Pleidleisio dramor: adnoddau i ddinasyddion Prydeinig dramor
Summary of changes
Mae newidiadau i bleidleisio ar gyfer dinasyddion Prydeinig a Gwyddelig cymwys sy'n byw dramor o 16 Ionawr 2024 ymlaen.
Mae nifer o newidiadau i bleidleisio o dramor bellach yn berthnasol:
- Gallwch gofrestru i bleidleisio yn y DU waeth pa mor bell yn ôl y gwnaethoch adael neu y cawsoch eich cofrestru diwethaf i bleidleisio yn y DU.
- Mae eich datganiad tramor bellach yn ddilys am dair blynedd, sy'n para tan 1 Tachwedd yn y drydedd flwyddyn ar ôl iddo ddod i rym (er enghraifft, os bydd eich datganiad yn dod i rym ar 1 Mawrth 2024, bydd yn dod i ben ar 1 Tachwedd 2026).
- Gallwch nawr gofrestru ar-lein (ddim ar gael yng Ngogledd Iwerddon).
Rydym yn argymell peidio â rhannu'r adnoddau isod â'r cyhoedd cyn 16 Ionawr 2024.
Lawrlwythwch ein hadnoddau
Rydym wedi creu ystod o adnoddau i helpu partneriaid sy'n gweithredu dramor i gyfleu'r newidiadau hyn i ddinasyddion Prydeinig sy'n byw dramor.
Mae'r rhain yn cynnwys posteri, taflen, graffeg ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol a phostiadau templed, baneri gwe, llofnodion e-bost, gwe templed a chopi cylchlythyr a Chwestiynau Cyffredin i'r Wasg.
Llofnod e-bost
Gall partneriaid ddefnyddio'r llofnod e-bost i gyfeirio pleidleiswyr at ragor o wybodaeth trwy eu gohebiaeth e-bost.
Newidiadau i Bleidleisio Tramor - Llofnod E-bost
Cwestiynau Cyffredin
Gall partneriaid ddefnyddio'r Cwestiynau Cyffredin i ddarparu atebion i gwestiynau cyffredin a allai fod gan bleidleiswyr am y newidiadau hyn.
Newidiadau i Bleidleisio Tramor – Cwestiynau Cyffredin
Posteri a Thaflen A5
Mae’r posteri a’r daflen yn crynhoi’r newidiadau hyn, ac maent ar gael mewn dau fformat:
- ‘Print proffesiynol’, yn cynnwys olion torri ac estyn
- PDF sy’n hygyrch i'r we, i'w weld ar-lein
Newidiadau i Bleidleisio Tramor – Posteri a Thaflen
Datganiad i'r wasg
Gall llysgenadaethau a chonsyliaethau ddefnyddio'r datganiad i'r wasg i helpu i godi ymwybyddiaeth o'r newidiadau hyn drwy eu gwasg leol.
Newidiadau i Bleidleisio Tramor – Datganiad i'r Wasg
Graffeg ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol a phostiadau templed
I gyd-fynd â’r graffeg ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol mae ystod o bostiadau templed y gall partneriaid eu defnyddio i gyhoeddi’r newidiadau hyn ar eu sianeli Facebook, Instagram a Twitter.
Newidiadau i Bleidleisio Tramor - Graffeg ar gyfer y Cyfryngau Cymdeithasol a Phostiadau
Baneri gwe
Mae'r baneri gwe yn cynnwys neges generig yn cyhoeddi'r newidiadau hyn. Gellir eu harddangos ar wefannau partneriaid i helpu i wneud preswylwyr yn ymwybodol a’u cyfeirio at ragor o wybodaeth.
Newidiadau i Bleidleisio Tramor - Baneri Gwe
Copi cylchlythyr a gwe
Gellir defnyddio’r copi cylchlythyr a gwe wrth baratoi cynnwys ar gyfer pleidleiswyr ar wefannau neu gylchlythyrau partneriaid.