Cod Ymddygiad i Gomisiynwyr Etholiadol
Cod Ymddygiad i Gomisiynwyr Etholiadol
Dyma'r Cod Ymddygiad y mae ein Comisiynau yn cytuno iddo pan fyddant yn dechrau eu tymor.
Cafodd y Cod Ymarfer ei adolygu a'i gymeradwyo gan y Bwrdd mis Mawrth 2023.
Cyflwyniad
Mae'r Comisiwn Etholiadol yn gorff annibynnol a sefydlwyd gan Senedd y DU, ac mae ei brif swyddogaethau wedi'u hamlinellu yn Neddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) fel y'i diwygiwyd.
Ei nod yw sicrhau uniondeb a hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd.
Mae Comisiynwyr, a'r Comisiwn fel corff, yn atebol i'r Senedd. O fewn y Comisiwn, mae Comisiynwyr yn atebol i'r Cadeirydd. Disgwylir i Gomisiynwyr weithredu i ddatblygu nodau ac amcanion y Comisiwn a chynnal ei ddidueddrwydd bob amser.
Diben y cod hwn yw darparu canllawiau clir ar safon yr ymddygiad a ddisgwylir gennych fel Comisiynydd Etholiadol, pwysigrwydd cyfrifoldeb ar y cyd a chynnal y safonau uchaf posibl o ran uniondeb, gonestrwydd, didueddrwydd a gwrthrychedd sy'n hanfodol i'ch rôl fel Comisiynydd. Caiff y safonau hyn eu nodi yn Egwyddorion Nolan (Atodiad 6).Cyfrifoldeb y Comisiynwyr yw datgan unrhyw faterion y cyfeirir atynt yn y Cod, neu roi gwybod am unrhyw newid i'w hamgylchiadau a all effeithio ar eu swydd.
Dylai Comisiynwyr Etholiadol ddarllen y cod, llofnodi a dyddio'r datganiad ar ddiwedd y ddogfen a'i dychwelyd i Ysgrifennydd Bwrdd y Comisiwn. Os caiff y Cod ei ddiweddaru'n sylweddol, gwahoddir Comisiynwyr i lofnodi'r Cod diwygiedig. Cadwch gopi o'r cod er gwybodaeth i chi.
Gwrthdaro buddiannau
Rhaid i waith y Comisiwn gael ei gynnal yn rhydd rhag unrhyw awgrym o ddylanwad amhriodol, p'un a yw'n ariannol, yn bersonol neu'n wleidyddol. Mae hyn yn hollbwysig i gynnal hyder y cyhoedd yn y Comisiwn yn gyffredinol, ac yn enwedig mewn perthynas â'i rôl fel rheoleiddiwr. Rhaid i ni roi sicrwydd i bobl y caiff achosion o wrthdaro buddiannau eu nodi a'u rheoli yn ddi-oed, yn dryloyw ac yn ddiogel; a bod yr holl wybodaeth a ddelir gennym yn cael ei thrin yn briodol.
Y cwestiwn allweddol y dylid ei ofyn bob amser wrth asesu p'un a ddylid cofnodi buddiant, rhodd, math o letygarwch neu gyfarfod yw: a yw'n effeithio ar waith y Comisiwn Etholiadol neu ganfyddiad rhesymol y cyhoedd o'm rôl fel Comisiynydd Etholiadol?
Disgwylir i bob Comisiynydd weithredu drwy ddefnyddio ei brofiad a'i wybodaeth er budd gwaith y Comisiwn. Fodd bynnag, mae'n bwysig bod achosion gwirioneddol ac achosion posibl o wrthdaro buddiannau (achosion go iawn neu achosion y gellid eu hystyried yn rhesymol felly) yn cael eu datgan er mwyn sicrhau y gallant gael eu cofnodi ac y gellir rheoli unrhyw niwed posibl i'ch enw da eich hun neu'r Comisiwn.
Gall methu â datgan buddiant ac yna weithredu'n briodol effeithio ar ddilysrwydd penderfyniad. Y prawf ym mhob achos yw ystyried a fyddai arsyllwr teg a gwybodus yn dod i'r casgliad bod posibilrwydd gwirioneddol o duedd? Nid dim ond a oes tuedd yw'r cwestiwn, ond, yn hytrach, a ellid amau yn rhesymol bod tuedd? Rhaid i benderfyniadau gael eu gwneud mewn ffordd ddiduedd heb unrhyw farn yn cael ei llunio ymlaen llawn (na'r canfyddiad y gwnaed hynny) os nad yw safbwyntiau na thystiolaeth wedi'u clywed eto.
Mae'n ofynnol i chi ddatgan unrhyw fuddiannau a all wrthdaro â'ch rôl yn y Comisiwn, er enghraifft, penodiadau allanol â thâl a rhai sy'n ddi-dâl, rolau ymgynghorol, ymddiriedolaethol, cyfarwyddiaethol, cynghorol a gwirfoddol. Efallai yr hoffech ymgynghori â chydweithwyr yn y Comisiwn, y Cadeirydd yn benodol, cyn derbyn unrhyw swyddi a all effeithio ar eich rôl naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, neu sy'n mynd yn groes i fuddiannau'r Comisiwn mewn unrhyw ffordd.
Os gofynnir i chi roi cyngor neu benderfynu ar faterion sy'n ymwneud â gwaith y Comisiwn, ac y gellid ystyried ei fod yn effeithio ar ddidueddrwydd y Comisiwn, dylech ystyried yn ofalus a ddylech dderbyn y cais. Gofynnir i chi gofio hyn, yn enwedig mewn perthynas â cheisiadau gan:
- aelodau o bleidiau gwleidyddol, eu swyddogion neu eu haelodau
- grŵp neu unigolyn sy'n ymgyrchu mewn etholiad neu refferendwm (neu lle gellid ystyried ei fod yn gysylltiedig â'r uchod).
Mewn achosion eraill, os byddwch yn cyfarfod â rhywun y gellid ystyried i fod yn ddylanwadol neu'n arwyddocaol (e.e. gweinidog neu Aelod Seneddol) ym maes gweithgarwch y Comisiwn Etholiadol, neu os bydd rhywbeth yn codi mewn sgwrs sy'n ymwneud â gweithgareddau'r Comisiwn, dylech, o fewn rheswm, ystyried rhoi gwybod am gyfarfodydd o'r fath i'r Cadeirydd.
Rydych wedi'ch gwahardd rhag cymryd rhan mewn rhai gweithgareddau gwleidyddol yn unol â PPERA. Gweler Atodiad 1 am ragor o fanylion. Bydd Comisiynydd yn rhoi'r gorau i ddal swydd o dan PPERA os bydd digwyddiadau penodol yn mynd rhagddynt. Gallwch gael eich diswyddo os bydd Pwyllgor y Llefarydd wedi bodloni ei hun eich bod wedi torri un neu ragor o'r seiliau.
Eich cyfrifoldeb chi yw tynnu sylw'r Cadeirydd, y Prif Weithredwr neu Ysgrifennydd Bwrdd y Comisiwn at achosion gwirioneddol neu achosion posibl o wrthdaro buddiannau, boed yn rhai go iawn neu'n rhai y gellid eu hystyried yn rhesymol felly, cyn gynted ag y byddwch yn ymwybodol ohonynt.
Os byddwch yn datgelu buddiant yn ystod cyfarfod Bwrdd, caiff ei gofnodi yn y cofnodion, ac efallai y bydd angen i chi dynnu yn ôl o'r drafodaeth neu'r penderfyniad dan sylw. Os byddwch yn ymwybodol o achos o wrthdaro buddiannau cyn cyfarfod, efallai y cewch eich eithrio rhag derbyn dogfennau perthnasol. Os bydd yr achos o wrthdaro buddiannau yn golygu bod angen i chi dynnu yn ôl o ystyried y mater, ni ddylech geisio trafod y mater â'r sawl sy'n gwneud penderfyniadau na dylanwadu arnynt.
Ceir canllawiau manylach ar nodi achosion gwirioneddol neu achosion posibl o wrthdaro buddiannau ac ar sut y bydd y Bwrdd yn rheoli'r risg gyfreithiol a'r risg i enw da yn Atodiad 8.
Rhaid i chi gwblhau ffurflen ‘Datganiad o fuddiannau’ pan gewch eich penodi, a'i diweddaru wrth i'ch amgylchiadau newid. Anfonir negeseuon atgoffa atoch o bryd i'w gilydd yn gofyn i chi ei diweddaru. Caiff cofrestr o fuddiannau ei chynnal gan yr Ysgrifenyddiaeth a'i chyhoeddi ar wefan y Comisiwn. Gellir dod o hyd iddi ar y dudalen hon.
Mae rhai rhesymau pam y gall Comisiynydd roi'r gorau i ddal swydd neu lle gall gael ei ddiswyddo. Caiff y rhesymau hyn eu nodi'n llawn yn Atodlen 1, paragraffau 3(3)-(5) o PPERA. Mae'r rhain yn cynnwys cael eich euogfarnu o drosedd; bod yn fethdalwr nas rhyddhawyd (neu os yw ystad y Comisiynydd wedi cael ei secwestru yn yr Alban ac nad yw'r Comisiynydd wedi cael ei ryddhau); cynnal cyfnod moratoriwm o dan orchymyn rhyddhad o ddyled sy'n gymwys mewn perthynas â'r Comisiynydd (o dan Ran 7A o Ddeddf Ansolfedd 1986); neu wedi gwneud trefniant neu gytundeb cyfansawdd gyda chredydwyr y Comisiynydd, neu wedi llunio gweithred ymddiriedolaeth ar gyfer credydwyr y Comisiynydd. . Mae'r rhesymau hefyd yn cynnwys Comisiynydd yn cael ei restru gan ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid yn ei ffurflen ariannol i'r Comisiwn fel rhoddwr o £7,500 neu fwy. Mae nodyn ar wahân ar gael ar hyn yn Atodiad 1A
Drwy lofnodi datganiad y Cod Ymddygiad, rydych yn nodi nad oes unrhyw rai o'r rhesymau hyn yn berthnasol i chi. Os bydd newid i'ch amgylchiadau sy'n cynnwys unrhyw rai o'r rhesymau hyn, mae'n rhaid i chi roi gwybod amdanynt i Ysgrifennydd Bwrdd y Comisiwn, neu'r Cadeirydd neu'r Prif Weithredwr.
Ceir canllawiau ar ddatgan buddiannau yn Atodiad 2 i'r cod.
Rhoddion a lletygarwch
Yn ystod eich rôl fel Comisiynydd Etholiadol, mae'n bosibl y cynigir rhoddion a lletygarwch i chi, ac yn wir gall hyn fod yn rhan o rwydweithio. Fodd bynnag, disgwylir i Gomisiynwyr gynnal safonau gonestrwydd ac uniondeb personol eithriadol o uchel, ac osgoi unrhyw gyhuddiadau fod rhywun yn dylanwadu'n ormodol arnoch. Mae bob amser risg y gall derbyn rhoddion neu letygarwch ennyn beirniadaeth a golygu eich bod chi a'r Comisiwn yn agored i amheuaeth o ddylanwad gormodol.
Mae'r egwyddorion sy'n ategu'r datganiadau y dylech eu cofio yn cynnwys y canlynol:
- Ystyried sefyllfaoedd lle y gall buddiant gael ei ddehongli fel achos o wrthdaro
- Cyfrifoldeb y Comisiynwyr Etholiadol unigol yw datgan buddiannau
- Caiff penderfyniadau Bwrdd y Comisiwn eu gwneud o dan egwyddor cyfrifoldeb ar y cyd a dylai Comisiynwyr sicrhau y caiff hyn ei gynnal
Mae cofrestru rhoddion a lletygarwch, a buddiannau, yn helpu i sicrhau hyder y cyhoedd yn y Comisiwn, ac yn cynnal atebolrwydd a thryloywder o ran gwneud penderfyniadau. Mae hyn yn helpu i osgoi unrhyw achos o duedd neu ddylanwad gwirioneddol neu ganfyddedig.
Gofynnir i chi gofnodi'r holl roddion a lletygarwch a gynigir i chi neu a dderbynnir gennych yn ystod eich cyfnod fel Comisiynydd Etholiadol, gan gynnwys unrhyw rai a gaiff eu gwrthod. Fe'ch anogir i wrthod, lle y bo'n ymarferol, unrhyw roddion a gynigir i chi, ond weithiau, byddai gwneud hynny yn achosi tramgwydd, gan gynnwys pan fydd rhodd o werth nominal.
Caiff datganiadau o roddion a lletygarwch wedi'u cwblhau eu hanfon at Ysgrifennydd Bwrdd y Comisiwn, eu cydlofnodi gan y Cadeirydd, a chaiff y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg ei hysbysu amdanynt o bryd i'w gilydd. Caiff y gofrestr o roddion a lletygarwch ei chyhoeddi ar ôl pob Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg, ar y dudalen hon ar wefan y Comisiwn.
Gofynnir i chi hefyd ddatgelu rhoddion a lletygarwch a gafwyd mewn unrhyw rolau nad ydynt yn ymwneud â'r Comisiwn (ac eithrio'r rhai o natur breifat neu deuluol), er mwyn sicrhau tryloywder a chysondeb, yn enwedig gan berson neu sefydliad a allai fod yn gysylltiedig â gwaith y Comisiwn (megis gwleidydd, trefnydd ymgyrchoedd neu lobïwr), neu sydd â chysylltiadau â chwmnïau sy'n cyflenwi nwyddau neu wasanaethau y mae'r Comisiwn yn debygol o'u defnyddio (TG, ymchwil, archwilio, ymgynghori), a chaiff y rhain eu cofnodi ond ni chânt eu cyhoeddi.
Ceir canllawiau manwl ar roddion a lletygarwch yn Atodiad 3 i'r cod.
Cyfrinachedd ac atebolrwydd personol
Mae dyletswydd gyfrinachedd gyffredinol arnoch i'r Comisiwn, yn unol â'r gyfraith gyffredin, sy'n ei gwneud yn ofynnol i chi ddiogelu gwybodaeth y Comisiwn a ddelir yn gyfrinachol (gweler Adran 5 isod am drin gwybodaeth). Ni ddylech, heb awdurdod, ddatgelu gwybodaeth swyddogol a rannwyd yn gyfrinachol o fewn y Comisiwn neu a gafwyd yn gyfrinachol gan rywrai eraill. Mae hyn yn berthnasol yn ystod eich swydd fel Comisiynydd ac wedi hynny, ac i wybodaeth ar lafar ac ysgrifenedig.
Ar ôl i'ch cyfnod fel Comisiynydd ddod i ben, dylech osgoi gwneud unrhyw ddatganiadau cyhoeddus sy'n cyfeirio at eich swydd flaenorol fel Comisiynydd yn y cyfryw fodd ag y byddai'n peri i bobl feddwl bod yr hyn rydych yn ei ddweud yn cynrychioli polisi presennol y Comisiwn neu'n awgrymu bod y Comisiwn yn cymeradwyo hynny. (Os bydd angen, dylech wneud ymwadiad clir er mwyn sicrhau na allai neb amau'r pwynt hwn.) Os byddwch yn bwriadu gwneud datganiad cyhoeddus am y Comisiwn pan nad ydych yn Gomisiynydd mwyach, efallai y byddech o'r farn, yn dibynnu ar y cyd-destun, ei bod yn briodol hysbysu Cadeirydd y Comisiwn yn gyntaf.
Hefyd, ceir deddfwriaeth benodol sy'n gymwys i wybodaeth a ddelir gan y Comisiwn. Mae hyn yn cynnwys:
Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 (a'r rheoliadau cyfatebol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon ) sy'n ei gwneud yn drosedd datgelu i berson heb awdurdod fanylion sydd wedi'u cynnwys yn y cofrestrau etholwyr y gall Comisiynwyr a staff y Comisiwn eu gweld. Y gosb am wneud hynny ar hyn o bryd yw dirwy anghyfyngedig yng Nghymru a Lloegr, neu ddirwy o hyd at £5,000 yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Mae PPERA yn ei gwneud yn ofynnol i Gomisiynwyr a staff beidio â datgelu cynnwys rhai adroddiadau am roddion neu drafodion (e.e. benthyciad) gan dderbynyddion a chyfranogwyr a reoleiddir yng Ngogledd Iwerddon. Os byddwch yn datgelu'r wybodaeth hon yn anghyfreithlon ac yn cael eich dyfarnu'n euog o drosedd, gallech wynebu dirwy anghyfyngedig neu gael eich carcharu am hyd at 51 o wythnosau .
Efallai y gofynnir i chi roi sylwadau ar faterion o'r fath i'r wasg neu ateb cwestiynau. Os bydd rhywun yn gofyn i chi wneud hynny, cyfeiriwch eich sylwadau at y Tîm Cysylltiadau â'r Cyfryngau sy'n gyfrifol am helpu i reoli a chydlynu ymatebion y Comisiwn (rhif ffôn y tîm cyfryngau yw 0200 7271 0704 yn ystod oriau swyddfa, a 07789 920414 y tu allan i oriau). Yn y cyfamser, fe'ch cynghorir i beidio â rhoi unrhyw sylwadau nac ateb cwestiynau, oni bai eich bod wedi cael awdurdod i wneud hynny. (Gweler hefyd baragraff 3.6 o'r Fframwaith Llywodraethu Corfforaethol ar gyfrifoldeb ar y cyd).
Gweler y nodyn ar yr hyn y dylech ei ystyried os bydd trydydd parti yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn Comisiynydd mewn rhinwedd bersonol (ar wahân i gamau yn erbyn y Comisiwn).
Arall – trin gwybodaeth a chwythu'r chwiban o ran diogelwch, llwgrwobrwyo, adnoddau
rin gwybodaeth, diogelwch a defnyddio TG
Mae paragraff A57 o Reolau Sefydlog y Comisiwn yn nodi'r canlynol: ‘Ni fydd unrhyw Gomisiynydd yn defnyddio gwybodaeth a gafwyd yn ystod ei (d)dyletswydd er budd personol nac yn ceisio defnyddio'r cyfryw wasanaeth cyhoeddus i hyrwyddo ei fuddiannau/buddiannau ei hun neu fuddiannau preifat partïon eraill. Dylai Comisiynwyr bob amser osgoi ymddwyn mewn modd a allai ddwyn anfri ar y Comisiwn.’
Mae gan y Comisiwn Etholiadol nifer o bolisïau sy'n llywodraethu'r defnydd o gyfarpar TG a thrin gwybodaeth yn briodol, ac maent ar gael ar fewnrwyd y Comisiwn. Mae'r rhain yn cynnwys y Polisi Defnydd Derbyniol, y Polisi Cyfryngau Cymdeithasol a'r Polisi Diogelwch Gwybodaeth. Ceir canllawiau cryno ar reoli gwybodaeth a diogelwch yn Atodiad 5 i'r Cod hwn.
Crynhoir rhai pwyntiau allweddol isod:
- Mae'r defnydd cynyddol o ddulliau e-gyfathrebu at ddibenion busnes a phersonol yn galw am fwy o ymwybyddiaeth o faterion diogelwch, cyfrinachedd a pha wybodaeth a all fod ar gael i'r cyhoedd.
- Dylech fod yn ymwybodol y gallai unrhyw beth a gyhoeddir ar wefannau cyfryngau cymdeithasol allanol adlewyrchu ar y Comisiwn a'i waith, a dylech ystyried yn ofalus yr hyn a gyhoeddir gennych yn bersonol ar wefannau megis:
- YouTube
- Google plus
Nid yw hon yn rhestr hollgynhwysfawr a gallwch bob amser gysylltu â thîm cyfryngau'r Comisiynydd os bydd gennych unrhyw gwestiynau am hyn drwy ddefnyddio'r manylion cyswllt uchod.
Gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw ddefnydd o'r cyfryngau cymdeithasol yn gwneud y canlynol:
- Bwrw amheuaeth ar ddidueddrwydd gwleidyddol y Comisiwn
- Cyflwyno achos o wrthdaro buddiannau â gweithgareddau'r Comisiwn
- Torri cyfrinachedd y bobl a'r wybodaeth sy'n gysylltiedig â'r Comisiwn
Dylech fewngofnodi i'ch cyfrifiadur personol rhithwir drwy ddefnyddio system gweithio gartref y Comisiwn er mwyn cael gafael ar wybodaeth y Comisiwn. Bydd staff y Ddesg Gymorth TG yn eich helpu i'w gosod. Cefnogir mynediad o gyfrifiaduron personol Windows ac Apple Mac ar hyn o bryd. Mae defnyddio'r datrysiad gweithio gartref yn golygu y bydd pob darn o ddata yn aros o fewn rhwydwaith y Comisiwn ac y bydd yn ddiogel felly. Mae hefyd yn golygu y cewch fynediad at yr holl systemau meddalwedd sydd ar gael.
O bryd i'w gilydd, efallai y gofynnir i Gomisiynwyr chwilio drwy eu cyfrifon e-bost am wybodaeth a all fod yn berthnasol i geisiadau o dan y Ddeddf Diogelu Data a'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Gall hyn gynnwys chwilio drwy eich cyfrifon e-bost personol i weld a ddefnyddiwyd y cyfrif i lunio negeseuon e-bost fel rhan o'ch rôl fel Comisiynydd yn y gorffennol. Mae gweithdrefn Rhyddid Gwybodaeth fewnol y Comisiwn yn cynnwys rhagor o fanylion.
Os bydd cwmpas cais yn cynnwys gohebiaeth a allai fod yng nghyfrifon personol Comisiynydd, gofynnir i chi chwilio drwy eich cyfrifon e-bost personol drwy ddefnyddio allweddeiriau priodol.
Ni ddylid defnyddio cyfrifon e-bost personol ar gyfer busnes y Comisiwn a dylid cyfeirio unrhyw anawsterau y deuir ar eu traws gan Gomisiynwyr yn defnyddio cyfrifon e-bost y Comisiwn, neu gyfleusterau TG y Comisiwn, at y Ddesg Gymorth TG.
Chwythu'r Chwiban
Os byddwch yn credu bod gofyn i chi ymddwyn mewn ffordd:
• sy'n anghyfreithlon, yn wahaniaethol, yn amhriodol neu'n anfoesol
• sy'n torri'r Cod hwn
• a all gynnwys achos posibl o gamweinyddu, twyll neu gamddefnyddio arian cyhoeddus;
• sy'n anghyson â'r Cod fel arall neu os:
• credwch fod tystiolaeth o ymddygiad afreolaidd neu amhriodol o fewn y sefydliad nad ydych wedi bod yn rhan ohono'n bersonol
• ceir tystiolaeth o weithgarwch troseddol neu anghyfreithlon gan eraill
• gofynnir i chi ymddwyn mewn ffordd sydd, i chi, yn codi achos cydwybod sylfaenol
yna, dylech gyfeirio eich pryderon yn uniongyrchol at y Prif Weithredwr, Cadeirydd y Comisiwn neu Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg.
Llwgrwobrwyo
Bydd llwgrwobrwyo (trosedd) yn digwydd o dan amgylchiadau sy'n ymwneud â'r canlynol:
- Y weithred o gynnig, rhoi, erfyn neu dderbyn unrhyw gymhelliad neu wobr (boed yn ariannol neu fel arall);
- I neu gan unigolyn neu gwmni, ble bynnag y bo wedi'i leoli a ph'un a yw'n swyddog neu'n gorff cyhoeddus neu'n unigolyn neu'n gwmni preifat;
- Gan unrhyw gyflogai, Aelod Bwrdd / Comisiynydd unigol, yn gweithredu ar ran y Comisiwn;
lle y bwriedir i gamau o'r fath fod yn gyfystyr â chyflawni swyddogaeth neu weithgarwch berthnasol gan y Comisiwn, person neu gwmni yn amhriodol neu beri i hynny ddigwydd
Os byddwch yn canfod neu'n amau achos o lwgrwobrwyo sy'n ymwneud ag unrhyw Gomisiynydd, aelod o staff, person neu gwmni, dylech gyfeirio eich pryderon yn uniongyrchol at y Prif Weithredwr, Cadeirydd y Comisiwn neu Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg. Mae'r polisi atal twyll ac atal llwgrwobrwyo ar y cyd ar gael yn Atodiad 7. Mae'r polisi yn gymwys i staff y Comisiwn hefyd.
Diogelu adnoddau cyhoeddus
Mae dyletswydd arnoch i ddiogelu adnoddau cyhoeddus a defnyddio unrhyw adnoddau cyhoeddus sydd ar gael i chi fel Comisiynydd Etholiadol yn gyfrifol. Gellir dod o hyd i bolisi teithio a chynhaliaeth y Comisiwn (sy'n berthnasol i Gomisiynwyr a staff) ar y fewnrwyd.
Mae'r canllawiau ar gyfer hawlio ffioedd a chostau teithio a chynhaliaeth, sy'n nodi sut i gwblhau hawliadau, ar gael yn Atodiad 4.
Cafodd y Cod Ymddygiad ei adolygu a'i gymeradwyo gan y Bwrdd ar [22 Mawrth 2023]