Data 2017 ar dwyll etholiadol
Rhannu'r dudalen hon:
Prif Ganfyddiadau achosion o dwyll etholiadol honedig yn 2017
Dyma’r penawdau o’r data ar achosion o dwyll etholiadol honedig yn 2017:
Cafwyd tair euogfarn:
- roedd dwy mewn cysylltiad â throseddau argraffnodau
- roedd un mewn cysylltiad â throsedd personadu mewn gorsaf bleidleisio
Derbyniodd pobl y’u drwgdybiwyd mewn unarddeg o achosion rybuddion gan yr heddlu:
- roedd chwe achos mewn cysylltiad â throseddau cofrestru
- roedd tair achos mewn cysylltiad â phersonadu wrth bleidleisio drwy’r post
- roedd un achos mewn cysylltiad â datganiad ffug ar ffurflen enwebu
- roedd un achos mewn cysylltiad â chofnod treuliau etholiadol.
Achosion o dwyll honedig yn 2017
Canlyniadau honiadau | Nifer |
---|---|
Dim camau pellach | 246 |
Wedi’i ddatrys yn lleol | 88 |
Arall | 13 |
Rhybudd | 11 |
Rhyddfarn | 4 |
Euogfarn | 3 |
Roedd dros hanner (184) o’r holl achosion o dwyll etholiadol honedig yn droseddau ymgyrchu. Roedd y mwyafrif o’r rhain yn droseddau argraffnodau (111 o achosion).
Cafodd y rhan fwyaf o’r achosion (334) naill ai eu datrys yn lleol (88) neu ni chymerwyd camau pellach (246).
Troseddau
Math o drosedd | Nifer |
---|---|
Ymgyrchu | 184 |
Pleidleisio | 112 |
Cofrestru | 37 |
Enwebu | 26 |
Gweinyddu | 3 |
Amrywiol | 3 |