Dadansoddi perfformiad 2021/22: Nod un
Nod un
Galluogi'r gwaith o gynnal etholiadau a refferenda rhydd a theg, gan ganolbwyntio ar anghenion yr etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n newid o hyd er mwyn sicrhau bod pob pleidlais yn ddiogel ac yn hygyrch.
Mae'r nod hwn yn cynnwys ein rôl i oruchwylio'r broses o gynnal etholiadau ym mhob rhan o'r DU ac mae'n canolbwyntio ar dri maes: cynnal digwyddiadau etholiadol yn effeithiol, moderneiddio cofrestru etholiadol a manteisio i'r eithaf arno, a mynd i'r afael â thwyll etholiadol.
Cyflawniadau allweddol
Er mwyn helpu i gynnal digwyddiadau etholiadol yn effeithiol, gwnaethom y canlynol:
- rhoi cyngor i Swyddogion Canlyniadau, gweinyddwyr etholiadau, ymgeiswyr ac asiantiaid er mwyn helpu i gynnal etholiadau mis Mai 2021 yn effeithiol ledled Prydain Fawr
- adrodd ar y ffordd y gweinyddwyd etholiadau mis Mai 2021 yng Nghymru, Lloegr a'r Alban
- trafod deddfwriaeth ddrafft â llywodraethau'r DU, Cymru a'r Alban cyn etholiadau mis Mai 2022
- cyhoeddi canllawiau ac adnoddau, a rhoi cymorth i weinyddwyr etholiadau, ymgeiswyr ac asiantiaid, er mwyn paratoi ar gyfer yr etholiadau a drefnwyd ledled y DU ym mis Mai 2022
- dosbarthu – yn uniongyrchol a thrwy awdurdodau lleol a sefydliadau partner eraill – ystod gynhwysfawr o ddeunyddiau gwybodaeth newydd i bleidleiswyr mewn perthynas ag etholiadau diogel o ran Covid, er mwyn cefnogi hyder pleidleiswyr
- gweithio gyda Chyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron a'r Coleg Plismona i ddarparu canllawiau newydd i ymgeiswyr ac ymgyrchwyr ar nodi achosion o fygylu a rhoi gwybod amdanynt
- gweithio gyda sefydliadau sy'n cefnogi pobl ag anabledd i godi ymwybyddiaeth o sut y gallant gymryd rhan mewn etholiadau a'r cymorth y gallant ddisgwyl ei gael
- lansio system newydd ar gyfer prosesu ceisiadau i achredu arsylwyr etholiadol
Er mwyn helpu i foderneiddio cofrestru etholiadol a manteisio i'r eithaf arno, gwnaethom y canlynol:
- cynnal ymgyrchoedd cofrestru pleidleiswyr drwy gyfryngau torfol ledled Prydain Fawr, er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r angen i gofrestru a darparu gwybodaeth am sut i gymryd rhan
- •helpu Swyddogion Cofrestru Etholiadol ym Mhrydain Fawr i gynnal y canfasiad blynyddol, gan gynnwys drwy roi arweiniad a chyngor
- gweithio'n agos gyda Phrif Swyddog Etholiadol Gogledd Iwerddon i gefnogi'r canfasiad cofrestru etholiadol
- adrodd ar ganfasiad cofrestru etholiadol 2021 yng Ngogledd Iwerddon, gan argymell diwygiadau i foderneiddio'r broses gofrestru
Er mwyn helpu i atal twyll etholiadol, gwnaethom y canlynol:
- gweithio gyda'r heddlu ac awdurdodau lleol i gefnogi'r gwaith o ddatblygu cynlluniau uniondeb er mwyn helpu i atal twyll etholiadol
- cyhoeddi data wedi'u diweddaru ar achosion honedig o dwyll etholiadol y rhoddwyd gwybod amdanynt yn ystod 2021, a data newydd ar nifer bach o achosion y rhoddwyd gwybod amdanynt yn ystod 2022
- gweithio gyda phartneriaid i gynnal ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o dwyll etholiadol, cyn yr etholiadau ym mis Mai 2021
- cynnal ein cynhadledd flynyddol ar gyfer Pwyntiau Cyswllt Unigol etholiadau'r heddlu ar-lein, ar y cyd â Chyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu
- gweithio gydag Academi Troseddau Economaidd Heddlu Dinas Llundain i gynnal pedwar cwrs hyfforddi ar gyfer swyddogion yr heddlu a chyfrannu cynnwys at y cyrsiau hynny
Mesurau perfformiad
Mesur | Perfformiad |
---|---|
Rydym yn cyhoeddi 100% o'n cynhyrchion canllaw mewn perthynas â chofrestru etholiadol yn brydlon, heb wallau sylweddol | 100 % Cyflawnwyd |
Rydym yn rhoi cyngor cywir i Swyddogion Canlyniadau a Swyddogion Cofrestru Etholiadol o fewn tri diwrnod gwaith i dderbyn y cais. (Targed 100%) | 99.5 % Cyflawnwyd |
Mae ychwanegiadau at gofrestrau etholiadol yn ystod ein hymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth yn cyflawni ein targedau neu'n rhagori arnynt (Targed 640,000. Cyflawnwyd 660,000) |
104 % Cyflawnwyd |
Ein gweithgareddau yn ystod y flwyddyn
Cynnal digwyddiadau etholiadol yn effeithiol
- Cafodd y gyfres gymhleth o etholiadau a gynhaliwyd ym mis Mai 2021 ym Mhrydain Fawr eu cynnal yn dda, ac roedd gan y cyhoedd lefelau uchel o hyder a boddhad â'r ffordd y gweinyddwyd yr etholiadau. Gwnaethom helpu gweinyddwyr etholiadau i ddarparu'r etholiadau gyda chanllawiau ysgrifenedig cynhwysfawr a thrwy ein gwasanaeth cyngor. Gwnaethom hefyd ymgymryd ag ymgyrchoedd a darparu adnoddau er mwyn helpu i sicrhau bod pleidleiswyr yn deall sut i gymryd rhan yn hyderus, o ystyried y cyd-destun iechyd y cyhoedd yn arbennig. Gwnaeth gweithgarwch ein hymgyrch i gofrestru pleidleiswyr helpu i ychwanegu dros 600,000 o enwau at gofrestrau etholiadol, drwy hysbysebu ar raddfa fawr, gwaith partneriaeth ac ennyn sylw yn y cyfryngau.
- Gwnaethom gefnogi canfasiad cofrestru etholiadol 2021 yng Ngogledd Iwerddon, y cyntaf ers 2013 a arweiniodd at y gofrestr fwyaf erioed yng Ngogledd Iwerddon. Roedd hyn yn cynnwys cynnal ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o'r canfasiad ac annog pobl i ymateb. Gwnaethom hefyd gefnogi'r canfasiad blynyddol ym Mhrydain Fawr, gan roi arweiniad a defnyddio ein safonau perfformiad i gefnogi a herio gwaith Swyddogion Cofrestru Etholiadol.
- Rydym wedi ymgymryd â pharatoadau i gefnogi etholiadau mis Mai 2022 a gynhelir ledled y DU. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau ac adnoddau i'r rhai sy'n cynnal yr etholiadau ac yn sefyll ynddynt, gan weithio'n agos gydag amrywiaeth o randdeiliaid o bob rhan o'r gymuned etholiadol. Ymgynghorwyd â ni ar ddeddfwriaeth ddrafft gan lywodraethau'r DU, Cymru a'r Alban, ac adlewyrchwyd y newidiadau yn ein canllawiau a'n negeseuon.