Trosolwg

Mae'r adran hon yn darparu trosolwg o'r Comisiwn Etholiadol, ein diben, ein perfformiad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a'r risgiau allweddol a allai beryglu ein gallu i gyflawni ein nodau.

Rydym wedi cynnwys gwybodaeth ariannol gryno yn yr adroddiad ar berfformiad. Mae'r wybodaeth hon yn gyson â'r datganiadau ariannol, lle mae rhagor o fanylion ar gael.

Cafodd y Comisiwn Etholiadol ei sefydlu gan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA). Rydym yn annibynnol ar y llywodraeth a phleidiau gwleidyddol ac yn uniongyrchol atebol i Senedd y DU, Senedd Cymru a Senedd yr Alban.

Rydym wedi paratoi Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2021/22 yn unol â chyfarwyddyd cyfrifon, a nodir ar dudalen 152, a gyhoeddir gan Drysorlys EM o dan baragraff 17 (2) o Atodlen 1 PPERA.

Rydym wedi paratoi'r adroddiad ar bwerau a sancsiynau ar dudalen 44 yn unol â pharagraff 15 Atodlen 19(b) a pharagraff 27 Atodlen 19(c) PPERA.

Preface and foreward

Nododd etholiadau eleni 12 mis ers i mi ymuno â'r Comisiwn fel Cadeirydd a mynd allan yn ystod fy wythnos gyntaf i ymweld â gorsafoedd pleidleisio a gweld â'm llygaid fy hun y gwaith caled y mae pawb yn y gymuned etholiadol yn ei wneud i ddarparu etholiadau ledled y DU. Gwelais yr ymdrechion enfawr a wnaed i ddarparu etholiadau mewn modd diogel o ran COVID-19 y llynedd, a dysgais fwy am waith y Comisiwn a’r bobl rydym yn gweithio gyda nhw ac yn eu cynorthwyo.

Ers yr wythnos gyntaf honno, rwyf wedi parhau i fynd allan a chwrdd ag aelodau o'r gymuned etholiadol. Rwyf wedi clywed gan gadeiryddion a thrysoryddion pleidiau, aelodau o lywodraethau a seneddau'r DU, Swyddogion Canlyniadau a gweinyddwyr etholiadau a llawer o bobl eraill sy'n helpu i sicrhau bod ein prosesau democrataidd yn gweithio'n dda.

Mae tri pheth allweddol y mae pobl am eu gweld gan y Comisiwn wedi dod i'r amlwg yn y trafodaethau hyn: perfformiad uchel, cydweithredu ac annibyniaeth. Rydym wedi llwyddo i gynnwys y meysydd hyn yn ein cynllun corfforaethol pum mlynedd newydd, gan sicrhau y bydd ein gwaith dros y pum mlynedd nesaf yn diwallu anghenion pawb a gaiff eu cefnogi gennym.

Mae perfformiad uchel yn hanfodol wrth gwrs os ydym am barhau i ennyn ymddiriedaeth a hyder. Rydym wedi datblygu targedau heriol a chasgliad uchelgeisiol o ddangosyddion perfformiad, nid yn unig i sicrhau bod y Comisiwn yn cyflawni i safon uchel, ond bod y system ehangach yn diwallu anghenion pleidleiswyr a phawb arall sy'n gysylltiedig ag etholiadau. Byddwn yn mesur boddhad y cyhoedd â phrosesau pleidleisio a chofrestru pleidleiswyr, amseroldeb ein gwaith gorfodi a'r canllawiau a ddarperir, yn ogystal â chanfyddiadau'r cyhoedd o dwyll a chamddefnydd.

I gyflawni ein targedau, mae angen i ni weithio'n agos gyda sefydliadau eraill, gan gynnwys awdurdodau lleol, yr heddlu, pleidiau ac ymgyrchwyr. Mae gennym raglen gymorth ar gyfer gweinyddwyr etholiadau ac awdurdodau lleol i'w helpu i ddarparu gwasanaethau etholiadol lleol effeithiol, cadarn a chyson. Hefyd, mae gennym strategaeth cymorth newydd ar gyfer ein cymuned a reoleiddir er mwyn helpu pleidiau ac ymgyrchwyr i gydymffurfio â chyfraith etholiadol, a sicrhau bod tryloywder i bleidleiswyr o ran yr arian a roddir i'r grwpiau hyn ac a gaiff ei wario ganddynt.

Yn ôl yr arfer, mae annibyniaeth y Comisiwn yn sail i'r gwaith hwn. Mae'n hanfodol ein bod yn parhau i fod yn annibynnol ac yn rhydd i wneud penderfyniadau diduedd, yn seiliedig ar dystiolaeth. Byddwn yn ystyried yn ofalus oblygiadau Datganiad Polisi a Strategaeth Llywodraeth y DU, y bwriedir ei gyhoeddi'n ddiweddarach eleni, ac yn rhannu ein barn drwy'r ymgynghoriad sydd wedi'i drefnu.

Bydd perfformiad, cydweithredu ac annibyniaeth yn arbennig o bwysig wrth i'r Comisiwn roi Deddf Etholiadau Llywodraeth y DU ar waith ynghyd ag agendâu etholiadol Cymru a'r Alban dros y blynyddoedd nesaf. Ochr yn ochr â'r gymuned etholiadol, byddwn yn gweithio i roi newidiadau sylweddol ar waith i bleidleiswyr, gweinyddwyr ac ymgyrchwyr. Byddwn yn parhau i roi cyngor ar amserlenni, adnoddau ac effaith er mwyn sicrhau y gellir rhoi'r newidiadau ar waith yn ôl y bwriad.

Bydd angen tîm cadarn a medrus i gyflawni'r cynllun corfforaethol a rhoi'r Ddeddf Etholiadau ar waith. Rwyf wedi cael y pleser o groesawu Shaun McNally CBE i'r Comisiwn fel ein Prif Weithredwr newydd, sydd, ar y cyd â'n Huwch-dîm Arwain, eisoes yn gwneud cynnydd ardderchog ar y gwaith hwn. Hoffwn hefyd achub ar y cyfle hwn i dalu teyrnged i Bob Posner, ein Prif Weithredwr sy'n ymddeol, sydd wedi bod yn arweinydd pwyllog, cefnogol a hawdd mynd ato dros sawl blwyddyn o wasanaeth i'r Comisiwn.

John Pullinger CB, Cadeirydd

Ar ôl ymuno â'r Comisiwn yn ddiweddar fel Prif Weithredwr, rwyf wedi bod yn falch o weld y gwaith ardderchog y mae'r Comisiwn wedi'i wneud i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb. Mae'r adroddiad blynyddol hwn yn nodi cynnydd y sefydliad yn erbyn ei bedwar amcan strategol yn fanwl, ond mae'n werth tynnu sylw at sawl cyflawniad.

Ym mis Mai 2021, cafodd cyfres arbennig o gymhleth o etholiadau ei chynnal ledled Prydain Fawr, gan gynnwys etholiadau i Senedd Cymru, Senedd yr Alban a Chynulliad Llundain, gan fod rhai etholiadau wedi'u gohirio o fis Mai 2020. Arweiniodd her ychwanegol pandemig y coronafeirws at ansicrwydd a newidiadau i bleidleiswyr, ymgyrchwyr a gweinyddwyr y bu'n rhaid iddynt ddilyn canllawiau iechyd y cyhoedd wrth gymryd rhan.

Bu cydweithwyr yn y Comisiwn yn gweithio gyda chyrff iechyd y cyhoedd a'r gymuned etholiadol i gefnogi pawb a oedd yn gysylltiedig â'r etholiadau, gan roi arweiniad manwl i ymgyrchwyr a gweinyddwyr a chynnal ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth y cyhoedd i helpu pleidleiswyr i ddeall eu hopsiynau pleidleisio.

Roeddwn yn falch o weld bod dros filiwn o bobl wedi cofrestru i bleidleisio yn ystod cyfnod ymgyrch cofrestru pleidleiswyr y Comisiwn, ‘Oes 5 'da ti?’, a chanfu ein hymchwil nad oedd gostyngiad yn y nifer a bleidleisiodd, er gwaethaf y pandemig. Gwnaeth newidiadau a roddwyd ar waith gan lywodraethau'r DU, y Comisiwn a gweinyddwyr etholiadau helpu i gefnogi pleidleiswyr ac ymgyrchwyr a rhoi tawelwch meddwl iddynt. Roedd pobl yn hyderus y gallent bleidleisio yn ddiogel yn yr etholiadau, llwyddodd y mwyafrif helaeth i bleidleisio gan ddefnyddio'r dull a ffefrir ganddynt ac, ar y cyfan, roedd ymgeiswyr ac ymgyrchwyr yn gallu cyflwyno eu hachos i bleidleiswyr wyneb yn wyneb, ar-lein ac mewn deunyddiau argraffedig.

Ychydig cyn yr etholiadau, canfu ymchwil y Comisiwn fod hyder y cyhoedd yn y broses o gynnal etholiadau wedi cyrraedd y lefel uchaf ers 10 mlynedd. Dywedodd 80 y cant o ymatebwyr eu bod yn hyderus bod etholiadau yn y DU yn cael eu cynnal yn dda, ac roedd 86% yn fodlon ar y broses bleidleisio a chofrestru i bleidleisio. Mae hyn yn ganlyniad gwych ac yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni barhau i adeiladu arno.

Yn ogystal â goruchwylio etholiadau, mae'r Comisiwn hefyd yn gyfrifol am oruchwylio cydymffurfiaeth â hyrwyddo dealltwriaeth dda o'r rheolau ymhlith y gymuned a reoleiddir. Y llynedd, cynhaliodd cydweithwyr ymchwil i aelodau ein cymuned a reoleiddir er mwyn deall yr heriau a wynebir ganddynt, a'r math o gymorth a chefnogaeth maent am eu cael gennym yn y dyfodol. Hoffem weithio gydag ymgyrchwyr er mwyn darparu cymorth a gweithgarwch ymgysylltu mwy rhagweithiol, gan eu helpu i fynd i'r afael ag unrhyw faterion cydymffurfio posibl. Rydym wedi creu tîm newydd ar gyfer datblygu a phrofi detholiad o adnoddau cymorth newydd, a'u rhoi ar waith.

Cysylltodd y tîm ag amrywiaeth eang o sefydliadau ac unigolion o bob rhan o'r gymuned a reoleiddir, gan gynnwys pleidiau gwleidyddol bach a mawr, ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau, a chynrychiolwyr etholedig. Clywsom yn ôl gan bron 350 o bobl o bob cwr o'r DU sydd wedi rhoi gwybodaeth i ni a fydd yn ein helpu i gynllunio strategaeth cymorth rheoleiddiol yn unol â'u hanghenion. Bydd hyn yn helpu i sicrhau ein bod yn parhau i fwynhau lefelau uchel o gydymffurfiaeth, sy'n cefnogi hyder pleidleiswyr yn ein system etholiadol ymhellach.

Rhywbeth arall y mae'r Comisiwn wedi bod yn canolbwyntio arno dros y flwyddyn ddiwethaf yw Deddf Etholiadau Llywodraeth y DU, sef y darn mwyaf sylweddol o ddeddfwriaeth etholiadol ers bron 20 mlynedd. Treuliodd y Comisiwn gyfran helaeth o'r flwyddyn ddiwethaf yn rhoi cyngor annibynnol a seiliedig ar dystiolaeth i seneddwyr er mwyn eu helpu i ystyried mesurau'r Bil.

Mae'r Ddeddf Etholiadau bellach wedi cael Cydsyniad Brenhinol ac mae'n dod â chryn newidiadau i'r rhai sy'n darparu etholiadau yn y DU a'r rhai sy'n cymryd rhan ac yn ymgyrchu ynddynt. Rydym ni a'n partneriaid nawr yn troi at roi'r ddeddf ar waith, a sicrhau bod gan bawb sy'n gysylltiedig â'n prosesau democrataidd amser i ddeall a pharatoi ar gyfer y mesurau newydd. Mae gwaith ar hyn eisoes wedi dechrau a bydd yn flaenoriaeth bwysig dros y blynyddoedd i ddod. Mae cynlluniau ar y gweill ar gyfer ymgyrch codi ymwybyddiaeth y cyhoedd er mwyn cefnogi gofynion newydd o ran manylion adnabod pleidleiswyr, ac mae ein timau yn ystyried yn ofalus sut y gallwn adlewyrchu'r ddeddfwriaeth newydd yn ein canllawiau.

Yn olaf, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gwnaed newidiadau pwysig i drefniadau ariannu ac atebolrwydd y Comisiwn. Mae Senedd Cymru a Senedd yr Alban bellach yn ariannu costau uniongyrchol darparu swyddogaethau'r Comisiwn. Mae'r trefniadau hyn wedi bod ar waith am flwyddyn gyfan bellach, gan arwain at fwy o atebolrwydd a thryloywder i'r Comisiwn. Byddwch yn sylwi bod y trefniadau hyn yn cael eu hadlewyrchu drwy gydol y ddogfen hon, yng nghyfrifon y Comisiwn ac yn nwy adran ddatganoledig yr adroddiad.

Mae gwaith y flwyddyn ddiwethaf yn ein rhoi mewn sefyllfa gref ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Mae gennym Gynllun Corfforaethol newydd, sy'n gosod amcanion uchelgeisiol ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Bydd yn ysgogi ein gwaith gyda'r gymuned etholiadol ehangach, gyda phleidleiswyr, ymgyrchwyr, gweinyddwyr, partneriaid a llywodraethau'r DU, er mwyn atgyfnerthu ymddiriedaeth bellach yn y system etholiadol. Bydd hefyd yn ysgogi cydweithrediad a gwelliant y fewn y Comisiwn. Er mwyn cefnogi ein rhanddeiliaid, mae angen cymorth y staff arnom. Byddwn yn adnewyddu'r cyfleoedd dysgu a datblygu a gynigir gennym ac yn buddsoddi mewn technoleg er mwyn sicrhau bod gan bawb y sgiliau, yr adnoddau a'r cymorth sydd eu hangen arnynt i gyflawni.

Bydd arloesi mewnol yn ein galluogi i ddilyn arloesi allanol. Gyda deddfwriaeth etholiadol newydd gan Lywodraeth y DU ac agendâu diwygio uchelgeisiol gan Gymru a'r Alban, mae cryn newid ar y gorwel. Rydym mewn sefyllfa dda i gefnogi'r gymuned etholiadol drwy'r newidiadau hyn, a chyflwyno achos dros unrhyw ddiwygiadau pellach y gallai fod eu hangen ar ein system er mwyn sicrhau y gall pleidleiswyr ac ymgyrchwyr barhau i gymryd rhan gyda hyder.

Shaun McNally CBE, Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu

Amdanom ni

Ein rôl

Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y Deyrnas Unedig. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb.

Ein gweledigaeth a'n nodau

Ein gweledigaeth yw bod yn sefydliad sector cyhoeddus o'r radd flaenaf – yn arloesol, yn sicrhau gwerth gwych ac yn cyflawni'r hyn sydd bwysicaf i bleidleiswyr a deddfwyr.

Yn 2021/22 gwnaethom weithio tuag at gyflawni pedwar nod:

  1. Galluogi'r gwaith o barhau i gynnal etholiadau a refferenda rhydd a theg, gan ganolbwyntio ar anghenion yr etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n newid o hyd er mwyn sicrhau bod pob pleidlais yn ddiogel ac yn hygyrch
  2. Sicrhau system y gellir ymddiried fwyfwy ynddi a system gynyddol dryloyw o reoleiddio ym maes cyllid gwleidyddol, goruchwylio cydymffurfiaeth, hyrwyddo dealltwriaeth ymhlith y rhai sy'n cael eu rheoleiddio a mynd ar drywydd achosion o dorri rheolau
  3. Bod yn ganolfan arbenigedd annibynnol uchel ei pharch, gan ddefnyddio gwybodaeth a dealltwriaeth i wella tryloywder, tegwch ac effeithlonrwydd ein system ddemocrataidd ymhellach, a helpu i'w haddasu i'r oes fodern, ddigidol
  4. Sicrhau gwerth am arian, gan wneud y defnydd gorau o'n hadnoddau a'n harbenigedd er mwyn darparu gwasanaethau sy'n berthnasol i'r hyn sydd bwysicaf i bleidleiswyr. Mae'r nod hwn yn sail i'n holl waith ac yn ei gefnogi
     

O 2022/23 rydym wedi diweddaru ein gweledigaeth a'n hamcanion strategol yn ein Cynllun Corfforaethol.

Fel sefydliad, byddwn yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y system etholiadol a sicrhau ei huniondeb. Ein gweledigaeth fydd sicrhau bod pobl yn gwerthfawrogi ac yn ymddiried mewn etholiadau, ac yn cymryd rhan ynddynt.

Bwriadwn gyflawni'r weledigaeth hon drwy gyflawni'r pum amcan strategol canlynol:

  1. Systemau cofrestru a phleidleisio hawdd eu defnyddio
  2. Ymgyrchu gwleidyddol tryloyw a chyllid gwleidyddol sy'n cydymffurfio â'r rheolau
  3. Gwasanaethau etholiadol lleol cadarn
  4. Cyfraith etholiadol deg ac effeithiol
  5. System etholiadol fodern a chynaliadwy

Ein rôl ledled y DU

Rydym yn cyflawni ar ran pleidleiswyr ym mhob rhan o'r DU ac mae gennym swyddfeydd yng Nghaerdydd, Belfast, Caeredin a Llundain. Rydym yn gweithio'n agos gyda llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig ac, ers mis Ebrill 2021, rydym bellach yn atebol i Senedd y DU, Senedd Cymru a Senedd yr Alban, a chawn ein hariannu gan bob un o'r rhain am y gwaith a wneir ar etholiadau o dan eu pwerau datganoledig neu bwerau a gadwyd yn ôl. Mae ein hadran ar Lywodraethu yn cynnwys rhagor o fanylion am ein trefniadau atebolrwydd ac o dudalen 30 yn nodi adroddiadau penodol mewn perthynas â'n gwaith i Senedd Cymru a Senedd yr Alban.

Cipolwg ar flwyddyn 2021/22

Ebrill – Mehefin 2021

  • Gwnaethom gefnogi'r gwaith o gyflwyno'r gyfres gymhleth o etholiadau ym mis Mai 2021 yn llwyddiannus, gan gynnwys yr etholiadau hynny a ohiriwyd o fis Mai 2020 o ganlyniad i COVID-19.
  • Cofrestrodd dros filiwn o bobl i bleidleisio ym Mhrydain Fawr yn ystod cyfnod ein hymgyrch ‘Oes 5 'da ti?’ i gofrestru pleidleiswyr.
  • Gwnaeth ein hymgyrch ‘Dy bleidlais di a neb arall’ godi ymwybyddiaeth pleidleiswyr o'u hawliau a chynhyrchwyd cyfres o adnoddau i awdurdodau lleol a sefydliadau eraill eu defnyddio er mwyn lledaenu'r neges.
  • Cawsom gyfradd ymateb o 87% yn ein harolwg pwls i staff. Mae hyn 8 pwynt canrannol yn uwch na'r arolwg pwls ym mis Tachwedd 2020, ac 1 pwynt canrannol yn uwch na'r arolwg llawn diwethaf o bob aelod o staff ym mis Mawrth 2020.
  • Dechreuodd John Pullinger fel Cadeirydd y Comisiwn Etholiadol.
  • O 1 Ebrill, dechreuodd y Comisiwn Etholiadol gael ei ariannu gan Senedd Cymru a Senedd yr Alban ar gyfer swyddogaethau ac etholiadau datganoledig, a dod yn atebol iddynt. 
  • Dywedodd 64% o'r aelodau o'r cyhoedd a arolygwyd eu bod yn fodlon ar ein gwasanaeth gwybodaeth i'r cyhoedd.

Gorffennaf – Medi 2021

  • Gwnaethom gefnogi'r canfasiad cofrestru etholiadol ledled Prydain Fawr ac yng Ngogledd Iwerddon, gan roi cyngor a chymorth i Swyddogion Cofrestru Etholiadol a chynnal ymgyrch codi ymwybyddiaeth y cyhoedd newydd yng Ngogledd Iwerddon.  
  • Gwnaethom gyhoeddi tri adroddiad gwerthuso ar etholiadau mis Mai 2021, gan ddod i'r casgliad bod yr etholiadau wedi cael eu cynnal yn dda er gwaethaf yr amgylchiadau heriol.
  • Cyhoeddodd y Pwyllgor ar Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus adroddiad ar reoleiddio cyllid etholiadau, gan argymell newidiadau pwysig i rôl a phwerau'r Comisiwn. 
  • Cafodd y Bil Etholiadau ei gyhoeddi a'i gyflwyno yn Senedd y DU. Buom yn gweithio gyda swyddogion i gynnig cyngor ac arbenigedd yn ôl y gofyn.
  • Gwnaethom gyhoeddi ein harolwg cymorth rheoleiddio, i'n helpu i ddeall anghenion ein rhanddeiliaid yn well.
  • Penodwyd Dr Katy Radford yn Gomisiynydd ar gyfer Gogledd Iwerddon. 

Hydref – Rhagfyr 2021

  • Gwnaethom gyhoeddi canllawiau ar gyfer gweinyddwyr etholiadol, pleidiau ac ymgyrchwyr cyn etholiadau mis Mai 2022.
  • Gwnaethom gyhoeddi ymchwil yn ystyried agweddau'r cyhoedd at brosesau pleidleisio a'r wybodaeth sydd ar gael mewn perthynas ag etholiadau.
  • Gwnaethom gyhoeddi ffurflenni gwariant ar ymgyrchu pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau a wariodd £250,000 neu lai ar ymgyrchu yn etholiad Senedd Cymru neu etholiad Senedd yr Alban yn 2021.
  • Gwnaethom gyhoeddi ein Cynllun Corfforaethol cyntaf ar gyfer Cymru a'n hamcangyfrif i Bwyllgor y Llywydd a'n hamcangyfrif cyntaf i Gorff Corfforaethol Senedd yr Alban.
  • Buom yn ymgynghori ym Mhrydain Fawr ac yng Ngogledd Iwerddon ar strategaeth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant newydd ac ar ddull diwygiedig o gwblhau Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb.

Ionawr – Mawrth 2022

  • Gwnaethom gyhoeddi ffurflenni gwariant ar ymgyrchu pleidiau gwleidyddol a wariodd dros £250,000 ar ymgyrchu yn etholiad Senedd Cymru neu etholiad Senedd yr Alban yn 2021.
  • Cyhoeddwyd ein hadroddiad ar ganfasiad cofrestru etholiadol Gogledd Iwerddon yn 2021. 
  • Gwnaethom gynnal ein seminar cyn etholiad rithwir gyntaf yng Ngogledd Iwerddon ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid a oedd yn sefyll yn yr etholiad i'r Cynulliad ym mis Mai 2022. 
  • I helpu Swyddogion Canlyniadau a Swyddogion Cofrestru Etholiadol cyn etholiadau mis Mai 2022, gwnaethom gynnal digwyddiadau briffio ar y cyd â Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru a'r Bwrdd Rheoli Etholiadol yn yr Alban. 
  • Cynhaliwyd ‘Wythnos Croeso i Dy Bleidlais’ yng Nghymru a'r Alban mewn partneriaeth â chyrff addysg a grwpiau ieuenctid, er mwyn rhoi gwybodaeth am gofrestru a phleidleisio i bobl ifanc 15-17 oed.
  • Gwnaethom lansio diwrnod gweithgareddau ar gyfer gwladolion tramor sydd newydd gael yr etholfraint yng Nghymru a'r Alban er mwyn rhoi gwybodaeth iddynt am gofrestru a phleidleisio. 

Ein blwyddyn mewn ffigurau

  • Defnyddiwyd gwerth £17.2m o adnoddau gyda phleidlais, gan gynnwys £0.7m o wariant cyfalaf
  • Buddsoddwyd 65% o'n gwariant adnoddau net ar gostau staff (£10.8m)
  • Cyflawnwyd sgôr ymgysylltu â chyflogeion o 67%
  • Atebwyd 5,324 o ymholiadau gan y cyhoedd – cynnydd o 18% o gymharu â'r llynedd
  • Ymatebwyd i 150 o geisiadau Rhyddid Gwybodaeth
  • Cyhoeddwyd 412 o adroddiadau rhoddion a benthyciadau gan bleidiau ac ymgyrchwyr
  • Hysbyswyd 93.9% o ymgeiswyr am ganlyniad eu cais cofrestru o fewn targedau yn seiliedig ar gymhlethdod (ceisiadau syml: 35 diwrnod gwaith, ceisiadau cymhleth: 45 diwrnod gwaith, Ymgyrchwyr nad ydynt yn Bleidiau: 5 diwrnod gwaith)
  • Cwblhawyd 66.7% o ymchwiliadau o fewn targedau yn seiliedig ar gymhlethdod (achosion syml: 90 diwrnod calendr, achosion cymhleth: 180 diwrnod calendr, achosion cymhleth iawn: targedau unigol a osodwyd fesul achos)
  • Cyhoeddwyd 724 o ddatganiadau blynyddol o gyfrifon ar gyfer pleidiau gwleidyddol ac unedau cyfrifyddu
  • Cyhoeddwyd 100% o'n cynhyrchion canllaw yn brydlon, heb wallau sylweddol
  • Ymatebwyd i 99.5% o geisiadau am gyngor gan awdurdodau lleol o fewn 3 diwrnod
  • Cyflwynwyd gwerth £58k o sancsiynau sifil yn ein rôl fel rheoleiddiwr

Lawrlwythwch ein hadroddiad llawn