Cysylltwch â ni gan ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain (IAP)

Partneriaeth gyda Convo

Rydyn ni wedi partneru â gwasanaeth dehonglwyr Covo, fel y gall pobl gysylltu â ni gan ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain (IAP). 

Defnyddio’r ap Convo Now

Os ydych chi’n ddefnyddiwr IAP gallwch ddefnyddio’r ap Convo Now i gysylltu â ni’n uniongyrchol.

Pan fyddwch chi’n ffonio, byddwch chi’n cael eich cysylltu â dehonglydd IAP cymwysedig a fydd yn trosglwyddo’r galwad rhyngoch chi ac aelod o staff. 

Sut i ddefnyddio Convo Now

I ddefnyddio’r gwasanaeth, bydd arnoch angen dyfais sydd â’r gwe-gamera a’r sain wedi’u galluogi. Gallwch ei ddefnyddio ar:

  • ffôn clyfar neu lechen Android neu Apple
  • neu lliniadur/cyfrifiadur bwrdd gwaith

I ddefnyddio SignLive ar lechen neu ffôn, ewch i’r siop apiau (Yn agor mewn ffenestr newydd) neu’r siop Google Play (Yn agor mewn ffenestr newydd) a chwilio am "Convo Now".

Lawrlwythwch yr ap, agorwch e a chwblhewch y cofrestriad unwaith yn unig.

Ar ôl i chi gofrestru a logio i mewn gallwch roi galwad i ni drwy glicio ar ein logo yn y cyfeiriadur cymunedol a gwasgu ffonio.

I ddefnyddio Convo ar liniadur neu gyfrifiadur bwrdd gwaith, ewch i https://now.convo.io/UserWebApp/ (Yn agor mewn ffenestr newydd), cofrestrwch, logiwch i mewn ac yna rydych chi’n barod i gychwyn.

Rhoddir i chi hefyd eich rhif estyniad eich hunan a fydd yn ein caniatáu i’ch ffonio’n ôl a gadael neges fideo os bydd angen.