Ymgyrchu cofrestru pleidleiswyr: a gaiff ei reoleiddio?
Cyn etholiadau, bydd llawer o bobl a sefydliadau yn cynnal ymgyrchoedd i annog pobl i gofrestru i bleidleisio neu i'w helpu i ddeall sut i ddefnyddio eu pleidlais yn yr etholiad. Bob blwyddyn, mae'r ymgyrchoedd hyn yn gwneud cyfraniad pwysig iawn at gael cynifer o bobl gymwys â phosibl ar y cofrestrau etholiadol, gan gefnogi'r gwaith a wneir gan awdurdodau lleol, pleidiau gwleidyddol a gennym ni.
Caiff gweithgarwch ymgyrchu ei reoleiddio pan ellir ystyried yn rhesymol ei fod yn ceisio dylanwadu ar y ffordd y mae pobl yn pleidleisio.
Mae'n annhebygol y bydd ymgyrchoedd sydd ond yn ymwneud â chofrestru pleidleiswyr neu godi ymwybyddiaeth o sut i bleidleisio yn weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir. Byddai ond yn cael ei reoleiddio pe gellid hefyd ystyried yn rhesymol ei fod yn ceisio dylanwadu ar bobl i bleidleisio mewn ffordd benodol. Dysgwch fwy am ba weithgarwch ymgyrchu allai gael ei reoleiddio.
Mae p'un a gaiff ymgyrch ei rheoleiddio yn dibynnu ar bob achos unigol. Gallwch gadarnhau a yw eich ymgyrch yn debygol o gael ei rheoleiddio gan ddefnyddio ein hadnodd.
Os yw eich ymgyrch yn un a reoleiddir, nid yw hyn yn golygu na allwch wneud yr hyn roeddech yn ei gynllunio. Fodd bynnag, gall fod terfyn ar faint y gallwch ei wario, ac efallai y bydd angen i chi gyflwyno adroddiad ar yr hyn a wnaethoch ar ôl yr etholiad.
Gallwch gysylltu â ni am gyngor ar eich ymgyrch. Byddwn yn adolygu unrhyw ddeunydd ac yn darparu cyngor pwrpasol. Rydym yn cynnal gweminarau rheolaidd i drafod y cyfreithiau mewn perthynas ag ymgyrchu.