Nod dau

Sicrhau system y gellir ymddiried fwyfwy ynddi a system gynyddol dryloyw o reoleiddio ym maes cyllid gwleidyddol, goruchwylio cydymffurfiaeth, hyrwyddo dealltwriaeth ymhlith y rhai sy'n cael eu rheoleiddio a mynd ar drywydd achosion o dorri rheolau.

Mae'r nod hwn yn cwmpasu ein rôl reoleiddio. Rydym yn canolbwyntio ar ddau faes sydd wrth wraidd democratiaeth iach: sicrhau tryloywder cyllid gwleidyddol, a rheoleiddio effeithiol. Mae'r meysydd hyn yn hanfodol i sicrhau bod gan bleidleiswyr hyder yn ein hetholiadau. Rydym felly, yn ôl yr arfer, wedi canolbwyntio ar ein rhanddeiliaid ym mhob agwedd ar ein gwaith rheoleiddio.