Sut allwch chi helpu?

Mae sefydliadau fel eich un chi yn y fan a'r lle ac mae gennych berthnasau gwych gyda’r bobl rydych yn ceisio’u cyrraedd. Rydych yn ffynhonnell wybodaeth y gellir ymddiried ynddoch, ac efallai bod gennych hefyd fynediad at grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar y gofrestr etholiadol.

Gobeithiwn y bydd yr adnoddau hyn yn eich helpu i gefnogi'r bobl yr ydych yn gweithio gyda nhw i gofrestru i bleidleisio.

Lawrlwythwch ein hadnoddau

I ategu ein hymgyrch cofrestru pleidleiswyr newydd, rydym wedi creu adnoddau y gall awdurdodau lleol a phartneriaid cymdeithas sifil eu defnyddio i hybu cofrestru pleidleiswyr.

Mae'r rhain yn cynnwys adnoddau sy'n arddangos cynrychiolwyr grwpiau y gwyddom eu bod yn llai tebygol o fod wedi'u cofrestru ac sy'n wynebu rhwystrau eraill i bleidleisio megis y gofyniad ID pleidleisiwr. Mae'r grwpiau hyn yn cynnwys pobl sy'n profi digartrefedd, pobl ag anableddau dysgu, Mwslimiaid Prydeinig benywaidd a chymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Crëwyd yr adnoddau hyn gyda chefnogaeth gan bartneriaid, sef Shelter, United Response, Brighton and Hove Muslim Forum, a Friends, Families and Travellers.

Adnoddau

Defnyddiwch yr adnoddau hyn i annog pobl i gofrestru i bleidleisio.

Mae’r adnoddau digidol yn cynnwys amrywiaeth o ddeunydd cyfryngau cymdeithasol i’w defnyddio ar Facebook, Instagram a X.

Mae’r adnoddau argraffedig yn cynnwys posteri a thaflenni mewn meintiau gwahanol ac maent mewn opsiynau ‘yn barod i’w hargraffu’ a ‘print masnachol’ – gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis yr opsiynau sy’n iawn ar eich cyfer chi!