Summary

Mae aelodau ein tîm gweithredol i gyd yn gyfrifol am agweddau gwahanol ar ein gwaith. Maent yn arwain eu timau, ac yn sicrhau ein bod yn cyflawni'r strategaethau a ddarperir gan Fwrdd y Comisiwn.

Ein Tîm Gweithredol

Vijay yw ein Prif Weithredwr. Ymunodd Vijay â'r Comisiwn Etholiadol o'r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu, lle bu'n Gyfarwyddwr Cyffredinol. Mae wedi gweithio yn y rôl ar hinsawdd, ynni a'r amgylchedd, iechyd 
byd-eang, covid, ac ystod eang o wledydd. 

Bu'n gweithio fel y Llysgennad Prydeinig i Frasil a bu'n gweithio yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder a Swyddfa'r Cabinet ar faterion etholiadol. Fan hyn bu'n arwain y rhaglen i sefydlu cofrestru etholiadol unigol, a materion ehangach yn ymwneud â diwygio gwleidyddol a chyfansoddiadol y DU.

Tom yw’r Cyfarwyddwr Polisi ac Ymchwil. Mae’n arwain ar waith y Comisiwn i ddeall a dadansoddi’r heriau i 
etholiadau a refferenda a 
gynhelir yn dda yn y DU, ac i ddatblygu syniadau newydd ar gyfer gwella pethau yn y dyfodol. 

Mae hyn yn cynnwys:

•    ein hadroddiadau 
cynhwysfawr ar etholiadau a refferenda
•    ein rhaglen ymchwil eang ar gofrestru etholiadol a chyfranogiad
•    ein dadansoddiad manwl o bolisïau a deddfwriaethau a gynigir gan lywodraethau’r DU

Ymunodd Tom â’r Comisiwn pan gafodd ei sefydlu yn 2001, a bu’n arwain y Tîm Polisi o 2009. Mae hefyd wedi gweithio ar secondiad i Lywodraeth y DU, gan weithio gyda’r tîm polisi etholiadau ar foderneiddio etholiadau. Cyn ymuno â’r Comisiwn bu Tom yn gweithio ar adolygiadau o ffiniau etholiadol yng Nghomisiwn Llywodraeth Leol Lloegr.

Jackie yw’r Cyfarwyddwr Gweinyddiaeth a Rheoleiddio Etholiadol. Mae hi’n 
arwain ar ein gwaith o oruchwylio sut y cynhelir etholiadau ac yn darparu 
canllawiau a chefnogaeth i weinyddwyr etholiadol ynghylch eu rheolaeth o etholiadau a chofrestru etholiadol. 

Mae ei thimau’n rheoli’r broses ar gyfer cofrestru pleidiau gwleidyddol yn ogystal â’r broses ar gyfer adrodd, cyhoeddi a chydymffurfio o ran cyllid 
pleidiau, ymgeiswyr ac ymgyrchwyr perthnasol nad ydynt yn bleidiau. Mae hyn yn cynnwys:

•    cefnogi pleidiau, ymgeiswyr ac ymgyrchwyr i ddeall a chydymffurfio â’u rhwymedigaethau 
•    nodi troseddau posibl a, lle bo angen, cymryd camau gorfodi
•    rheoli’r broses o ymgysylltu â’r heddlu ac asiantaethau perthnasol eraill
•    monitro a gweithio gydag eraill er mwyn helpu i atal a lliniaru risgiau a 
bygythiadau i’r system

Mae gan Jackie gefndir mewn rheoleiddio, polisi, cyllid a diplomyddiaeth 
ddiwylliannol. Mae hi wedi gweithio mewn sawl uwch swydd yn y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, y British Council a sefydliadau cyllido’r Loteri Genedlaethol.
 

Chris yw’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol ac mae ei gylch gwaith yn cynnwys cyllid, caffael, Adnoddau Dynol a’r gyflogres, a phrosiectau a chynllunio. 

Mae cyfrifoldebau allweddol ei dîm yn cynnwys: 

•    rheoli ac adrodd ariannol
•    cynllunio corfforaethol
•    adolygiadau cyflog a rheoli perfformiad
•    pryniannau gan gyflenwyr
•    archwilio ymdriniaeth y sefydliad â Dangosyddion Perfformiad Allweddol a rheoli a rhoi gwybod am risgiau 

Ffocws Chris yn y Comisiwn yw adeiladu canolfan corfforaethol cryf a 
meithrin perthnasau gyda’r Seneddau cenedlaethol. Mae ei brif gryfderau mewn galluogrwydd proffesiynol a meithrin timau.

Mae gan Chris 18 mlynedd o brofiad yn y Gwasanaeth Sifil gyda DEFRA, CThEF a’r Adran Busnes a Masnach. Mae hefyd wedi gweithio yn y sector preifat ar gyfer PWC, Deloitte a’r diwydiant ddŵr. Mae hefyd wedi bod yn 
gysylltiedig â’r Swyddfa Eiddo Deallusol, Innovate UK ac yn gadeirydd ar y cyd Rhwydwaith Cyllid Cynaliadwy Swyddogaeth Cyllid y Llywodraeth.
 

Niki yw’r Cyfarwyddwr Cyfathrebu. Mae hi’n gyfrifol am:
•    swyddogaethau 
cyfathrebu allanol, digidol a chorfforaethol y Comisiwn
•    goruchwylio ymgyrchoedd ymwybyddiaeth y Comisiwn ar gyfer pleidleiswyr
•    gwaith addysg ddemocrataidd, sy’n sicrhau bod pleidleiswyr (a’r rheiny a fydd yn bleidleiswyr yn fuan) ledled y DU yn cael yr 
wybodaeth sydd ei hangen arnynt i bleidleisio’n hyderus

Ymunodd Niki â’r Comisiwn fel y Pennaeth Cyfathrebu Allanol yn 2018. Cyn hynny bu’n 
arwain ar dimau cyfathrebu amlddisgyblaethol yn y sector tai cymdeithasol.