Adroddiad blynyddol Gogledd Iwerddon
Title
Summary
Mae ein gwaith yng Ngogledd Iwerddon dros y flwyddyn ddiwethaf wedi ymwneud yn bennaf â digwyddiadau etholiadol. Gwnaethom dreulio rhan gyntaf y flwyddyn yn cefnogi etholiad Cynulliad Gogledd Iwerddon Mai 2022, a rhan olaf y flwyddyn yn paratoi ar gyfer etholiadau cynghorau lleol Mai 2023.
Cafodd y gwaith hwn ei wneud yn erbyn cefndir o ansicrwydd gwleidyddol, wrth i'r Cynulliad fethu ag ethol Prif Weinidog a Dirprwy Brif Weinidog yn dilyn etholiad Mai 2022. Fe rheoleiddiwr cyfrifol, rydym wedi cynnal cynlluniau wrth gefn cyfredol ar gyfer etholiad annisgwyl, a thrwy gydol y cyfnod hwn, rydym wedi parhau i weithio'n agos gyda'r Prif Swyddog Etholiadol, pleidiau gwleidyddol a'r gymuned etholiadol ledled Gogledd Iwerddon i roi cyngor a chymorth ar faterion yn ymwneud â chyfraith etholiadol, adroddiadau ariannol, ymgyrchu a chofrestru pleidleiswyr.
Gwaith a wnaed i gyflawni'r nod hwn
- Gwnaethom helpu i gynnal etholiad Cynulliad Gogledd Iwerddon Mai 2022 yn llwyddiannus.
- Yn dilyn etholiad Cynulliad Gogledd Iwerddon, gwnaethom gyhoeddi adroddiad yn adlewyrchu'r data a'r dystiolaeth a gasglwyd ar bleidleisio, ymgyrchu a chynnal yr etholiad. Roedd yr adroddiad hwn yn cynnwys argymhellion i wella'r system ymhellach.
- Gwnaethom gynnal ymgyrch cofrestru pleidleiswyr drwy gyfryngau torfol yn ystod y cyfnod cyn etholiad y Cynulliad, wedi'i chefnogi gan weithgarwch yn y wasg a gweithgarwch partneriaeth.
- Gwnaethom ddatblygu adnoddau ymgysylltu democrataidd newydd ar gyfer ysgolion a darparwyr dysgu. Cynhaliwyd Wythnos Croeso i Dy Bleidlais ar ddiwedd mis Ionawr, a chymerodd 20 o ysgolion ledled Gogledd Iwerddon ran yn yr wythnos honno.
- Gwnaethom gyhoeddi ein gwariant ar ymgyrchu ar gyfer etholiad Cynulliad Gogledd Iwerddon.
- Teithiodd Bwrdd y Comisiwn i Belfast i gyfarfod â'r Prif Swyddog Etholiadol, academyddion, grwpiau ieuenctid a phleidiau gwleidyddol. Canfu ein hadroddiad ar etholiad Mai 2022 fod 71% o'r ymgeiswyr yng Ngogledd Iwerddon wedi cael eu cam-drin neu eu bygylu mewn rhyw ffordd. O ganlyniad, cyfarfu'r Bwrdd â chynrychiolwyr benywaidd o bob un o'r prif bleidiau yng Ngogledd Iwerddon er mwyn clywed am eu profiadau o gam-drin wrth ymgyrchu ac ystyried ffyrdd o gynyddu diogelwch ymgeiswyr yn ystod etholiadau yn y dyfodol.
- Yn ystod y cyfnod cyn etholiadau cynghorau lleol mis Mai 2023, mewn partneriaeth â Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon, y Gwasanaeth Erlyn Cyhoeddus a Swyddfa Etholiadol Gogledd Iwerddon, gwnaethom gyhoeddi canllawiau ar y cyd i ymgeiswyr i'w helpu i adnabod ymddygiad bygythiol a throseddol ac ymateb iddo.
- Gwnaethom lansio ein hymgyrch cofrestru pleidleiswyr ar gyfer etholiadau cynghorau lleol Gogledd Iwerddon Mai 2023.
- Mewn partneriaeth â Swyddfa Etholiadol Gogledd Iwerddon, y Post Brenhinol a Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon, gwnaethom gynnal seminarau cyn etholiad yn Belfast, Omagh ac ar-lein ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid a oedd yn cymryd rhan yn etholiadau lleol Mai 2023. Gwnaethom hefyd gynnig cyngorfeydd un i un i gefnogi'r rhai a oedd yn cymryd rhan yn yr etholiadau.
- Er gwaethaf diffyg Cynulliad gweithredol, parhaodd Panel Pleidiau Gwleidyddol Gogledd Cymru, i gyfarfod yn ystod y flwyddyn. Mae'r panel yn darparu cyswllt pwysig ar gyfer rhannu gwybodaeth rhwng y Comisiwn, y Prif Swyddog Etholiadol a phleidiau gwleidyddol.
Edrych i'r dyfodol
- Caiff ein hadroddiad ar etholiadau cynghorau lleol Gogledd Iwerddon Mai 2023 ei gyhoeddi yn ystod hydref 2023.
- Byddwn yn parhau i gefnogi pleidiau ac ymgyrchwyr i gydymffurfio â'r gyfraith, ac i sicrhau bod systemau cyllid gwleidyddol yn dryloyw.
- Byddwn hefyd yn parhau i roi cymorth ac arweiniad i Swyddfa Etholiadol Gogledd Iwerddon. Ym mis Mawrth 2023, ymddiswyddodd y Prif Swyddog Etholiadol a gwnaed penodiad dros dro er mwyn sicrhau y gellid cynnal etholiadau'r cynghorau lleol. Pan benodir Prif Swyddog Etholiadol newydd, byddwn yn gweithio’n agos gyda'r unigolyn hwnnw i'w helpu i gynnal etholiadau a phrosesau cofrestru etholiadol trefnus yng Ngogledd Iwerddon.
- Byddwn yn cyhoeddi ein hasesiad diweddaraf o gywirdeb a chyflawnrwydd y gofrestr etholiadol yng Ngogledd Iwerddon yn ystod hydref 2023.
- Byddwn yn parhau i roi cyngor arbenigol a chynnig argymhellion i wella'r system gyfredol, gan gynnwys cyflwyno'r achos dros ddiwygio'r canfasiad a'r broses cofrestru etholiadol ehangach yng Ngogledd Iwerddon.
- Byddwn yn adeiladu ar y gwaith rydym eisoes wedi'i wneud i ddarparu adnoddau addysgol, a byddwn yn ceisio sefydlu partneriaid newydd i hyrwyddo a gwella llythrennedd gwleidyddol ar draws y ddemograffeg sy'n llai tebygol o gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd.
- Bydd y Ddeddf Etholiadau yn parhau effeithio ar ein gwaith yng Ngogledd Iwerddon. Gan weithio'n agos gyda Swyddfa Gogledd Iwerddon, y Prif Swyddog Etholiadol a rhanddeiliaid eraill, byddwn yn helpu i roi'r newidiadau a wnaed i'r broses etholiadol yng Ngogledd Iwerddon drwy'r Ddeddf ar waith. Bydd hyn yn cynnwys ymateb i ymgynghoriadau perthnasol ar is-ddeddfwriaeth, diweddaru canllawiau a llunio rhai newydd, a chodi ymwybyddiaeth o'r newidiadau hyn ymhlith y gymuned etholiadol yng Ngogledd Iwerddon.
- Byddwn yn cynnal cynlluniau cyfredol ar gyfer etholiad Cynulliad Gogledd Iwerddon, y disgwylir iddo gael ei gynnal cyn mis Ebrill 2024 os na chaiff gweithrediaeth ei ffurfio erbyn mis Ionawr 2024.
Ymrwymiad i Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI)
Mae’r Comisiwn Etholiadol yn gwasanaethu democratiaeth amrywiol yng Ngogledd Iwerddon. Gwnaethom gyhoeddi ein Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth, a Chynhwysiant newydd, yn ogystal â’n Cynllun Cydraddoldeb sengl ar gyfer Gogledd Iwerddon, yn ystod hydref 2022.
O dan ddeddfwriaeth newydd, disgwylir y bydd comisiynwyr iaith Albanaidd Ulster a Gwyddelig yn cael eu penodi, a’u tasg bydd datblygu safonau arfer gorau a hyrwyddo’r gwasanaethau a ddarperir gan awdurdodau cyhoeddus. Bydd y Comisiwn yn monitro hyn mewn perthynas â’i waith a’i wasanaethau ei hun.