Atodiad 6 – Egwyddorion Nolan of the Code of Conduct for Electoral Commissioners: Nolan Principles of Public Life
Saith egwyddor bywyd cyhoeddus
Lluniwyd cod ymarfer 'Egwyddorion Nolan' o ran saith egwyddor bywyd cyhoeddus a nodwyd gan Bwyllgor Nolan yn ei Adroddiad Cyntaf ar Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus ym mis Mai 1995 ac a gymeradwywyd wedyn gan y Llywodraeth.
Anhunanoldeb
Dylai deiliaid swyddi cyhoeddus wneud penderfyniadau er budd y cyhoedd yn unig. Ni ddylent wneud penderfyniadau er mwyn iddynt hwy, eu teulu neu eu ffrindiau, elwa’n ariannol neu’n faterol.
Uniondeb
Ni ddylai deiliaid swyddi cyhoeddus roi eu hunain o dan unrhyw rwymedigaeth ariannol neu rwymedigaeth arall tuag at unigolion neu gyrff allanol a allai geisio dylanwadu arnynt wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau swyddogol.
Gwrthrychedd
Wrth gyflawni busnes cyhoeddus, gan gynnwys gwneud penodiadau cyhoeddus, dyfarnu contractau, neu argymell unigolion ar gyfer gwobrwyon neu fuddiannau, dylai deiliaid swyddi cyhoeddus wneud penderfyniadau yn ôl haeddiant.
Atebolrwydd
Mae deiliaid swyddi cyhoeddus yn atebol i’r cyhoedd am eu penderfyniadau a’u gweithredoedd a rhaid iddynt gytuno i fod yn destun pa archwiliad bynnag sy’n addas i'r swydd.
od yn agored
Dylai deiliaid swyddi cyhoeddus fod mor agored â phosibl ynghylch yr holl benderfyniadau a’r camau a gymerir ganddynt. Dylent roi rhesymau am eu penderfyniadau a pheidio â chyfyngu ar y wybodaeth onid oes angen am hynny er budd ehangach y cyhoedd.
Gonestrwydd
Mae’n ddyletswydd ar ddeiliaid swyddi cyhoeddus i ddatgan unrhyw fuddiannau preifat sy’n ymwneud â'u dyletswyddau cyhoeddus a chymryd camau i ddatrys unrhyw wrthdaro sy'n codi er mwyn diogelu buddiannau'r cyhoedd.
rweiniad
Dylai deiliaid swyddi cyhoeddus hyrwyddo a chefnogi'r egwyddorion hyn drwy roi arweiniad a dangos esiampl.