Dewis ein Comisiynwyr
Overview of our Commissioners
Mae ein comisiynwyr yn cynrychioli’r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, ac mae pedwar yn cael eu cyflwyno gan y pleidiau gwleidyddol yn Nhŷ’r Cyffredin. Fe'u gelwir yn 'gomisiynwyr enwebedig'. Ar hyn o bryd dim ond tair o'r pedair swydd sydd wedi eu llenwi.
Mae'r broses o ddewis y comisiynwyr i gynrychioli'r pleidiau gwleidyddol yn wahanol, ond mae pob comisiynydd yn gyfartal.
Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon
Mae tri o'n comisiynwyr yn gyfrifol am Gymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon. Maent yn sicrhau bod yr ardaloedd hyn yn cael eu cynrychioli, yn enwedig pan fo'r gyfraith neu'r prosesau'n wahanol.
Pleidiau gwleidyddol
Comisiynwyr enwebedig
Cyflwynwyd tri o'n comisiynwyr gan Arweinwyr y tair plaid fwyaf, a phenodir y pedwerydd o blith ymgeiswyr a gyflwynwyd gan y pleidiau eraill.
Mae pleidiau enwebu yn bleidiau cofrestredig gyda dau neu ragor o aelodau yn Nhŷ'r Cyffredin.
Cyflwyno ac argymell yr ymgeiswyr
Mae'r Llefarydd yn rhoi cyfle i arweinwyr y pleidiau perthnasol gyflwyno enwau a CVs tri ymgeisydd. Mae'n rhaid iddynt gyflwyno tystiolaeth o addasrwydd pob ymgeisydd hefyd.
Bydd panel annibynnol yn adolygu'r wybodaeth a dderbyniwyd gan arweinydd y blaid ac yn cyfweld â'r ymgeiswyr. Bydd y panel yn llunio adroddiad ar gyfer Pwyllgor y Llefarydd, sy'n gwerthuso'r ymgeiswyr.
Wedyn, bydd Pwyllgor y Llefarydd yn gwneud argymhellion ar sail yr adroddiad hwn. Ar ôl i Bwyllgor y Llefarydd wneud yr argymhellion, bydd y Llefarydd yn cynnal ymgynghoriad statudol â'r pleidiau perthnasol ar enwau'r ymgeiswyr llwyddiannus.
Ar ôl yr ymgynghoriad, bydd Pwyllgor y Llefarydd yn hysbysu Tŷ'r Cyffredin ynghylch ei argymhellion, gan gynnwys yr ymatebion a gafwyd yn yr ymgynghoriad statudol.
Bydd y Llefarydd yn gofyn i Arweinydd y Tŷ gyflwyno cynnig am Anerchiad er mwyn penodi'r ymgeiswyr a gymeradwywyd.
Penodi'r comisiynwyr
Os bydd y Tŷ yn cytuno ar y cynnig, bydd y nheyrn yn penodi ein comisiynwyr trwy Warant Frenhinol.