfarwyddiadau fel ein bod yn gwybod eich bod wedi’ch cofrestru ac yn barod i bleidleisio.
- Byddwch yn cael llythyr/e-bost yn fuan yn gofyn a yw manylion eich aelwyd ar y gofrestr etholiadol yn gywir. Yr unig beth sydd angen i chi wneud yw dilyn y cyfarwyddiadau, a byddwch yn barod i ddweud eich dweud yn yr etholiadau sydd i ddod.
- Ydych chi wedi derbyn neges gennym ynghylch eich manylion ar y gofrestr etholiadol, a ddim yn siŵr beth i’w wneud nesaf?
Mae ein tîm etholiadau’n fwy na pharod i helpu. Gallwch roi galwad iddynt ar <phone number> neu lenwi ein ffurflen [LINK]
- Rydym yn cysylltu â phob aelwyd i wneud yn siŵr bod y gofrestr etholiadol wedi’i diweddaru.
Pan gewch eich llythyr/e-bost, dilynwch y cyfarwyddiadau fel ein bod yn gwybod eich bod wedi’ch cofrestru ac yn barod i bleidleisio. - Pob blwyddyn, rydym yn gwirio bod y gofrestr etholiadol wedi’i diweddaru.
Pan gewch neges gennym, dilynwch y cyfarwyddiadau er mwyn i ni allu gwirio a yw ein cofnodion wedi’u diweddaru. - Rydym yn cysylltu â phob aelwyd i wirio bod gennym yr wybodaeth gywir ar y gofrestr etholiadol.
Dilynwch y cyfarwyddiadau, fel byddwch yn barod i bleidleisio yn yr etholiadau sydd i ddod. - Pob blwyddyn, rydym yn gwirio bod y gofrestr etholiadol wedi’i diweddaru fel bod pawb sydd â hawl i bleidleisio yn yr etholiadau sydd i ddod yn gallu dweud eu dweud.
Byddwn yn anfon llythyron/e-byst cyn hir, yn gofyn i chi wirio’ch manylion. Dilynwch y camau ar y llythyr/e-bost.
- Pob blwyddyn, rydym yn gwirio bod y gofrestr etholiadol wedi’i diweddaru. Rydym bron â gorffen ar gyfer y flwyddyn hon, ac yng nghanol ein gwiriadau olaf.
Efallai bydd aelod o’n tîm yn rhoi galwad i chi i ofyn am y manylion hyn. Helpwch nhw gyda’u gwaith neu dilynwch y cyfarwyddiadau mewn llythyron/e-byst er mwyn rhoi gwybod i ni fod eich manylion yn gywir. - Pob blwyddyn, rydym yn gwirio bod y gofrestr etholiadol wedi’i diweddaru. Rydym bron â gorffen ein gwiriadau ar gyfer y flwyddyn hon. Os nad ydych eisoes wedi ymateb, efallai y byddwn yn rhoi galwad i chi neu’n ymweld â chi yn eich cartref i wirio’ch manylion.
- Rydym yn gwirio bod y gofrestr etholiadol wedi’i diweddaru.
Efallai y cewch e-bost, llythyr neu alwad ffôn gennym ynghylch hyn, neu efallai bydd rhywun yn rhoi cnoc ar eich drws. - Pob blwyddyn, rydym yn gwirio bod y gofrestr etholiadol wedi’i diweddaru. Rydym bron â gorffen ar gyfer y flwyddyn hon, ac yng nghanol ein gwiriadau olaf.
Efallai bydd aelod o’n tîm yn rhoi galwad i chi i ofyn am y manylion hyn. Helpwch nhw gyda’u gwaith neu dilynwch y cyfarwyddiadau mewn llythyron/e-byst er mwyn rhoi gwybod i ni fod eich manylion yn gywir. - Ydych chi wedi derbyn llythyr/e-bost gennym yn gofyn am eich manylion ar y gofrestr etholiadol? Rydym yn gwirio bod y gofrestr wedi’i diweddaru.
Dilynwch y cyfarwyddiadau a rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl fel eich bod yn barod i bleidleisio yn yr etholiadau sydd i ddod. - Ydych chi wedi derbyn llythyr/e-bost gennym am y gofrestr etholiadol? Pob blwyddyn rydym yn gwirio bod pawb sy’n gymwys i bleidleisio yn ein hardal yn gofrestredig. Dilynwch y cyfarwyddiadau er mwyn i ni allu gwirio a yw ein cofnodion wedi’u diweddaru.