Adroddiad: Gweinyddu etholiadol cyffredinol y DU ym mis Mehefin 2017

Crynodeb

Nododd bron i bedwar o bob pump (79%) person a arolygwyd ar ôl yr etholiad eu bod naill ai'n hyderus iawn neu'n gymharol hyderus bod yr etholiadau'n cael eu cynnal yn effeithiol, ac roedd 89% o'r ymgeiswyr yn fodlon iawn neu'n gymharol fodlon â'r broses o weinyddu'r etholiad.

Cyhoeddwyd etholiad cyffredinol Senedd y DU ym mis Mehefin yn annisgwyl lai na thair wythnos cyn y diwrnod pleidleisio ar gyfer yr etholiadau llywodraeth leol a drefnwyd ar gyfer mis Mai 2017. Cyflwynodd hyn heriau sylweddol i Swyddogion Canlyniadau a'u staff a oedd yn gyfrifol am gynnal y digwyddiad pleidleisio. Maent yn haeddu clod mawr a diolch am sicrhau bod etholiadau mis Mai a mis Mehefin wedi'u cynnal yn effeithiol.

Risgiau i etholiadau a gynhelir yn dda

Ond ni ddylai'r darlun cyffredinol cadarnhaol hwn gelu risgiau ehangach i'r broses o weinyddu etholiadau a gaiff eu cynnal yn effeithiol, sy'n dod yn fwyfwy amlwg. Mae Swyddogion Canlyniadau a gweinyddwyr etholiadol yn gorfod ymdopi â llai o adnoddau ac mae nifer gynyddol o weithwyr proffesiynol medrus yn gadael timau etholiadau awdurdodau lleol. Maent hefyd yn dibynnu fwyfwy ar gronfa fach o gyflenwyr meddalwedd arbenigol a rheoli prosesau argraffu.

Mae problemau mewn rhai ardaloedd sy'n golygu bod rhai pleidleiswyr wedi cael gwasanaeth annigonol, a phroblemau sylweddol yn Plymouth a Newcsatle-under-Lyme yn dangos y dylid cymryd mwy o gamau gweithredu nawr i fynd i'r afael â'r heriau cynyddol y mae Swyddogion Canlyniadau yn eu hwyneb wrth gynnal etholiadau yn effeithiol.

Byddwn yn dal i weithio gyda llywodraethau'r DU, Swyddogion Cofrestru Etholiadol a Swyddogion Canlyniadau i gasglu ac adolygu tystiolaeth am yr heriau i etholiadau a gaiff eu cynnal yn effeithiol ac i nodi newidiadau a allai helpu i leihau'r risgiau hynny.

Argymhellion

Rydym hefyd am weld cynnydd gan lywodraethau'r DU tuag at weithredu argymhellion a wnaed gennym ni ac eraill, yn cynnwys:

  • Gweithredu cynigion Comisiynau'r Gyfraith yn y DU i symleiddio cyfraith etholiadol ac argymhellion Syr Eric Pickles ar dwyll etholiadol.
  • Gwella'r rheolau ar gyfer enwebu ymgeiswyr, penodi dirprwyon brys a'i gwneud yn haws i bleidleiswyr tramor fwrw pleidlais.
  • Gwneud y broses gofrestru etholiadol yn fwy unedig â gwasanaethau cyhoeddus eraill er mwyn sicrhau ei bod yn symlach i'r cyhoedd ac yn fwy effeithlon i Swyddogion Cofrestru Etholiad, a lleihau'r risg y bydd pobl yn pleidleisio mewn mwy nag un etholaeth.